Ciw-restr

Troelus a Chresyd

Llinellau gan Diomedes (Cyfanswm: 109)

 
(0, 7) 1254 Anrhydeddus Briaf, mae'n dy annerch Agamemnon:
(0, 7) 1255 mae'n deisyf amser i gladdu a meddyginiaethu ei ddynion.
(0, 7) 1256 Mae hefyd yn fodlon am Antenor ei gyfnewid
(0, 7) 1257 am unferch arglwydd Calchas, hon ydyw Cresyd.
(0, 7) 1258 Os bodlon i'r heddwch
(0, 7) 1259 yr owran dywedwch
(0, 7) 1260 ac i'r gyfnewid -
(0, 7) 1261 am Antenor rhoi Cresyd.
 
(0, 9) 1651 Yr urddasol arglwyddi ar gwbwl o Droea ac Asia,
(0, 9) 1652 oddi wrth frenhinoedd Groeg yr wyf i'n dyfod yma,
(0, 9) 1653 ac yn dwyn i chwi y carcharwr hyn yn gyfnewid
(0, 9) 1654 am unferch Calchas, fel yr oedd eich addewid.
(0, 9) 1655 Diolchgar ydynt hwythau
(0, 9) 1656 am yr heddychol ddyddiau,
(0, 9) 1657 a'r cytundeb yn sicir
(0, 9) 1658 o'u rhan hwy a gedwir.
 
(0, 9) 1677 Siriwch! Paham yr ydych chwi cyn budredd?
(0, 9) 1678 Eich annwyl dad ar hynt a gewch ei weled,
(0, 9) 1679 hwn sydd yn cystuddio mewn hiraethus ofalon
(0, 9) 1680 eich bod yn byw oddi wrtho ym mysg ei elynion.
(0, 9) 1681 Os tybiwch chwi y galla
(0, 9) 1682 i'ch meddylie roddi esmwythdra,
(0, 9) 1683 rwy'n deisyfu arnoch ac yn erfyn,
(0, 9) 1684 a hyn allan, fy ngorchymyn.
(0, 9) 1685 ~
(0, 9) 1686 Mi a wn, Cresyd, fod yn chwith ac yn ddieithr gennych -
(0, 9) 1687 nid yw hyn ryfeddod i'r sawl a ŵyr oddi wrthych -
(0, 9) 1688 gyfnewid cydnabyddiaeth y Groegwyr, sydd i chwi yn ddieithriaid,
(0, 9) 1689 am y Troeaid, eich cymdogion, a Throea, y man y'ch ganed
(0, 9) 1690 Na feddyliwch nas cewch weled
(0, 9) 1691 ym mysg y Groegwyr wŷr cyn laned
(0, 9) 1692 ag sydd yn Nhroea a'i swydd,
(0, 9) 1693 a chwaneg o garedigrwydd.
 
(0, 9) 1702 Mi a fynnwn i chwi fy nghymryd megis eich brawd diniwed,
(0, 9) 1703 ac na wrthodych fy ngharedigrwydd pan ddelych ym mysg dieithriaid,
(0, 9) 1704 er bod eich prudd-der o achosion mawr yn tyfu,
(0, 9) 1705 nid hwyrach mewn amser y gallwn i eich helpu.
(0, 9) 1706 Onide hyn a wyddwn,
(0, 9) 1707 eich trymder nis ychwanegwn,
(0, 9) 1708 ond trwm a fyddwn innau
(0, 9) 1709 dros drymder eich meddyliau.
(0, 9) 1710 ~
(0, 9) 1711 Er bod y Troeaid wrth y Groegwyr yn ddicllon,
(0, 9) 1712 a'r Groegwyr wrth y Troeaid beunydd yn greulon,
(0, 9) 1713 yr un duw cariad mae'r ddwyblaid yn ei wasanaethu,
(0, 9) 1714 a'r ddwyblaid mae'n orfod i'r duw yma eu helpu.
(0, 9) 1715 Er duw, pwy bynnag a'ch digiodd,
(0, 9) 1716 arnaf i na roddwch anfodd;
(0, 9) 1717 myfi ni chlywaf arnaf
(0, 9) 1718 ryglyddu eich dig na'ch gwaethaf.
 
(0, 9) 1727 At y Groegwyr gan ein bod yn owran yn agosed,
(0, 9) 1728 neu at dent Calchas - bellach all ein gweled -
(0, 9) 1729 mi adawaf, i gadw fy nghyfrinach angall
(0, 9) 1730 wedi ei selio yn fy meddwl tan ryw amser arall.
(0, 9) 1731 Moeswch i mi, Cresyd,
(0, 9) 1732 eich llaw, eich cred, eich addewid
(0, 9) 1733 ar gaffael o Diomedes
(0, 9) 1734 fod yn nesaf ddyn i'ch mynwes.
 
(0, 9) 1736 Mae cymaint o farchogion ym mysg Groegwyr mor rhinweddol,
(0, 9) 1737 cyn laned, cyn foneddigeidded, ac mor weddus naturiol,
(0, 9) 1738 a phob un a wnaiff ei orau am ei einioes a'i fywyd
(0, 9) 1739 ar gael ohonynt ennill eich gwasanaeth chwi, Cresyd.
(0, 9) 1740 Arnoch chwi y deisyfaf,
(0, 9) 1741 am y boen a'r drafael yma,
(0, 9) 1742 yng ngwydd y rhain fy enwi
(0, 9) 1743 yn wasanaethwr ufudd i chwi.
 
(0, 12) 1892 Fy nghariadus argwlyddes, beth a fynnwch chwi ymofyn?
(0, 12) 1893 Am Droea neu am Droeaid, na soniwch amdanyn.
(0, 12) 1894 Gyrrwch allan obaith chwerw a gwnewch lawenydd.
(0, 12) 1895 Codwch i fyny'ch calon a'ch glendid o newydd,
(0, 12) 1896 oherwydd mae Troea
(0, 12) 1897 wedi ei dwyn ei hun i'r gwaetha;
(0, 12) 1898 nid ydyw hon ond aros
(0, 12) 1899 y trwm ddiwedd sydd yn agos.
(0, 12) 1900 ~
(0, 12) 1901 Meddyliwch fod Groegwyr yn gystal gwŷr eu hymddygiad,
(0, 12) 1902 cyn onest, cyn ffyddloned, cyn berffeithied mewn cariad
(0, 12) 1903 ag ydyw un Troewr, ac o lawer yn garedicach
(0, 12) 1904 i ufuddhau i'ch meddyliau ac i'ch gwasanaethu yn ffyddlonach.
(0, 12) 1905 Chwi a roesoch im gennad
(0, 12) 1906 i draethu wrthych beth o'm siarad:
(0, 12) 1907 fe ddywed pobl lawer
(0, 12) 1908 na ddylid caru merch mewn prudd-der.
(0, 12) 1909 ~
(0, 12) 1910 Bid hysbys i ti, Cresyd, mai unfab Tideus y'm barned,
(0, 12) 1911 a'm bod cyn foneddiced ag un Troewr ar a aned,
(0, 12) 1912 a phe buasai fy nhad fyw hyd y dyddiau yma
(0, 12) 1913 mi a fuaswn frenin ar Arge a Chalsedonia.
(0, 12) 1914 Ei farwolaeth a gyrches
(0, 12) 1915 pan fu'r rhyfel wrth Thebes,
(0, 12) 1916 fe lladdwyd Polimeite
(0, 12) 1917 a llawer o'r rhai gore.
(0, 12) 1918 ~
(0, 12) 1919 F'anwylyd, gan fy mod yn gwasanaethu eich anrhydedd,
(0, 12) 1920 a chwithau yw'r ferch gyntaf a ddymunais ei thrugaredd,
(0, 12) 1921 erfyn yr wyf yn lleigus gael chwaneg wrthych siarad.
(0, 12) 1922 Beth a bair ddrwgdybio ond hir ymdroi mewn cariad?
(0, 12) 1923 Fy meddwl ni rhaid dangos,
(0, 12) 1924 ni wnaiff geiriau ond paentio'r achos;
(0, 12) 1925 y peth sydd raid ei wneuthur
(0, 12) 1926 nid gwaeth yn fuan nag yn hwyr.
 
(0, 17) 2148 Ti yw butain i'r Troeaid erioed er pan y'th aned,
(0, 17) 2149 dos ymaith o'm golwg, na ad im byth dy weled!
(0, 17) 2150 Yr owran ym mysg Groegwyr fwyfwy'n puteinia:
(0, 17) 2151 os doi di byth lle y byddwyf, â'r cledd hwn y'th laddaf.
(0, 17) 2152 Y neb a wnelo ddeunydd
(0, 17) 2153 ar butain ffals ei deurudd!
(0, 17) 2154 Dos ymaith i buteinia:
(0, 17) 2155 na ad dy weled mwy ffordd yma.