Ciw-restr

Troelus a Chresyd

Llinellau gan Pandar (Cyfanswm: 378)

 
(0, 3) 484 Pa anghytûn ddisymwth benyd
(0, 3) 485 a drwm ddigwyddodd i'th fywyd?
 
(0, 3) 488 O fy arglwydd, pa dynged
(0, 3) 489 a ddigwyddodd it ddrwg weithred?
(0, 3) 490 A wnaeth y Groegiaid cyn gynted
(0, 3) 491 dy liw a'th bryd cyn waeled?
 
(0, 3) 496 Dy drymion eiriau a'm gwnaeth i'n drymach,
(0, 3) 497 dy afiachus ochneidiau a'm gwnaeth yn afiach,
(0, 3) 498 dy lesgrwydd a'th wendid a'm gwnaeth i'n llesgach.
 
(0, 3) 500 Er y cariad fy rhyngom dywed im dy gyfrinach.
(0, 3) 501 Dyledus i'th anwylgar
(0, 3) 502 gael clywed dy garchar.
(0, 3) 503 Oni adwaenost dy gymar?
(0, 3) 504 Myfi ydyw - Pandar.
 
(0, 3) 513 Onis gallaf it help na chysur,
(0, 3) 514 byddaf rannog o'th boen a'th ddolur.
(0, 3) 515 Anghenrhaid i gymdeithion wneuthur
(0, 3) 516 y naill i'r llall yr hyn a ellir.
(0, 3) 517 Cyn fodloned i ddwyn cystudd
(0, 3) 518 ag a fyddwn i lawenydd;
(0, 3) 519 ac am hynny na rydd arwydd
(0, 3) 520 im i dybied angharedigrwydd.
 
(0, 3) 525 A gedwaist di yn cyd mor guddiedig
(0, 3) 526 oddi wrth dy annwyl gymdymaith caredig?
(0, 3) 527 Gellit ddwyn dolur gorthrwm briwedig,
(0, 3) 528 a minnau yn gallu it help am feddyg.
(0, 3) 529 Nid ochain ac wylo
(0, 3) 530 fel brenhines Niobo.
(0, 3) 531 Y mae dagrau honno
(0, 3) 532 i'w gweled eto.
 
(0, 3) 536 O Dduw, o ble gall hyn ddigwyddo?
 
(0, 3) 541 Gwranda, Troelus, fy anwylyd,
(0, 3) 542 er nad wyf y gorau'n doedyd,
(0, 3) 543 gwelais gyngor yr ynfyd
(0, 3) 544 yn helpu'r doeth mewn adfyd.
(0, 3) 545 Gwelais gwympio wrth fyned
(0, 3) 546 y neb a fydde'n gweled;
(0, 3) 547 a'r dall i'r un fan yn cerdded
(0, 3) 548 heb gael na chwymp na niwed.
 
(0, 3) 552 Beth o'th farwolaeth a feddylir
(0, 3) 553 os achosion, hon nis gwyddir?
(0, 3) 554 Os byw yw hon hi all dy helpio,
(0, 3) 555 neu mae anras mawr i'th dwyllo.
(0, 3) 556 ~
(0, 3) 557 Ti a elli ymgwyno, wylo a thuchan
(0, 3) 558 heb un dyn yn gwybod oddi wrth dy riddfan,
(0, 3) 559 a cholli'r peth, mae hyn yn drwstan,
(0, 3) 560 a allai it ei gael pes gwneuthit dy gwynfan.
(0, 3) 561 Mae llawer yn caru,
(0, 3) 562 lawer blwyddyn o'r unty,
(0, 3) 563 heb gael o fewn hynny
(0, 3) 564 unwaith ymgusanu.
(0, 3) 565 ~
(0, 3) 566 A fyn di i'r rhain am hyn o ddigwyddiad
(0, 3) 567 ymroi eu hun mewn modd anynad,
(0, 3) 568 a thrwy anras mawr a bwriad
(0, 3) 569 i lladd ei hun wrth glun ei cariad?
(0, 3) 570 Na wnan, peidian;
(0, 3) 571 os mynan, bygythian;
(0, 3) 572 i'w cariad, ymroddan;
(0, 3) 573 ac yn ufudd, gwasanaethan.
(0, 3) 574 ~
(0, 3) 575 Troelus, pes fy chwaer naturiol fyddai
(0, 3) 576 yn drwm achos o'th gaeth feddyliau,
(0, 3) 577 onis gwnai pob peth i'r gorau
(0, 3) 578 y llaw hon yn wir a'i lladdai.
(0, 3) 579 Datod galon blethedig
(0, 3) 580 mewn meddyliau gorthrymedig;
(0, 3) 581 nid oes dim help gan feddyg
(0, 3) 582 lle bo'r briwio'n guddiedig.
 
(0, 3) 591 O Troelus, er hyd y triniaist ofid
(0, 3) 592 fe wnaeth cariad â thydi lendid.
(0, 3) 593 Am synnwyr, rhinwedd, gwedd a phryd
(0, 3) 594 dy gymhares yw Cresyd.
(0, 3) 595 ~
(0, 3) 596 Meddwl, Troelus, trwy lawenydd naturiol,
(0, 3) 597 fel y mae Cresyd yn ddaionus rinweddol,
(0, 3) 598 felly y bydd i ti'n drugaror synhwyrol,
(0, 3) 599 os medri oddi wrthi mewn pethau anghenrheidiol.
(0, 3) 600 A medryd peidio
(0, 3) 601 â rhoi dy waed mewn cyffro.
(0, 3) 602 Ni all rhinwedd, lle y byddo,
(0, 3) 603 â chywilydd gytuno.
(0, 3) 604 ~
(0, 3) 605 Y tir sy'n dwyn y gwyg a'r chwyn yn chwannog;
(0, 3) 606 yr tir sy'n dwyn iachus lysiau gwresog;
(0, 3) 607 nesaf i'r boeth ddanhadlen bigog
(0, 3) 608 mae'n tyfu yr eswmyth rosyn rhowiog.
(0, 3) 609 I'r dyffryn, nesa yw'r mynydd;
(0, 3) 610 i'r tywyllnos, nesa yw'r gloywddydd;
(0, 3) 611 nes yw'r doeth na'r ffŵl yn gelfydd;
(0, 3) 612 nesa i drymder yw llawenydd.
(0, 3) 613 ~
(0, 3) 614 Edrych, am dy fod yn dyner wedi dy ffrwyno,
(0, 3) 615 i'th helpu mewn amser gad i'r traeth dreio,
(0, 3) 616 onide ofer yw'r boen sydd i'th helpio;
(0, 3) 617 y synhwyrol a erys yw'r un[neb] a brysuro.
(0, 3) 618 Bydd gywir dy ymddygiad,
(0, 3) 619 bydd ddyfal a chaead,
(0, 3) 620 bydd ufudd a gwastad
(0, 3) 621 i wasanaethu dy gariad.
 
(0, 3) 630 Fy llaw, fy mywyd,
(0, 3) 631 fy ngore i ti wneuthud,
(0, 3) 632 fy nith, fy anwylyd,
(0, 3) 633 fy nghares yw Cresyd.
 
(0, 4) 661 Fy arglwyddes, Duw fo'n geidwad
(0, 4) 662 ar eich llyfr a'ch holl gwmpeini.
 
(0, 4) 668 Fy nith, gwell a allai ddigwyddo
(0, 4) 669 os Duw a roddai gennad.
(0, 4) 670 Gwneuthum ar fai eich trwblio
(0, 4) 671 oddi wrth eich llyfr a'ch bwriad.
(0, 4) 672 Ydy e'n sôn ddim am gariad?
 
(0, 4) 690 Mae'n iach: i Dduw y diolchaf,
(0, 4) 691 ond bwrio peth o'i wyneb.
(0, 4) 692 Mae Troelus, ei frawd ieuaf
(0, 4) 693 ail i Hector mewn gwroldeb,
(0, 4) 694 neu mewn rhinwedd synhwyroldeb;
(0, 4) 695 a'r dyn glanaf ar ei galon
(0, 4) 696 yw hwn o'r holl feibion.
 
(0, 4) 706 Am Hector ni rhaid ei grybwyll,
(0, 4) 707 na siarad gormod geiriau.
(0, 4) 708 Ef yw unig farchog didwyll
(0, 4) 709 mewn llawer mwy o rinweddau
(0, 4) 710 na'i holl gryfdwr mewn arfau.
(0, 4) 711 Mi a wn y gallaf ddywedyd
(0, 4) 712 am Troelus yr un ffunud.
(0, 4) 713 Torelus ydi … Troelus!
 
(0, 4) 721 Y gwroldeb ddoe a wnaeth Troelus!
(0, 4) 722 Gwae fi nas buasech yn gweled.
(0, 4) 723 Nid oes o'r help lle cyrraedd,
(0, 4) 724 a'r Groegwyr cyn amled
(0, 4) 725 yn ffoi rhag caffael niwed
(0, 4) 726 a'r cri ym mhen gwrageddos:
(0, 4) 727 "Y mae Troelus yn agos!"
(0, 4) 728 ~
(0, 4) 729 Rhai'n ffoi yma, rhai'n ffoi acw,
(0, 4) 730 y Groegwyr i gyd yn waedlyd
(0, 4) 731 a rhai eraill wedi marw,
(0, 4) 732 a rhai yn syn, heb fedryd
(0, 4) 733 na ffoi ymhell na dywedyd;
(0, 4) 734 a'r diwrnod y dwg arfau,
(0, 4) 735 nis gwelir ond eu sodlau.
(0, 4) 736 ~
(0, 4) 737 Mae'n garedicaf ar a aned
(0, 4) 738 lle y byddo ganddo duedd.
(0, 4) 739 Ond madws i mi fyned
(0, 4) 740 i fendio ar eich annedd.
(0, 4) 741 Oes a fynnwch, o'r diwedd?
 
(0, 4) 744 Gwyliwch, gan eich bod yn atal,
(0, 4) 745 rhag i mi eich trwblio wrth ddywedyd pethau gwamal.
(0, 4) 746 Mi allwn i eich digio
(0, 4) 747 a'ch gyrru chwi mewn cyffro.
 
(0, 4) 752 Fy ngeiriau sydd ddiniwed
(0, 4) 753 a'm meddwl sydd heb fwriad:
(0, 4) 754 Beth pe soniwn am gariad?
(0, 4) 755 Ond gwaetha rhoddi ateb
(0, 4) 756 rhag cafael rhyw wrthwyneb.
 
(0, 4) 761 Fy nith, myn y ddysgedig Juno,
(0, 4) 762 ac myn Minerfa y dduwies,
(0, 4) 763 myn Jubiter, a wnaeth i'r daran ruo,
(0, 4) 764 myn Fenws fwynaidd gynnes,
(0, 4) 765 os gwrandewch chi ar fy neges,
(0, 4) 766 Nes dowed ange ym erbyn,
(0, 4) 767 mi a fydda tan ych gorchymyn.
 
(0, 4) 774 Fy nith, mae Troelus yn annwyl fab y brenin;
(0, 4) 775 atoch chwi ganwaith fe arches ei orchymyn;
(0, 4) 776 i chwi mae'n dwyn y fath ewyllys caredig,
(0, 4) 777 onis caiff eich trugaredd nid yw ond gŵr colledig.
(0, 4) 778 Y gwir sydd rhaid ei ddywedyd
(0, 4) 779 am ei drymder a'i benyd:
(0, 4) 780 nid oes gen i mo'r rhyfeddod,
(0, 4) 781 mae'n eich caru chwi yn ormod.
(0, 4) 782 ~
(0, 4) 783 Os gadewch i hwn farw, fy hoedl fi a derfydd;
(0, 4) 784 ar fy ngwir wirionedd ni ddoedai i chwi mo celwydd
(0, 4) 785 os ateb trugarog nis rhoddwch yma,
(0, 4) 786 ar y cleddyf blaenllym fy einioes a ddiwedda.
(0, 4) 787 Os o'n achos yn deuwedd
(0, 4) 788 yn hoedl a ddiwedd,
(0, 4) 789 yr ydych yn helaeth
(0, 4) 790 yn euog o'm marwolaeth.
(0, 4) 791 ~
(0, 4) 792 Ym drud annwyl gydymaith onis byddwch trugarog,
(0, 4) 793 hwn yw'r cywir ddyn a'r glanrinweddol farchog;
(0, 4) 794 a hwn nid yw'n erfyn ond rhowiogaidd olwg
(0, 4) 795 i droi heibio marfwolaeth oddi wrth wirion diddrwg.
(0, 4) 796 Beth a ddoedir amdanoch
(0, 4) 797 ymhob man ar y cerddoch?
(0, 4) 798 "Can och yr glendid
(0, 4) 799 a ddwc einioes a bywyd."
(0, 4) 800 ~
(0, 4) 801 Dalltwch nad ydwyf arnoch yn dymuno
(0, 4) 802 mewn dim anonestrwydd ych rhwymo chwi iddo,
(0, 4) 803 ond bod mor drugarog ar ych gair a'ch meddwl
(0, 4) 804 ac achub ei einioes, dyna'r cwbwl.
(0, 4) 805 Trwy fod i hoedel
(0, 4) 806 a'i iechyd mewn gafael,
(0, 4) 807 mae yn deg ych anrheg;
(0, 4) 808 nis dymunwn i ychwaneg.
 
(0, 4) 818 Edrych pwy sydd yma i'th weled —
(0, 4) 819 nid y neb sydd achos o'th hir gaethiwed.
(0, 4) 820 Mae Troelus mewn gofal a thithau mewn meddylie:
(0, 4) 821 Duw! Na baech eich deuwedd i gwyno yn yr unlle.
 
(0, 4) 860 Nid yw hyn Cresyd, yn anghyfreithol ddymuniad,
(0, 4) 861 na chwaith anrhesymol, eich gwasanaethu trwy gariad.
 
(0, 4) 897 Y moliannus Dduwiau, mewn uchelder llawenyddwch!
(0, 4) 898 ~
(0, 4) 899 Fy nygosa arglwydd, a'm anwyl frawd cyfiawn,
(0, 4) 900 fo wyr duw, a chwithe, faint a ddygem o ofalon
(0, 4) 901 pan welais chwchwi yn hir nychu mewn cariad,
(0, 4) 902 a thrymder gofalon yn chwanegu'n wastad.
(0, 4) 903 Rhois fy mryd yn gwbwl
(0, 4) 904 am esmwythau ych meddwl,
(0, 4) 905 a throi ych tristwch
(0, 4) 906 i hyn o ddifyrrwch.
(0, 4) 907 ~
(0, 4) 908 Yr anrhydeddus bobloedd ar y ddaear, gwnewch ddifyrwch!
(0, 4) 909 ~
(0, 4) 910 Fy nghywir dduw cyfiawn, yn dyst yr wyf yn dy alw,
(0, 4) 911 nas gwneuthum i hyn er mwyn chwant na elw,
(0, 4) 912 ond yn unig er esmwythau dy brudd-der ath gledi,
(0, 4) 913 achos yr hwn bethau bu dy einioes ar golli.
(0, 4) 914 Er mwyn Duw, yr owran,
(0, 4) 915 cadw ei henw yn ddiogan;
(0, 4) 916 synhwyrol yw dy gymdeithas,
(0, 4) 917 a chadw yn lan ei hurddas.
(0, 4) 918 ~
(0, 4) 919 Da i gwyddost fod i henw da hi mor barchedig
(0, 4) 920 y mysg y bobl, megis morwyn fendigedig;
(0, 4) 921 ni aned un dyn a wyr i hamau
(0, 4) 922 ne wyr ar hon unwaith feiau.
(0, 4) 923 Can och ym a erchais
(0, 4) 924 fy anwyl nith a dwyllais,
(0, 4) 925 yr ewyrth yw anwylyd
(0, 4) 926 yn gwneuthur twyll a bradfyd!
(0, 4) 927 ~
(0, 4) 928 Meddwl, Troelus, pa ddrygau fu ar gerdded
(0, 4) 929 am wneuthur bost o'r cyffelyb weithred;
(0, 4) 930 a pha gamddigwyddiad sydd beunydd yn digwyddo,
(0, 4) 931 o ddydd i ddydd, am y weithred honno.
(0, 4) 932 Am hyn i doeth yn dduwiol
(0, 4) 933 y ddihareb ddwys synwhyrol:
(0, 4) 934 "Cynta rhinwedd ydiw gwybod,
(0, 4) 935 yr ail yw dal y tafod."
(0, 4) 936 ~
(0, 4) 937 O yr tafod! Rhy fynych yr wyt yn rhy helaeth;
(0, 4) 938 pa sawl gwaith y gwnaethost i lawer arglwyddes loywbleth
(0, 4) 939 ddoedyd, "gwae fy fi o'r diwrnod trist im ganed!"?
(0, 4) 940 Ac i lawer morwyn ddwyn trymder trwch oi thynged?
(0, 4) 941 Ar cwbl yn ddychymig
(0, 4) 942 o waith calon wenwynig;
(0, 4) 943 ni thal bostiwr ddim i garu,
(0, 4) 944 ond y doeth a fedyr gelu.
(0, 4) 945 ~
(0, 4) 946 Bellach, fy anwyl frawd, ni a syrthiwn ir achosion,
(0, 4) 947 a chymer yth helpu a ddoedais o gynghorion;
(0, 4) 948 cadw hyn yn ddirgel, bydd lawen dy galon;
(0, 4) 949 dros fy holl ddyddiau mi a fydda it yn ffydlon.
(0, 4) 950 Gobeithia di yr hyn gore —
(0, 4) 951 ar obaith dda mae gwyrthie;
(0, 4) 952 y pethau hyn sydd i ddowad
(0, 4) 953 fel y mae dy ddymuniad.
 
(0, 6) 1180 Fy nghywir gydymaith, erddot ti ddim pes gwnaethwn,
(0, 6) 1181 fy wir Duw mae felly y mynnwn.
(0, 6) 1182 O'r geiriau a ddoetwy, na chymer ddig na chystydd,
(0, 6) 1183 gochel i gyd hyn sydd o aflywenydd.
(0, 6) 1184 Yr owran, mae dy duedd
(0, 6) 1185 at lawenydd a mowredd;
(0, 6) 1186 na bych dy hunan iti
(0, 6) 1187 yn achos o ddrygioni.
(0, 6) 1188 ~
(0, 6) 1189 Gwathaf yw hyn o holl anffortun a drygioni,
(0, 6) 1190 bod unwaith yn oludog a syrthio mewn tlodi,
(0, 6) 1191 mae hwn yn synhwyrol a gatwo i elw;
(0, 6) 1192 mawrhad yw cael twrnda, mwy mawrhad i gadw.
(0, 6) 1193 Yn rhy ddiofal na fyddwch,
(0, 6) 1194 or bod yr hin mewn tawelwch;
(0, 6) 1195 rheitia yw cymryd ordor
(0, 6) 1196 pan fo yr ŷd yn ysgubar.
(0, 6) 1197 ~
(0, 6) 1198 Od wyt yn esmwyth, dal dy hun a gaethiwed;
(0, 6) 1199 cyn sicred a bod pob tân yn goch i'w weled,
(0, 6) 1200 mae mwy dichell i gadw peth nai ennill.
(0, 6) 1201 Llawenydd bydol sy ynglyn ar linin candryll;
(0, 6) 1202 Mae'n ddigon hawdd profi
(0, 6) 1203 rhag mynyched i mae'n torril
(0, 6) 1204 rhag torri hwn mewn adwyth,
(0, 6) 1205 rhaid yw gymryd yn esmwyth.
 
(0, 7) 1351 Oes o fewn y byd un dyn ar a aned
(0, 7) 1352 a welodd i'w oes ryfeddod cyn ddieithred?
(0, 7) 1353 Pwy all ochel y pethau a fynn fod?
(0, 7) 1354 Wel, dyma fel y mae'r byd yn dyfod.
(0, 7) 1355 Gwae a gwae i'r undyn
(0, 7) 1356 a roddo ei goel mewn ffortun;
(0, 7) 1357 yr owran fe welir
(0, 7) 1358 y drwg a'r da a gyrchir.
 
(0, 7) 1367 Dywed im, Troelus, paham rwyt cyn ynfyted
(0, 7) 1368 ag ymroi dy hunan i drymder a chaethiwed?
(0, 7) 1369 Ti a gefaist dy ewyllys arni yn gwbwl;
(0, 7) 1370 fe a ddylai hyn esmwythau dy feddwl.
(0, 7) 1371 ~
(0, 7) 1372 Hefyd, hyn a wyddost yn dda ddigon,
(0, 7) 1373 fod o fewn y dref ymaf arglwyddesau gwychion,
(0, 7) 1374 a chyn laned mewn pryd a glendid
(0, 7) 1375 ac y gallaf merch gyrheuddud.
(0, 7) 1376 Mae rhai o'r rhain cyn llawened
(0, 7) 1377 am gael odd yma ei gwared,
(0, 7) 1378 os colli hon yn angall,
(0, 7) 1379 di a ynilli un arall.
 
(0, 7) 1388 Ni ad Duw bod dyn bob amser yn llawenychu
(0, 7) 1389 mewn un peth ac mewn dim ond hynny.
(0, 7) 1390 Un a fedr ganu, arall dawnsio a chwarae,
(0, 7) 1391 mae hon yn lan, mae'r llall yn dda ei chyneddfe.
(0, 7) 1392 Troelus, na feddwl
(0, 7) 1393 fod mewn un dyn y cwbwl;
(0, 7) 1394 pob un a fyddo a rhinwedd
(0, 7) 1395 a ddyle gael anrhydedd.
(0, 7) 1396 ~
(0, 7) 1397 Beth a ddywed Zansis, ddysgedig ei ymddiddan?
(0, 7) 1398 Fod cariad newydd yn gwthio'r hen allan.
(0, 7) 1399 Achos newydd a fynn gyfraith newydd i'w farnu;
(0, 7) 1400 y tân yma mewn amser mae'n arferol o ddiffoddi.
(0, 7) 1401 Gan nad yw ond digwyddiad
(0, 7) 1402 o lawenydd ddyfodiad,
(0, 7) 1403 rhyw achosion a'i dwg.
(0, 7) 1404 Allan o gof, allan o olwg.
 
(0, 10) 1782 O Troelus, pa fodd y mae rhain yn cytynnu
(0, 10) 1783 sy'n gweled eu cariadau ac eraill yn eu priodi,
(0, 10) 1784 a hefyd yn eu gweled mewn gwelyau eu gŵyr priod?
(0, 10) 1785 Duw a'i gŵyr, trwy synnwyr mae gorfod iddynt gydfod.
(0, 10) 1786 Fel mae amser i'th friwo,
(0, 10) 1787 felly daw amser i'th helpio.
(0, 10) 1788 Nid yw'r amser ond agos:
(0, 10) 1789 gobaith da yn hir all aros.
 
(0, 10) 1798 Dy wendid, dy ynfydrwydd a'th drafferthus freuddwydion
(0, 10) 1799 gad ymaith gyda dy holl feddyliau gweigion,
(0, 10) 1800 y rhain sy'n tyfu o felancoli gwydn,
(0, 10) 1801 yr hwn sydd achos o drafferthus gyntun.
(0, 10) 1802 Hyn yr ydwyf yn ei weled:
(0, 10) 1803 nad oes undyn ar a aned
(0, 10) 1804 a fedr yn union
(0, 10) 1805 roddi deall ar freuddwydion.
(0, 10) 1806 ~
(0, 10) 1807 Yr hen bobl a ddywed am freuddwyion
(0, 10) 1808 mai hwy sy'n dangos dirgelwch Duw cyfion,
(0, 10) 1809 eraill yn dywedyd mai o uffernol hudoliaeth,
(0, 10) 1810 ac eraill yn meddwl mai complecsiwn amherffaith,
(0, 10) 1811 a'r llall sy'n dangos
(0, 10) 1812 mai glythineb yw'r achos.
(0, 10) 1813 Nis gŵyr neb yn sicir
(0, 10) 1814 pwy un o'r rhain a goelir.
(0, 10) 1815 ~
(0, 10) 1816 Y dysgedig a ddywed mai impresion
(0, 10) 1817 ydyw'r achlysur i'r holl freuddwydion,
(0, 10) 1818 megis petai un yn meddwl ac ar hynny yn cysgu.
(0, 10) 1819 Y meddwl eilwaith sydd ynddo yn adnewyddu.
(0, 10) 1820 Chwi a gewch ryw un i siarad
(0, 10) 1821 mae ar ryw amser ar y lleuad;
(0, 10) 1822 rhai eraill, wrth y flwyddyn;
(0, 10) 1823 nid gwiw coelio gormod unddyn.
(0, 10) 1824 ~
(0, 10) 1825 Yr hen wragedd sy'n rhoi mwyaf coel mewn breuddwydion
(0, 10) 1826 neu mewn awgwri o ehediad adar gwylltion.
(0, 10) 1827 Mae llawer, rhag ofn, wrth fran llesmeirio,
(0, 10) 1828 wrth glywed cigfrain ac adar cwrffwr yn drwcleisio.
(0, 10) 1829 Gwae fi, dduw, pan fytho
(0, 10) 1830 y fath bethau a hyn i'm trwblio;
(0, 10) 1831 a bod Cresyd mor berffaith
(0, 10) 1832 a dyn yn gobaith.
(0, 10) 1833 ~
(0, 10) 1834 Tyred, gad i ni siarad am yr hen fuchedd yn Nhroea,
(0, 10) 1835 y modd y buom gynt yn fyw ac y byddwn eto ar hyn yma.
(0, 10) 1836 Cyn myned heibio y ddegfed awr o'r degfed dydd
(0, 10) 1837 fe dry hyn i gyd i ti mewn hir lawenydd.
(0, 10) 1838 Awn oddi yma yn union
(0, 10) 1839 at frenin Sarpedon
(0, 10) 1840 i somi hyn o amser
(0, 10) 1841 sy'n atgoffau dy brudd-der.