Ciw-restr

Troelus a Chresyd

Llinellau gan Rhagddoedydd (Cyfanswm: 163)

 
(0, 1) 3 Chwychwi rasusol gwmpeini, yr achos o'm dyfodiad yma
(0, 1) 4 ydyw i ddangos prudd-der mab brenin Troea,
(0, 1) 5 y modd y dygodd hirnych cariad a thrymder,
(0, 1) 6 a'r modd y trôdd hyn i lawenydd, a'i lawenydd i brudd-der.
(0, 1) 7 ~
(0, 1) 8 Helpia, Tisiffone, myfi sy'n traethu hyn drosto:
(0, 1) 9 buchedd hwn a wnaeth i lawer glanddyn wylo;
(0, 1) 10 Tydi, uffernol dduwies, arnat mae fy ngoglyd;
(0, 1) 11 tydi ffurie greulon yn pruddhau mewn penyd.
(0, 1) 12 Helpia myfi sy'r owran dosturus achlysur
(0, 1) 13 i helpu cariad-ddynion trwy gwyno'u poen a'u dolur.
(0, 1) 14 ~
(0, 1) 15 Myfi nid wyf ond gwas i wasnaethwyr cariad;
(0, 1) 16 caru fy hyn nis gallaf oherwydd y digwyddiad.
(0, 1) 17 ~
(0, 1) 18 Chwychwi gariadau sy'n ymdrochi mewn llawenydd,
(0, 1) 19 os oes deigryn ynddoch o'r trugarog ddeunydd,
(0, 1) 20 meddyliwch am eich blinder cyn dechreuad cytundeb,
(0, 1) 21 a meddyliwch am drymder rhai eraill a'u gwrthwyneb,
(0, 1) 22 a byddwch mewn cywirdeb bob amser yn cyd-dynnu
(0, 1) 23 ac na feddyliwch nas gall cariad beri i chwi sorri.
(0, 1) 24 A gweddiwch dros y neb sydd yn y cyffelyb gaethiwed
(0, 1) 25 ag y bu Troelus am Gresyd - y modd a'r sut cewch glywed.
 
(0, 1) 27 I lawer mae'n hysbys fel y daeth y Groegwyr yn llidiog
(0, 1) 28 â mil o longau rhyngddynt yn llawn o wŷr arfog
(0, 1) 29 i ddinistrio Troea a'r Troeaid oedd eu bwriad,
(0, 1) 30 a'r rhyfel a barhaodd ddeng mlynedd yn wastad.
(0, 1) 31 Yr achos - am ddwyn o Baris y frenhines Helena
(0, 1) 32 o drais oddiar ei gŵr i dref Troea.
(0, 1) 33 Yn y dref hon yr oedd arglwydd o enedigaeth,
(0, 1) 34 hwn a elwid Calcas, â llawer o wybodaeth.
(0, 1) 35 ~
(0, 1) 36 Gwrandewch yn ddyfal fy annwyl garedigion,
(0, 1) 37 bellach mi a draethaf i chwi chwaneg o'r achosion,
(0, 1) 38 ac o'r trymder o ddug Troelus yn caru Cresyda,
(0, 1) 39 ac fel y gwrthododd Cresyd Troelus yn y diwetha.
 
(0, 1) 41 Tri pheth sy yn hyn i'w ddeall ar unwaith,
(0, 1) 42 cariad ffyddlon, cariad gwnieithus, a chymdeithas perffaith.
(0, 1) 43 Tri dyn sy'n arwyddo y tri gair hygar,
(0, 1) 44 y rhain ydy Troelus, Cresyd, a Pandar.
(0, 1) 45 ~
(0, 1) 46 Ac nis gellir, medd arglwyddes y gwirionedd,
(0, 1) 47 ddeall neb yn eglur ond wrth ei ddiwedd:
(0, 1) 48 "Nes gweld ei ddiwedd nis gwyddai pwy oedd hapus".
(0, 1) 49 ~
(0, 1) 50 Cesglwch gyda'r wenynen y mêl o'r llysieuyn
(0, 1) 51 a gollyngwch trwy'ch clustiau y gwenwyn i'r prycopyn.
 
(0, 4) 635 Wrth rwyfo ar hyd y tonnau môr peryglus,
(0, 4) 636 O gwynt! Mae'r tymyr yn esmwythau'n dynerus;
(0, 4) 637 y llong o'm cyfarwyddyd sydd boenus yn nofio,
(0, 4) 638 wrth hwylbren anobaith rwy'n deall ei bod yn ysmudo.
(0, 4) 639 Fel y mae'r calendr yn nechreuad y llyfrau,
(0, 4) 640 felly mae gobaith calandr i Troelus ar ddechrau.
(0, 4) 641 O arglwyddes Clio, dy brysur help yr owran,
(0, 4) 642 i'm tafod dod rwydd-deb i orffen hyn allan.
(0, 4) 643 Myfi fy hun a'm esgusodaf wrth gariad-ddyn aniddig
(0, 4) 644 nad fy nyfais i mo hyn ond gwaith gŵr dysgedig,
(0, 4) 645 a minnau, er mwyn yr ewyllys da i chi a ddygais,
(0, 4) 646 a'i trois i'r iaith Gymraeg yn orau ag y medrais.
(0, 4) 647 Am hyn nid wyf yn disgwyl na diolch nac anfodd,
(0, 4) 648 ond eich ewyllys da, a hynny o'ch wirfodd.
(0, 4) 649 Na fernwch arnaf os wyf ddiffygiol o eiriau,
(0, 4) 650 canlyn nesaf y gallwyf y dysgedig rwyf innau.
(0, 4) 651 Ac ar fy amcan yr ydwyf o gariad yn traethu;
(0, 4) 652 mae'n anodd i ŵr dall o liwiau allu barnu.
(0, 4) 653 Os oes gennych rhyfeddod wrth glywed hyn o hanes,
(0, 4) 654 pa fodd i ennillodd Troelus gariad ei arglwyddes,
(0, 4) 655 neu gymryd rhyfeddod wrth eu foddion yn caru,
(0, 4) 656 nid oes gennyf ddim rhyfeddod wrtho am hynny.
(0, 4) 657 Odid cael tri o fewn y byd o'r un deunydd,
(0, 4) 658 yn gwneuthud ac yn dywedyd un ffunud â'i gilydd;
(0, 4) 659 rhai mewn prennau a gerfia, eraill mewn cerrig,
(0, 4) 660 y gwirionedd a ganlynaf i. Atolwg, byddwch ddiddig.
 
(0, 5) 1005 Yn yr amser yma y digwyddodd y Groegwyr wrth fod yn wastadol wrth ymladd tan walie Troea, yn garcharur, Antenor, un o uchelwyr Troea.
(0, 5) 1006 Yn hyn, fo godes hiraethmawr ar Galchas am ei ferch Cresyd ac ofn rhag dyfod tramgwydd i'r dref Troea mewn amser disymwth, ac yn hyn colli ei ferch, y fo a syrthies ar ei linie ger bron Agamemnon un o frenhinoedd Groeg i ddeisyf cael Antenor i'w roddi yn gyfnewid am Gresyd.
 
(0, 6) 1069 Cyffelyb i'r melys yr owran yn felysach ddywad,
(0, 6) 1070 oherwydd hir chwerwder a barhaodd yn wastad,
(0, 6) 1071 o brudd-der i lawenydd mawr a syrthiodd -
(0, 6) 1072 ers pan fy aned y fath lawenydd nis digwyddodd.
(0, 6) 1073 ~
(0, 6) 1074 Gwelais ar ôl boregwaith pruddaidd, niwlog,
(0, 6) 1075 yn canlyn brynhwawngwaith eglur, gwresog,
(0, 6) 1076 ac ar ôl byrddydd gaeaf blin, gwlybyrog,
(0, 6) 1077 yn dyfod hirddydd Galanmai yn desog.
(0, 6) 1078 Ar ôl prudd-der a thristwch,
(0, 6) 1079 y daw'r holl ddifyrwch,
(0, 6) 1080 ac ar ôl cawodau helaeth
(0, 6) 1081 yn siwr y daw gorchafiaeth.
(0, 6) 1082 ~
(0, 6) 1083 Amhosibl i'm tafod allu'n iawn draethu
(0, 6) 1084 y difyrwch a lawenydd y sydd o bobtu.
 
(0, 6) 1086 O noswaith ddifyr, hir y bued i'th ymofyn,
(0, 6) 1087 llwyr y dygaist ddifyrwdd mawr i'th ganlyn.
(0, 6) 1088 Os mawr y byd a'i gwmpas,
(0, 6) 1089 dau cymaint yw dy urddas.
(0, 6) 1090 Os mawr iawn yw'r mynydd,
(0, 6) 1091 dau cymaint yw'r llawenydd.
(0, 6) 1092 ~
(0, 6) 1093 O f'arglwydd, allai i ddrewiant chwannog cenfigennus
(0, 6) 1094 a fai'n goganu cariad, ac o gariad yn ddibris
(0, 6) 1095 gael noswaith ddigwyddiad o lawenydd perffaith hyfryd
(0, 6) 1096 fel yr owran y digwyddodd i Troelus a Cresyd?
(0, 6) 1097 ~
(0, 6) 1098 Chwi a glywsoch o'r noswaith ddifyr ddigwyddiad;
(0, 6) 1099 rhaid i chwi glywed peth o'r trwm ymadawiad.
(0, 6) 1100 Medd doeth, "ni all yr un peth barhau'n wastad:
(0, 6) 1101 pob peth sydd â dechrau, rhaid iddo gael diweddiad.
(0, 6) 1102 Y noswaith a blygeiniodd
(0, 6) 1103 a'r plygain yn ddydd ymrithiodd,
(0, 6) 1104 a'r pethau yn hyn a ddigwyddodd,
(0, 6) 1105 dealled y sawl a garodd.
(0, 6) 1106 ~
(0, 6) 1107 Pan ddaeth y ceiliog, astrologer y cyffredin,
(0, 6) 1108 dan guro ei esgyll â rhybudd fod y nos ar derfyn,
(0, 6) 1109 a'r seren Luwsiffer, cennad y gloywddydd, yn codi
(0, 6) 1110 yn y deau, a'i phelydr dros yr hollfryd yn llewyrchu -
(0, 6) 1111 Yno y dywedai Cresyd
(0, 6) 1112 wrth Troelus ei hanwylyd:
 
(0, 6) 1126 Troelus, tostur eiriau Cresyd, pan glywodd,
(0, 6) 1127 heilltion ddagrau ar hyd ei ruddiau a ollyngodd,
(0, 6) 1128 megis yn rhyfeddu o'r fath lawenydd a difyrwch
(0, 6) 1129 mor ddisymwth yn dywed y cyfriw drymder a thristwch.
(0, 6) 1130 Ochenaid trwm, a rodde
(0, 6) 1131 ar geiriau hyn a ddoede:
 
(0, 7) 1242 Tydi loywbryd arglwyddes, unferch Diana y'th farned,
(0, 7) 1243 dy un mab dall asgellog, Syr Cipwid gwrandawed,
(0, 7) 1244 chwithau'r Chwiorydd naw sy'n aros yn Helicon
(0, 7) 1245 yn Mynydd Parnasus, clywch chwithau f'achwynion.
(0, 7) 1246 Fe ddarfu i chwi hyd yma fy nghyfarwyddo cyn belled -
(0, 7) 1247 onis cyfarwyddwch fi'r owran, yn bellach nis medraf fyned,
(0, 7) 1248 i ddangos a ddigwyddodd i Troelus o'i wasanaeth,
(0, 7) 1249 sydd bellach o hyn allan yn myned waethwaeth.
(0, 7) 1250 Tithau Mars, rhyfelwr creulon a thad Quireinus,
(0, 7) 1251 moes dy help i orffen o Cresyd a Troelus.
(0, 7) 1252 ~
(0, 7) 1253 Diomedes, ar hyn yn fyned wrth y Troeaid - at Priaf yn eistedd wrth ei senedd - ac yn doedyd fel hyn:
 
(0, 9) 1644 Bellach mae'n dyfod nesnes y dynged
(0, 9) 1645 hon y mae Iau o'i ddirgelwch yn ymwared,
(0, 9) 1646 ac i chwithau, Parcas ddicllon, dair chwiorydd,
(0, 9) 1647 mae'n gorchymyn i chwi ar hyn wneuthur diwedd.
(0, 9) 1648 Mae Diomedes yn dyfod ac Antenor i Droea.
(0, 9) 1649 Mae Cresyd yn mynd ymaith at y Groegwyr
(0, 9) 1650 a Troelus yn dwyn penyd nes darfod i Lachesys nyddu edau ei fywyd.
 
(0, 17) 2174 Mae Cresyd ar hyn yn llesmeirio a Ciwpid yn tincio cloch arian ac yn galw y duwiau i'r un lle.
 
(0, 17) 2219 Fe ddarfu y Duwiau ddewis Mercuriws i siarad trostynt yn y cymanfa a'r senedd hon.
 
(0, 19) 2401 I Troelus pan ddywedwyd o drwm farwolaeth Cresyd,
(0, 19) 2402 gwallt ei ben a dynnodd fel dyn ynfyd.
(0, 19) 2403 O'i gwendid, o'i thlodi, o'i nychod pan glywodd,
(0, 19) 2404 o dosturi a thrymder mewn llesmair er syrthiodd.
(0, 19) 2405 Tra fu fyw, yn ochneidio bob dydd amdani.
(0, 19) 2406 Fel arglwyddes y mynnodd i'r ddaear ei diwarthu,
(0, 19) 2407 o gerrig marbl y parodd wneuthur bedd iddi.
(0, 19) 2408 Ar ei bedd yr ysgrifennes i bawb yno a ddelai
(0, 19) 2409 y rheswm hwn sy'n canlyn, mewn euraidd lythrennau,
(0, 19) 2410 "Gwelwch, arglwyddesau, lle mae Cresyd o Droea'n gorwedd,
(0, 19) 2411 ryw amser yn flodeuyn ar holl ferched a gwragedd".
(0, 19) 2412 ~
(0, 19) 2413 O'r diwrnod hwn allan rhoes ddiofryd nas peidiau
(0, 19) 2414 ag ymladd mewn rhyfel nes marw o waith cleddau.
(0, 19) 2415 Yn y diwethaf hyn i gyd a gywires,
(0, 19) 2416 ei einioes a gollodd ar law creulon Achiles.
(0, 19) 2417 Pandar o drymder a dorrodd ei galon;
(0, 19) 2418 hyn ydyw diwedd hyn i gyd o achosion.