Ciw-restr

Troelus a Chresyd

Llinellau gan Sadwrn (Cyfanswm: 17)

 
(0, 17) 2229 Am dy annuwiol siarad yn erbyn dy rasusol dduwiau,
(0, 17) 2230 am dy annheilwng fuchedd a'th anniolchgar rinweddau,
(0, 17) 2231 am dy fod mor wrthwynebus i'r drugarog Fenws,
(0, 17) 2232 am dy fod mor anghywir i gywir farchog Troelus,
(0, 17) 2233 dy bryd, dy wedd, dy lendid,
(0, 17) 2234 dy rinwedd a'th holl olud
(0, 17) 2235 o'r awr hon allan, Cresyd,
(0, 17) 2236 yr wyf i'w ddwyn i gyd oddi wrthyd.
(0, 17) 2237 ~
(0, 17) 2238 Yr wyf yn cyfnewid dy lawenydd i felancoli bob amser,
(0, 17) 2239 hon sydd fam i bob tristwch trwm a phrudd-der;
(0, 17) 2240 dy wres, dy wlybwr i oerfel a sychdwr poenus,
(0, 17) 2241 dy nwyf, dy chwarae i glefydau annioddefus,
(0, 17) 2242 dy holl wychder trafferthus
(0, 17) 2243 i eisiau mawr, anghenus,
(0, 17) 2244 ac felly fyw yn ddiwres
(0, 17) 2245 a marw yn fegeres.