Ciw-restr

Troelus a Chresyd

Llinellau gan Synthia (Cyfanswm: 17)

 
(0, 17) 2247 Yn lle iechyd corfforol cymer dragwyddol ddoluriau;
(0, 17) 2248 ni all meddyg na physgwr byth help i'th gleddyfau.
(0, 17) 2249 Bob dydd bwygilydd ychwanega dy brudd-der,
(0, 17) 2250 dy galon o'r diwedd a dyrr wrth hir drymder.
(0, 17) 2251 A phob dyn drwg ei dafod
(0, 17) 2252 â'th enw a fynn gydnabod.
(0, 17) 2253 Fe a'th drewir di ar ddannedd
(0, 17) 2254 pob merch am dy anwiredd.
(0, 17) 2255 ~
(0, 17) 2256 Dy risial olwg a fydd yn waedlyd gymysgiad;
(0, 17) 2257 dy eglur lais melys a droir yn oerddrygnad;
(0, 17) 2258 'rhyd dy ddeurudd wastad y tardd byrchau duon diffaith;
(0, 17) 2259 i ble bynnag y delych pawb a ffy oddi yno ymaith.
(0, 17) 2260 Dy fywyd fydd hyn yma
(0, 17) 2261 o dŷ i dŷ cardota
(0, 17) 2262 â'th gwpan di a'th glaper
(0, 17) 2263 o hyn allan fydd dy arfer.