Ciw-restr

Yr Wylan

Llinellau gan Arcadina (Cyfanswm: 247)

 
(1, 0) 242 Be dach chi'n holi am bobol oedd yn byw cyn i Noah fynd i'r arch?
(1, 0) 243 Sut y gwn i?
 
(1, 0) 253 Mhlentyn annwyl i, pryd byddan nhw'n dechrau?
 
(1, 0) 256 "Fy Mab, peraist imi syllu ar fy nghalon, ac och!
(1, 0) 257 Y fath ddoluriau gwaedlyd a marwol a welais o'i mewn.
(1, 0) 258 Nid oes iachawdwriaeth imi!"
 
(1, 0) 269 Breuddwydiwn ta.
 
(1, 0) 278 |Modern| iawn, yn wir.
 
(1, 0) 291 Oglau brwmstan!
(1, 0) 292 Oes eisiau brwmstan?
 
(1, 0) 295 O, ie, i roi mynd ar y ddrama, yntê?
 
(1, 0) 301 Tynnu ei het i'r diafol, tad tragwyddol fater, a ddaru'r doctor.
 
(1, 0) 305 Pam 'rydych chi mor ddig?
 
(1, 0) 314 Be sy arno fo?
 
(1, 0) 316 Ond be ddeudais i?
 
(1, 0) 318 Ond mi ddeudodd o ei hun mai tipyn o ddireidi oedd y cwbl, ac mi goeliais innau hynny.
 
(1, 0) 320 Mae'n ymddangos ei fod o wedi cyfansoddi campwaith, os gwelwch chi'n dda.
(1, 0) 321 Cawsom sioe a phwff o frwmstan, nid fel tipyn o ddireidi ond fel math o ddemonstration, mae'n debyg; 'roedd o am roi gwers inni, i ddangos sut y dylid cyfansoddi a sgwennu drama a'i hactio; gormod o beth, yn wir; mae o fyth a hefyd yn pigo ac yn pwnio; mae'n ddigon i godi cyfog ar unrhyw ddyn.
(1, 0) 322 Dyna i chi fachgen larts, mae o'n stimiau i gyd.
 
(1, 0) 324 O, aie, felly wir, ond pam y dewisodd o destun mor ddiarth a disgwyl inni wrando ar hen stynt fodern fel yna?
(1, 0) 325 Ond o ran hynny yr wy'n ddigon parod i wrando ar lol er mwyn yr hwyl, ond pa hawl sy gynno fo i sôn am ffurfiau newydd ac oes newydd yn gwawrio ar gelfyddyd?
(1, 0) 326 Yn y marn i, "does yma ddim ffurfiau newydd o gwbl, dim ond tymer ddrwg.
 
(1, 0) 328 Pob croeso iddo sgwennu fel y myn ac fel y gall, ond iddo adael llonydd i mi.
 
(1, 0) 330 Nid tad y duwiau ydw i, ond gwraig gyffredin.
(1, 0) 331 Dw i ddim wedi ffromi; ond mae'n ddrwg gin i weld dyn ifanc yn gwastraffu ei amser fel hyn, mae mor ddwl.
(1, 0) 332 'Don i ddim yn meddwl bod yn gas.
 
(1, 0) 337 Digon gwir; ond gadwch inni sôn am rywbeth heblaw'r ddrama ac atomau ar noson mor ardderchog â heno.
(1, 0) 338 Ust!
(1, 0) 339 Glywch chi nhw'n canu?
 
(1, 0) 341 Clws, yntê?
 
(1, 0) 345 Steddwch wrth f'ymyl i.
(1, 0) 346 Rhyw bymtheg mlynedd yn ôl, yma ar y llyn clywid miwsig a chân bron drwy'r nos.
(1, 0) 347 Yr oedd chwech o dai draw fan acw ar y lan.
(1, 0) 348 'Rwy'n cofio'r miri a'r twrw a'r saethu a'r cerddi ─ ein ffrind y doctor {gan gyfeirio at Dorn} oedd eilun calon trigolion yr holl dai 'cw, fo oedd ceffyl blaen y pryd hynny.
(1, 0) 349 Gall ddenu pawb heddiw, wrth gwrs, ond yn yr hen ddyddiau 'roedd o tu hwnt!
(1, 0) 350 Ond mae nghydywybod yn dechrau brathu; pam y daru i mi frifo'r hogyn druan?
(1, 0) 351 'Rwy'n anesmwyth.
(1, 0) 352 Costia, nghariad i, Costia!
 
(1, 0) 354 Ie, ewch, os gwelwch chi'n dda.
 
(1, 0) 365 Bravo, bravo!
(1, 0) 366 Cawsom wledd.
(1, 0) 367 'Roeddych yn dda, mi fyddai'n bechod i eneth fel chi a'r llais ardderchog na aros yn y wlad.
(1, 0) 368 Rhaid bod gynnoch chi dalent; ydych chi'n clywed?
(1, 0) 369 Mae'n ddyletswydd arnoch fynd ar y stage.
 
(1, 0) 373 Pwy ŵyr?
(1, 0) 374 O, dyma Trigorin, Boris Alecsiefits Trigorin.
 
(1, 0) 378 Peidiwch â bod yn swil, nghariad i.
(1, 0) 379 Er ei fod mor enwog, mae o'n ddyn digon syml.
(1, 0) 380 Welwch chi, mae o'n swil ei hun.
 
(1, 0) 394 Peidiwch â deud pethau fel yna, cyn gynted ag y clyw rhywun yn ei ganmol, mae o'n mynd yn llipa ac yn hurt.
 
(1, 0) 400 Ond pam 'rydych chi'n mynd mor gynnar?
(1, 0) 401 Neith yr un ohonom ni adael ichi fynd.
 
(1, 0) 403 Un rhyfedd ydi o, mewn difri calon.
 
(1, 0) 405 Wel, 'does dim i'w wneud.
(1, 0) 406 Piti garw fod rhaid ichi fynd.
 
(1, 0) 408 Rhaid i rywun fynd gyda chi, ta, fy mhwt clws i.
 
(1, 0) 417 Wir, mae'r eneth yn anlwcus iawn.
(1, 0) 418 Mae nhw'n deud fod ei mam hi wedi gadael ei holl eiddo i'r gŵr, do, bob dimai goch, ac rwan 'does gin yr hogan druan ddim ar ei helw, ac mae ei thad wedi gneud ei wyllys a gadael popeth i'w wraig, yr hen gena gynno fo!
 
(1, 0) 423 Mae nhw fel sglodion, prin y medrwch chi symud.
(1, 0) 424 Dowch, yr hen greadur anniddan.
 
(2, 0) 497 Codwch a sefwch wrth f'ymyl i.
(2, 0) 498 'Rydych chi'n ddwy ar hugain a finnau bron yn ddwbwl hynny.
(2, 0) 499 Iefgeni Sergiefits, prun ohonom ni ydi'r fenga?
 
(2, 0) 501 Welwch chi, ac mi ddeuda i pam.
(2, 0) 502 Am fy mod i yn gweithio, yn teimlo, a bob amser ar gychwyn, a chithau yn eistedd yn eich unman, heb fyw o gwbwl.
(2, 0) 503 Mae gin i reol: peidio byth ag edrych ymlaen.
(2, 0) 504 Fydda i byth yn meddwl am henaint a'r bedd, ond rhaid eu cymyd nhw pan ddôn nhw, debyg.
 
(2, 0) 511 Ac 'rydw i mor fisi ag unrhyw Saesnes, bob amser yn dwt a ngwallt yn stylish.
(2, 0) 512 Fydda i byth yn mynd allan o'r tŷ, hyd yn oed i'r ardd, mewn blows a heb drin fy ngwallt.
(2, 0) 513 Mi fydda i bob amser yn ddel, nid wedi mollwng fel rhai.
 
(2, 0) 515 Welwch chi, 'rydw i'n sionc fel cyw iâr.
(2, 0) 516 Gallwn actio geneth bymtheg oed.
 
(2, 0) 519 A'r llygod ffringig.
(2, 0) 520 Ewch ymlaen.
(2, 0) 521 Na, rhowch y llyfr i mi, fi sydd i ddarllen rwan.
 
(2, 0) 523 A'r llygod... dyma fo 'ac wrth gwrs, pan fo pobl y byd ffasiynol yn difetha llenorion ac yn eu gwadd i'w tai, mae hynny mor beryglus ag i werthwr ŷd fagu llygod ffringig yn ei sgubor.
(2, 0) 524 Maent yn eu caru hefyd.
(2, 0) 525 Ac wedi i wraig ddewis ei llenor, bydd yn ceisio ei ddal trwy fwrw cawod o eiriau mwyn ar ei ben.' Digon gwir am ferched Ffrainc, ond nid dyna brogram merched Rwsia.
(2, 0) 526 Cyn dechrau canlyn y llenor, byddwn ni dros ein pen a'n clustiau mewn cariad, nid ni sydd yn dewis.
(2, 0) 527 Raid ichi ddim mynd ymhell i gael enghraifft, cymwch fi a Trigorin.
 
(2, 0) 540 A dillad da amdani, ac yn edrych yn ddiddorol.
 
(2, 0) 542 Go lew, chi!
(2, 0) 543 Ond rhai peidio canmol gormod, rhag i'r gŵr drwg – wyddoch chi.
(2, 0) 544 Ble mae Boris Alecsiefits?
 
(2, 0) 546 Sut medr o?
(2, 0) 547 Stumog, 'n tê?
 
(2, 0) 549 'Ar y Dŵr' gan Guy de Maupassant, nghariad i.
 
(2, 0) 551 Mae o wedi colli ei flas, tydi o ddim yn deud y gwir chwaith.
 
(2, 0) 553 Mi 'dw i'n anesmwyth.
(2, 0) 554 Pam mae Constantin mor bigog ac isel ysbryd?
(2, 0) 555 Bydd yn crwydro am ddyddiau lawer hyd y llyn a phrin y ca i weld o o gwbl.
 
(2, 0) 565 Piotr bach!
 
(2, 0) 567 Ydych chi'n cysgu?
 
(2, 0) 570 Thâl hyn ddim, rhaid ichi gymyd ffisig.
 
(2, 0) 576 Mi ddylech fynd am fis i lan y môr, mi nae les ichi, yn y marn i.
 
(2, 0) 578 'Dydw i ddim yn dallt hyna.
 
(2, 0) 601 Ych, beth a all fod yn fwy diflas na diflastod byw yn y wlad?
(2, 0) 602 Mae hi'n boeth yma, mae hi'n ddistaw, pawb yn segur, pawb yn athronyddu.
(2, 0) 603 Mae'n dda cael bod yma gyda chi, gyfeillion ac yn ddigon difyr gwrando ar eich sgwrs; ond eistedd yn fy stafell yn y dre a dysgu ngwers cyn actio, dyna ichi nefoedd ar y ddaear!
 
(2, 0) 617 Ydi, 'rydym yn meddwl mynd.
 
(2, 0) 621 Sut y gwn i?
 
(2, 0) 628 Ond mae rhaid imi fynd, welais i rioed y fath beth.
 
(2, 0) 631 Yr un hen stori!
(2, 0) 632 Mi â i yn ôl i Fosco heddiw.
(2, 0) 633 Deudwch wrthyn nhw am logi ceffylau yn y pentre, neu mi gerdda i bob cam i'r stesion.
 
(2, 0) 637 'Run fath bob ha, yn cael f'insyltio yma bob ha!
(2, 0) 638 Ddo i byth yma eto.
 
(2, 0) 823 Boris Alecsiefits, lle'r ydych chi?
 
(2, 0) 825 'Rydym ni'n aros.
 
(3, 0) 895 Rhoswch gartre, 'r hen fachgen.
(3, 0) 896 Fedrwch chi ddim mynd i rodio â'r cricymala na.
 
(3, 0) 898 Pwy aeth allan rŵan?
(3, 0) 899 Nina?
 
(3, 0) 901 Mae'n wir ddrwg gin i, fynnwn i er dim dorri ar draws eich sgwrs.
 
(3, 0) 903 Dyna fi wedi pacio popeth, rw i wedi hario.
 
(3, 0) 915 Ydyn, yn y stydi, yn y cwpwrdd congol.
 
(3, 0) 918 Yn wir, Piotr bach, mi ddylech aros gartre.
 
(3, 0) 920 Faint gwell fydd hi yn y dre?
 
(3, 0) 924 Rhoswch yma, peidiwch â bod yn ddigalon, a chofiwch beidio cael annwyd.
(3, 0) 925 Cymwch ofal o Constantin.
(3, 0) 926 Cadwch eich llygad arno.
(3, 0) 927 Rhowch gyngor iddo rwan ac yn y man.
(3, 0) 928 Dyma fi'n mynd heb wbod eto pam y triodd o ladd ei hun.
(3, 0) 929 'Rwy'n credu mai cenfigen oedd y rheswm penna, a gorau po gynta y gwêl gynffon Trigorin.
 
(3, 0) 935 Mae'n biti gin i drosto fo.
 
(3, 0) 937 Tae o'n cael swydd...
 
(3, 0) 944 Wel, mi fedra i fforddio prynu dillad iddo fo, ond am fynd i wlad bell...
(3, 0) 945 Na, ar hyn o bryd feda i ddim prynu dillad iddo chwaith.
(3, 0) 946 'D oes gin i ddim arian.
 
(3, 0) 948 'Does gin i ddim arian.
 
(3, 0) 950 Nag oes.
 
(3, 0) 956 'Does gin i ddim arian.
 
(3, 0) 960 Oes, ma gin i arian, ond artist ydw i, cofiwch hyna, rhaid imi wario ffortsiwn ar fy nillad.
 
(3, 0) 966 Piotr bach.
 
(3, 0) 968 Piotr annwyl, aur.
 
(3, 0) 970 Help, help!
 
(3, 0) 972 Mae o'n wael.
 
(3, 0) 990 Mi ges i fraw!
 
(3, 0) 994 'Does gin i ddim arian, actres ydw i, nid banker.
 
(3, 0) 998 Mae'r doctor yn hwyr.
 
(3, 0) 1000 Steddwch.
 
(3, 0) 1002 Mae o fel tyrban ar eich pen chi.
(3, 0) 1003 'R oedd na ŵr diarth yn y gegin ddoe yn gofyn i ba genedl 'r oeddech chi'n perthyn.
(3, 0) 1004 Mae'r briw wedi cau, prin y mae wedi gadael ôl arnoch, newch chi ddim gneud bang-bang eto, newch chi?
 
(3, 0) 1013 Nag ydw i.
 
(3, 0) 1016 'Rwy'n cofio hyna.
 
(3, 0) 1021 'D ydych chi ddim yn ei ddallt o, Constantin, dyn nobl ydi o.
 
(3, 0) 1023 Y fath lol!
(3, 0) 1024 Ond fi ofynnodd iddo fo fynd.
 
(3, 0) 1027 Yr ydych chi'n licio deud pethau cas wrtha i.
(3, 0) 1028 Mi dw i'n parchu'r dyn yna ac yn gofyn ichi beidio a'i ddilorni o pan fydda i'n gwrando.
 
(3, 0) 1032 Gwenwyn pur!
(3, 0) 1033 'D oes gan bobol falch ddidalent ddim i'w wneud ond darnio'r bobol dalentog.
(3, 0) 1034 Dyma'r unig gysur sy gynnyn nhw.
 
(3, 0) 1041 Wele'r llenor modern.
 
(3, 0) 1043 Fu gin i rioed ran mewn drama druenus.
(3, 0) 1044 Ewch i ffwrdd!
(3, 0) 1045 'D oes gynnoch chi ddim digon o dalent i gyfansoddi vaudeville y gweithiwr o Cieff sy'n byw ar fwyd arall!
 
(3, 0) 1047 Y cedsiwr.
 
(3, 0) 1049 Y creadur diddim!
 
(3, 0) 1051 Peidiwch â chrio.
(3, 0) 1052 'D oes dim rhaid – mhlentyn bach annwyl, maddeuwch imi, maddeuwch i hen bechadures fel eich mam.
(3, 0) 1053 'R wy'n anhapus iawn.
 
(3, 0) 1058 Peidiwch â digaloni, mi ddaw popeth yn iawn.
(3, 0) 1059 Wedi iddo fo fynd, mi fydd hithau yn eich caru chi eto.
 
(3, 0) 1061 Bydd, wir, dyna ni'n ffrindiau rŵan.
 
(3, 0) 1065 Byddwch yn ffrindiau hefo fo hefyd.
(3, 0) 1066 'Does dim isio duel, does dim isio duel?
 
(3, 0) 1080 Bydd y cerbyd yma gyda hyn!
 
(3, 0) 1083 Disgwyl fod popeth yn barod gynnoch chi.
 
(3, 0) 1093 Fy nghariad bach i, mi wn i be sy'n eich cadw yma, ond triwch ei goncro fo.
(3, 0) 1094 'R ydych wedi meddwi tipyn bach, mae'n bryd ichi sobri.
 
(3, 0) 1099 Ydi hi mor ddrwg â hyna arnoch chi?
 
(3, 0) 1101 Cariad hogan o'r wlad.
(3, 0) 1102 'D ydych chi ddim yn hanner adnabod eich hun.
 
(3, 0) 1106 Na, na!
(3, 0) 1107 Dynes gyffredin ydw i, cheith neb siarad fel yna wrtha i, peidiwch â mhoeni i, 'r ydych yn fy nychryn i.
 
(3, 0) 1112 'R ydych chi o'ch co.
 
(3, 0) 1114 'R ydych i gyd yn f'erbyn i heddiw.
 
(3, 0) 1118 Ydw i'n ddigon hen a hyll ichi feiddio siarad wrtha i am ferched erill?
 
(3, 0) 1120 'R ydych chi'n wallgo.
(3, 0) 1121 Fy nghariad ardderchog, rhyfedd, tudalen ola fy mywyd i!
 
(3, 0) 1123 Llanwenydd fy ngalon, fy ymffrost, fy mharadwys.
 
(3, 0) 1125 Os ewch chi oddi wrtha i hyd yn oed am awr, fedra i ddim byw, mi a i o ngho, fy nghariad rhyfeddol, mawreddus, fy mrenin.
 
(3, 0) 1128 Gadwch iddyn nhw ddŵad, 'd oes arna i ddim cwilydd mod i'n eich caru chi.
 
(3, 0) 1130 Fy nhrysor, fy machgen gwyllt i; mae arnoch chi flys bod yn rhyfygus, ond fynna i ddim, chewch chi ddim gin i.
 
(3, 0) 1132 F'eiddo i ydych chi, fi piau chi, fi piau'r talcen yma a'r llygaid yma.
(3, 0) 1133 Fi piau'r gwallt clws, sidanog yma, fi piau bob mymryn ohonoch.
(3, 0) 1134 Fy nghariad talentog, gwybodus, llenor mwya'r oes, unig obaith Rwsia; 'r ydych mor ddi-dwyll, mor syml, â'ch hiwmor ffres iach.
(3, 0) 1135 Mi ellwch roi cnwllyn popeth mewn un frawddeg fer, ac mae'ch cymeriadau chi yn rhodio fel dynion byw.
(3, 0) 1136 Fedr neb ddarllen gair o'ch gwaith heb lamu mewn gorfolodd.
(3, 0) 1137 Ydych chi'n meddwl mai ffalsio 'r ydw i?
(3, 0) 1138 Edrychwych yn myw fy llygaid i, ai llygaid gwraig gelwyddog ydi rhain?
(3, 0) 1139 Welwch chi, 'd oes neb ond fi a ŵyr eich gwerth chi!
(3, 0) 1140 Dyna'r gwir syml ichi, newch chi mo ngadael i, newch chi?
 
(3, 0) 1145 Dyma fi wedi ei ddal o.
 
(3, 0) 1147 O ran hynny, rhoswch, os ydi'n well gynnoch chi.
(3, 0) 1148 Mi a i ffwrdd fy hun, ac mi gewch chithau ddŵad rwybryd eto, mhen yr wythnos, deudwch, neno'r annwyl, 'd oes ddim brys.
 
(3, 0) 1150 Fel y mynnwch chi, am hynny, awn gyda'n gilydd, ta.
 
(3, 0) 1153 Be 'dych chi'n neud?
 
(3, 0) 1175 Diolch yn fawr ichi, Polina Andrefna.
 
(3, 0) 1179 Na, na 'r oedd popeth yn union fel y dylai fod.
(3, 0) 1180 'D oes dim gofyn ichi grio.
 
(3, 0) 1182 Wel, felna y mae hi i fod.
 
(3, 0) 1190 Da y boch chi, gyfeillion – os byddwn ni'n fyw ac iach, mi gawn weld ein gilydd yr ha nesa.
 
(3, 0) 1192 Peidiwch â'm hanghofio.
 
(3, 0) 1194 Dyna ichi ddeuswllt rhwng y tri ohonoch.
 
(3, 0) 1201 Ble mae Constantin?
(3, 0) 1202 Deudwch wrtho mod i'n mynd.
(3, 0) 1203 Wel, cofiwch amdana i, bawb.
 
(3, 0) 1205 Rhois ddeuswllt iddo fo.
 
(3, 0) 1207 Rhwng y tri ohonoch, cofiwch.
 
(4, 0) 1421 Dyna chi wrthi hi'n ffalsio eto, yr hen ŵr atgas ichi.
 
(4, 0) 1436 Mae Boris Alecsifits wedi dwad â'r papur a'ch stori newydd ynddo.
 
(4, 0) 1478 Pan fydd y gaea'n agos a'r dydd yn cwtogi, mi fyddwn ni'n chwarae cardiau gyda'r hwyr, chwarae hen ffasiwn, welwch chi; mi fydden ni'n chwarae fel hyn gyda mam druan pan oeddem ni'n blant bach.
(4, 0) 1479 Cymwch ran yn y game tan amser swper.
 
(4, 0) 1481 Mae arna i ofn mai game go ddwl ydi hi ond wedi ichi arfer mae'n eitha difyr.
 
(4, 0) 1486 Beth amdanoch chi, Costia?
 
(4, 0) 1489 Rhodded pawb ei geiniog i lawr.
(4, 0) 1490 Talwch chi drosta i, doctor.
 
(4, 0) 1494 Ie.
 
(4, 0) 1502 Mi ges i'r fath dderbyniad yn Charcoff, nefoedd fawr, mae mhen i'n troi hyd y dydd hwn.
 
(4, 0) 1505 A'r ovation a ges i gin y students.
(4, 0) 1506 Blodau, llond tair basged, a dwy goron.
(4, 0) 1507 A be dych chi'n feddwl o hyn?
 
(4, 0) 1512 A phe gwelsech chi fy nress i?
(4, 0) 1513 Digon o ryfeddod, ac mi fydda i'n gwisgo yn o dda rŵan hefyd.
 
(4, 0) 1517 'Does dim isio iddo fo gymyd sylw ohonyn nhw.
 
(4, 0) 1521 Piotr, ydych chi wedi blino?
 
(4, 0) 1537 Wyddoch chi be?
(4, 0) 1538 Ddarllenais i'r un gair o'i waith o.
(4, 0) 1539 Mae f'amser i'n brin.
 
(4, 0) 1553 Costia, caewch y ffenast na, mae na ddrafft.
 
(4, 0) 1558 Bravo, bravo!
 
(4, 0) 1560 Mae hwn yn sgubo popeth o'i flaen ym mhobman.
 
(4, 0) 1562 Awn am damaid o fwyd, chafodd y gŵr mawr mo'i ginio heddiw.
(4, 0) 1563 Cawn chwarae eto ar ôl swper.
 
(4, 0) 1565 Costia, rhowch eich papurau o'r neilltu a dowch at eich swper.
 
(4, 0) 1567 Wel, chi sy'n gwybod.
 
(4, 0) 1569 Piotr bach, mae'n amser swper.
 
(4, 0) 1571 Rhaid imi gael deud yr hanes am fy nerbyniad yn Charcoff.
 
(4, 0) 1726 Rhowch y gwin coch a'r cwrw ar gyfer Boris Alecsiefits inni gael yfed a chwarae ar yr un pryd.
(4, 0) 1727 Steddwch, gyfeillion.
 
(4, 0) 1741 Beth oedd hyna?
 
(4, 0) 1750 Wff, mi ges i fraw.
(4, 0) 1751 Mi naeth hyna imi gofio fel ─
 
(4, 0) 1753 Aeth popeth yn dywyll o flaen fy llygaid i...