Ciw-restr

Yr Wylan

Llinellau gan Dorn (Cyfanswm: 107)

 
(1, 0) 213 'Rwy'n teimlo'n ddigon cynnes.
 
(1, 0) 217 "O paid â dweud fod ieuenctid wedi darfod."
 
(1, 0) 220 'Rwy'n bymtheg a deugain.
 
(1, 0) 223 Ond be fynnwch chi?
 
(1, 0) 226 "O'th flaen 'rwy'n dyfod eto."
(1, 0) 227 Os ydi artist yn plesio'r byd yn fwy na siopwr, er enghraifft, wel fel yna y dylia hi fod, tipyn o |idealism|, ynte?
 
(1, 0) 231 Wel, mi oeddwn yn boblogaidd ymhlith y merched, ond y doctor medrus oedden nhw yn ei garu, nid y dyn.
(1, 0) 232 Fel y cofiwch, fi oedd y fydwraig orau yn yr ardal ryw bymtheng mlynedd yn ôl.
(1, 0) 233 Ac 'rydw i wedi bod yn ddyn gonest drwy f'oes.
 
(1, 0) 236 Sh-t, mae nhw'n dwad.
 
(1, 0) 249 Ychydig o dalentau disglair a geir yn yr oes hon, ond mae safon actio wedi codi cryn dipyn.
 
(1, 0) 329 "Yr wyt yn ffromi, dad y duwiau."
 
(1, 0) 381 Mae'n bryd iddyn nhw godi'r cyrten.
(1, 0) 382 Mae ei olwg o yn gneud i ryw ias oer fynd drwydda i.
 
(1, 0) 397 Ac ehedodd angel distawrwydd dros y lan.
 
(1, 0) 419 Ie, bwystfil o ddyn ydi ei thada hi, rhaid gneud hyna o gyfiawnder iddo fo beth bynnag.
 
(1, 0) 437 Digon tebyg nad ydw i ddim yn dallt neu mod i wedi mynd o ngho; ond mi gefais i flas ar y ddrama.
(1, 0) 438 Mae na rywbeth yni hi; pan soniodd yr hogan am unigedd a phan welwyd llygaid cochion y diafol, roedd fy nulo i'n crynu a minnau wedi cynhyrfu.
(1, 0) 439 Ffres, diniwed, diddichell... ond dyma fo; mi dduda i air mwyn wrtho fo.
 
(1, 0) 442 'Rydw i yma.
 
(1, 0) 445 Constantin Gafrilofits, hoffais eich drama yn fawr; drama ryfedd ydi hi, chlywsom ni mo'r diwedd, ond gnaeth argraff dda iawn arnom.
(1, 0) 446 Rydych yn ŵr talentog, rhaid ichi fynd ymlaen.
 
(1, 0) 448 Ow, 'rydych chi'n nerfau i gyd.
(1, 0) 449 Dagrau yn eich llygaid ─
(1, 0) 450 Dyma sydd gin i i'w ddweud; dewis testun o faes yr idea haniaethol, da iawn; mi ddylai pob gwaith celfyddyd fynegi meddwl o ryw fath neu'i gilydd.
(1, 0) 451 Nid oes dim yn brydferth ond yr hyn sy'n ddifrifol.
(1, 0) 452 'Rydych chi'n llwyd iawn!
 
(1, 0) 454 Ie; ond rhaid ichi fynegi rhywbeth pwysig a thragwyddol.
(1, 0) 455 Fel y gwyddoch, mi welais lawer tro ar fy myd, ac yr wy'n berffaith fodlon ar fy mywyd; ond pe cawn i deimlo f'enaid yn esgyn i'r uchelder, fel y caiff yr artist wedi creu, mi ddirmygwn f'amdo cnawdol a phopeth a berthyn iddo ac esgynnwn o'r ddaear i'r goruchleoedd.
 
(1, 0) 457 Mae hi wedi mynd adre.
 
(1, 0) 462 Byddwch dawel, gyfaill.
 
(1, 0) 468 Rwan, rwan, thâl hyna ddim, nid fel yna y dylid...
 
(1, 0) 473 Ieuenctid, ieuenctid!
 
(1, 0) 478 Wel?
 
(1, 0) 483 Ond sut medra i'ch helpu chi?
 
(1, 0) 487 Mae pawb yn nerfau i gyd; o'r fath gariad!
(1, 0) 488 O, 'r llun hudol.
 
(1, 0) 490 Be fedra i neud, mhlentyn i, be fedra i neud, be fedra i neud?
 
(2, 0) 500 Chi, debyg iawn.
 
(2, 0) 510 'O, fy mlodau, dwedwch wrthi.'
 
(2, 0) 517 Ie, ond beth am y llyfr yma?
(2, 0) 518 'Roedden ni'n darllen am y masnachwr a'r llygod mawr.
 
(2, 0) 564 Nos dawch.
 
(2, 0) 572 Ffisig, wir, a chithau'n drigain oed!
 
(2, 0) 575 O'r gorau ta, cymwch Valerian drops.
 
(2, 0) 577 Mi all fynd, mi all beidio.
 
(2, 0) 579 'Does dim eisiau dallt, mae'r peth yn rhy blaen.
 
(2, 0) 583 Na, nid lol, mae'r ddiod a baco yn lladd personoliaeth dyn.
(2, 0) 584 Wedi smocio sigar neu yfed glasiad o frandi, nid Piotr Nicolaiefits ydych chi mwyach, ond Piotr Nicolaiefits plus rhywun arall.
(2, 0) 585 Ma na rwyg yn eich personoliaeth, yn eich fi chi, ac mae yna ddau ohonoch chi, chi a rhywun arall.
 
(2, 0) 591 Rhaid edrych ar fywyd yn fwy difrifol, a gwamalrwydd rhonc ydi cymyd ffisig a chithau'n drigain oed, a chwyno am na chawsoch fwy o hwyl pan oeddych yn ŵr ifanc.
 
(2, 0) 597 Mi eith hi i lyncu dau lasiad o frandi cyn cinio.
 
(2, 0) 599 Lol botas, anrhydeddus syr.
 
(2, 0) 609 'O, fy mlodau, dwedwch wrthi.'
 
(2, 0) 663 Ond tydi pobol yn ddiflas, mi ddylid cicio'ch gŵr o'r tŷ; ond mi fydd yr hen frechdan na Piotr Nicolaiefits a'i chwaer yn crefu arno faddau iddyn nhw, mi gewch chi weld.
 
(2, 0) 672 'Rydw i'n bymtheg a deugain, mae'n rhy hwyr imi newid fy ffordd o fyw.
 
(2, 0) 677 Na, mae popeth yn iawn.
 
(2, 0) 682 Sut y maen nhw draw acw?
 
(2, 0) 686 Rhaid imi roi Valerian drops i'r ddau.
 
(2, 0) 690 Thank you very much.
 
(4, 0) 1319 Go gyfyng, yntê.
 
(4, 0) 1321 Arian wir!
(4, 0) 1322 Wedi bod wrthi hi'n bustachu ddydd a nos am ddeng mlynedd ar hugain, mi grafais ddeugant, ac mi wariais bob dimai ohonyn nhw mewn gwlad bell.
(4, 0) 1323 'Does gin i ddim ar f'elw.
 
(4, 0) 1330 Wel, mae yna dipyn o newid; mae'n nhw wedi troi'r parlwr yn stydi.
 
(4, 0) 1335 Mae hi wedi mynd i'r stesion i gwarfod Trigorin, mi fydd yma gyda hyn.
 
(4, 0) 1339 Be liciech chi gael?
(4, 0) 1340 Valerian drops, soda, quinine?
 
(4, 0) 1347 'Mae'r lloer yn nofio'r nefoedd yn y nos.'
 
(4, 0) 1349 Breuddwydiwn am fod yn J.P. a dyma fi wedi llwyddo.
 
(4, 0) 1352 Cwyno a lladd ar fywyd, a chithau'n drigain oed.
(4, 0) 1353 Dydi hyna ddim yn deg, ydi o?
 
(4, 0) 1356 Peidiwch â bod mor wamal, yn ôl deddfau natur mae diwedd i fod ar bob bywyd.
 
(4, 0) 1359 Anifail yn unig sydd yn ofn marw, rhaid i ddyn fod yn drech na'r ofn na.
(4, 0) 1360 Ddylai neb rhesymol ofni marw ond y sawl sy'n credu fod byd arall, byd tragwyddol, ac yn teimlo ei fod yn bechadur euog: yn gyntaf, 'dydych chi ddim yn credu, yn ail, ble mae'ch pechodau chi?
(4, 0) 1361 Buoch yn J.P. am bum mlynedd ar hugain, dyna'r cwbwl.
 
(4, 0) 1365 Ond dyma ni'n rhwystr i Constantin ac yntau'n brysur.
 
(4, 0) 1369 Genoa.
 
(4, 0) 1371 Mae bywyd y stryd mor ardderchog yno.
(4, 0) 1372 Ewch allan o'ch hotel gyda'r hwyr ac mae'r stryd yn llawn dop dyn o bobol a chithau'n stelcian ar hyd ac ar draws yn y dorf, igam ogam, ac yn teimlo eich bod yn rhan o'r dorf, yn llifo'n un â hi; ac yn dehrau credu fod y fath beth ag ysbryd y byd fel y clywsom pan oedd Nina Zaretsnaia yn actio'ch drama chi; gyda llaw, ble mae hi, ydi hi'n fyw?
 
(4, 0) 1374 Mi glywais nad oedd fawr o lun ar ei bywyd hi, wyddoch chi dipyn yn bethma; be sy'n bod?
 
(4, 0) 1376 Gnewch chi stori fer ohoni.
 
(4, 0) 1378 Gwn.
 
(4, 0) 1382 Beth am ei bywyd ar y stage?
 
(4, 0) 1388 Ond mae gynni hi dalent, debyg?
 
(4, 0) 1398 Tewch â sôn, yma?
 
(4, 0) 1410 Be?
 
(4, 0) 1414 Yr Hen Ddon Juan!
 
(4, 0) 1491 Gna, mym.
 
(4, 0) 1496 Ie.
 
(4, 0) 1511 Hanner cant yn union?
 
(4, 0) 1524 Mae'r J.P. yn cysgu.
 
(4, 0) 1531 Mae gin i feddwl mawr o Constantin Gafrilits.
(4, 0) 1532 Mae gynno fo ddawn, oes wir.
(4, 0) 1533 Mae o'n meddwl mewn ffigurau, mae ei straeon o'n wych ac yn glir ac yn cyrraedd at fy nghalon.
(4, 0) 1534 Ond gresyn nad oes gynno fo nod amlwg o'i flaen.
(4, 0) 1535 Gall osod ei argraff ar y darllenwyr a dyna'r cwbwl, a dewch chi ddim ymhell heb rywbeth amgenach na hyna.
(4, 0) 1536 Irina Nicolaiefna, ydych chi'n falch fod eich mab yn llenor?
 
(4, 0) 1721 Peth rhyfedd!
(4, 0) 1722 Mae'r drws yn cau agor.
 
(4, 0) 1724 Obstacle race!
 
(4, 0) 1743 Dim o bwys, rhywbeth wedi ffrwydro yn fy mag doctor debyg.
(4, 0) 1744 Peidiwch â bod yn anesmwyth.
 
(4, 0) 1746 Ie, potel o ether wedi ffrwydro.
 
(4, 0) 1748 'Fe'm hudwyd eto ger dy fron.'
 
(4, 0) 1755 Mi wn eich bod yn teimlo diddordeb yn y cwestiwn.
 
(4, 0) 1757 Ewch ag Irina Nicolaiefna i rywle o'r ffordd... mae Constantin Gafrilofits wedi saethu ei hun.