Ciw-restr

Yr Wylan

Llinellau gan Masia (Cyfanswm: 105)

 
(1, 0) 12 Fel arwydd o alar, mae mywyd i'n drist.
 
(1, 0) 17 'Does dim a nelo arian â'r peth.
(1, 0) 18 Gall y tlawd fod yn hapus.
 
(1, 0) 23 Mi fydd y ddrama yn dechrau cyn hyn.
 
(1, 0) 30 Lol i gyd.
 
(1, 0) 32 Rwy'n teimlo'ch cariad i'r byw ond fedra i mo'ch caru chi, dyna'r cwbl.
 
(1, 0) 34 Cymwch binsiad.
 
(1, 0) 37 Mae'n fwll, cawn ddrycin yn y nos.
(1, 0) 38 'Rydych chi fyth a hefyd yn athronyddu, ac yn sôn am arian.
(1, 0) 39 Yn eich barn |chi|, 'does dim mwy truenus na thlodi, ond yn fy marn i, mae'n ganmil gwell i ddyn wisgo carpiau a hel cardod o dŷ i dŷ na ─ ond fedrwch chi ddim dallt peth fel 'na.
 
(1, 0) 50 Deudwch air eich hunan wrth fy nhad, na i ddim.
 
(1, 0) 52 Dowch, awn draw.
 
(1, 0) 353 Mi a i i chwilio amdano fo.
 
(1, 0) 355 Hei!
(1, 0) 356 Constantin Gafrilofits!
(1, 0) 357 Hei!
(1, 0) 358 Hei!
 
(1, 0) 464 Dowch i'r tŷ, mae'ch mam yn galw, mae hi'n anesmwyth.
 
(1, 0) 474 Pan fydd dim mwy i'w ddeud, "ieuenctid, ieuenctid" dyna gewch chi gan bawb.
 
(1, 0) 477 Rhoswch.
 
(1, 0) 479 Mae gin i rywbeth i'w ddeud wrthoch chi.
 
(1, 0) 481 Dw i ddim yn caru nhad, ond mae rhywbeth yn fy nhynnu atoch chi, 'rwy'n teimlo â'm holl galon eich bod chi'n agos ata i.
(1, 0) 482 Helpwch fi neu mi naf rywbeth dychrynllyd i ddifetha mywyd i gyd, waeth gin i be ddaw ohona i, fedra i ddal ddim mwy.
 
(1, 0) 484 'Rwy'n diodde, 'dwyr neb faint.
 
(1, 0) 486 'Rwy'n caru Constantin.
 
(2, 0) 505 Ond 'rydw i yn teimlo fel pe bawn i wedi ngeni filoedd o flynyddoedd yn ôl, a rydw i'n llusgo fy mywyd ar f'ôl fel cynffon ffrog laes.
(2, 0) 506 Weithiau fydd arna i ddim isio byw o gwbwl.
 
(2, 0) 508 Lol ydi hyna, wrth gwrs, rhaid imi styrio a bwrw peth felna heibio.
 
(2, 0) 556 Mae o'n bur ddigalon.
 
(2, 0) 558 Adroddwch rywbeth o'i ddrama o, os gwelwch chi'n dda.
 
(2, 0) 561 Pan fydd o'n darllen rhywbeth, bydd tân yn ei lygad a'i wyneb fel y galchen.
(2, 0) 562 Mae gynno fo lais swynol a thrist, ac y mae'n edrych fel bardd bob modfedd ohono.
 
(2, 0) 593 Rhaid ei bod hi'n amser cinio bellach.
 
(2, 0) 595 Mae nghoes i wedi cyffio.
 
(3, 0) 833 'Rwy'n deud hyn i gyd wrthoch chi fel llenor, gellwch neud defnydd ohono rywbryd.
(3, 0) 834 Dyma'r gwir noeth ichi: pe gwyddwn i fod ei friwiau o'n beryglus, roswn i ddim munud mwy yn y byd, ac mi fedra i ddiodde llawer hefyd cofiwch!
(3, 0) 835 'R ydw i wedi penderfynu un peth: mi dynna i'r cariad ma allan o nghalon i, gnaf, i'r bôn, a'r gwraidd gydag o.
 
(3, 0) 837 Trwy briodi, trwy briodi Simeon Medfedenco.
 
(3, 0) 839 Ie.
 
(3, 0) 841 Caru heb obaith, byw am flynyddoedd yn disgwyl i rywbeth ddigwydd – na!
(3, 0) 842 Ac wedi imi briodi fydd na ddim amser i garu, bydd digon o ofalon newydd yn llyncu'r hen; mi ga newid bywyd, beth bynnag, gawn ni lasiad arall?
 
(3, 0) 844 Twt, twt!
 
(3, 0) 846 Peidiwch ag edrych arna i fel yna.
(3, 0) 847 Mae merched yn diota yn amlach nag yr ydych chi yn ei feddwl, ond ychydig ohonyn nhw sy'n yfed yn gyhoeddus fel fi, yn y dirgel y bydd y rhan fwya ohonyn yn hel diod.
(3, 0) 848 Brandi ne wisci i mi!
 
(3, 0) 850 Iechyd da!
(3, 0) 851 Dyn clên ydych chi, mae'n ddrwg gin i eich bod chi'n mynd.
 
(3, 0) 854 Gofynnwch iddi aros, ta.
 
(3, 0) 860 Ie, ie, ond gwenwyn sydd yn y gwraidd.
(3, 0) 861 Ond nid musnes i ydi hynny.
 
(4, 0) 1247 Constantin Gafrilofits.
(4, 0) 1248 Constantin Gafrilofits.
(4, 0) 1249 'Does neb yma.
(4, 0) 1250 Mae'r hen ŵr yn holi am Costia bob munud, fedr o ddim byw hebddo fo.
 
(4, 0) 1254 Mae tonnau fel mynyddoedd ar y llyn.
 
(4, 0) 1258 Felly wir.
 
(4, 0) 1260 Na, 'rydw i am fwrw'r nos yma.
 
(4, 0) 1264 Lol i gyd.
(4, 0) 1265 Gall Matriona ei fwydo fo.
 
(4, 0) 1267 'Rydych chi wedi mynd yn ddiflas.
(4, 0) 1268 Athronyddu y byddoch chi ers talwm, ond "yr hogyn bach, mynd adre, yr hogyn bach, mynd adre", cheir dim ond hyna gynnoch chi rwan.
 
(4, 0) 1270 Ewch adre'ch hun.
 
(4, 0) 1272 Cewch, mi gewch, ond ichi ofyn.
 
(4, 0) 1275 O'r gorau, o'r gorau, mi ddo i fory, 'rydych chi'n ddigon i...
 
(4, 0) 1277 Be di hyn mam?
 
(4, 0) 1279 Gadwch i mi, mi na i...
 
(4, 0) 1296 Gadwch iddo fo, mam.
 
(4, 0) 1301 Dyna chi wedi digio fo, 'doedd dim gofyn ichi ei flino fo.
 
(4, 0) 1303 'Dydi hynny fawr o help imi.
 
(4, 0) 1306 Ffolineb noeth.
(4, 0) 1307 Chewch chi mo'r fath beth â chatiad diobaith ond yn unig mewn nofelau.
(4, 0) 1308 Lol botes.
(4, 0) 1309 Does dim gofyn i neb ymollwng a disgwyl rhywbeth i ddigwydd fel dyn ar lan y môr yn disgwyl am wynt teg.
(4, 0) 1310 Os ydi cariad wedi sleifio i'r galon, allan ag o!
(4, 0) 1311 Mae nhw wedi addo symud y gŵr acw i ardal arall; ac wedi inni ymadael, mi anghofiaf bopeth, gnaf, mi dynna i'r hen gariad yma o'r gwraidd.
 
(4, 0) 1314 Mynd o'i olwg o, dyna'r peth mawr, mam.
(4, 0) 1315 Os symudan nhw Simeon, mi fydda i wedi anghofio popeth cyn pen y mis – lol ydi'r cwbwl.
 
(4, 0) 1325 Aethoch chi ddim eto?
 
(4, 0) 1329 Mae'n ddrwg gin i mod i rioed wedi'ch gweld chi.
 
(4, 0) 1331 Mae'n fwy cyfleus i Constantin Gafrilits weithio yn y fan yma.
(4, 0) 1332 Gall fynd allan i'r ardd, pan fyn, a myfyrio yno.
 
(4, 0) 1428 Mae o'n nghofio i!
 
(4, 0) 1430 Ydw, ers talwm.
 
(4, 0) 1452 Tada, gadwch i Simeon gael ceffylau.
(4, 0) 1453 Rhaid iddo fynd adre.
 
(4, 0) 1458 Ond mae gynnoch chi geffylau erill.
 
(4, 0) 1460 'Does dim dichon eich trin chi.
 
(4, 0) 1492 Ydi pawb wedi talu?
(4, 0) 1493 O'r gorau, dyma fi'n dechrau, dau ar hugain.
 
(4, 0) 1495 Tri!
 
(4, 0) 1497 Tri?
(4, 0) 1498 Wyth!
(4, 0) 1499 Un a phedwar ugain.
(4, 0) 1500 Deg!
 
(4, 0) 1503 Pedwar ar ddeg ar hugain.
 
(4, 0) 1510 Hanner cant.
 
(4, 0) 1516 Dau ar bymtheg a thrigain.
 
(4, 0) 1520 Un ar ddeg!
 
(4, 0) 1525 Saith!
(4, 0) 1526 Deg a phedwar ugain!
 
(4, 0) 1529 Wyth ar hugain.
 
(4, 0) 1540 Chwech ar hugain!
 
(4, 0) 1548 Chwech a thrigain!
(4, 0) 1549 Un!
 
(4, 0) 1555 Wyth a phedwar ugain!