Ciw-restr

Yr Wylan

Llinellau gan Nina (Cyfanswm: 198)

 
(1, 0) 140 'Dw i ddim yn hwyr, na, debyg iawn, 'dw i ddim yn hwyr?
 
(1, 0) 143 'Dw i wedi bod mor anesmwyth trwy'r dydd, wedi dychryn, ofn i nhad fy nghadw yn y tŷ, ond mae o a mam-yng-nghyfraith wedi mynd allan.
(1, 0) 144 Mae'r awyr yn goch a'r lleuad ar fin codi ac mi yrrais i'r ceffylau, mi yrrais i nhw, do.
 
(1, 0) 146 'Rydw i mor falch.
 
(1, 0) 150 O, dim o gwbl, welwch chi fedra i ddim cael ngwynt.
(1, 0) 151 Rhaid imi fynd mhen hanner awr, mae'r amser yn brin.
(1, 0) 152 Na, na, da chi, peidiwch â gneud imi aros.
(1, 0) 153 Ŵyr nhad ddim mod i yma.
 
(1, 0) 161 Mae nhad a'i wraig yn gwrthod gadael imi ddwad yma.
(1, 0) 162 Mae nhw'n deud mai pobol go rydd ydych chi, ac y mae arnyn nhw ofn imi fynd yn actres ─ mae rhywbeth yn fy nhynnu i at y llyn fel gwylan.
(1, 0) 163 'Rydych chi'n llond fy nghalon i.
 
(1, 0) 166 Ond mae rhywun fan acw...
 
(1, 0) 169 Pa goeden ydi honna?
 
(1, 0) 171 Pam mae hi mor dywyll?
 
(1, 0) 174 Fedra i ddim aros.
 
(1, 0) 177 Na, rhaid ichi beidio, rhag i'r gwyliwr eich gweld chi.
(1, 0) 178 'Dydi Trysor ddim yn eich nabod chi ac mi fydd yn cyfarth.
 
(1, 0) 180 Isht, isht.
 
(1, 0) 188 Ydi, mae o.
 
(1, 0) 193 Ydw, yn arw iawn.
(1, 0) 194 Waeth gin i am eich mam, 'does arna i mo'i hofn hi.
(1, 0) 195 Ond mae Trigorin yma.
(1, 0) 196 Mae arna i ofn, mae arna i gywilydd actio o'i flaen o.
(1, 0) 197 Llenor enwog!
(1, 0) 198 Ydi o'n ifanc?
 
(1, 0) 200 A'r straeon gwych sy gynno fo!
 
(1, 0) 203 Mae'n anodd actio'ch drama chi.
(1, 0) 204 'Does na ddim cymeriadau byw.
 
(1, 0) 207 Does na ddim digon o symudiad yn eich drama chi, dim yn digwydd, dim ond areithiau.
(1, 0) 208 Yn y marn i rhaid cael cariad mewn drama, mae hynny'n anhepgor.
 
(1, 0) 271 Mae dynion, llewod, eryrod a phetris, ceirw corniog, gwyddau, pryfed cop, pysgod mud, sêr, y môr ac ymlusgiaid na aller y llygad eu canfod, mewn gair, pob ffurf ar fywyd, pob ffurf ar fywyd, pob ffurf ar fywyd, wedi cyflawni eu cylch truenus, ac wedi diffodd ─ aeth weithian filoedd o oesau heibio, a'r ddaear heb greadur byw yn trigo arni, a hithau'r loer, druan, yn cynnau ei llusern yn ofer.
(1, 0) 272 Ni chlywir mwyach ysgrech yr aran yn deffro ar y weirglodd na'r chwilod mân yn sio ar ddail y waglwyf.
(1, 0) 273 Oer! oer! gwag, gwag, ofnadwy, ofnadwy, ofnadwy!
(1, 0) 274 Aeth pob corff byw yn llwch, troes tragwyddol fater hwy oll yn gerrig, yn ddŵr ac yn gymylau, a'u heneidiau oll wedi llifo ynghyd.
(1, 0) 275 Enaid y byd wyf |i|, ynof |i| mae Enaid Alecsandr Fawr, enaid Cesar, enaid Shakespeare, enaid Napoleon a phryfyn distatlaf y llwch; yn fy mherson i crynhowyd holl reddfau'r byw, ac adnewyddaf bob bywyd ynof i fy hun.
 
(1, 0) 281 Nid oes neb byw ond myfi.
(1, 0) 282 Unwaith yn y can mlynedd agoraf fy ngenau, dyrchafaf fy llais yn drist yn y diffeithwch, ac nid oes neb a'm clyw.
(1, 0) 283 A chwithau, oleuadau gwelwon, ni chlywch fy llef, fe'ch cenhedlir gan y corsydd lleidiog cyn toriad dydd, a chrwydrwch hyd y wawr, heb feddwl, heb ewyllys, heb symudiad byw.
(1, 0) 284 Ac wele'r diafol, tad tragwyddol fater, rhag i fywyd dreiddio hyd atoch, bob munud awr yn symud yr atomau o'ch mewn, megis yn y cerrig â'r dŵr, a chwithau'n newid agwedd yn ddi-baid, yn ddi-dor; yn yr holl greadigaeth nid erys ond un enaid yn ddigyfnewid a pharhaus.
 
(1, 0) 286 Fel carcharor a fwriwyd i waelodion pydew gwag, ni wn ym mha le yr wyf, na pha beth a ddaw; un peth yn unig sydd hysbys imi yn yr ymdrech gyndyn greulon â'r diafol, pennaeth holl alluoedd mater, tynghedwyd i'm gorchfygu, ac yna gwelir mater ac enaid yn cyd-lifo yn un mewn cytgord, a sefydlir teyrnas rhyddid y byd.
(1, 0) 287 Ond ni ddaw hyn i fod am oesau, filoedd hir, wedi i'r lloer a FIX Siriws disglair, a'r ddaear raddol droi yn llwch, o'r dyddiau hyn i hynny, braw, braw!
 
(1, 0) 290 Wele fy ngwrthwynebwr cadarn, y diafol, yn FIX nesáu; gwelaf ei lygaid erchyll, coch.
 
(1, 0) 297 Mae'n unig heb gwmni dyn.
 
(1, 0) 361 Dyna bopeth ar ben, rhaid inni ddwad allan debyg.
(1, 0) 362 Dydd da i chi.
 
(1, 0) 370 Ie, dyna mreuddwyd i.
 
(1, 0) 372 Ond ddaw o byth yn wir.
 
(1, 0) 375 Mae'n dda gin i...
 
(1, 0) 377 Mi fydda i'n darllen llawer ar eich llyfrau chi.
 
(1, 0) 386 Drama ryfedd, yntê?
 
(1, 0) 390 Oes.
 
(1, 0) 392 Ond i'r sawl a brofodd win melys awduriaeth, mi ddylai popeth arall yn y byd golli ei flas, debygwn i.
 
(1, 0) 398 Mae'n bryd imi fynd.
(1, 0) 399 Nos dawch.
 
(1, 0) 402 Mae tada'n fy nisgwyl i.
 
(1, 0) 407 Taech chi'n gwbod mor drwm mae nghalon i wrth fynd!
 
(1, 0) 410 O, na, na!
 
(1, 0) 412 Fiw imi aros, Piotr Nicolaiefits.
 
(1, 0) 415 Fedra i ddim.
 
(2, 0) 537 'Rydw i mor hapus, 'rydw i'n un ohonoch chi rwan.
 
(2, 0) 545 Wrth y llyn yn pysgota.
 
(2, 0) 548 Be sy gynnoch chi fanna?
 
(2, 0) 559 Beth, ond 'tydi hi mor ddwl.
 
(2, 0) 605 Ardderchog, 'rwy'n eich dallt chi.
 
(2, 0) 645 Gwrthod Irina Nicolaiefna, yr actres enwog!
(2, 0) 646 Mae'n anodd credu'r fath beth.
(2, 0) 647 Ond tydi pob chwiw o'i heiddo hi yn bwysicach o lawer nag unrhyw waith ffarm.
 
(2, 0) 657 Steddwch, steddwch.
(2, 0) 658 Mi awn ni â chi yno.
 
(2, 0) 660 Dychrynllyd, dychrynllyd!
 
(2, 0) 684 Mae Irina Nicolaiefna yn crio a brest Piotr Nicolaiefits yn gwichian.
 
(2, 0) 688 Cymwch nhw.
 
(2, 0) 697 Mae'n syn gin i weld actres yn crio ac am beth mor ddibwys hefyd, a'r llenor enwog poblogaidd â'i enw yn y papur newydd a'i lun yn ffenestri'r siopau a'i lyfrau wedi eu cyfieithu mewn ieithoedd diarth, ac yntau'n pysgota o fore tan nos, ac ar ei ben ei ddigon os medr o ddal un neu ddau o silod mân.
(2, 0) 698 'Ro'n i'n meddwl fod pobol enwog yn falch, yn cadw draw o'r byd, yn dirmygu'r dorf ac yn cymyd mantais o'u clod a'u henwogrwydd i ddial ar y dorf am ei bod yn gosod bonedd a chyfoeth yn uwch na phopeth arall yn y byd; ond dyma nhw'n crio, yn pysgota, yn chwarae cardiau; yn chwerthin a gwylltio fel pawb arall.
 
(2, 0) 701 Nag oes.
(2, 0) 702 Be di ystyr hyn?
 
(2, 0) 705 Be sy arnoch chi?
 
(2, 0) 708 'Dydw i ddim yn eich nabod chi heddiw.
 
(2, 0) 711 'Rydych chi wedi mynd yn bigog ac yn siarad mewn damhegion, a dameg ydi'r wylan ma hefyd, mae'n debyg; peidiwch â digio, ond 'dydw i ddim yn dallt, 'rydw i'n rhy ddwl i ddallt.
 
(2, 0) 726 Bore da, Boris Alecsiefits.
 
(2, 0) 731 Mi garwn innau fod yn eich sgidiau chithau.
 
(2, 0) 733 Imi gael gwbod sut y bydd llenor enwog a thalentog yn teimlo.
(2, 0) 734 Sut ydych chi'n teimlo yn eich enwogrwydd?
 
(2, 0) 738 Ond pan fyddwch yn gweld eich enw yn y papur?
 
(2, 0) 740 Lle rhyfedd ydi'r byd ma.
(2, 0) 741 Taech chi'n gwbod fel y mae arna i wenwyn, a'r fath wahaniaeth ym myd pobol!
(2, 0) 742 Un yn pydru'n ddinod mewn rhyw gongol dywyll, lle y mae pawb fel ei gilydd a phawb yn anhapus, a'r lleill, chi er enghraifft, un o filiwn ydych chi, yn cael byw yn y golau – bywyd diddorol a phawb yn sylwi arnoch.
(2, 0) 743 Yr ydych chi'n hapus.
 
(2, 0) 748 Ond y mae'ch bywyd chi'n ardderchog.
 
(2, 0) 778 Ydyn, mae sgwennu'n beth difyr; ac y mae darllen y proflenni'n ddifyr hefyd; ond pan fydd fy ngwaith mewn print tu hwnt i'm cyrraedd, byddaf yn canfod brychau, yn ei gondemnio fel methiant, yn credu mai camgymeriad dybryd oedd cyfansoddi'r fath druth, ac yn ddrwg fy hwyl, wedi laru ar bopeth.
 
(2, 0) 780 A phan ddarllenir fy llyfr, dyma glywch chi, 'Ie, clws iawn, yn wir, mae yna dalent hefyd, ond mae "Tadau a Phlant" Twrgenieff yn well' a cheir dim ond 'clws a thalentog, clws a thalentog' nes pwyo'r hoelen ola ar gaead f'arch, a bydd fy nghyfeillion wrth fynd heibio fy medd yn deud: "yma y gorwedd Trigorin, llenor da, ond fedra fo ddim sgwennu fel Twrgenieff.'
(2, 0) 781 Choelia i mo hyna, llwyddiant sydd wedi'ch difetha chi.
 
(2, 0) 790 'Rydych chi'n gweithio'n rhy ddwys ac nid oes gennych amser nac ewyllys i werthfawrogi'ch gwaith.
(2, 0) 791 Pa waeth os ydych yn anfodlon arno?
(2, 0) 792 I eraill mae'n wych a mawreddog.
(2, 0) 793 Pe tawn i'n llenor fel chi, mi gyflwynwn fy holl fywyd i'r werin, ac mi gai'r werin deimlo mai esgyn hyd ataf i yw ei hunig obaith am wynfyd, ac mi'm llusgai mewn cerbyd yn ei gorfoledd.
 
(2, 0) 795 Ond imi gael bod yn llenores neu'n actres, mi aberthwn bopeth; 'rwy'n barod i oddef adfyd, a chasineb, ac angau a siom, ac i fyw ar fara sych mewn twll dan y to, a chydnabod holl ddiffygion ac amherffeithrwydd fy ngwaith, os caf glod, clod gwirioneddol yn taraddu...
(2, 0) 796 Mae'n bendro arna i... ych!
 
(2, 0) 805 Welwch chi'r tŷ ar ardd cw ar y lan?
 
(2, 0) 807 Dyna dŷ fy mam druan.
(2, 0) 808 Yna y'm ganwyd i, ac 'rydw i'n nabod pob ynys arno.
 
(2, 0) 812 Gwylan a saethodd Constantin Gafrilits.
 
(2, 0) 816 Be dych chi'n neud?
 
(2, 0) 828 Breuddwyd gwag!
 
(3, 0) 874 Un ta dwy?
 
(3, 0) 877 Na, un bysen sy gin i.
(3, 0) 878 'R'on i'n trio cael gwbod a ddylwn i fynd ar y stage ai peidio.
(3, 0) 879 Mae arna i isio cyngor.
 
(3, 0) 882 Dyma ni'n mynd bawb ei ffordd ei hun.
(3, 0) 883 Welwn ni mo'n gilydd eto, mae'n debyg.
(3, 0) 884 A fyddwch chi cystal â chymyd y fedal bach yma i gofio amdana i?
(3, 0) 885 Mae nhw wedi torri'ch enw arni ar un ochor ac ar yr ochor arall mae teitl eich llyfr chi 'Nos a Dydd.'
 
(3, 0) 888 Meddyliwch amdana i weithiau.
 
(3, 0) 891 Ie, yr wylan.
 
(3, 0) 893 Ond dyna ben ar ein sgwrs ni, mae nhw'n dŵad – ga i ddau funud bach gynnoch chi cyn ichi fynd i ffwrdd, peidiwch â gwrthod.
 
(3, 0) 1219 'R o'n i'n gwbod ein bod am gael gweld ein gilydd.
 
(3, 0) 1221 Boris Alecsiefits, 'r ydw i'n mynd ar y stage.
(3, 0) 1222 Welir mona i yma fory, 'r wy'n gadael fy nhad a phopeth ac yn dechrau byw o'r newydd.
(3, 0) 1223 Fel chi, 'r wyf innau'n mynd i Mosco.
(3, 0) 1224 Mi gawn weld ein gilydd yno.
 
(3, 0) 1228 Hanner munud.
 
(4, 0) 1604 Mae rhywun yma.
 
(4, 0) 1606 Rhowch glo ar y drws, neu mi ddaw rhywun.
 
(4, 0) 1608 Mi wn fod Irina Nicolaiefna yma.
(4, 0) 1609 Rhowch glo ar y drws.
 
(4, 0) 1614 Gadwch imi gael golwg arnoch chi.
(4, 0) 1615 Mae'n braf ac yn gynnes neis.
(4, 0) 1616 Yma 'roedd y parlwr gorau.
(4, 0) 1617 Ydw i wedi newid yn arw?
 
(4, 0) 1624 'Roedd arna i ofn eich bod yn fy nghasau i; mi fyddwn yn breuddwydio bob nos eich bod yn sbio arna i ac yn gwrthod fy nabod.
(4, 0) 1625 Taech chi'n gwybod!
(4, 0) 1626 'Rydw i wedi bod yma bob dydd – wrth y llyn, ac wrth y tŷ ma hefyd lawer gwaith; ond feiddiwn i ddim dŵad i mewn.
(4, 0) 1627 Gadwch inni eistedd a sgwrsio, sgwrsio.
(4, 0) 1628 Mae hi'n glyd ac yn gynnes braf yma.
(4, 0) 1629 Glywch chi'r gwynt?
(4, 0) 1630 Mae Twrgenieff yn deud yn rhywle "gwyn ei fyd y gŵr sydd ganddo dŷ a tho ac aelwyd gynnes ar noson fel hon".
(4, 0) 1631 Gwylan ydw i – na, thâl hyna ddim.
(4, 0) 1632 Lle'r oeddwn i hefyd?
(4, 0) 1633 O, ie, Twrgenieff: 'A'r Arglwydd a ofala am bob crwydryn heb le i roi ei ben i lawr' – Waeth befo...
 
(4, 0) 1636 Waeth befo, mi neith les imi.
(4, 0) 1637 Chriais i ddim ers dwy flynedd.
(4, 0) 1638 Mi es i'r ardd neithiwr i weld a oedd ein theatr ni yno, ac yno y mae hi hefyd.
(4, 0) 1639 Mi griais i am y tro cynta ers dwy flynedd ac 'ro'n i'n teimlo'n sgafnach wedyn, a llai o bwys ar y nghalon i.
(4, 0) 1640 Welwch chi, 'dwy ddim yn crio rŵan.
(4, 0) 1641 A dyma chi'n llenor, chi'n llenor a finnau actores, yn mynd gyda'r lli ein dau.
(4, 0) 1642 'Roeddwn i mor hapus ers talwm, yn canu fel plentyn ben bore, yn breuddwydio am glod, a rŵan – rhaid imi fynd i Ielets yfory, third class gyda'r gweithwyr, ac mi fydd siopwyr diwylliedig y dre yn fy nghanlyn i ac yn dechrau caru a hel lol.
(4, 0) 1643 Bywyd isel yntê?
 
(4, 0) 1645 Mae gin i engagement yno am y gaea, ond mae'n bryd imi fynd.
 
(4, 0) 1651 Pam y mae o'n siarad fel hyn, pam y mae o'n siarad fel hyn?
 
(4, 0) 1657 Mae'r cerbyd wrth y giât.
(4, 0) 1658 Peidiwch â dŵad gyda mi, mi a i fy hun.
 
(4, 0) 1660 Ga i lymaid o ddŵr?
 
(4, 0) 1663 I'r dre.
(4, 0) 1664 Ydi Irina Nicolaiefna yma?
 
(4, 0) 1667 Pam y deudsoch chi y byddwch yn cusanu'r pridd y bu fy nhraed arno?
(4, 0) 1668 Mi ddylid fy lladd i.
(4, 0) 1669 O! 'rydw i wedi blino.
(4, 0) 1670 Gawn i orffwys... gorffwys.
(4, 0) 1671 Gwylan ydw i – nage actres ydw i.
 
(4, 0) 1673 O!
(4, 0) 1674 Mae o yma.
(4, 0) 1675 Wel, waeth befo...
(4, 0) 1676 Doedd o ddim yn credu yn y theatr a byddai'n chwerthin am ben fy mreuddwydion, ac o dipyn i beth mi gollais innau fy ffydd a thorrais fy nghalon – a gofalon serch, cenfigen, a phryder am yr hogyn bach yn fy mlino ddydd a nos – a minnau'n isel ysbryd, a'r actio'n druenus ac ynfyd, wyddwn i ddim sut i ddal fy nwylo, fedrwn i ddim sefyll yn iawn ar y stage, 'doedd gin i ddim meistrolaeth ar fy llais chwaith.
(4, 0) 1677 Gwylan ydw i – na, thâl hyna ddim – ydych chi'n cofio saethu'r wylan?
(4, 0) 1678 Daeth dyn heibio ar ddamwain, a'i gweld hi am nad oedd ganddo ddim gwell i'w wneud – ei difa hi.
(4, 0) 1679 Testun stori fer.
(4, 0) 1680 Na, thâl hyna ddim.
(4, 0) 1681 Lle'r oeddwn i hefyd?
(4, 0) 1682 O, ie, yn sôn am y stage.
(4, 0) 1683 Ond 'rydw i wedi newid erbyn hyn.
(4, 0) 1684 'Rwyf yn wir actres, yn cael blas ar actio, yn llawn gorfoledd, wedi meddwi ar y stage ac yn teimlo fy mod yn gampus.
(4, 0) 1685 Ac er pan ddois yma, 'rwyf yn cerdded o gwmpas ac yn myfyrio ac yn teimlo fod nerthoedd f'enaid yn tyfu bob dydd.
(4, 0) 1686 'Rwyf wedi dysgu gwers, Costia, yn ein gwaith ni ar y stage neu wrth y ddesg, nid clod, nid rhwysg llwyddiant, nid yr hyn y byddem gynt yn breuddwydio amdano sy'n bwysig, ond y gallu i ddioddef.
(4, 0) 1687 Dysg godi'r groes a chredu.
(4, 0) 1688 Mae gennyf ffydd, ac felly mae'r loes yn llai, a phan feddyliaf am fy ngalwad, nid oes arnaf ofn byw.
 
(4, 0) 1692 Sh!...
(4, 0) 1693 'Rydw i'n mynd.
(4, 0) 1694 Nos dawch.
(4, 0) 1695 Pan fydda i'n actres enwog, dowch i ngweld i – ydych chi'n addo dŵad?
(4, 0) 1696 Ond hyd hynny...
(4, 0) 1697 Mae hi'n hwyr.
(4, 0) 1698 Prin y medra i sefyll 'rydw i wedi blino, mae arna i isio bwyd.
 
(4, 0) 1700 Na, na!
(4, 0) 1701 Peidiwch â dŵad hefo mi chwaith.
(4, 0) 1702 'Dydi'r cerbyd ddim ymhell.
(4, 0) 1703 Mae hi wedi dŵad â fo yma felly?
(4, 0) 1704 Wel, waeth gin i.
(4, 0) 1705 Pan welwch chi Trigorin, peidiwch â deud dim wrtho fo – 'rydw i'n ei garu o, yn ei garu o'n fwy nag erioed.
(4, 0) 1706 Testun stori fer...
(4, 0) 1707 'Rydw i'n ei garu o'n wyllt, yn angerddol.
(4, 0) 1708 'Roedd hi mor ddifyr yma ers talwm, ydych chi'n cofio Costia?
(4, 0) 1709 Bywyd golau, cynnes, llon.
(4, 0) 1710 A'r fath deimladau!
(4, 0) 1711 Teimladau fel blodau, tyner, gwych, ydych chi'n cofio.
 
(4, 0) 1713 ~
(4, 0) 1714 'Mae dynion, llewod, eryrod, a phetris, ceirw corniog, gwyddau, pryfed copyn, pysgod mud, sêr, y môr ac ymlusgiaid na all y llygad eu canfod, mewn gair, pob ffurf ar fywyd, pob ffurf ar fywyd, pob ffurf ar fywyd wedi cyflawni eu cylch truenus, ac wedi diffodd.
(4, 0) 1715 Aeth weithian filoedd o oesau heibio a'r ddaear heb greadur byw yn trigo arni, a hithau'r lloer, druan, yn cynnau ei llusern yn ofer.
(4, 0) 1716 Ni chlywir mwyach ysgrech garan yn deffro ar y weirglodd na'r chwilod mân yn sio ar ddail y waglwyf.'