Ciw-restr

Yr Wylan

Llinellau gan Treplieff (Cyfanswm: 241)

 
(1, 0) 46 Digon gwir, rhaid i chi gael byw yn y dre.
 
(1, 0) 48 Pan fydd yn amser dechrau, mi ddon i ddeud wrthoch chi, ddylech chi ddim bod yma rwan; byddwch cystal â gofyn i'ch tad ddweud wrth y gwas am ollwng y ci, rhag iddo gyfarth.
(1, 0) 49 Chysgodd fy chwaer ddim munud drwy'r nos.
 
(1, 0) 64 O'r gorau, cofiwch fod yn eich lle mhen deng munud.
 
(1, 0) 66 Rhaid dechrau'n bur fuan.
 
(1, 0) 69 Welwch chi, dyma'r theatr, y llen a'r ddwy |wing| a gwagle mawr tu draw.
(1, 0) 70 Dim |decoration|.
(1, 0) 71 Cewch weld y llyn o flaen eich llygaid draw ar y gorwel.
(1, 0) 72 Codir y llen hanner awr wedi wyth pan gyfyd y lleuad.
 
(1, 0) 74 Os bydd Zarietsnaia yn hwyr, collir yr |effect|, wrth gwrs.
(1, 0) 75 Mi ddylai fod yma rwan.
(1, 0) 76 Mae ei thad a'i mam-yng-nghyfraith yn ei chadw hi'n gaeth iawn, prin y ceith fynd allan o'r tŷ, mae'r lle fel |jail| iddi.
 
(1, 0) 78 Mae'ch gwallt a'ch barf yn flêr iawn; mi ddylid eu torri nhw, wir.
 
(1, 0) 85 Pam?
(1, 0) 86 O, mae wedi llyncu mul.
 
(1, 0) 88 Gwenwyn sydd arni.
(1, 0) 89 Fedr hi mo niodde i na'r sioe chwaith, am mai Zarietsnaia ac nid hi sydd yn actio.
(1, 0) 90 Dda gynni hi mo'r ddrama, mae'n ei FIX chasáu hi.
 
(1, 0) 93 Fedr hi ddim diodde meddwl mai Zarietsnaia, ac nid hi, sydd yn cael tipyn o glod ar |stage| fechan fel hon.
 
(1, 0) 95 Mae mam yn |psychological curiosity|, dyna be di hi.
(1, 0) 96 Mae gynni hi ddigon o dalent, 'does dim dwywaith am hynny, mae'n wraig ddeallus, gall ochneidio uwch ben llyfr, gall adrodd holl ganeuon Necrasof, gall weini ar y cleifion, mae'n dyner fel angel pryd hynny, ond well i chwi beidio rhoi gair da i actres fel Eleanora Dwse o'i blaen hi.
(1, 0) 97 Ow, ow!
(1, 0) 98 Chewch chi FIX ganmol neb ond hi, rhaid sgwennu amdani hi, a bloeddio mewn gorfoledd am ei hactio yn y |Ferch a'r Camelia| neu |Ferw Bywyd|.
(1, 0) 99 Ond os nad oes yna glod iddi hi feddwi arno mewn lle dinad-man fel hwn, mae hi'n sorri ac yn pwdu ac yn bigau i gyd, ac arnom ni i gyd, ei gelynion hi, mae'r bai.
(1, 0) 100 Ac y mae'n ofergoelus, mae arni hi ofn tair cannwyll a thri ar ddeg o bopeth.
(1, 0) 101 Mae gynni hi saith mil o bunnoedd yn y banc yn Odessa, 'rwy'n siŵr o hynny, ond gofynnwch iddi am fenthyg arian, a dyna hi'n dechrau crio.
 
(1, 0) 105 Ydi hi'n fy ngharu i?
(1, 0) 106 Ydi, nag ydi, ydi, nag ydi, ydi, nag ydi.
 
(1, 0) 108 Welwch chi, 'dydi mam ddim yn fy ngharu i, nag ydi, wrth gwrs.
(1, 0) 109 Mae arni hi eisiau byw, caru, a gwisgo dillad golau, ond 'rydw i'n bump ar hugain oed ac yn gneud iddi hi gofio nad ydi hi ddim yn eneth ifanc.
(1, 0) 110 Os na fydda i yno, 'dydi hi ddim ond deuddeg ar hugain; dowch â fi i mewn, a dyna hi'n dair a deugain, ac yn fy nghasau i am hynny.
(1, 0) 111 Mi ŵyr hefyd nad ydw i'n cymeradwyo drama'r oes hon, mae hi yn caru drama'r oes hon, ac yn tybied ei bod hi'n gwasanaethu dynoliaeth ac yn llaw forwyn i'r gelfyddyd sanctaidd.
(1, 0) 112 Ond yn fy marn i, 'dydi drama'r oes ddim ond routine a rhagfarn.
(1, 0) 113 Pan gyfyd y llen yn y golau gneud i ddatguddio stafell a thri phared iddi, wele'r talentau anfarwol, offeiriaid y gelfyddyd sanctaidd, yn dangos inni sut y bydd pobol yn bwyta, yn yfed, yn caru, yn cerdded ac yn gwisgo.
(1, 0) 114 Pan geisiant dynnu gwres o'u darluniau a'u hymadroddion ystrydebol, ceir gwers dila, eiddil, hawdd i'w deall, addas i fywyd beunyddiol y teulu; pan welaf hyn i gyd dro ar ôl tro, y ffurf yn newid ond yr un hen beth ffiaidd yn aros yr un, yr un, yr un hen beth, byddaf yn rhedeg ac yn rhedeg fel y rhedodd Guy de Maupassant o olwg y Tŵr Eiffel rhag ofn i'w hylltra di-chwaeth ei yrru o'i go.
 
(1, 0) 116 Rhaid cael ffurfiau newydd, heb ffurfiau newydd fedr neb neud dim, byddai'n well rhoi'r gorau iddi hi.
 
(1, 0) 118 Rwy'n caru mam yn ddwys, ond 'dydi hi ddim yn byw fel y dylai, mae'n mynd o gwmpas gyda'r llenor na, mae gormod o sôn amdani hi yn y papur newydd, ac mae hyna'n peri blinder i mi, ac y mae tipyn bach o wenwyn arna i hefyd, teimlad naturiol iawn.
(1, 0) 119 Mae'n ddrwg gin i fod mam yn actres enwog, byddwn yn hapusach tae hi'n wraig gyffredin di-enw.
(1, 0) 120 Ystyriwch fy nghyflwr truenus a diflas, gorfod eistedd wrth ei hymyl ynghanol twr o enwogion y byd, artistiaid a llenorion o bob math a minnau'n neb ac yn cael bod yno yn unig am fy mod yn fab fy mam.
(1, 0) 121 Pwy ydw i?
(1, 0) 122 Beth ydw i?
(1, 0) 123 Dois o'r coleg cyn gorffen fy nghwrs ─ "dan bwys amgylchiadau nad oeddwn yn gyfrifol amdanynt" chwedl gwŷr y wasg, heb dalent, heb geiniog, ac ar fy mhasport "gweithiwr o Cieff", dyna oeddwn i, "Gweithiwr o Cieff" oedd fy nhad hefyd er ei fod yn actor enwog, a phan fyddai'r bobol fawr yn ei pharlwr hi mor fuan â dal sylw arna i, teimlwn eu bod yn fy mesur o'm corun i'm sowdwl ac yn fy nirmygu fel creadur gwael a diddim, ac yr oedd hynny'n rhoi poen imi, wrth gwrs.
 
(1, 0) 126 Dyn deallus, syml, eitha clên hefyd, ond bydd yn aml iawn yn y felan.
(1, 0) 127 'Dydi o ddim yn ddeugain oed, ond mae'n cael llond i fol o glod y byd, am ei waith o fel llenor, 'dwn i ddim sut i roi'r peth mewn geiriau; mae'n swynol, mae'n llawn talent, ond rywsut, 'does ar neb eisiau darllen Trigorin wedi darllen Tolstoi a Zola.
 
(1, 0) 132 Mi glywa i sŵn traed.
(1, 0) 133 Fedra i ddim byw hebddi hi.
(1, 0) 134 Mae hyd yn oed sŵn ei throed yn brydferth.
(1, 0) 135 O!
(1, 0) 136 'Rwy'n hapus, 'rwy bron wedi gwirioni.
 
(1, 0) 138 Fy hudoles, breuddwyd fy nghalon!
 
(1, 0) 142 Na, na...
 
(1, 0) 154 Yn wir, mae'n hen bryd inni ddechrau.
(1, 0) 155 Heliwch nhw i gyd yma.
 
(1, 0) 165 Does na neb ond ni yma.
 
(1, 0) 167 Na, 'does na neb yna.
 
(1, 0) 170 Llwyfen.
 
(1, 0) 172 Mae'n nosi a phopeth yn troi'n ddu.
(1, 0) 173 Peidiwch â mynd adra'n gynnar, 'rwy'n crefu arnoch.
 
(1, 0) 175 Ond be tawn i'n dwad acw, Nina?
(1, 0) 176 Mi safa i drwy'r nos yn yr ardd â'm llygad ar eich ffenast chi.
 
(1, 0) 179 'Rwy'n eich caru chi.
 
(1, 0) 182 Pwy sy na?
(1, 0) 183 Chi, Iago?
 
(1, 0) 185 Ewch i'ch llefydd.
(1, 0) 186 Mae'n bryd dechrau.
(1, 0) 187 Dacw'r lleuad yn codi.
 
(1, 0) 189 Oes gynnoch fethylated spirit a brwmstan?
(1, 0) 190 Pan welir y ddau lygad coch, rhaid cael oglau brwmstan.
 
(1, 0) 192 Ewch, mae popeth yn barod, a ydych chi wedi cynhyrfu?
 
(1, 0) 199 Ydi.
 
(1, 0) 202 Dwn i ddim am hynny, ddarllenais i monyn nhw.
 
(1, 0) 205 Cymeriadau byw, wir!
(1, 0) 206 Rhaid mynegi bywyd nid fel y mae, nid fel y dylai fod, ond fel yr ymddengys mewn breuddwyd.
 
(1, 0) 254 Mewn hanner munud, mam, peidiwch â cholli'ch mynedd.
 
(1, 0) 260 "A pham y syrthiaist ti i bwll aflendid a cheisio cariad yn nyfnderoedd camwedd?"
 
(1, 0) 262 Foneddigion a boneddigesau, dechreuwn, sylwch a gwrandewch.
(1, 0) 263 Dyma ddechrau.
 
(1, 0) 266 Chwi gysgodion, sanctaidd, hen, fydd yn lledu eich adenydd dros y llyn liw nos, bwriwch drymder cwsg ar ein hamrantau fel y breuddwydiom am yr hyn a ddigwydd ymhen dau gan mil o flynyddoedd.
 
(1, 0) 268 O'r gorau, gadewch inni freuddwydio am y dim hwnnw.
 
(1, 0) 280 O, mam!
 
(1, 0) 293 Oes.
 
(1, 0) 296 Mam!
 
(1, 0) 303 Mae'r ddrama ar ben.
(1, 0) 304 Llen?
 
(1, 0) 306 Dyna ddigon!
(1, 0) 307 I lawr â'r llen!
 
(1, 0) 309 I lawr â'r llen!
 
(1, 0) 311 Arna i mae'r bai, anghofiais mai gan yr ychydig etholedigion yn unig y mae'r hawl i sgwennu a chwarae drama.
(1, 0) 312 Torrais y |monopoly|, mi ─ mi ─
 
(1, 0) 441 Does na neb yma.
 
(1, 0) 443 Mae Masia yn chwilio amdana i, ym mhob congol o'r parc.
(1, 0) 444 Fedra i ddim diodde'r grydures.
 
(1, 0) 453 Mynd ymlaen, ddeudsoch chi?
 
(1, 0) 456 Esgusodwch fi, ble mae Nina?
 
(1, 0) 459 Be na i?
(1, 0) 460 Mae arna i eisiau ei gweld hi, rhaid imi gael ei gweld hi.
(1, 0) 461 Rhaid imi fynd.
 
(1, 0) 463 Ond 'rydw i'n mynd, beth bynnag, rhaid imi fynd.
 
(1, 0) 465 Deudwch wrthi mod i wedi mynd allan.
(1, 0) 466 Da chi, gadwch lonydd imi, 'rwy'n crefu arnoch i gyd.
(1, 0) 467 Peidiwch â dwad ar f'ôl i.
 
(1, 0) 470 Nos dawch, Doctor.
(1, 0) 471 Diolch yn fawr i chi.
 
(2, 0) 700 Oes ma neb ond chi?
 
(2, 0) 703 Bûm mor ffôl â saethu'r wylan ma.
(2, 0) 704 Dyma hi wrth eich traed.
 
(2, 0) 707 'Rydw i am ladd fy hun yn yr un modd cyn pen hir.
 
(2, 0) 709 'Dydw innau ddim yn eich nabod chithau chwaith.
(2, 0) 710 'Rydych chi wedi newid, mae'ch llygad chi'n oer, ac 'rydw i'n rhwystr ichi.
 
(2, 0) 712 Mi ddechreuodd hyn i gyd y noson yr aeth fy nrama druan i'r clawdd.
(2, 0) 713 Fydd merched byth yn maddau i'r dyn a fethodd.
(2, 0) 714 'Rydw i wedi llosgi pob cynhinyn ohoni.
(2, 0) 715 Mae'ch oerni yn ofnadwy, prin y medra i ei goelio fo.
(2, 0) 716 'Rwy'n teimlo fel pe tae'r llyn wedi sychu a'i lyncu yn y ddaear.
(2, 0) 717 Deudsoch eich bod yn rhy ddwl i ddallt, ond mae'r peth yn ddigon clir, cyn gynted ag y cafodd fy nrama godwm, dyma chi'n dirmygu f'ysbrydoliaeth ac yn f'ystyried yn ddyn cyffredin, diddim, pymtheg yn y dwsin.
 
(2, 0) 719 O, 'rwy'n dallt yn rhy dda!
(2, 0) 720 'Rwy'n teimlo hoelen yn brathu f'ymenydd i; melltith arno fo a'r uchelgais balch sydd yn sugno fy ngwaed i fel sarff.
(2, 0) 721 Wele'r gwirioneddol dalent; yn rhodio fel Hamlet gyda'i lyfr.
 
(2, 0) 723 'Geiriau, geiriau, geiriau.' Hyd yn oed cyn i'r haul gyrraedd hyd atoch mae eich llygad wedi toddi yn ei belydr.
(2, 0) 724 Peidiwch â gadael i mi fod yn rhwystr ichi.
 
(3, 0) 977 Peidiwch â dychryn, mam, 'd oes dim perig.
(3, 0) 978 Mi fydd f'ewyrth fel yna yn aml iawn.
 
(3, 0) 980 Rhaid ichi fynd i orwedd, f'ewyrth bach.
 
(3, 0) 991 'D ydi byw yn y wlad yn gneud dim lles iddo fo.
(3, 0) 992 Mae'n poeni.
(3, 0) 993 Be pe taech chi'n hael am unwaith, mam, ac yn rhoi benthyg cant a hanner iddo; mi allai fyw'n braf yn y dre am flwyddyn gron.
 
(3, 0) 996 Mam, rhowch gadach arall ar y mhen i, mae'ch llaw chi mor dyner.
 
(3, 0) 999 Mi addawodd fod yma erbyn deg, ond y mae rŵan yn hanner dydd.
 
(3, 0) 1005 Na, na i, mam, colli arna i fy hun ddaru mi mewn munud o anobaith.
(3, 0) 1006 Na i byth eto.
 
(3, 0) 1008 Mae gynnoch chi ddulo annwyl.
(3, 0) 1009 'Rwy'n cofio pan oeddwn i'n hogyn bach, a chithau yn yr Imperial Theatre, bu ffrwgwd yn yr iard, ac mi gafodd y ddynes fyddai'n golchi inni y gurfa go hegar.
(3, 0) 1010 Ydych chi'n cofio?
(3, 0) 1011 Mi gafodd lewyg a dyma chithau'n trin y briw ac yn golchi ei phlant yn y cafn.
(3, 0) 1012 Ydych chi ddim yn cofio?
 
(3, 0) 1015 'Roedd dwy ferch o'r ballet yn byw yn yr un tŷ â ni... ac yn dŵad atom ni am gwpanad o goffi.
 
(3, 0) 1017 Merched crefyddol oeddyn nhw hefyd.
 
(3, 0) 1019 Yn y dyddiau diwedda ma, 'r wy'n eich caru chi'n angerddol fel pan o'n i'n blentyn.
(3, 0) 1020 'D oes gin i neb rŵn ond chi, ond pam, o, 'r ydych chi dan fawd y dyn yna?
 
(3, 0) 1022 Ond pan glywodd o mod i am roi sialens iddo, 'd oedd o ddim yn rhy nobl i'w heglu hi am ei einioes, yr hen gachgi!
 
(3, 0) 1025 Dyn nobl yn wir!
(3, 0) 1026 Dyma ni bron wedi ffraeo amdano fo ac yntau yn y parlwr gorau, yn chwerthin yn braf am ein pen, yn datblygu Nina ac yn ceisio cael gynni hi gredu ei fod yn genius.
 
(3, 0) 1029 'D ydw i ddim yn ei barchu o.
(3, 0) 1030 'R ydych yn disgwyl imi gredu ei fod o'n genius.
(3, 0) 1031 Fedra i ddim deud celwydd, mae ei lyfrau o yn codi cyfog arna i.
 
(3, 0) 1035 Talentog yn wir!
 
(3, 0) 1037 Mae gin i fwy o dalent na phob un ohonoch.
 
(3, 0) 1039 Chi a'ch routine yn mynnu cael bod yn ben ar bawb ym myd celfyddyd ac yn gwrthod cydnabod dim ond eich deddfau gneud, ac yn malu ac yn tagu pawb sydd tu allan i'ch cylch cul.
(3, 0) 1040 D'ydw i ddim yn eich cydnabod chi na fo chwaith.
 
(3, 0) 1042 Ewch i'ch theatre i chwarae eich dramâu tila a thruenus.
 
(3, 0) 1046 Yr hen gybyddes!
 
(3, 0) 1055 Taech chi'n gwbod!
(3, 0) 1056 'R w i wedi colli popeth.
(3, 0) 1057 Tydi hi ddim yn fy ngharu i mwyach, fedra i ddim sgwennu mwyach, mae popeth ar ben.
 
(3, 0) 1063 Ydym, mam.
 
(3, 0) 1067 Nag oes, ond peidiwch â gofyn imi ei gyfarfod o.
(3, 0) 1068 Mi fyddai hynny'n ormod imi.
 
(3, 0) 1070 O... 'r wy'n mynd.
 
(3, 0) 1072 Mi geith y doctor roi'r cadach.
 
(4, 0) 1366 Na, dim o'r fath beth.
 
(4, 0) 1370 Pam?
 
(4, 0) 1373 Ydi, mae'n debyg, ac yn iach hefyd.
 
(4, 0) 1375 Wel, doctor, stori go hir ydi honna.
 
(4, 0) 1377 Mi redodd i ffwrdd hefo Trigorin, mi wyddoch hynny?
 
(4, 0) 1379 Mi anwyd plentyn; bu farw'r plentyn.
(4, 0) 1380 Troes Trigorin hi heibio ac aeth yn ôl at ei hen gastiau fel y gellid disgwyl; o ran hynny, fu na ddim newid o gwbwl ar ei ffordd o fyw, y criadur digymeriad, ar ôl hon a'r llall fyth a hefyd.
(4, 0) 1381 Cyn belled ag y gwela i, byd go ddrwg a gafodd Nina.
 
(4, 0) 1383 Gwaeth byth, mi dybiaf.
(4, 0) 1384 Gnaeth ei debut rywle heb fod ymhell o Mosco, ac wedyn bu'n actio yn y taleithiau.
(4, 0) 1385 Mi es ar ei hôl i bob man; lle'r oedd hi, yno yr oeddwn innau.
(4, 0) 1386 Ceisiai actio rhannau pwysig, ond 'roedd yn rhy wyllt, yn rhy arw ac yn sgrechian yn ddi-chwaeth, a gormod o stumiau yn ei hactio hi.
(4, 0) 1387 Ond ar adegau, gallai floeddio fel y dylid, a marw yn dalentog, ond nid yn amal.
 
(4, 0) 1389 Cwestiwn anodd ydi hwnna; oes, feallai fod gynni hi dalent.
(4, 0) 1390 Gwelais hi, ond fynnai hi mo ngweld i a chawn i ddim mynd i mewn gan y forwyn.
(4, 0) 1391 'Ron i'n gweld o ble 'roedd y gwynt yn chwythu a wnes i ddim pwyso arni hi.
 
(4, 0) 1393 'Does gin i ddim mwy o ddeud am hyna.
(4, 0) 1394 Wedi imi ddwad yma, mi ges lythyrau oddi wrthi, llythyrau serchog, deallus a diddorol; 'doedd hi ddim yn cwyno, ond gallwn weld ei bod hi'n anhapus iawn; 'roedd rhyw gyffro afiach ym mhob brawddeg ac arwyddion bob rhyw goll arni hefyd.
(4, 0) 1395 Yn lle "Nina" rhoes "Yr Wylan" ar ddiwedd pob llythyr.
(4, 0) 1396 Ydych chi'n cofio'r melinydd yn nrama Pwshcin yn galw ei hun yn frân, felly mae hithau yn ei llythyrau yn galw ei hun yn wylan.
(4, 0) 1397 Mae hi yma rŵan.
 
(4, 0) 1399 Ydi, yn y dre, yn yr hotel ers wythnos.
(4, 0) 1400 Mi geisiais ei gweld hi, ac mi ddaru Masia hefyd, ond chai neb fynd i mewn.
(4, 0) 1401 Mae Simeon Sinionofits yn deud ei fod wedi ei gweld hi neithiwr ar y cae, rhyw filltir a hanner o'r tŷ ma.
 
(4, 0) 1404 Ddaw hi ddim.
 
(4, 0) 1406 Mae ei thad a'i mam-yng-nghyfraith yn gwrthod ei derbyn hi, ac wedi rhoi'r gweision i wylio rhag iddi ddwad ar gyfyl y tŷ.
 
(4, 0) 1408 Digon hawdd bod yn athronydd, ar bapur, doctor, ond byw fel athronydd ydi'r gamp.
 
(4, 0) 1417 Ydyn, mi glywa i lais mam.
 
(4, 0) 1438 Diolch yn fawr ichi am eich caredigrwydd.
 
(4, 0) 1443 Ydych chi am aros tipyn?
 
(4, 0) 1484 Mi ddarllenodd ei stori o, ond thorrodd o'r un dudalen o'm stori i.
 
(4, 0) 1487 Diolch yn fawr, ond maen well gin i beidio.
 
(4, 0) 1551 Ond tydi hi'n dywyll!
(4, 0) 1552 Fedra i ddim dirnad pam yr ydw i mor anesmwyth.
 
(4, 0) 1566 'Does arna i ddim isio bwyd, mam.
 
(4, 0) 1574 Wedi imi sôn cymaint am ffurfiau newydd, dyma fi'n mynd yn ystrydebol fy hun: 'Cyhoeddai'r hysbysiad ar y palis – wyneb llwyd mewn ffrâm o wallt tywyll.'
(4, 0) 1575 'Cyhoeddai... mewn ffrâm,' gwael iawn yn wir.
 
(4, 0) 1577 Rhaid imi ail-ddechrau a'r sŵn glaw yn deffro'r arwr a bwrw heibio'r rest.
(4, 0) 1578 Mae'r disgrifiad o'r noson leuad yn drwm ac yn rhy faith.
(4, 0) 1579 Mi ŵyr Trigorin sut i fynd o'i chwmpas hi.
(4, 0) 1580 Mae gynno fo ei gynllun arbennig a phopeth yn rhedeg yn rhwydd; er enghraifft: 'yr oedd gwddf hen botel ddrylliog yn disgleirio ar y cob ac olwyn y felin yn bwrw cysgod du' a dyna nos loergan olau yn barod; ond mae gin i 'olau'n crynu a phefriad mwyn y sêr a sain piano yn y pellter megis yn llesmeirio dan arogl balmaidd yr awel.'
(4, 0) 1581 Ych!
(4, 0) 1582 Mae'n ddigon i dorri calon dyn.
 
(4, 0) 1584 'Rwy'n dod i gredu'n gadarnach bob dydd nad oes dim a wnelo ffurfiau hen a newydd â'r mater o gwbwl, ac y dylai dyn ysgrifennu'n rhydd fel y llifa'r ffrwd o'i galon – heb feddwl am ffurfiau.
 
(4, 0) 1586 Be di hyna?
 
(4, 0) 1588 Wela i neb.
 
(4, 0) 1590 Mi redodd rhywun i lawr y grisiau.
 
(4, 0) 1592 Pwy sy 'na?
 
(4, 0) 1595 Nina!
(4, 0) 1596 Nina!
 
(4, 0) 1599 Nina!
(4, 0) 1600 Nina!
(4, 0) 1601 Chi sy ma... chi... 'roedd rhywbeth yn deud wrtha i, 'roedd rhyw bigyn ofnadwy yn fy nghalon i drwy'r dydd.
(4, 0) 1602 Mae hi wedi dŵad, fy nhrysor annwyl aur i!
(4, 0) 1603 Peidiwch â chrio, peidiwch â chrio.
 
(4, 0) 1605 Nag oes, neb.
 
(4, 0) 1607 Ddaw neb i mewn.
 
(4, 0) 1611 'Does na ddim clo ar y drws arall.
(4, 0) 1612 Mi ro'i gadair i'w ddal o.
(4, 0) 1613 Peidiwch ag ofni, ddaw neb i mewn.
 
(4, 0) 1618 Ydych, 'rydych chi wedi teneuo ac y mae'ch llygaid yn fwy.
(4, 0) 1619 Mae'n dda gin i'ch gweld chi, Nina.
(4, 0) 1620 Pam na chawn i'ch gweld chi o'r blaen?
(4, 0) 1621 Pam na ddaethoch chi yma'n gynt?
(4, 0) 1622 Mi wn eich bod yn y gymdogaeth ers wythnos bron.
(4, 0) 1623 Mi fûm i acw bob dydd yn sefyll dan eich ffenast fel cardotyn.
 
(4, 0) 1635 Nina, dyna chi'n crio eto, Nina bach!
 
(4, 0) 1644 Pam y mae rhaid ichi fynd i Ielets?
 
(4, 0) 1646 Nina, melltithiais chi, caseais chi, rhwygais eich llythyrau a'ch llun chi, ond mi wyddwn i bob munud fod fy nghalon yn glynu wrthoch am byth.
(4, 0) 1647 Fedrwn i mo'ch anghofio chi, Nina, 'doedd gin i mo'r nerth.
(4, 0) 1648 Wedi imi eich colli chi a gweld fy ngwaith mewn print, mae bywyd yn annioddefol imi, mae'r loes yn fy llethu, cipiwyd fy ieuenctid oddi wrthyf ac 'rwy'n teimlo fel pe bawn i wedi byw am ddeng mlynedd a phedwar ugain yn y byd.
(4, 0) 1649 Byddaf yn galw arnoch, yn cusanu'r pridd y bu eich troed arno; lle bynnag yr edrychaf, gwelaf eich gwyneb a'r wên dyner a oleuodd flynyddoedd gorau fy mywyd.
 
(4, 0) 1652 'Rwyf yn unig, heb neb yn fy ngharu, 'rwyf yn oer, ac megis yn byw mewn seler dywyll, afiach, a bydd popeth a sgrifennaf yn dywyll ac yn sych fel hen grystyn.
(4, 0) 1653 Rhoswch yma, Nina, 'rwyn crefu arnoch neu gadwch inni fynd i ffwrdd gyda'n gilydd...
(4, 0) 1654 Nina, oes raid ichi fynd?
(4, 0) 1655 Yn enw Duw, Nina?
 
(4, 0) 1662 I ble'r ydych chi'n mynd?
 
(4, 0) 1665 Ydi.
(4, 0) 1666 'Roedd f'ewyrth yn waeth ddydd Iau ac mi ddaru ni yrru teligram yn ei galw adre.
 
(4, 0) 1690 Ond mae'ch llwybyr chi'n glir, mi wyddoch chi i ble'r ydych yn mynd, ond 'rydw i'n ymbalfalu yng ngwyll breuddwydion a ffurfiau, heb wybod a oes gwerth o gwbl yn fy llafur, heb ffydd i'm cynnal, heb alwad yn y byd.
 
(4, 0) 1699 Ond rhoswch, mi a i i nôl tipyn o swper ichi.
 
(4, 0) 1718 Fynnwn ni er dim i neb ei chyfarfod yn yr ardd a deud wrth mam a pheri iddi gynhyrfu.