Rhys Lewis (J M Edwards)


Cyfarwrddiadau

1. Cadwer y wyneb at y gynulleidfa wrth ddod ar, a phan yn gadael y llwyfan.

2. Byddwch gartrefol,—fel ar yr aelwyd,—yn bwyllog ac heb frys.

3. Llefarer yn hyglyw,—nid â'ch cyfaill ar y llwyfan yn unig,—ond â'r bachgen sydd yn y gornel bellaf yn yr ystafell. Troer y wyneb felly hanner yn hanner at bob un.

4. Siarader yn araf,—pechod parod y dibrofiad yw siarad yn gyflym, Fel "o'r frest," ac nid o lyfr.

5. Gofaler na bo un cymeriad yn sefyll yng nghysgod y llall ar y llwyfan.

6. Tra y byddo dau gymeriad yn siarad, cymered y gweddill sylw, neu ymgomiant yn ddistaw â'n gilydd.

7. Na safed neb fel dyn pren, neu un wedi ei windio. Gwneler popeth yn true to nature, a pob symudiad yn naturiol.

8. Gofaled pawb am ei bethau ei hun, a rhodder hwy'n gyfleus gyda'u gilydd; a bydded pawb barod i gynorthwyo, fel na choller dim amser rhwng y golygfeydd.

9. Gellir trefnu cân rhwng rhai o'r golygfeydd.

10. Na ddyweder un gair amheus, ac na wneler y cysegredig yn watwar.

11. Pobl lanwaith oedd yr hen Gymry,—portreader hwy felly ar y llwyfan. Pan yn gwneyd te,—llian gwyn ar y bwrdd. Yr oedd Tomos Bartley, er yn ddoniol ac ysmala, yn fonheddwr perffaith.

12. Dillad wisgid tua hanner can mlynedd yn ol sydd eisieu, paìs a betgwn, shawl fach a ffedog stwff. Byddai Mari Lewis yn pletio ei ffedog yn aml wrth siarad. Ymddengys Bob yn ei ddillad coliar a'i wyneb du; ond yn ei wisg ei hun pan ddel o'r carchar. Datblyga Rhys Lewis yn raddol o hogyn direidus i wisg ac agwedd pregethwr. Fel crydd yr ymddengys Tomos Bartley yn y Twmpath; ond yn ei ddillad gore yn y Bala, a'i goler fawr, wrth gwrs.

13. Mae Wil Bryan mewn gwisg dda,—well na'i gyfoed,—ac yn ysmygu sigarets weithiau, Mewn siwt gyrrwr cab y mae ym Mirmingham. Gwisgoedd glân Cymreig sydd gan y merched.

14. Os bydd prinder cymeriadau, gall yr un person gynrychioli Mari Lewis, Gwraig y Ty Lodgin, a Sus; Bob a Williams y Student gan un, a James a'r Athraw gan un arall.

15. Gellir cael wigs a paints, etc., oddiwrth J. Burkinshaw and Sons, Theatrical Costumiers, Colquitt Street, Liverpool.