Cefndir




Pam cafodd y wefan hon ei chreu?

Mewn gwirionedd, nid oes un lle y gallwch fynd i gael trosolwg o ddrama yng Nghymru. Felly mewn sawl ffordd nid oes gennym gof ar y cyd o'r theatr yng Nghymru, naill ai'n Gymraeg neu'n Saesneg. Mae chwaeth ac amgylcheddau cymdeithasol wedi newid dros y blynyddoed, ac ynghyd â'r cost uchel ac economeg anodd, mae hyn yn ei gwneud hi'n anodd i neud elw wrth ailgyhoeddi dramâu. Y canlyniad yw bod rhannau helaeth o hanes drama Cymru bellach wedi'u cyfyngu i silffoedd llyfrgelloedd mawr, neu'r farchnad llyfrau ail-law, sy'n gymharol ddrud. Mae llawer o ddramâu, hyd yn oed o gyfnodau cymharol ddiweddar fel y 60au a'r 70au, ac yn enwedig dramâu yn Gymraeg, mewn perygl difrifol o ddiflannu, mwy na lai.

Nodweddion y wefan

Mae'r wefan yn waith ar y gweill.

Fe'i cynlluniwyd i'w ddefnyddio ar gyfrifiadur personol / gliniadur, ond bydd y mwyafrif o nodweddion hefyd yn gweithio ar dabled neu ffôn.

Hyd yn hyn mae'r nodweddion canlynol wedi'u gweithredu:

A oes gwefannau eraill am theatr yng Nghymru?

Oes. Dyma'r rhai pwysicaf:

Hawlfraint

Dyma faes cymhleth, ond rydym yn defnyddio dull sydd, yn ein barn ni, yn cydbwyso'r agweddau treftadaeth ddiwylliannol â'r angen i amddiffyn awduron a chyhoeddwyr.

Pan mae'r ddrama allan o hawlfraint (mewn effaith, lle bu farw'r awdur cyn 1951), byddwn yn rhoi testun llawn y ddrama ar y wefan (er nad ydym wedi cwblhau hynny eto ar gyfer holl ddramâu allan-o-hawlfraint sydd gennym ni). Mae ein fersiwn wedi'i drwyddedu o dan drwydded Creative Commons.

Lle mae'r ddrama yn dal dan hawlfraint ond ymddengys nad yw mewn print mwyach, rydyn ni'n ceisio dod o hyd i ddeiliad yr hawlfraint i ofyn am ganiatâd i roi'r testun llawn, neu o leiaf gyfran ohono, ar y wefan.

Lle rydym wedi ymdrechu i olrhain deiliad yr hawlfraint, ond wedi bod yn aflwyddiannus, rydym yn trin y ddrama fel "gwaith amddifad", ac yn rhoi'r testun ar y wefan ar sail dros dro, dan hawlfraint yr awdur. Mae hyn yn golygu, os bydd deiliad yr hawlfraint yn cysylltu â ni, gallwn wedyn drafod gyda nhw yr hyn yr hoffent ei wneud - er enghraifft, os hoffent inni dynnu'r testun oddiar y wefan, byddwn yn gwneud hynny.

Mewn achosion lle mae'r ddrama yn dal dan hawlfraint ac yn dal i fod mewn print, rydym yn cysylltu â deiliad yr hawlfraint i ofyn a fyddai'n bosibl rhoi o leiaf yr act gyntaf ar y wefan, gyda hysbysiad hawlfraint, er mwyn rhoi blas ar waith y dramodydd. Yn yr achosion hyn, rydym hefyd yn darparu dolen i'r fersiwn gyhoeddedig ar gwales.com, fel y gall darllenwyr brynu fersiwn print os ydyn nhw eisiau.

Nid yw caniatáu inni arddangos testunau rhannol neu gyfan ar y wefan yn effeithio ar hawlfraint y testun. Arddangosir hysbysiad hawlfraint ar bob tudalen o'r testun.

Ga' i helpu?

Wrth gwrs! Po fwyaf o wirfoddolwyr sydd gennym, y mwyaf o ddramâu y gellir eu huwchlwytho.