Golygfeydd o Rhys Lewis geir yn y llyfryn hwn, wedi eu cyfaddasu i'r llwyfan. Mae'r oll yn naturiol a syml, ac ol bys celfydd Daniel Owen arnynt oll. Darlunio cymeriad oedd cryfder ein prif nofelydd,—dangos nodweddion rhai o'r cymeriadau yw neges y dalennau hyn.
Prin mae'r enw Drama yn cyfleu beth yw,—ymgom gegin, ysgwrs gartrefol heb ymgais at ddim byd mawr,—helyntion dyddiol y werin, heb un plot, ond dod a Wil Bryan yn ol i'r seiat, ac i awyrgylch mwy dyrchafol nag y bu. Eto swynwyd miloedd yn nhrefi Gogledd Cymru a Lloegr gan y Ddrama hon, a chafwyd elw mawr at adgyweirio eglwysi, talu am gapelau, prynnu llyfrau i lyfrgelloedd, harddu cof-golofn Daniel Owen, ac achosion teilwng ereill. Cadwyd y golygfeydd defosiynol o'r naill du, ac nid oes ynddi ddim i frifo teimlad sant nac i lygru moes yr ieuanc.
Methais ufuddhau i ugeiniau o wahoddiadau i berfformio Rhys Lewis, oherwydd prinder amser. Hyderaf y bydd ei chyhoeddi fel hyn yn symbyliad i'r Ddrama yng Nghymru. Mae agosrwydd a naturioldeb y portreadau, a'r arabedd diball sydd yn goleuo y cyfan, yn apelio yn gryf at gyfangorff y Cymry, a thrwy hynny yn palmantu y ffordd i'r ddrama i'n mysg yn well, i'm tyb i, na plots cywrain a golygfeydd dieithr a chynhyrfus. Hyderaf hefyd y bydd gan bob Llan a Thref gwmni yn actio Rhys Lewis er difyrrwch a budd i drigolion eu bro. Cofied yr Ysgolion Elfennol a'r Ysgolion Sirol hefyd roi ei le i Daniel Owen ar eu Dydd Gwyl. Actir darnau llenorion Lloegr a Ffrainc,—cofier am Gymru.
Dyledus wyf i "blant y Bala," a'm cyfaill Mr. Arthur Roberts, Treffynnon, am gyngor; ond y beiau a'r gwendidau i gyd sydd eiddo
J. M. EDWARDS
Gorffennaf, 1909