| (Cân) Sdimbydineud-i-neud | |
| (Cadeirydd) Seimon... | |
| (0, 10) 500 | Diolch, Mr/Mrs Cadeirydd. |
| (0, 10) 501 | Wel, yn syml, fel y'ch chi'n gwbod, mae Caerdydd wedi bod yn pwyso arno ni i gydymffurfio â'r holl siroedd eraill ac i baratoi polisi newydd yn berthnasol i'r mater hwn. |
| (0, 10) 502 | Leicwn i gymryd y cyfle hwn, gyfeillion, i ddiolch yn ddidwyll iawn i swyddogion yr adran am eu gwaith caled – dros y deunaw mai diwethaf hyn – yn paratoi'r polisi newydd – ac i'r Cyfarwyddwr yn arbennig. |
| (0, 10) 503 | Ry' ni mor ffodus yng Ngheredigion bod da ni Gyfarwyddwr sydd yn deall ffordd Caerdydd o feddwl mor dda, ac sydd felly yn gallu sicrhau ein bod ni, fel cyngor, yn cael yr arweiniad gore posib. |
| (0, 10) 504 | ~ |
| (0, 10) 505 | Nawr, o fewn y polisi newydd mae yna un oblygiad sydd wedi codi – fel y soniodd y Cadeirydd – wedi codi dipyn o stŵr yn ardal Tregaron yn arbennig. |
| (0, 10) 506 | Dwi'n cydymdeimlo'n fawr â'u consyrn, wrth gwrs. |
| (0, 10) 507 | Ond os y'n ni i fabwysiadu'r polisi – fel mae Caerdydd moyn i ni neud, ontife – wedyn does dim dewis. |
| (0, 10) 508 | Bydd rhaid cymryd y camau yn ardal Tregaron mae Is-Adran 3, tudalen 173, paragraff 28.9 yn eu hamlinellu. |
| (0, 10) 509 | ~ |
| (0, 10) 510 | I gyflwyno i chi union fwriad y polisi, dwi'n troi yn awr am gymorth pensaer y polisi – yr un sy'n deall yr holl oblygiadau yn well na'r un ohonom – Y Cyfarwyddwr. |