Dewis Anorfod

Cue-sheet for Albert

(Alice) O, y ti sydd 'na, Maggie.
 
(Vickey) Fe wna' i hynny drosot ti, Alice, os bydd nhad wedi mynd allan; ond feiddia'i ddim gadael y siop cyn 'i fod e o'r golwg.
(1, 0) 45 Bore da, Miss Alice.
(Alice) Bore da, Mr. Prosser
 
(Alice) Nid yw nhad wedi mynd allan eto; mae e'n ddiweddar heddiw.
(1, 0) 49 O!
(Maggie) Beth gawn ni ddangos i chi y bore 'ma, Mr. Prosser?
 
(1, 0) 53 Wel, wir, alla'i ddim dweyd imi ddod yma gyda'r bwriad o brynu dim heddiw, Miss Hobson.
(Maggie) Cadw siop yw'n busnes ni, wyddoch, ac felly allwn ni ddim gadael i bobl fynd a dod yma heb brynu dim.
 
(Maggie) Cadw siop yw'n busnes ni, wyddoch, ac felly allwn ni ddim gadael i bobl fynd a dod yma heb brynu dim.
(1, 0) 55 O'r gora: dewch â phâr o gareiau imi, os gwelwch chi'n dda.
 
(Maggie) Beth yw "size" eich sgidiau chi?
(1, 0) 58 "Eights."
(1, 0) 59 Troed fechan sydd genny'.
 
(1, 0) 61 Ond wnaiff hynny ryw wahaniaeth i'r careiau?
(Maggie) {Yn gosod mat o flaen cadair ar y dde.}
 
(1, 0) 67 O'r gora; ond─
 
(Maggie) 'Sgwn i pam mae e'n dod i'r siop yma mor aml?
(1, 0) 78 Un ofnadwy wy' i am dorri careiau, Miss Maggie.
(Maggie) A ydych yn treulio pâr o gareiau bob dydd?
 
(Maggie) Mae'n rhaid eich bod yn gryf ofnadwy.
(1, 0) 82 'Rwy'n cadw stoc o honynt wrth law rhag ofn.
(1, 0) 83 Mae'n well bod yn barod i'r gwaetha'.
(Maggie) A nawr bydd gennych sgidiau newydd i fynd gyda'r careiau, Mr. Prosser.
 
(Maggie) Sut mae honna'n teimlo?
(1, 0) 86 Yn gyfforddus iawn, wir.
(Maggie) Treiwch chi ar eich sefyll.
 
(1, 0) 89 Ydi; mae hi'n ffitio i'r dim.
(Maggie) Gadewch imi wisgo'r llall i chi.
 
(Maggie) Gadewch imi wisgo'r llall i chi.
(1, 0) 91 O, na'n wir; does arna'i ddim eisiau pâr o sgidiau newydd ar hyn o bryd.
(Maggie) {Yn ei wthio'n ôl i'r gadair.}
 
(Maggie) Allwch chi ddim mynd allan i'r stryd felna, un hên esgid sâl ac un esgid newydd, smart, am eich traed.
(1, 0) 96 Wel, beth yw pris y rhain, ynte?
(Maggie) Punt.
 
(Maggie) Punt.
(1, 0) 98 Punt! ond─
(Maggie) Ond mae nhw'n sgidiau da, Mr. Prosser.
 
(Maggie) Gallwch eu cael, wrth gwrs, ond fe gostia rheiny ddwy geiniog yn rhagor i chi.
(1, 0) 105 Fe wna—fe wna y rhain y tro, diolch.
(Maggie) O'r gora; a gwell i chi adael yr hên bâr yma i'w cywiro.
 
(1, 0) 112 Pe buasai rhywun wedi dweyd wrthyf fy mod yn dod i mewn yma i wario punt buaswn wedi ei alw'n ffŵl.
(Maggie) Nid ydych wedi gwastraffu punt, coeliwch fi.
 
(Maggie) {Daw ymlaen i agor y drws iddo.}
(1, 0) 117 Bore da.