| (1, 0) 25 | O, y ti sydd 'na, Maggie. |
| (1, 0) 26 | A minnau'n gobeithio mai nhad oedd ar ei ffordd allan. |
| (Maggie) Camsyniad wnest ti. | |
| (Maggie) {Mae'n croesi'r llwyfan ac yn eistedd wrth y ddesc ar y chwith.} | |
| (1, 0) 29 | Mae e'n hwyr y bore 'ma. |
| (Maggie) 'Roedd e'n hwyr yn codi. | |
| (Vickey) Fe fydd arno eisiau rhywbeth i godi tipyn ar ei galon felly. | |
| (1, 0) 37 | Fe garwn i pe bai'n mynd i'w mofyn ar unwaith. |
| (Vickey) Wyt ti'n disgwyl rhywun yma, Alice? | |
| (Vickey) Wyt ti'n disgwyl rhywun yma, Alice? | |
| (1, 0) 39 | Ydw; gwyddost hynny o'r gora. |
| (1, 0) 40 | A byddaf yn ddiolchgar i chi eich dwy os gadewch y siop pan ddaw e. |
| (Vickey) Fe wna' i hynny drosot ti, Alice, os bydd nhad wedi mynd allan; ond feiddia'i ddim gadael y siop cyn 'i fod e o'r golwg. | |
| (Albert) Bore da, Miss Alice. | |
| (1, 0) 46 | Bore da, Mr. Prosser |
| (1, 0) 48 | Nid yw nhad wedi mynd allan eto; mae e'n ddiweddar heddiw. |
| (Albert) O! | |
| (Albert) {Sylla'n wirion ar ALICE ac â allan.} | |
| (1, 0) 119 | Wel, Maggie, gwyddwn yn dda dy fod yn fenyw o fusnes, ond ar 'y ngair i─ |
| (Maggie) {Yn dychwelyd i'r dde, yn codi'r hên sgidiau a'u gosod ar silff, ar y dde.} | |
| (Maggie) Mae ganddo ormod o amser i'w wastraffu. | |
| (1, 0) 123 | Fe wyddost pam mae e'n dod yma. |
| (Maggie) Gwn y dylai dalu rhent am gael treulio cymaint o amser yma. | |
| (Maggie) {Yn croesi o flaen y cownter i'r chwith.} | |
| (1, 0) 129 | Mae o'r gora i hên ferch fel ti i siarad, ond gan fod nhad yn anfodlon inni fynd allan gyda bechgyn ifainc, ymhle arall y gall Albert a minnau gwrdd ond yn y siop pan fydd nhad ei hunan allan? |
| (Maggie) Os yw e am dy briodi di, pam na wnaiff e hynny? | |
| (Maggie) Os yw e am dy briodi di, pam na wnaiff e hynny? | |
| (1, 0) 131 | Rhaid caru cyn priodi. |
| (Maggie) Does dim rhaid iddi fod felly. | |
| (Hobson) Wel; wel, myn─ | |
| (1, 0) 154 | Peidiwch â rhegi, nhad. |
| (1, 0) 155 | HOBSON |
| (1, 0) 157 | Na. |
| (1, 0) 158 | Yn hytrach na rhegi fe eistedda'i i lawr. |
| (1, 0) 160 | Nawr, gwrandewch arna'i, chi'ch tair. |
| (1, 0) 161 | Rwy'i wedi gwneud fy meddwl i fyny. |
| (1, 0) 162 | Chymra'i ddim ordors gennych chi. |
| (1, 0) 163 | Beth nesa', tybed? |
| (1, 0) 164 | Mae digon o chwant arna'i roi eitha gwers ichi bob un. |
| (Maggie) Rwy'n siwr fod Mr. Heeler yn aros am danoch yn Y Bedol, nhad. | |
| (Hobson) Rwyt yn ferch brydferth ond yr wyt yn ffroen-uchel, a mae merch ffroenuchel mor atgas imi a chyfreithiwr. | |
| (1, 0) 177 | Os awn ni i'r drafferth o baratoi bwyd i chi nid arwydd ein bod yn ffroen-uchel yw gofyn i chi beidio â bod yn ddiweddar i ginio. |
| (Vickey) Rhoi a chymryd yw hanes pawb, nhad. | |
| (Hobson) Pwy oedd yn gwisgo dillad newydd yr wythnos ddiwetha? | |
| (1, 0) 193 | Rydych yn cyfeirio at Vickey a mi, debig. |
| (Hobson) Ydw. | |
| (Hobson) Fe'th welais di ac Alice drwy ffenestr parlwr Y Bedol nos Iau, a dyna 'nghyfaill Sam Minns─ | |
| (1, 0) 206 | Tafarnwr! |
| (Hobson) {Yn troi.} | |
| (1, 0) 214 | Nhad! |
| (Hobson) Ac roedd y clap yn siglo wrth i chi gerdded a chwithau'n sangu ar y ddaear fel pe buasai llosg-eira ar eich traed, ie, eich penliniau yn gwegian o'tanoch chi, ond a'ch pennau yn y gwynt yn warsyth a ffroen-uchel. | |
| (Hobson) Digywilydd-dra noeth! | |
| (1, 0) 217 | Na, nid digywilydd-dra, nhad; ond dyna'r ffasiwn—i wisgo "bustles." |
| (Hobson) Ffasiwn y diawl, ddweda'i. | |
| (Hobson) Dyw hynny ddim yn weddus yn y wlad hon. | |
| (1, 0) 234 | Fe ddaliwn ni i wisgo yn ol y ffasiwn, nhad. |
| (Hobson) O'r gora. | |
| (Hobson) Fe ddewisa'i bob o ŵr i chi, dyna beth wna'i. | |
| (1, 0) 241 | Allwn ni ddim dewis gwŷr inni ein hunain? |