|
|
|
(Beelzebub) Tân brwmstan gwyllt, darperwch fflamllyd Gethern, |
|
|
|
(Rhagrith) Y Dalaeth hon a gollwn yn dragywydd. |
(1, 1) 121 |
I'r pen nid aethost, ellyll aml-wynebog, |
(1, 1) 122 |
Nid oedd dy araeth ddim ond truth hanerog; |
(1, 1) 123 |
Paham na ddywedasit am y driniaeth |
(1, 1) 124 |
A roddir iddynt trwy y dywysogaeth? |
(1, 1) 125 |
Gwnaf hyny yn dy le, o gariad atat, |
(1, 1) 126 |
Dangosaf y gwaradwydd deflir arnat: |
(1, 1) 127 |
Mae person eglwys, Piwsi yn enwedig, |
(1, 1) 128 |
Trwy Gymru oll yn berson gwrthodedig! |
(1, 1) 129 |
Y bobl nid ânt, er aur na dim, i'w wrando, |
(1, 1) 130 |
Oblegid hyn, mae yntau bron yn wallgo'! |
(1, 1) 131 |
Mae yn watwargerdd yn ngeneuau plantos, |
(1, 1) 132 |
Fel cî cynddeiriog mae yn cael ei anos; |
(1, 1) 133 |
Trwy ryw gamsyniad mawr ac anfaddeuol, |
(1, 1) 134 |
Mae wedi myned yn ddiareb hollol:— |
(1, 1) 135 |
"Mor ddwl â pherson," —"cynddrwg ag offeiriad," |
(1, 1) 136 |
A glywir beunydd yn y tŷ a'r farchnad! |
(1, 1) 137 |
Hên wragedd tlodion, er mor fawr eu hangen, |
(1, 1) 138 |
A fetha hudo gyda pheisiau gwlanen; |
(1, 1) 139 |
Hên wyr methedig, gwan, a'u cylla'n weigion, |
(1, 1) 140 |
Ni fedr ddarbwyllo 'chwaith â'i dorthau gwynion; |
(1, 1) 141 |
A'r plantos carpiog, gyda dillad newydd, |
(1, 1) 142 |
A fetha ddenu, er mor gryf ei awydd; |
(1, 1) 143 |
Yr unig foddion sydd yn llwyddo dipyn |
(1, 1) 144 |
Yw cinio blasus unwaith yn y flwyddyn; |
(1, 1) 145 |
A swper weithiau, fel mae rhaid yn galw, |
(1, 1) 146 |
Pan gyffry'r gwirod yn y gwydrau gloew! |
(1, 1) 147 |
Mae hyn yn denu rhai, ond rhai anghymwys |
(1, 1) 148 |
I feithrin rhagrith yn y byd na'r eglwys; |
(1, 1) 149 |
Ond ni waeth tewi,—nid all doniau ellyll |
(1, 1) 150 |
Ddarlunio gwarth mor fawr yn ddigon erchyll! |