|
|
|
(Cân) Sdimbydineud-i-neud |
|
|
|
(Cyflwynydd) Ysgol y Cynghorwyr Newydd. |
(0, 5) 218 |
Da iawn. |
(0, 5) 219 |
Pawb yma? |
(0, 5) 220 |
~ |
(0, 5) 221 |
Reit. |
(0, 5) 222 |
Dechreuwn ni. |
(0, 5) 223 |
~ |
(0, 5) 224 |
Croeso i chi gyd yma, i'ch cyfarfod cyntaf yma yn Siambr y Cyngor. |
(0, 5) 225 |
A'r peth cyntaf sydd raid i mi wneud yw eich llongyfarch. |
(0, 5) 226 |
Llongyfarchiadau i chi un ac oll ar gael eich hethol i fod yn gynghorwyr. |
(0, 5) 227 |
Cynghorwyr newydd sir Ceredigion. |
(0, 5) 228 |
Ac os ga'i ddweud, dwi'n credu mai chi yw'r cynulliad... {yn chwilio am y gair mwyaf priodol}...y...harddaf o gynghorwyr newydd dwi wedi cael y fraint o'u croesawu yma erioed. |
|
|
(0, 5) 230 |
And I mean that most sincerely, folks! |
(0, 5) 231 |
Ie'n wir. |
(0, 5) 232 |
~ |
(0, 5) 233 |
Nawrte, gan gofio gymaint o fraint yw bod yn gynghorydd, dwi'n siwr nad oes angen i fi |
(0, 5) 234 |
ddweud wrthoch chi mor bwysig yw eich gwaith. |
(0, 5) 235 |
A'n gwaith ni – swyddogion proffesiynol y cyngor – yw eich galluogi chi – i wneud popeth gallwn ni – i'ch helpu i sefyll lan dros eich hetholwyr. |
(0, 5) 236 |
I gynrychioli buddiannau eich hetholaethau. |
(0, 5) 237 |
A gwneud hynny i'r eithaf. |
(0, 5) 238 |
~ |
(0, 5) 239 |
Felly te, i'n helpu ni i'ch helpu chi, mae 'na ryw gwpwl o bethe bach sydd angen i chi ddysgu. |
(0, 5) 240 |
A'r peth mwyaf pwysig i gyd yw: siwt ma pleidleisio. |
|
|
(0, 5) 242 |
Na – nid 'pa ffordd ma pleidleisio. |
(0, 5) 243 |
Eich dewis rhydd chi – a chi yn unig – yw hynny, wrth gwrs. |
(0, 5) 244 |
Na, yr hyn mae 'nghyfaill i yn y fan hon yn mynd i ddysgu i chi nawr yw siwt ma pleidleisio. |
(0, 5) 245 |
Siwt ma bwrw eich pleidlais gan ddefnyddio'r botymau o'ch blaen. |
(0, 5) 246 |
Gyfaill... |