| (Cân) Sdimbydineud-i-neud | |
| (0, 3) 87 | Helo. |
| (0, 3) 88 | Fi yw'ch cynghorydd lleol, a... wel... |
| (0, 3) 89 | Fi'n sori, ond – sdimbydineud. |
| (0, 3) 90 | Nago's wir, sdimbydineud. |
| (Cyflwynydd) Ie, yn un ohonyn Nhw | |
| (Cyflwynydd) Ie, yn un ohonyn Nhw | |
| (0, 3) 92 | Dim o gwbwl. |
| (0, 3) 93 | Sori. |
| (Cyflwynydd) Iawn. | |
| (Cyflwynydd) Iawn. | |
| (0, 3) 95 | Dim. |
| (0, 3) 96 | Dim-yw-dim. |
| (Cyflwynydd) Na'r cwestiwn cyntaf. | |
| (Eifion) Nes mlan. | |
| (0, 4) 141 | Diolch, Mr Evans. |
| (0, 4) 142 | Nawrte, fy mraint i heno – ar ran Arweinydd y Cyngor, a ei mawrhydi, Cyfarwyddwr Addysg Cymru Gyfan Jyst A Bod I Gyd – fy mraint i yw eich croesawu yma i'r cyfarfod cyhoeddus hwn yn Nhregaron. |
| (0, 4) 143 | Y cam cyntaf yn y broses Ymgynghorol. |
| (0, 4) 144 | Ac – dwi am bwysleisio hyn, ei bwysleisio yn fawr – Ry' Ni Yma I... |
| (0, 4) 146 | Wwwrando. |
| (0, 4) 147 | I... |
| (0, 4) 149 | Wwrando. |
| (0, 4) 150 | Mae gennym – y tri ohonom – glustiau. |
| (0, 4) 151 | A gwaith clustiau yw... |
| (0, 4) 153 | Grrr... |
| (0, 4) 157 | Diolch, Mr Evans. |
| (0, 4) 158 | Nawrte, fy mraint i heno – ar ran Arweinydd y Cyngor, a ei mawrhydi, Cyfarwyddwr Addysg Cymru Gyfan Jyst A Bod I Gyd – fy mraint i yw eich croesawu yma i'r cyfarfod cyhoeddus hwn yn Llanafan. |
| (0, 4) 159 | Y cam cyntaf yn y broses Ymgynghorol. |
| (0, 4) 160 | Ac – dwi am bwysleisio hyn, ei bwysleisio yn fawr – Ry' Ni Yma I... |
| (0, 4) 162 | Wwwrando. |
| (0, 4) 163 | I... |
| (0, 4) 165 | Wwrando. |
| (0, 4) 166 | Mae gennym – y tri ohonom – glustiau. |
| (0, 4) 167 | A gwaith clustiau yw... |
| (0, 4) 169 | Grrr... |
| (0, 4) 175 | Diolch, Mr Evans. |
| (0, 4) 176 | Nawrte, fy mraint i heno – ar ran Arweinydd y Cyngor, a ei mawrhydi, Y Cyfarwyddwr Addysg Cymru Gyfan Jyst A Bod I Gyd – fy mraint i yw eich croesawu yma i'r cyfarfod cyhoeddus hwn yn Llanddewi. |
| (0, 4) 177 | Y cam cyntaf yn y broses Ymgynghorol. |
| (0, 4) 178 | Ac – dwi am bwysleisio hyn, ei bwysleisio yn fawr... |
| (Arweinydd) {Sibrwd wrth y cyfarwyddwr.} | |
| (Llais o'r Dorf) Is this meeting going to be all in Welsh? | |
| (0, 4) 185 | O... y... |
| (0, 4) 186 | Haven't you had Offer Cyfieithu? |
| (Llais o'r Dorf) If it's the translation things you mean, they're not working. | |
| (Cyflwynydd) Sy'n golygu, wrth gwrs, mai hyn fydd y geiriau cyntaf... | |
| (0, 4) 192 | Gyfeillion, fy mraint i yw eich croesawu yma heno i'r cyfarfod hwn. |
| (Cyflwynydd) A'r geiriau olaf fydd... | |
| (Cyflwynydd) A'r geiriau olaf fydd... | |
| (0, 4) 194 | Nos da. |
| (Cyflwynydd) But everything in between... | |
| (Arweinydd) Sori, ond... | |
| (0, 4) 201 | Sdim byd i neud. |
| (Llais arall o'r llawr) Sdim wahaniaeth pa iaith chi'n defnyddio, ma' pawb yn gwbod beth y'ch chi wedi dod ma i weud. | |
| (Cyfreithiwr y Sir) Ac ma rhaid i mi bwysleisio wrthoch chi, syr/madam – yn gwbl ddi-flewyn ar dafod – dyma'r tro olaf y byddwch yn gofyn cwestiwn o swyddog yn y siambr hon, ydych chi'n deall. | |
| (0, 5) 313 | Ie, ond beth os o's swyddog yn y'n camarwain? |
| (0, 5) 314 | Yn gweud pethe sydd ddim yn wir. |
| (Cyfreithiwr y Sir) Ddim yn...! | |
| (Swyddog) Y cyfan sydd raid i chi gofio yw cymryd un bob bore – cyn agor eich i-pad cyngor, os yn bosib. | |
| (0, 5) 326 | Beth yw'r tabledi. |
| (0, 5) 327 | Os enw arnyn nhw? |
| (Swyddog) Oes. | |
| (0, 12) 575 | Can't win. |