Dewis Anorfod

Cue-sheet for Desc

(1, 0) 1 Golygfa: (O safle'r chwaraewyr.)
(1, 0) 2 ~
(1, 0) 3 Siop 'Sgidiau Hobson yn Chapel Streel, Salford.
(1, 0) 4 Mae'r ffenestri a'r drws i'r heol ar y chwith.
(1, 0) 5 Yn wynebu'r edrychwyr saif y cownter ac arno dryblith o 'sgidiau o bob math.
(1, 0) 6 Ar y pared y tu cefn iddo, y mae rhesi o silffoedd yn llawn o "boxes" 'sgydiau.
(1, 0) 7 O flaen y cownter saif tair neu bedair o gadeiriau gwiail (cane).
(1, 0) 8 I lawr y llwyfan ar y chwith y mae desc a chadair.
(1, 0) 9 Y mae'r drws a dau ris yn codi ato ar y dde yn arwain i'r tŷ.
(1, 0) 10 Yng nghanol y llwyfan y mae "trap-door" yn agor ar y seler—siop waith y cryddion.
(1, 0) 11 ~
(1, 0) 12 Syml a diaddurn yw popeth yn y siop.
(1, 0) 13 Mae'r fusnes yn llewyrchus.
(1, 0) 14 Eithr yn Salford yn 1880, nid oedd y gwychter a'r rhwysg a modwedda siopau y dydd heddiw yn anhepgor i lwyddiant masnachol.
(1, 0) 15 Arwenir cwsmer pwysig i ffitio 'sgidiau yn ystafell fyw Hobson.
(1, 0) 16 Eithr eistedd y cyffredin ar y cadeiriau gwiail sydd yn y siop dywyll ond addas ir fwsnes.
(1, 0) 17 Nŷ ddangosir ond ychydig o'r stoc yn y ffenestr a chlocsiau (clogs) sy'n fwyaf lluosog ac amlycaf yno.
(1, 0) 18 Trwy'r ffenestr tywynna goleuni llachar hanner dydd.
(1, 0) 19 ~
(1, 0) 20 Yn eistedd y tu cefn i'r cownter y mae dwy ferch ieuengaf Hobson, ALICE, ar y dde, 23 oed, a VICTORIA, ar y chwith, geneth brydferth iawn, 21 oed.
(1, 0) 21 Mae ALICE... a VICTORIA yn darllen.
(1, 0) 22 Maent wedi ymwisgo mewn du a chanddynt ffedogau duon.
(1, 0) 23 Egyr y drws ar y dde a daw MAGGIE i mewn.
(1, 0) 24 Merch hynaf Hobson ydyw hi, yn 30 oed.
(Alice) O, y ti sydd 'na, Maggie.
 
(Vickey) Fe wna' i hynny drosot ti, Alice, os bydd nhad wedi mynd allan; ond feiddia'i ddim gadael y siop cyn 'i fod e o'r golwg.
(1, 0) 42 Daw ALBERT PROSSER i mewn o'r stryd.
(1, 0) 43 Mae e'n 26 oed, ac wedi ymwisgo'n drwsiadus fel y gweddai i fab cyfreithiwr o safle.
(1, 0) 44 Cerdda ymlaen i'r dde, a chwyd ei het yn foesgar i gyfarch ALICE).
(Albert) Bore da, Miss Alice.
 
(Albert) O!
(1, 0) 50 Try i fynd allan; y mae ar ei ffordd at y drws pan gwyd MAGGIE a dod i'r canol.
(Maggie) Beth gawn ni ddangos i chi y bore 'ma, Mr. Prosser?
 
(Maggie) Nid i brynu sgidiau y daeth Mr. Prosser yma, Maggie.
(1, 0) 75 Daw VICKEY â'r "box" sgidiau; egyr MAGGIE ef.
(Maggie) 'Sgwn i pam mae e'n dod i'r siop yma mor aml?
 
(Albert) Un ofnadwy wy' i am dorri careiau, Miss Maggie.
(1, 0) 79 Gesyd MAGGIE yr esgid newydd am droed ALBERT a'i chlymu.
(Maggie) A ydych yn treulio pâr o gareiau bob dydd?
 
(Maggie) Allwch chi ddim mynd allan i'r stryd felna, un hên esgid sâl ac un esgid newydd, smart, am eich traed.
(1, 0) 95 Daw ALICE tuag atynt drachefn.
(Albert) Wel, beth yw pris y rhain, ynte?
 
(Maggie) Fe gewch bâr o gareiau newydd yn y fargen, careiau rhawn, bid siwr.
(1, 0) 102 Â VICKEY yn ôl tu cefn i'r cownter.
(Maggie) Ond gan eich bod mor gryf ac yn torri cynifer, falle bydd yn well gennych gael careiau lledr.
 
(Maggie) Danfonaf hwynt i'ch ty chi fory gyda'r bil.
(1, 0) 108 Erbyn hyn y mae MAGGIE wedi clymu'r esgid arall.
(1, 0) 109 Cwyd a cherdda yn ôl at y ddesc gan daflu'r "box" gwag at VICKEY.
(1, 0) 110 Dyry hithau sgrech wedi ei brawychu ar ganol darllen ei llyfr.
(Albert) {Gydag ochenaid.}
 
(Maggie) {Dyry'r esgid yn ôl ac eistedd wrth y ddesc.}
(1, 0) 137 Daw HENRY HORATIO HOBSON i mewn i'r tŷ.
(1, 0) 138 Mae yn 55 oed, yn hunan-ddigonol, yn wridgoch a graenus, ac yn engraifft byw o ben-teulu'r cyfnod.
(1, 0) 139 Mae ei het ar ei ben, het galed hanner y ffordd at fod yn het uchel.
(1, 0) 140 Addurnir ei wasgod a chadwyn aur drom a sêl fawr yn crogi wrthi.
(1, 0) 141 Dillad taclus a ddeil eu gwisgo sydd am dano.