| (1, 0) 1 | Golygfa—Festri Plwyf Llansilio. |
| (1, 0) 2 | Sŵn y CLOCHYDD yn paratoi yr ystafell erbyn y Festri, ac yn siarad yn synfyfyriol. |
| (Sioni) Brau ac ansicr ydyw yr hen fywyd 'ma, ac i fynwent Llansilio y daw y trigolion o un i un. | |
| (Sioni) Mi leicie'r hen "foy" orwedd fan hynny, mi wn. | |
| (1, 0) 12 | Y FFEIRAD yn dod i mewn â llyfr mawr dan ei gesail. |
| (Ffeirad) Heb gynnu'r canwylle wyt ti, Sioni? | |
| (Ffeirad) Cer, nawr, adre at Pegi, mae'r Festri yn dechreu crynhoi. | |
| (1, 0) 24 | Aelodau o'r Festri yn dod i mewn, ac yn eistedd, y SCWEIER yn ola, a'r ffermwyr yn codi i ddangos parch iddo. |
| (1, 0) 25 | DAFI'R TEILIWR yn parhau i eistedd. |
| (Ffeirad) Mi wela fod y Festri yn llawn ag eithrio Siaci'r Felin. | |
| (Scweier) Rown i ar cefen y cel glâs mas yn hela, ac wrth croesi yr hen ffordd y jafol 'na mi a'th troed y cel bach i hen twll, a finne tros i ben e' i'r mwt, nes o'dd cot fi'n plastar, ac wedi spwylo altogether. | |
| (1, 0) 66 | SIACI'R FELIN yn rhuthro i mewn, mor wyn a'r galchen ac yn crynu. |
| (Scweier) Helo, Siaci Felin, be sy arnat ti, gwêd? | |
| (Ffeirad) Nansi, dere i mewn. | |
| (1, 0) 91 | NANSI a'r plant yn dod y mewn ac yn rhoi cwtch i'r SCWEIER â'r FFEIRAD. |
| (Ffeirad) Wel, Nansi, dyma ni wedi dy alw di o flaen y Festri, er mwyn setlo y peth gore i neud â thi a'r plant tra bo Jac yn jâl. | |
| (Dafydd) Mi shifftith â'r ddou leia wedyn gyda thipyn o help cymdogion. | |
| (1, 0) 157 | Sŵn mawr wrlh y drws, a'r SCWEIER yn rhuthro i mewn yn wyllt, a TOMOS Y COTCHMAN yn ei ddilvn. |
| (Scweier) Dyma hi o'r diwedd. | |
| (Tomos) Yna fe aethant— | |
| (1, 0) 171 | TOMOS Y COTCHMAN am fynd ymlaen â'i stori, â'r SCWEIER am siarad. |
| (Scweier) Dyna ddigon, dyna ddigon, mae'r byd ar ben. | |
| (Scweier) Dere, Twm, rhaid i fi alw y justices at i gily' i neud cwnstebli. | |
| (1, 0) 178 | Y SCWEIER yn llawn sŵn yn mynd allan, a'r COTCHMAN ar ei ol. |
| (Ffeirad) Wel, gyfeillion, Festri ryfedd gawsom ni heno. | |
| (Ffeirad) Gobeithio erbyn y Festri nesa y bydd pethau wedi tawelu, ac y bydd heddwch yn teyrnasu fel yr afon, ac y cawn ninnau gwrdd gyda'n gilydd fel cyfeillion. | |
| (1, 0) 185 | Y Festri yn codi a'r llen yn disgyn. |