|
|
(1, 0) 1 |
Golygfa: Theatr |
(1, 0) 2 |
~ |
(1, 0) 3 |
Amser: Y Presennol |
(1, 0) 4 |
~ |
(1, 0) 5 |
Pan ddaw'r gynulleidfa i mewn i'r theatr, gwelant fod y llwyfan wedi ei rannu'n ddwy. |
(1, 0) 6 |
Y rhan ar y dde (o safbwynt y gynulleidfa) yw Ystafell Newid Robert Deiniol, ac fe wêl y rhai sylwgar ein gwron yn eistedd ar soffa ddigon blêr yn yfed wisgi. |
(1, 0) 7 |
Mae hanner potel hanner llawn ar y bwrdd coluro a gwelwn ef yn y man yn cerdded yn sigledig o'r soffa i'r bwrdd i lenwi ei wydryn. |
(1, 0) 8 |
Daw â'r botel, chwarter llawn erbyn hyn, gydag ef a'i rhoi wrth ei draed ger y soffa. |
(1, 0) 9 |
Ar ddechrau'r ddrama, mae Ystafell Newid Robert Deiniol yn hawlio tua chwarter gofod y llwyfan, a'r tri chwarter arall yw'r rhan lle perfformir y "panto". |
(1, 0) 10 |
~ |
(1, 0) 11 |
Yn y rhan honno (lle mae'r llenni i lawr) gwelir pobl yn cerdded yn ôl ac ymlaen yn brysur yn paratoi ar gyfer dechrau'r perfformiad ymhen rhyw hanner awr. |
(1, 0) 12 |
(Gellir eu gweld trwy ddefnyddio llenni meinwe─|gauze|.) |
(1, 0) 13 |
Y dyn amlycaf yn y paratoadau hyn yw'r Dyn Llwyfan sydd wedi ei wisgo mewn ofarôl ddu a chrys gwyn. |
(1, 0) 14 |
~ |
(1, 0) 15 |
Gwelwn Robert Deiniol yn awr yn tollti gweddill yr hanner potel i'w wydryn ac yn cuddio'r botel wag y tu ôl i bentwr o offer llwyfan. |
(1, 0) 16 |
Mae'n cerdded i ran arall o'r Ystafell Newid ac yn codi hanner potel arall sydd wedi ei chuddio. |
(1, 0) 17 |
Rhydd gusan gariadus iddi a mynd â hi gydag ef at y soffa. |
(1, 0) 18 |
Yn y man, bydd yn syrthio i gysgu gyda'i wydryn yn ei law, ond nid cyn gwneud ei farc ar yr hanner potel newydd yma. |
(1, 0) 19 |
~ |
(1, 0) 20 |
Bydd rhan o'r gynulleidfa wedi sylwi hefyd ar gymeriad mewn siwt 'dici-bo' yn y cyntedd. |
(1, 0) 21 |
Dyn bach ffyslyd iawn o'r enw Maldwyn Evans yw hwn. |
(1, 0) 22 |
Fo yw'r Goruchwyliwr Llwyfan a byddwn yn ei weld yn y man ar y llwyfan. |
(1, 0) 23 |
Ar hyn o bryd, mae'n goruchwylio'r cyntedd ac yn croesawu'r gynulleidfa. |
(1, 0) 24 |
Pwrpas hyn i gyd yw cael y gynulleidfa, yn y man, i sylweddoli bod y ddrama wedi dechrau y foment y daethant dros drothwy'r theatr, a'u bod, mewn gwirionedd, yn actio ynddi. |
(1, 0) 25 |
~ |
(1, 0) 26 |
Daw Sera Rees i mewn i'r llwyfan panto. |
(1, 0) 27 |
Mae wedi ei gwisgo fel Dick Whittington─esgidiau uchel at y pen-glin; het a phluen ynddi ac ati. |
(1, 0) 28 |
Gwelir hi'n rhoi gorchymyn i'r Dyn Llwyfan i symud dodrefnyn. |
(1, 0) 29 |
Yn y man, daw Mici Tiwdor i'r llwyfan panto wedi ei wisgo fel cath. |
(1, 0) 30 |
Mae'r ddau yn sgwrsio ac yn cyfeirio at ran arbennig o'r set─coeden bren neu rywbeth cyffelyb. |
(1, 0) 31 |
~ |
(1, 0) 32 |
Yn yr Ystafell Newid, erbyn hyn, mae Robert Deiniol yn cysgu'n drwm. |
(1, 0) 33 |
Yn y cefndir, gwelwn Ferch y Gwisgoedd, Elin Wyn, yn ceisio agor drws yr ystafell. |
(1, 0) 34 |
(Dim ond ffrâm yw'r drws gan fod angen i ni weld pawb a fydd y tu allan iddo.) |
(1, 0) 35 |
Wedi methu mynd i mewn, prysura Elin Wyn yn awr i'r llwyfan panto a gwelwn hi'n cael gair â Dick Whittington (Sera Rees). |
(1, 0) 36 |
Mae'n amlwg mewn pryder am fod Robert Deiniol wedi ei gloi ei hun i mewn ac yn gwrthod agor. |
(1, 0) 37 |
Mae'r ddwy ferch yn awr yn croesi at ddrws ystafell Robert Deiniol ac yn ei sgrytian a'i guro. |
(1, 0) 38 |
Ceir rhyw fath o ymateb gan R.D., ond dim mwy na throi ei din at y gynulleidfa. |
(1, 0) 39 |
Dywed Sera Rees rywbeth wrth Elin Wyn ac mae honno'n mynd ar draws y llwyfan panto ac i lawr grisiau bach i'r awditoriwm. |
(1, 0) 40 |
Mae'n cerdded yn frysiog i fyny llwybr canol y theatr at y cyntedd. |
(1, 0) 41 |
~ |
(1, 0) 42 |
Daw'r band i mewn a dechrau tiwnio, ond ni chlyw'r gynulleidfa 'run sŵn o gwbl. |
(1, 0) 43 |
Yn wir, mae'n hollbwysig nad yw'r gynulleidfa yn y theatr hyd yma wedi clywed yr un sŵn na'r un gair o'r llwyfan─mae'r cyfan wedi bod fel meim iddynt. |
(1, 0) 44 |
~ |
(1, 0) 45 |
Yn y man, gwelwn Maldwyn Evans, y Goruchwyliwr Llwyfan, yn cerdded yn frysiog gydag Elin Wyn tuag at y llwyfan. |
(1, 0) 46 |
Maent yn dringo'r grisiau ac yn cerdded at ddrws yr Ystafell Newid. |
(1, 0) 47 |
Dilyna Sera Rees hwy unwaith eto. |
(1, 0) 48 |
Gwelwn Maldwyn Evans yn awr yn curo a sgrytian y drws. |
(1, 0) 49 |
Mae pawb yn amlwg yn bur bryderus am gyflwr Robert Deiniol. |
(1, 0) 50 |
Mae Maldwyn yn awr yn cerdded yn frysiog i'r llwyfan panto ac yn rhoi arwydd i'r Dyn Llwyfan ei ddilyn. |
(1, 0) 51 |
Gwna hwnnw hynny yn hollol beiriannol. |
(1, 0) 52 |
Yn wir, ni ddangosir unrhyw emosiwn gan y cymeriad hwn trwy gydol y ddrama─dim ond ufuddhau i bob gorchymyn fel robot. |
(1, 0) 53 |
Saif Maldwyn eto o flaen drws yr Ystafell Newid a dywed rywbeth wrth y Dyn Llwyfan. |
(1, 0) 54 |
Gwelwn ef yn pwyntio at y drws yr un pryd. |
(1, 0) 55 |
Rhydd y Dyn Llwyfan un gic anferth i'r drws sy'n ei agor â chlec a glywir drwy'r theatr. |
(1, 0) 56 |
Ar yr un eiliad yn union, mae goleuadau'r awditoriwm yn diffodd; golau'r Ystafell Newid yn codi a'r band yn dechrau canu. |
|
(Deiniol) {Yn neidio ar ei draed mewn dychryn.} |
|
|
|
(Deiniol) Lle ma'n nhw?... |
(1, 0) 61 |
Rhuthra Maldwyn, Sera ac Elin i mewn. |
|
(Deiniol) {Yn edrych mewn syndod ar y drws.} |
|
|
|
(Maldwyn) 'Ti'n gwbod faint o'r gloch ydi hi? |
(1, 0) 66 |
Mae Elin yn mynd yn syth at y stand dillad a gafael mewn gwisg merch. |
(1, 0) 67 |
Yn y panto, mam Dick yw Robert Deiniol. |
|
(Deiniol) Coed tân, myn diawl─dau swllt y bwndal. |
|
|
|
(Maldwyn) Dam! |
(1, 0) 87 |
Mae'n troi'r meic y ffordd arall. |
(1, 0) 88 |
Ar yr un pryd, mae Deiniol yn ceisio tynnu ei drowsus, ond yn cael cryn drafferth i gadw cydbwysedd. |
(1, 0) 89 |
Mae Elin a Sera yn ceisio'i wisgo. |
(1, 0) 90 |
Daw Mici Tiwdor, y gath, i mewn. |
|
(Mici) Alla i fod o help? |
|
|
|
(Sera) Dic yn pregyrs a'i fam yn cael y bai. |
(1, 0) 182 |
Mae'r ddau'n chwerthin ac yna'n difrifoli. |
|
(Sera) Lle ma' hi rŵan? |
|
|
|
(Sera) Ac mi fydd yn y parti heno? |
(1, 0) 188 |
Cyn iddo allu ateb daw Elin Wyn i mewn gyda belt gwyrdd. |
|
(Elin) Ma' hwn yn clashio 'dwi'n gwybod, ond mi geith neud y tro. |
|
|
|
(Elin) Ma' hwn yn clashio 'dwi'n gwybod, ond mi geith neud y tro. |
(1, 0) 190 |
Mae'n rhoi'r belt am ganol Deiniol. |
(1, 0) 191 |
Daw Maldwyn Evans i mewn yn nerfau i gyd. |
|
(Maldwyn) Reit! |
|
|
|
(Sera) Sglyfath! |
(1, 0) 253 |
Daw'r Cynorthwy-ydd llwyfan i mewn gyda myg a jygiad o goffi. |
|
(Deiniol) Mi fedra i 'u cael nhw'n fan'na, dalltwch... |
|
|
|
(Deiniol) {Yn cyfeirio at Sera.} |
(1, 0) 258 |
Mae Maldwyn yn cymryd y jygiad coffi a'r myg a'u rhoi i Elin. |
|
(Maldwyn) Stwffia hwnna i lawr 'i gorn claga fo─falla sobrith o ddigon i'r drydedd sgets. |
|
|
|
(Maldwyn) mi fyddi di'n chwara extra yn Pobl y Cwm weddill dy oes! |
(1, 0) 286 |
Mae'n stompio allan a chroesi'r llwyfan panto. |
(1, 0) 287 |
Gwelwn ef yn rhoi arwydd i'r band sydd, yr eiliad honno, yn cynyddu i ryw fath o ffanffer terfynol. |
(1, 0) 288 |
Rhydd Maldwyn arwydd i'r tair dawnsferch ac y mae'r rheini'n cymryd eu lle. |
(1, 0) 289 |
Mae'n rhoi un ciw arall ac fe gyfyd y llen ar y panto. |
(1, 0) 290 |
Cynydda'r golau yn y rhan yma o'r llwyfan yr un pryd. |
(1, 0) 291 |
Cawn y ddawns agoriadol yn awr. |
(1, 0) 292 |
~ |
(1, 0) 293 |
Tra bo'r ddawns agoriadol yn digwydd, gwelwn Elin Wyn yr un pryd yn ceisio cymell Deiniol i yfed ei goffi. |
(1, 0) 294 |
Mae'n amlwg o'i ystumiau ei fod yn casáu ei flas. |
|
(Deiniol) Oes rhaid i ni gael hwnna mor uchel? |
|
|
|
(Deiniol) Oes rhaid i ni gael hwnna mor uchel? |
(1, 0) 296 |
Mae Elin yn troi botwm y speaker sydd yng nghornel y Stafell Newid. |
(1, 0) 297 |
Fel y gwna hyn, mae'r golau a'r gerddoriaeth yn pylu ar y llwyfan panto. |
|
(Deiniol) Ma' 'mhen i fel bwcad! |
|
|
|
(Elin) Dria i rwbath. |
(1, 0) 309 |
Mae'n cerdded allan o'r ystafell i nôl siwgr. |
(1, 0) 310 |
Cyn gynted ag yr â Elin Wyn o'r stafell, mae Deiniol yn tynnu hanner potel arall o wisgi o guddfan y tu ôl i lyfrau neu rywbeth cyffelyb.) |
|
(Deiniol) Os mêts. |
|
|
|
(Deiniol) {Mae'n rhoi cusan i'r botel.} |
(1, 0) 313 |
Gwelwn Deiniol yn awr yn tollti joch dda o wisgi i'w fyg coffi a'r gweddill i'r jwg coffi. |
(1, 0) 314 |
Cymer gegiad o'i fyg ac yn awr daw gwên fawr dros ei wyneb. |
(1, 0) 315 |
Y foment hon, daw Elin i mewn. |
|
(Deiniol) {Y wên yn diflannu.} |
|
|
|
(Elin) Dach chi'n fy nrysu i'n lân efo'ch giamocs─'tisio het a siôl i'r drydedd sgets. |
(1, 0) 347 |
Mae'r ddawns yn dod i ben a daw Dic a'r Gath i'r llwyfan. |
(1, 0) 348 |
Gwelwn Deiniol yn troi'r speaker i fyny. |
|
(Elin) {Yn ceisio rhoi'r het am ei ben.} |
|
|
|
(Dic) O, pwsi, pwsi, pwsi! |
(1, 0) 392 |
Mae hyn yn giw i'r band ddechrau ar yr intro i'r gân. |
|
(Dic) {Llwyfan.} |
|
|
|
(Dic) Bob tro ma' hi/Mam yn llawn. |
(1, 0) 398 |
Mae Dic yn rhoi mwythau i'r Gath yn ystod y gerddoriaeth rhwng y penillion. |
|
(Deiniol) {Yn ei stafell.} |
|
|
|
(Elin) Welis i be'? |
(1, 0) 447 |
Yn ystod hyn i gyd, mae Dic yn cerdded o'r llwyfan yn benisel o drist gyda'r Gath yn ei ddilyn. |
(1, 0) 448 |
Daw Dawnswyr yn ôl i'r llwyfan yn awr i ddawnsio'n dawel a gwneud ambell dric acrobatig. |
|
(Deiniol) Be' oedd hi a'r gath yn 'i neud? |
|
|
|
(Elin) Ond dim ond chdi sy'n 'i ffwcio hi! |
(1, 0) 468 |
Mae'n pwysleisio bob gair. |
(1, 0) 469 |
Mae saib hir o ddistawrwydd yn awr. |
|
(Deiniol) Yli... gwranda... dallta... nefoedd... ma' 'na ffasiwn beth ag enllib... gwatsia be' 'ti'n 'i ddeud. |
|
|
|
(Elin) Mwy o'r 'ballu' ddwedwn i. |
(1, 0) 517 |
Daw Maldwyn i mewn ac mae Deiniol yn troi ei gefn ato i sipian ei goffi. |