| (0, 1) 1 | GOLYGFA 1 |
| (0, 1) 2 | ~ |
| (0, 1) 3 | Rhaeadr o sefyllfaoedd problematig (byr a bachog) bob un â 'Sdimbydineud' wrth eu cwt. |
| (0, 1) 4 | ~ |
| (0, 1) 5 | Rhai yn ddwl ac yn ddiddim iawn (yn enwedig ar y dechrau). |
| (0, 1) 6 | ~ |
| (0, 1) 7 | Wrth i'r enghreifftiau bentyrru mae difrifoldeb a pherthnasedd y sefyllfaoedd yn dwysau. |
| (0, 2) 8 | GOLYGFA 2 |
| (Cân) Sdimbydineud-i-neud | |
| (Cân) Os y'n Nhw yn dweud, yn dweud... | |
| (0, 2) 61 | Ar draws... |
| (Cyflwynydd) Hei! | |
| (Cyflwynydd) Snapwch mas ohoni er mwyn popeth neu fyddwn ni ddim yn gallu neud beth ddelo ni 'ma i 'neud! | |
| (0, 2) 65 | Pawb yn mynd i'w lleoedd gan ymddiheurio i'r cyflwynydd ac i'w gilydd a sylwi pa mor gatshin yw'r geiriau 'sdimbydineud'. |
| (0, 2) 66 | Unwaith ti'n dechrau ei ddweud e wyt ti'n dechrau ei feddwl e! |
| (0, 3) 67 | GOLYGFA 3 |
| (Cyflwynydd) {Wrth ei gweld yn dadebru.} | |
| (Cynghorydd) Dim-yw-dim. | |
| (0, 3) 97 | Rhywun yn arwain y cynghorydd bach i sefyllfa neilltuol tra'i fod e/hi yn dal i fwmian yn ymddiheuriol i'w hunan. |
| (Cyflwynydd) Na'r cwestiwn cyntaf. | |
| (Cyflwynydd 2) Yn troi yn Arweinydd Cyngor sy'n gwneud hyn... | |
| (0, 3) 107 | (Os yn bosib...) |
| (0, 3) 108 | Dangos ar sgrin cofnodion cabinet Dydd Mawrth diwethaf (neu newyddion cyffelyb). |
| (0, 3) 109 | ~ |
| (0, 3) 110 | Yr arweinydd yn sefyll yn edrych yn ddwys wrth i ni weld / glywed y cyhoeddiad. |
| (0, 3) 111 | ~ |
| (0, 3) 112 | Daw bw-an o gyferiaid y gynulleidfa. |
| (Arweinydd) Sori. | |
| (Cyflwynydd 3) Yn troi yn... | |
| (0, 3) 122 | Eifion yn eistedd ar dŷ bach. |
| (0, 3) 123 | Codi. |
| (0, 3) 124 | Troi ac archwilio wrth sychu ei dîn. |
| (0, 3) 125 | Ebychiad boddhaus wrth wasgu'r fflysh |
| (Eifion) A! | |
| (Cyflwynydd 1) Y'n ni'n mynd i fod yn cwestiynu'r pethe hyn o ddifri ac... | |
| (0, 4) 132 | GOLYGFA 4 |
| (Eifion) {Yn torri ar draws.} | |
| (Eifion) Sori, ond... y... | |
| (0, 4) 135 | Amnaid ar i'r cyflwynydd fynd o'r ffordd. |
| (Eifion) Mi fydd digon o gyfle i bawb i weud ei farn nes mlan. | |
| (Eifion) Nes mlan. | |
| (0, 4) 138 | Cyflwynydd yn ildio'i le. |
| (0, 4) 139 | ~ |
| (0, 4) 140 | Amnaid oddi wrth Eifion i'r cynghorydd. |
| (Cynghorydd) Diolch, Mr Evans. | |
| (Cynghorydd) Grrr... | |
| (0, 4) 154 | Cloch / larwm yn canu. |
| (0, 4) 155 | ~ |
| (0, 4) 156 | Y tri yn eu heglu hi o gwmpas y theatr cyn cyrraedd yn ôl i'w man cychwyn. |
| (Cynghorydd) Diolch, Mr Evans. | |
| (Cynghorydd) Grrr... | |
| (0, 4) 170 | Unwaith eto – |
| (0, 4) 171 | ~ |
| (0, 4) 172 | Cloch / larwm yn canu. |
| (0, 4) 173 | ~ |
| (0, 4) 174 | Y tri yn eu heglu hi o gwmpas y theatr cyn cyrraedd yn ôl i'w man cychwyn. |
| (Cynghorydd) Diolch, Mr Evans. | |
| (Llais arall o'r llawr) Sdim wahaniaeth pa iaith chi'n defnyddio, ma' pawb yn gwbod beth y'ch chi wedi dod ma i weud. | |
| (0, 4) 203 | Y cyfarwyddwr addysg yn dechrau tanio. |
| (0, 4) 204 | Bobol o'r llawr yn tanio nôl. |
| (0, 4) 205 | Pethe'n dechrau mynd yn wyllt. |
| (0, 4) 206 | Y cyflwynydd, drwy arwydd / dyfais yn rhoi stop sydyn ar y gwylltineb. |
| (Cyflwynydd) Ymddiheuriadau, gyfeillion am y colli gafael yn y fan honno ar ein disgyblaeth greadigol. | |
| (Cyflwynydd) Ysgol y Cynghorwyr Newydd. | |
| (0, 5) 217 | GOLYGFA 5 |
| (Croesawydd) Da iawn. | |
| (Croesawydd) Gyfaill... | |
| (0, 5) 247 | Hyfforddwr yn cyfarwyddo pawb i... |
| (0, 5) 248 | - Godi'r fraich dde yn uchel i'r awyr. |
| (0, 5) 249 | - Ffurfio pwynt â'r bys pwyntio. |
| (0, 5) 250 | - Gan gadw'r fraich a'r llaw a'r bys yn yr awyr, symud y llygaid i sicrhau pa botwm yw'r targed priodol. |
| (0, 5) 251 | - Gynnu anadl ddofn ac yna... |
| (0, 5) 252 | - Gwyro'r fraich a'r llaw a'r frys mewn hanner cylch tuag at y botwm. |
| (0, 5) 253 | - Wedi cyffwrdd yn gadarn (ond ddim yn rhy gadarn) â'r botwm, cyfrif un-dau-tri (er mwyn sicrhau bod y bleidlais yn cael ei chofnodi). Yna... |
| (0, 5) 254 | - Rhyddhau, gan ddychwelyd y fraich a'r llaw a'r bys i'w gorweddfan arferol. |
| (0, 5) 255 | ~ |
| (Hyfforddwr) Ymarfer da y mae'r cyngor yn ei gymeradwyo – arfer pleidleisio â'r llaw chwith hefyd rhag ofn (1) byddwch yn cael damwain ac yn methu defnyddio'r llaw dde, a (2) ar gyfer y diwrnodau hynny y mae llawer o bleidleisio i'w wneud. | |
| (Hyfforddwr) (repetitive voting injury) / AAB (anaf aml-bleidleisio). | |
| (0, 5) 259 | Ar ddiwedd yr ymarfer... |
| (Hyfforddwr) Unrhyw gwestiynau? | |
| (Cynghorydd 3) Sdim hawl da ni gofyn cwestiwn i swyddog? | |
| (0, 5) 308 | Ar draws y swyddog, cyn iddo ateb. |
| (Cyfreithiwr y Sir) Mr Swyddog, gai'ch hatgoffa chi fod dim rheidrwydd arnoch chi i ateb cwestiwn y cynghorydd. | |
| (Swyddog) Yn y pecyn gawsoch cyn dod yma heddi a oedd 'na becyn tabledi ynddo – debyg i hwn? | |
| (0, 5) 321 | Ateb negyddol gan bawb. |
| (Swyddog) Mm. | |
| (Swyddog) Ac yn awr, ar gyfer y wers olaf heddi... | |
| (0, 5) 333 | Hyfforddwr yn dychwelyd ac yn holi pawb i sefyll. |
| (0, 5) 334 | Pawb i gymryd llinyn sydd ar eu stôl. |
| (0, 5) 335 | Rhoi rhif i bawb yn y siambr. |
| (0, 5) 336 | Gofyn i gynghorwyr 1, 3, 5 etc i droi eu cefnau at 2, 4, 6 etc |
| (0, 5) 337 | Cyfarwyddo cynghorwyr 2, 4, 6 etc i glymu dwylo 1, 3, 5 etc. |
| (Swyddog) Da iawn. | |
| (Swyddog) A-men. | |
| (0, 6) 347 | GOLYGFA 6 |
| (Cyflwynydd) Owen Llew – Wyt ti wedi bod yn gynghorydd. | |
| (Cyflwynydd) Faint o gelwydd a faint o wir oedd yn yr olygfa na y'n ni newydd weld? | |
| (0, 6) 350 | Cyfweliad byr gyda Owen – awydd y cynghorydd newydd i wneud pethau. |
| (0, 6) 351 | Maint y rhwystrau sydd yn ei erbyn |
| (Cyflwynydd) Y'n ni wedi gweld rhai o'r rhwystrau sy'n cael eu gosod yn ffordd y cynghorydd mwyaf tanbaid. | |
| (Cyflwynydd) Wel, ers i Lywodraeth Cymru orfodi pob cyngor sir i fabwysiadu system cabinet, mae na un person amlwg sy'n elwa... | |
| (0, 7) 356 | GOLYGFA 7 |
| (0, 7) 357 | ~ |
| (0, 7) 358 | Cerddoriaeth burlesg. |
| (0, 7) 359 | ~ |
| (0, 7) 360 | Arweinydd y cyngor – basg a sodlau uchel a chwip i'r amlwg (ar ben y bordydd). |
| (Arweinydd) Helo, bois! | |
| (Arweinydd) Ife dyna'ch pleidlais yn y'ch poced neu odych chi jyst yn falch iawn i'm ngweld i! | |
| (0, 7) 363 | Ar draws... |
| (Cyflwynydd) Wel – o'dd raid i ni gal tipyn bach o sbort, wrth gwrs. | |
| (Cyflwynydd 2) dipyn yn glyfrach na hynny... | |
| (0, 8) 368 | GOLYGFA 8 |
| (0, 8) 369 | ~ |
| (0, 8) 370 | Bord fechan yn cael ei gosod ar ganol gofod gwag, ganol y llawr. |
| (0, 8) 371 | Lliain wen yn cael ei gosod ar y ford. |
| (0, 8) 372 | Sedd foethus (Mastermind-aidd) yn cael ei gosod un pen o'r ford. |
| (0, 8) 373 | Bwrdd gwyddbwyll yn cael ei osod ar ganol y lliain ar ganol y ford. |
| (Sylwebydd) {Yn cwtsio ar ymyl yr olygfa.} | |
| (Sylwebydd) Felly, wrth i'r cloc ar gyfer y sesiwn cyntaf hwn gael ei osod yn ei le... | |
| (0, 8) 397 | Gosod y cloc. |
| (Sylwebydd) Mae hi'n canolbwyntio'n galed... | |
| (Sylwebydd) A... | |
| (0, 8) 401 | Y Meistr-Chwaraewr yn taro'r cloc. |
| (Sylwebydd) Odi. | |
| (Sylwebydd) Odi hi'n mynd i drio cael gwared ar rai o'r gweision melyn hynny sy'n sefyll yn ffordd ei gweision gwyrdd? | |
| (0, 8) 406 | Llaw y Meistr-Chwaraewr pe bai ar wireddu hynny, yna, yn sydyn yn tynnu nôl ac yn symud y gwas coch. |
| (Sylwebydd) W! | |
| (Sylwebydd) Beth sydd yn ei meddwl, tybed? | |
| (0, 8) 410 | Y Meistr-Chwaraewr yn symud gwas gwyrdd dros ben y gwas coch. |
| (Sylwebydd) Aha! | |
| (Sylwebydd) Aha! | |
| (0, 8) 412 | Y Meistr-Chwaraewr yn gosod y gwas coch ymysg ei rhes gefn gan osod gwas gwyrdd ar ei ben. |
| (Sylwebydd) W! | |
| (Sylwebydd) Symudiad craff iawn. | |
| (0, 8) 420 | Y Meistr yn paratoi i gyflawni symudiad arall. |
| (0, 8) 421 | Ystyried un neu ddau opsiwn. |
| (0, 8) 422 | Yn y pen draw yn cyflawni'r un gamp o feddiannu â dau was gwyn. |
| (Sylwebydd) O – Ie. | |
| (Sylwebydd) Ond ma' hi wedi'i fachu a – ie... | |
| (0, 8) 427 | Y Meistr yn gosod y ddau ar y rhes gefn nesaf at y 'brenin' coch/gwyrdd. |
| (Sylwebydd) ... fel y'ch chi'n gweld, eu troi o fod yn chwaraewyr annibynnol i fod yn weision gwyrdd. | |
| (Meistr-Chwaraewr) Fi. | |
| (0, 9) 458 | GOLYGFA 9 |
| (Cyflwynydd 1) Mae hynny'n wir, wrth gwrs. | |
| (Cyflwynydd 1) A'r pwynt yw hyn: yng Nghaerdydd, dim ond un sgwâr ar fwrdd Llywodraeth Cymru yw Ceredigion. | |
| (0, 9) 462 | Ar y ford tu cefn i gêm Ceredigion, mae un person yn sefyll yn union tu ôl i fwrdd draffts ac un wrth ei ochr. |
| (0, 9) 463 | Mae trydydd person (gwas) yn dal y bwrdd ei hunan. |
| (Person 2) Yes, Minister. | |
| (Merch 3) Dewch â nhw mewn, bois! | |
| (0, 9) 480 | Pawb sydd ar gael yn whilbera / cario parseli trwchus i'r amlwg a'u dosbarthu ymysg y gynulleidfa. |
| (0, 9) 481 | Mae pob parsel â phennawd arno sy'n dweud 'polisi' hwn / llall a rhybudd bod rhaid ei ddarllen cyn cyfarfod llawn nesaf y cyngor (fory/drannoeth.) |
| (0, 9) 482 | ~ |
| (0, 9) 483 | Tra fod y dosbarthu'n digwydd... |
| (Merch 3) Ac unwaith byddwch chi wedi bennu darllen rheina fydd 'na lwyth arall yn y post i chi yn barod i chi eu darllen â help rhein... | |
| (Merch 3) Ac unwaith byddwch chi wedi bennu darllen rheina fydd 'na lwyth arall yn y post i chi yn barod i chi eu darllen â help rhein... | |
| (0, 9) 485 | Pawb yn helpu i ddosbarthu cribau ymysg y gynulleidfa. |
| (Swyddog) Cyfarfod cyngor yn dechrau mhen 30 eiliad. | |
| (Swyddog) Cyfarfod cyngor yn dechrau mhen 30 eiliad. | |
| (0, 9) 487 | Pawb yn hastu'r gynulleidfa i ddarllen y polisïau. |
| (0, 9) 488 | ~ |
| (0, 9) 489 | Swyddog yn ail-adrodd y rhybudd – 15 eiliad / 10 eiliad / cyfrif lawr. |
| (0, 9) 490 | ~ |
| (0, 9) 491 | Erbyn hyn, mae pawb wedi ymffurfio yn swyddogion ac yn gynghorwyr ar gyfer y cyfarfod cyngor. |
| (0, 10) 492 | GOLYGFA 10 |
| (Cadeirydd) Reit, symud mlan nawr at eitem 21. | |
| (Cyfarwyddwr) Mae'r cyngor wedi sicrhau grant o £98.7 miliwn gan gronfa RDP i chwilio am y blydi eliffant. | |
| (0, 10) 524 | Yn ystod y cyflwyniad, defnyddir negeseuon powerpoint, megis... |
| (Powerpoint 1:) Having a policy is like having a car. | |
| (Powerpoint 7:) Chi sydd i ddewis. | |
| (0, 10) 542 | Y cyfarwyddwr yn eistedd. |
| (0, 10) 543 | Yn y drafodaeth ddilynol... |
| (0, 10) 544 | ~ |
| (0, 10) 545 | Cynghorwyr yn codi cwestiynau ffeithiol / meintiol (cwestiynau glo mân heb ddim tân oddi danynt). |
| (0, 10) 546 | Yr Aelod Cabinet yn ail-gyfeirio pob cwestiwn at y Cyfarwyddwr. |
| (0, 10) 547 | Y Cyfarwyddwr ag ateb i bob cwestiwn – gan gyfeirio at y tudalen a'r golofn / paragraff perthnasol yn yr Adroddiad. |
| (0, 10) 548 | Wedi tri neu bedwar tebyg... |
| (0, 10) 549 | ~ |
| (0, 10) 550 | Cynghorydd mentrus yn gofyn odi'r bwriad o ddifrif ac yn dechrau cwestiynu'n ddiwyd ac yn ddoeth. |
| (0, 10) 551 | Yn y pen draw, mae'n cynnig gwelliant: |
| (0, 10) 552 | Codi toll ar y faniau home-delivery (ASDA, Tesco etc) sy'n defnyddio hewlydd y sir a defnyddio'r arian i gynnal y ffordd hyd o Ledrod i Lanfarian. |
| (0, 10) 553 | ~ |
| (0, 10) 554 | Cynnwrf o fewn y cynghorwyr cyffredin. |
| (0, 10) 555 | Torf go lew ohonynt yn leico'r syniad hwn. |
| (0, 10) 556 | Cefnogaeth yn dechrau adeiladu. |
| (0, 10) 557 | Y Cyfarwyddwr yn cynnig bod y syniad yn un diddorol. |
| (0, 10) 558 | Mae'n barod ystyried os yw'n bosibilrwydd realistig. |
| (0, 10) 559 | ~ |
| (0, 10) 560 | Troi at Arbenigwyr Cyfreithiol am eu barn. |
| (0, 10) 561 | Yr Arbenigwr Cyfreithiol yn datgan bod y peth yn amhosib. |
| (0, 10) 562 | Gwbl amhosib. |
| (0, 10) 563 | Ar arwydd, yr olygfa'n rhewi... |
| (0, 11) 564 | GOLYGFA 11 |
| (0, 11) 565 | ~ |
| (0, 11) 566 | David Attenborough yn dadansoddi'n anthropolegol yr hyn ry' ni newydd ei weld. |
| (0, 11) 567 | ~ |
| (0, 11) 568 | Termau defnyddiol: 'matriach' / 'alpha male' ac ati. |
| (0, 11) 569 | ~ |
| (0, 11) 570 | Dehongliad Darwinaidd – 'natural selection' / hir esblygiad. |
| (0, 12) 571 | GOLYGFA 12 |
| (Cyflwynydd) Ond os – yn y cyngor sir cyfoes – ystyr 'natural selection' a threfn Darwin yw... | |
| (Pawb) Gwnewch hi'n bosib. | |
| (0, 13) 586 | GOLYGFA 13 |