|
|
(1, 1) 1 |
RHAG-OLYGFA (Prologue) |
(1, 1) 2 |
Yr olygfa: Llwybr yn y coed neu Heol yn y wlad. |
(1, 1) 3 |
(Tybir fod y Rhag-olygfa hon yn cymeryd lle ddwy flynedd cyn y streic). |
|
(Mavis) {yn cerdded yn hamddenol o'r Aswy (A) i'r Dde (D)} Mae'n dda gan fy nu fod William wn cael lle fel clerc o dan Mr Davies! |
|
|
|
(Mavis) Wrth gofio'th gusan di! |
(1, 1) 25 |
Tra mae hi yn canu daw Mr Symonds i mewn yn ddistaw tu ol iddi. |
(1, 1) 26 |
Gyda'i bod hî yn gorphen canu mae Symonds yn ymaflyd am dani ac yn rhoi cusan iddi. |
|
(Mavis) {yn ysgrechian} Oh! |
|
|
|
(Symonds) Ti gofi nghusan i ynte! |
(1, 1) 30 |
Yn ceisio rhoi cusan arall iddi. |
(1, 1) 31 |
Hithau yn ei wthio ymaith ac yn ymryddhau o'i afael. |
|
(Mavis) Chi, Mr Symonds, sydd yna! |
|
|
|
(Symonds) Yr unig beth da welais i yn Nghymru yw'r merched; a chi, merch anwyl i, yw'r oreu welais i eto. |
(1, 1) 39 |
Yn ceisio ymaflyd yn ei llaw. |
(1, 1) 40 |
Hithau yn cilio yn ol, ac yn tì rwystro. |
|
(Mavis) A dyma beth yw gyniad Sais am fod yn foneddwr! |
|
|
|
(Symonds) Na talu compliment uchel i chi ow'n i, nghariad i. |
(1, 1) 46 |
Ceisia ymaflyd ynddi wed'yn. |
(1, 1) 47 |
Hithau'n cilio drachefn. |
|
(Mavis) Ry chi'n lwcus nad oes un o'r gweithwyr yr ydych chi'n edrych lawr arnyn' nhw yma nawr, neu fe gawsech wel'd! |
|
|
|
(Symonds) Rw i am fod yn onest, ac am ei roi yn ol i chi nawr. |
(1, 1) 53 |
Yn ymaflyd ynddi a cheisio ei chusanu drachefn. |
(1, 1) 54 |
Hithau yn ymdrechu ei rwystro. |
|
(Mavis) {yn gwaeddi} Help! |
|
|
|
(Mavis) Help! |
(1, 1) 57 |
Gruffydd Elias yn dod i mewn tu ol iddynt. |
(1, 1) 58 |
Yn ymaflyd yn ngholer Symonds, ac yn ei hyrddio i'r llawr. |
|
(Gruffydd) Yr adyn anheilwng! |
|
|
|
(Gruffydd) Dewch Mavis fach. |
(1, 1) 86 |
Mavis a Gruffydd Elias yn mynd allan gyda'u gilydd tua'r D. |
|
(Symonds) {yn ysgwyd ei ddwrn ar eu hol} Chi sydd wedi cael y goreu ohoni heddyw! |
|
|
|
(Symonds) Ac am danat ti, Mavis, fe wna i ti fynd ar dy liniau o'm mlaen i eto am hyn, tae hi'n cymeryd dwy flynedd o amser i fi wneud hynny. |
(1, 1) 91 |
Yn mynd allan A. |
(1, 1) 92 |
Llen yn syrthio. |
(1, 1) 93 |
ACT I. |
(1, 1) 94 |
— Golygfa 1. |
(1, 1) 95 |
Yr olygfa: Ystafell yn nghartref Mavis. |
(1, 1) 96 |
(Dwy flynedd ar ol y Rhag-olygfa.) |
|
(Mavis) {yn eistedd wrthi ei hun} A dwy flynedd i heddyw priodson ni! |
|
|
|
(Mavis) Rwy'n methu deall shwd mae Mr Wynn, ac yntau'n gystal gwr bonheddig ei hunan, yn rhoi cymaint o'i ffordd i greadur fel yr hen Symonds yna. |
(1, 1) 104 |
Swn plentyn i'w glywed yn crio. |
|
(Mavis) {yn neidio ar eí thraed} Oh'r anwyl! |
|
|
|
(Mavis) {Yn mynd allan drwy ddrws A.} |
(1, 1) 109 |
Mari William Huw yn dod î mewn drwy ddyws D. |
|
(Mari) Halo! Mavis! Ble ry chi os! |
|
|
|
(Mavis) Hush! Beth sy'na, gwedwch? |
(1, 1) 133 |
Swn cerddediad trwm nifer o ddynion yn mavtshio heibio. |
|
(Mari) {yn rhedeg i'r ffenestr} Oh! Mavis bach! |
|
|
|
(Mari) A rhoi ei fwyd mae e, welwch chi, i fi a rhai fel fi, sydd heb ddim i'w gael, ac yn gwneyd hynny'n ddistaw bach, heb neb yn cael gwybod gydag ef. |
(1, 1) 191 |
Y ddwy yn wylo yn ddistaw am ennyd. |
|
(Mari) Ry chi'n gwel'd nawr pa'm rw i'n dweyd mod i'n meddwl fod Iesu Grist yn debyg i beth oedd gwyneb Gruffydd Elias neithwr. |
|
|
|
(Mari) Fe ddo i nol maes law. |
(1, 1) 209 |
Yn mynd allan D. |
(1, 1) 210 |
Llen yn dod lawr. |