| (Deiniol) {Yn neidio ar ei draed mewn dychryn.} | |
| (1, 0) 356 | Dyma'r coed, Mam. |
| (1, 0) 358 | O, di Mam ddim yma, pws. |
| (Deiniol) Nac di'r sguthan─dwi'n fan'ma! | |
| (1, 0) 361 | O, be wnawn ni, pws?... ma' hi mor greulon hefo ni. |
| (Pws) Miaw! | |
| (Pws) Miaw! | |
| (1, 0) 363 | Gweithio ni fel caethweision â'n curo ni. |
| (Pws) Mi-a-w! | |
| (Pws) Mi-a-w! | |
| (1, 0) 365 | Mi oedd fy mam go iawn i mor garedig. |
| (1, 0) 366 | O! Biti bod 'nhad wedi priodi wedyn ar ôl iddi farw o'i gwaeledd hir. |
| (Pws) Mi-a-w! | |
| (Pws) Mi-a-w! | |
| (1, 0) 368 | A biti 'i fod ynta 'di cael ei saethu yn y rhyfel mawr tra'n ymladd dros ei wlad a'r brenin. |
| (Pws) Mi-a-w! | |
| (Pws) Mi-a-w! | |
| (1, 0) 370 | O, pws, be' wnawn ni? |
| (1, 0) 371 | | |
| (Deiniol) Canu, i ni gael y peth drosodd. | |
| (Deiniol) Canu, i ni gael y peth drosodd. | |
| (1, 0) 373 | Petai hi ddim mor drwm ar y botal. |
| (Deiniol) Y? | |
| (Deiniol) Y? | |
| (1, 0) 375 | Ma' hi'n feddw hannar yr amsar. |
| (Deiniol) Glywist ti hynna? | |
| (Deiniol) 'Di hwnna ddim yn y sgript... creulon ia, ond dim meddw─'di 'meddw' ddim yn y sgript o gwbwl. | |
| (1, 0) 381 | Ma' hi 'di mynd yn ddwy botal o wisgi'r dydd, pws. |
| (Deiniol) Hold on! | |
| (Deiniol) Hold on! | |
| (1, 0) 383 | Dwy botal o ddiod gadarn felltigedig. |
| (Deiniol) Ia... ond dwy hannar... dwy hannar potal... a dim ond pan fydda i'n... | |
| (Elin) Sa'n llonydd! | |
| (1, 0) 387 | Fedar hi ddim gneud hebddo fo bellach, pws bach. |
| (Pws) O...mi...a...w! | |
| (Pws) O...mi...a...w! | |
| (1, 0) 389 | Y wisgi sy'n rheoli 'i fywyd o... {mae'n sylweddoli ei bod wedi gwneud camgymeriad} ym... hi. |
| (Deiniol) A... ha... ha... clyfar... fi fawr faglodd... paid â galw fo ar dy fam! | |
| (Deiniol) A... ha... ha... clyfar... fi fawr faglodd... paid â galw fo ar dy fam! | |
| (1, 0) 391 | O, pwsi, pwsi, pwsi! |
| (1, 0) 394 | O, pwsi bach be' wna i? |
| (1, 0) 395 | Mae'r byd yn greulon iawn, |
| (1, 0) 396 | Y fi sy'n gorfod diodda |
| (1, 0) 397 | Bob tro ma' hi/Mam yn llawn. |
| (Deiniol) {Yn ei stafell.} | |
| (1, 0) 411 | Mae'n gaddo petha, pwsi |
| (1, 0) 412 | I mi bob awr o'r dydd. |
| (Deiniol) {Stafell.} | |
| (Deiniol) Gaddo, dim, dallt─uffar o ddim. | |
| (1, 0) 415 | Ond torrodd bob addewid |
| (1, 0) 416 | Mi gollais i bob ffydd. |
| (Deiniol) {Stafell.} | |
| (1, 0) 423 | Ond mynd a wnaf i Lundain |
| (1, 0) 424 | A ddoi di gyda mi? |
| (1, 0) 425 | Aur pur yw'r palmant yno |
| (1, 0) 426 | Gwell byd i ti a mi. |
| (Deiniol) Ia... dos... mi geith ganu grwndi i ti ar hyd y ffordd... ewch! | |
| (1, 0) 432 | O, pwsi─rwy'n dy garu. |
| (1, 0) 437 | Sneb arall yn y byd. |
| (1, 0) 442 | Yn malio dim amdana i |
| (1, 0) 443 | Fel ti─o hyd! o hyd! |