Panto

Ciw-restr ar gyfer Elin

(Deiniol) {Yn neidio ar ei draed mewn dychryn.}
 
(1, 0) 73 Tyd y clown!
(Deiniol) Nid fi ddaru... dwi ddim yn talu...
 
(Deiniol) Dim rŵan, Maldwyn.
(1, 0) 78 Sgynnon ni ddim amser i dy jôc sglyfaethus di─gollwng o.
(Sera) Tri munud sgin ti.
 
(Deiniol) Mae'r sioe drosodd fy ffrind.
(1, 0) 113 Belt?
(Sera) Be'?
 
(Sera) Be'?
(1, 0) 115 Lle mae'r belt piws 'di mynd?
(Deiniol) {Yn canu.}
 
(Mici) Ddaru o 'i daflu o yn y matiné.
(1, 0) 120 Be' ti'n 'i feddwl─taflu?
(Mici) Yn y ffinale─mi daflodd o'i felt i'r gynulleidfa.
 
(Sera) Do, dwi'n cofio.
(1, 0) 123 I be' nath o beth felly?
(Deiniol) Ma'n nhw'n bwysig, dalltwch─nhw'n fan'na, ninna'n fan'ma─fy mhobol i!
 
(Deiniol) Mi fydda i'n rhoi rhyw swfanîr bach iddyn nhw weithia.
(1, 0) 126 O, damia chdi.
(Deiniol) Hebddyn nhw, dwi'n ddim!
 
(Mici) Mae tocyn o feltia yn fy stafall i.
(1, 0) 129 Gad i mi 'u gweld nhw.
 
(Sera) Ac mi fydd yn y parti heno?
(1, 0) 189 Ma' hwn yn clashio 'dwi'n gwybod, ond mi geith neud y tro.
(Maldwyn) Reit!
 
(Deiniol) Ma' 'mhen i fel bwcad!
(1, 0) 299 Mi fasa'n help 'tasat ti'n yfad y coffi 'ma.
(Deiniol) Gas gin i'r dŵr golch!
 
(Deiniol) Gas gin i'r dŵr golch!
(1, 0) 301 Ond mi helpith di i sobri─mi sobri rywfaint, gnei?
(Deiniol) A!
 
(Deiniol) ... 'sa siwgwr yn help, falla.
(1, 0) 305 Ro'n i'n meddwl nad oeddat ti ddim yn cymryd siwgwr.
(Deiniol) Gas gin i'r sglyfath─gas gin i goffi'n fwy.
 
(Deiniol) Gas gin i'r sglyfath─gas gin i goffi'n fwy.
(1, 0) 307 Nefoedd.
(1, 0) 308 Dria i rwbath.
(Deiniol) Os mêts.
 
(Deiniol) Ych-a-fi!
(1, 0) 318 Dim ond siwgwr lwmp ges i.
 
(Deiniol) Fedra i ddim diodda siwgwr lwmp... mi gymera i'r llall ar binsh... ond byth siwgwr lwmp.
(1, 0) 322 Sdim gwahaniaeth, y diawl gwirion.
(Deiniol) O, oes... o, oes ma' 'na.
 
(1, 0) 326 Ond 'run 'di'r blas.
(Deiniol) I bobol gyffredin, ia, falla... ond i'r conisiwar ma' 'na betha... prun bynnag.
 
(Deiniol) ond ma' rhaid i mi drio, 'toes─ma' rhaid i mi drio'i gael o i lawr.
(1, 0) 332 Wel, diolch am rywfaint o sens o'r diwadd.
(Deiniol) {Yn tollti llond ei fyg o'r jwg.}
 
(Deiniol) Hir oes i'r achos dirwestol!
(1, 0) 337 'Na welliant─mi sobri di drwyddat ar ôl panad ne' ddwy o hwnna.
(Deiniol) 'Ti'n deud!
 
(Deiniol) {Mae'n cymryd swig arall.}
(1, 0) 340 Damia!
(Deiniol) Damia be'?
 
(Deiniol) Damia be'?
(1, 0) 342 'Ti ddim yn gneud y sgets gynta rŵan, nac wyt?
(Deiniol) {Yn gwgu.}
 
(1, 0) 346 Dach chi'n fy nrysu i'n lân efo'ch giamocs─'tisio het a siôl i'r drydedd sgets.
 
(1, 0) 350 Aros yn llonydd.
(Deiniol) Neith y peth ddim gweithio heb 'y nghân i, dwi'n deud wrthat ti.
 
(1, 0) 354 Nefoedd, ma' isio gras.
(Dic) {Yn cario beth wmbredd o goed tân.}
 
(1, 0) 378 Clwad be'?
(1, 0) 379 Sa'n llonydd.
(Deiniol) 'Di hwnna ddim yn y sgript... creulon ia, ond dim meddw─'di 'meddw' ddim yn y sgript o gwbwl.
 
(1, 0) 386 Sa'n llonydd!
(Dic) Fedar hi ddim gneud hebddo fo bellach, pws bach.
 
(Deiniol) Dyna oedd y geiria i fod─sdim byd am y fi yn llawn.
(1, 0) 406 Wnes i 'rioed ddallt hynny, eniwê─pam 'bore a phrynhawn'?
(1, 0) 407 Oedd o ddim yn diodda yn y nos, 'ta?
(Deiniol) Mi ca' hi am hyn!
 
(Deiniol) Mi ca' hi am hyn!
(1, 0) 409 Yn y nos dwi'n diodda fwya, yn enwedig hefo ffernols boncyrs fel chi heb barch at ddyn nac anifail.
(Dic) {Llwyfan.}
 
(Deiniol) Dim dyna'r geiria o gwbwl─ma'r hulpan 'di mynd rownd y twist─colli 'i marblis i gyd!
(1, 0) 419 Cau dy geg ac yfa'r coffi 'na.
(Deiniol) Desu, gnaf.
 
(Deiniol) {Mae'n rhuthro i'r esgyll yn awr─nid yw hyn ond drwy'r drws a throi i'r chwith.}
(1, 0) 429 Dwi'n ildio.
 
(Deiniol) Welist ti hynna, 'ta?
(1, 0) 446 Welis i be'?
(Deiniol) Be' oedd hi a'r gath yn 'i neud?
 
(Deiniol) Be' oedd hi a'r gath yn 'i neud?
(1, 0) 450 Beth bynnag oeddan nhw'n 'i neud, ma'n nhw wedi 'i neud o drw'r tymor.
(Deiniol) Ond nid fel heno─ma'r Mici Tiwdor bach 'na rêl sglyfath.
 
(Deiniol) Ond nid fel heno─ma'r Mici Tiwdor bach 'na rêl sglyfath.
(1, 0) 452 O! sbïwch pwy sy'n cael cynhyrfs!
(Deiniol) Dim bod ots gen i, dallt─malio dim blydi botwm corn.
 
(Deiniol) Dim bod ots gen i, dallt─malio dim blydi botwm corn.
(1, 0) 454 Wrth gwrs dy fod ti'n malio.
(Deiniol) Pam ddylwn i?
 
(Deiniol) Pam ddylwn i?
(1, 0) 456 Malio nes bod dy geillia di'n sgrytian.
(Deiniol) Malio dim ffuan, dallt.
 
(Deiniol) Malio dim ffuan, dallt.
(1, 0) 458 Dyn o dy oed ti.
(Deiniol) Be' ti'n 'i feddwl?
 
(Deiniol) Be' ti'n 'i feddwl?
(1, 0) 460 Ti'n gwbod be' dwi'n 'i feddwl─digon hen i fod yn dad iddi.
(Deiniol) Be' 'ti'n drio 'i ddeud, 'ta... be' 'ti'n 'i awgrymu?
 
(Deiniol) Be' 'ti'n drio 'i ddeud, 'ta... be' 'ti'n 'i awgrymu?
(1, 0) 462 Dwi am ga'l gorffan dy wisgo di?
(Deiniol) Na... na... be' 'ti'n 'i feddwl 'mod i'n ddigon hen i fod yn dad iddi?
 
(Deiniol) Na... na... be' 'ti'n 'i feddwl 'mod i'n ddigon hen i fod yn dad iddi?
(1, 0) 464 Mi rwyt ti'n dwyt, dros dy hannar cant, a hitha prin allan o'i chlytia.
(Deiniol) Ia... iawn... ond pam fi?
 
(Deiniol) Ma' digon arall yn y lle 'ma sy'n ddigon hen i fod yn dad iddi... be' sgin..?
(1, 0) 467 Ond dim ond chdi sy'n 'i ffwcio hi!
(Deiniol) Yli... gwranda... dallta... nefoedd... ma' 'na ffasiwn beth ag enllib... gwatsia be' 'ti'n 'i ddeud.
 
(Deiniol) Yli... gwranda... dallta... nefoedd... ma' 'na ffasiwn beth ag enllib... gwatsia be' 'ti'n 'i ddeud.
(1, 0) 471 O, wasi─paid â chwythu gasget... ma' pawb yn gwbod─'ti'n meddwl 'n bod ni'n blydi dwl?
(Deiniol) Reit.
 
(Deiniol) Pwy ydyn nhw?
(1, 0) 477 Yn union fel dudis i─pawb!
(Deiniol) Pawb?
 
(Deiniol) Pawb?
(1, 0) 479 Wel, pawb yn fan'ma─ma'ch tricia chi mor uffernol o hen ffash...
(1, 0) 480 dwi ddim yn blydi ffŵl, dallt.
(1, 0) 481 Dwi 'di cael 'n siâr yn y busnas yma fy hun.
 
(1, 0) 483 Robin Hood!
(1, 0) 484 Cofio cael uffar o affair unwaith hefo Friar Tuck...
(1, 0) 485 ond ro'n i'n gwbod, dallt, bod mei nabs yn cael 'i damad 'run pryd hefo Robin Hood.
(1, 0) 486 Pawb yn y bar yn 'i slochian hi... a hi wedyn, Robina Hwdina, yn codi.
 
(1, 0) 488 "O, hogia bach, ma' hi wedi bod yn ddiwrnod hir─rwy'n credu'r a' i i'r gwely."
(1, 0) 489 Fynta wedyn yn methu dal mwy na thri munud fel titha.
(1, 0) 490 "Ia wel, dwi'n credu yr a' inna i 'ngwely hefyd."
(1, 0) 491 Dy wely di o ddiawl!
(Deiniol) Be' 'ti'n 'i feddwl?
 
(Deiniol) Be' 'ti'n 'i feddwl?
(1, 0) 493 'Ti'n gwbod lle'r oeddat ti'n mynd... mi oedd pawb yn gwbod lle'r oeddat ti'n mynd.
(Deiniol) 'Ti'n mynd yn rhy bell... un gair arall...
 
(Deiniol) 'Ti'n mynd yn rhy bell... un gair arall...
(1, 0) 495 Pam dach chi'n dŵad i'n gwely ni'r genod bob amsar?
(1, 0) 496 Dach chi ofn i rywun arall droi i fyny i'ch stafall chi ne' rwbath?
(1, 0) 497 Dach chi ofn cael copsan yn y llorpia?
(1, 0) 498 Dan ni'n gwbod be' oedd yn digwydd, Falentino?
(Deiniol) Yli─ ti'n gwbod sut ma' actorion am gario straeon, 'dwyt?
 
(Deiniol) Yli─ ti'n gwbod sut ma' actorion am gario straeon, 'dwyt?
(1, 0) 500 Fo gwelodd di gynta.
(Deiniol) Pwy fo?
 
(Deiniol) Pwy fo?
(1, 0) 502 Miaw!
(Deiniol) Y bastard─ma'r Mici Tiwdor 'na â'i gyllall ynai o'r dechra... 'ti ddim yn dallt hynny?
 
(Deiniol) Y bastard─ma'r Mici Tiwdor 'na â'i gyllall ynai o'r dechra... 'ti ddim yn dallt hynny?
(1, 0) 504 Ac mi welodd amryw arall chdi'n sleifio i'w stafall hi wedyn!
(Deiniol) Fel pwy?
 
(Deiniol) 'Swn i'n licio gwbod pwy.
(1, 0) 508 Fi!
(Deiniol) Chdi?
 
(Deiniol) Chdi?
(1, 0) 510 Fi!
(1, 0) 511 A dy weld ti'n sleifio allan wedyn lawar bora fel rhyw gi 'di bod yn lladd defaid.
(Deiniol) {Ar ôl saib hir.}
 
(Deiniol) Dwi wedi bod yn 'i stafall hi weithia, do.
(1, 0) 514 Droeon!
(Deiniol) Trin sgript a ballu.
 
(Deiniol) Trin sgript a ballu.
(1, 0) 516 Mwy o'r 'ballu' ddwedwn i.
(Maldwyn) Sut mae o rŵan?
 
(Maldwyn) Sut mae o rŵan?
(1, 0) 519 Fel y gweli di o.
(Maldwyn) Ydi o 'di yfad 'i goffi?
 
(Maldwyn) Ydi o 'di yfad 'i goffi?
(1, 0) 521 Mygeidia o'r sglyfath!
(Maldwyn) {Wrth Deiniol.}
 
(Maldwyn) Roist ti goffi iddo fo?
(1, 0) 533 Dwi 'di deud wrthat ti─mae o 'di yfad fel ych ar dranc.
(Maldwyn) Ond mae o'n waeth rŵan nag oedd o gynna.
 
(Deiniol) Ond dwi ddim am fod yn fwch dihangol i ryw wancyrs fel chi, dalltwch!
(1, 0) 546 Mae o 'di mynd, dwi'n meddwl.
(1, 0) 547 Honci ponci pw!