Yr Hen Deiliwr

Cue-sheet for Ffeirad

(Sioni) Brau ac ansicr ydyw yr hen fywyd 'ma, ac i fynwent Llansilio y daw y trigolion o un i un.
 
(Sioni) Mi leicie'r hen "foy" orwedd fan hynny, mi wn.
(1, 0) 13 Heb gynnu'r canwylle wyt ti, Sioni?
(1, 0) 14 Mae'n well i ti neud brys, mae'n amser dachre'r festri.
(1, 0) 15 Pendrymu fel arfer, â'th feddwl yn y yr hen fynwent.
(1, 0) 16 D'wed am faint ma'r angladd 'fori, a chofia 'ngalw i mewn amser.
(Sioni) Am ddeg, syr; mi ofala eich galw mewn amser.
 
(Sioni) Druan o'r hen Fari.
(1, 0) 21 Yr wyf wedi clywed digon o dy fyfyrdodau di, Sioni, ar einioes ac angeu erbyn hyn.
(1, 0) 22 Yr un hen stori ar dy dafod, a'r un hen wep ar dy wyneb.
(1, 0) 23 Cer, nawr, adre at Pegi, mae'r Festri yn dechreu crynhoi.
 
(1, 0) 26 Mi wela fod y Festri yn llawn ag eithrio Siaci'r Felin.
(1, 0) 27 Mi ddaw Siaci heb fod yn hir.
(1, 0) 28 Mae hi dipyn yn dywyll i drafaelu drwy Allt y Cadno.
(1, 0) 29 Mae'n well i fi ddarllen cofnodion y Festri ddiwedda, ac yna mi awn ymlaen â'r fusnes.
 
(1, 0) 31 ~
(1, 0) 32 "Cofnodion Festri Plwyf Llansilio, a gadwyd nos Lun, Rhagfyr yr ail, 1842.
(1, 0) 33 Yn bresennol: Y Parch. Sinett Jenkins yn y gadair, Mr. Lloyd Williams, John Jones, Dafydd Ifans, Daniel Lewis, Siaci'r Felin, a Dafi'r Teiliwr.
(1, 0) 34 Yn gyntaf pasiwyd fod y biliau canlynol i'w talu:─
(1, 0) 35 I John Richards y Preintar am Gomon Prayer: 2s 0d
(1, 0) 36 I Pegi'r Clochydd am olchi'r wisg wen: 1s 0d
(1, 0) 37 I Sion y Gô am allwedd newydd - 0s 6d
(1, 0) 38 I Twm Sâr am goffin Sian Pwllybroga: - 2s 0d
(1, 0) 39 I William 'Ralltfowr am gadw Jane Owen am gwarter, ac am bâr o glocs i Jane: 15s 6d
(1, 0) 40 I Wil y Crydd fel help at gwiro'i ddillad: 0s 3d
(1, 0) 41 I Sian Pantywhiaid am olchi crys Jac yr Hatter: 0s 4d
(1, 0) 42 I wraig Twm bach tra'r oedd Twm yn y jâl: 2s 6d
(1, 0) 43 I Leisa Dafi'r Wper am dorri cerrig: 0s 8½
(1, 0) 44 I'r Cwnstebliaid am dendo'r Sessiwn: 7s 6d
(1, 0) 45 Y Cyfanswm yn: £1 15s 3½d"
(John) Dyna fel ma'r arian yn mynd, coste, coste, o hyd.
 
(Scweier) Cerwch mlân, Jenkins.
(1, 0) 49 "Penderfynwyd rhoi to newydd ar yr Eglwys o lechau Carnarfon, ac fod Mr.
(1, 0) 50 Jenkins i gâl yr hen rai am y drwbwl o'u cywain i ffwrdd.
(1, 0) 51 Penderfynwyd nad yw y plwy' yn mynd i gadw Beca'r Wyau yn rhagor, am ei bod wedi ennill 'i phlwy' yn Llanaber.
(1, 0) 52 Penderfynwyd fod John Jones a Dafydd Ifans i surveyo y ffordd o Maeslan i'r Felinganol, a'u bod i ddod â'r cownt i'r Festri heno.
(1, 0) 53 Penderfynwyd fod Nansi Jac Potcher i ddod o flaen y Festri heno."
(Scweier) Very good, very good.
 
(Scweier) Well i ti, Dafi, siarad, mi fydd John ding-dong, ding-dong drw'r nos yn gweyd 'i stori, a ma ladi yn disgwyl fi catre i cinio.
(1, 0) 57 Eitha reit, Mr. Williams.
(1, 0) 58 Dewch Dafydd Ifans â'ch report am y ffordd.
(Dafydd) Wel, gyfeillion, i fod yn fyr, rhaid gweyd y gwir, mae'r ffordd o Maeslan i'r Felinganol mewn cyflwr ofnadw.
 
(Scweier) Os o'nhw'n mynd i'r Plâs, mi ro'i y cipar, a'r fferets, a'r tarriers ar 'u hol nhw, a mi 'na i |short work| o'r scamps.
(1, 0) 81 You must understand, Mr. Williams, that these country people live very close to nature and its mysteries, which are closely allied to the supernatural.
(1, 0) 82 Remember the words of our famous English poet:
(1, 0) 83 ~
(1, 0) 84 "There are more things in heaven and earth, Horatio,
(1, 0) 85 Than are dreamt of in your philosophy."
(Scweier) Jolly rot, I say.
 
(Scweier) You are paid to knock this nonsense out of them, and see that you do it.
(1, 0) 88 Rhaid mynd ymlaen â'r fusnes ar ol y digression yna.
(1, 0) 89 Rwy'n credu fod Nansi Jac Potcher wrth y drws; mae'n well ei chael i mewn yn awr.
(1, 0) 90 Nansi, dere i mewn.
 
(1, 0) 92 Wel, Nansi, dyma ni wedi dy alw di o flaen y Festri, er mwyn setlo y peth gore i neud â thi a'r plant tra bo Jac yn jâl.
(1, 0) 93 Ac er mwyn i'r Festri i gael gwybod dy amgylchiadau, dwed faint o blant sydd gyda thi.
(Nansi) O, syr, mae gyda fi lond y tŷ o blant.
 
(Nansi) Dyma John Thomas Henry, mae e'n naw; dyma Evan Jenkin Thomas, mae e'n wyth; a Mary Jane, yn saith; a Sarah Ellen, yn whech; a dyma'r un bach 'ma, Lloyd Williams—{yn troi at y SCWEIER gan wenu a rhoi cwtch)—mae e' wedi câl ych enw chi, syr, a dyma'r babi yn y nghôl i, mae e'n wyth mis.
(1, 0) 96 Dyna hi, llon'd tŷ o blant, a'r tad yn y jâl am botchan.
(Nansi) 'Dyw Jac ddim yn botcher, syr, nag yw, wirione fach annwl.
 
(Nansi) {Yn crio.}
(1, 0) 103 'Nawr, Nansi, rhaid i ti fod yn dawel, ac edrych ar bethau fel y maent.
(1, 0) 104 Y mae Jac wedi torri'r gyfreth drwy botchan, ac y mae'r gyfreth wedi cymeryd gafael arno a'i roi yn y jâl.
(Nansi) Ond 'dyw Jac ddim wedi bod yn potchan eriod, nag yw, wirione i.
 
(Scweier) A fi'n mynd.
(1, 0) 136 Dear me, Mr. Williams, rhaid i chi basio heibio i Dafi.
(1, 0) 137 Mae e'n darllen yr hen bapyre 'ma am y Siartiaid, ac yn drysu ei ben gyda'r athrawiaethau newy' 'ma.
(1, 0) 138 Come, come, Mr. Williams, it is beneath your dignity to take notice of such words, especially coming from an ordinary tailor.
(1, 0) 139 Remember your high descent, and the noble traditions of your family.
(1, 0) 140 The patrician blood of the Lloyd Williams family is surely proof against these things.
(1, 0) 141 Come, Mr. Williams, sit down.
(Scweier) Na, na, 'ma fi'n mynd.
 
(Scweier) {Yn gadael 'yr ystafell.}
(1, 0) 144 'Rwyt ti, Dafi, wedi rhoi dy droed yndi o'r diwedd.
(1, 0) 145 Beth na i os na ddaw y Scweier i'r Eglwys, a beth ddaw o'r casgliad amser y Nadolig a'r Pasg?
(1, 0) 146 Mi wela i amser gofidus o mlaen i, i dreio gneud heddwch rhyngot ti, Dafi, a'r Scweier a'r ladi.
(1, 0) 147 Ond ar ol y gofid a'r trwbwl i gyd rhaid mynd ymlaen â'r fusnes.
(1, 0) 148 Beth i ni'n mynd i neud â Nansi a'r plant?
(Dafydd) Wel, gyfeillion, mi greda i mai y peth gore i neud gyda Nansi a'r plant ydi hyn.
 
(Scweier) Dere, Twm, rhaid i fi alw y justices at i gily' i neud cwnstebli.
(1, 0) 179 Wel, gyfeillion, Festri ryfedd gawsom ni heno.
(1, 0) 180 Gobeithio y gwnewch i gyd dreio cadw heddwch yn y plwy, a mi ddylet ti, Dafi, i gofio fod gwarogaeth i'w dalu i waedoliaeth a chyfoeth.
(1, 0) 181 Y mae graddau mewn cymdeithas i fod ac wedi bod erioed.
(1, 0) 182 "Y gweision, ufuddhewch i'ch meistriaid," medd yr Hen Air, a rheol dda i'w chadw yw hi hefyd.
(1, 0) 183 Rhaid cadw pobol dlawd yn eu lle, neu mi â'r byd yn bendramwnwgl.
(1, 0) 184 Gobeithio erbyn y Festri nesa y bydd pethau wedi tawelu, ac y bydd heddwch yn teyrnasu fel yr afon, ac y cawn ninnau gwrdd gyda'n gilydd fel cyfeillion.