| (Alice) O, y ti sydd 'na, Maggie. | |
| (Alice) A minnau'n gobeithio mai nhad oedd ar ei ffordd allan. | |
| (1, 0) 27 | Camsyniad wnest ti. |
| (Alice) Mae e'n hwyr y bore 'ma. | |
| (1, 0) 30 | 'Roedd e'n hwyr yn codi. |
| (Vickey) Ydi e wedi cael brecwast, Maggie? | |
| (1, 0) 34 | Brecwast! |
| (1, 0) 35 | Ar ol cinio'r Clwb neithiwr? |
| (Vickey) Fe fydd arno eisiau rhywbeth i godi tipyn ar ei galon felly. | |
| (Albert) O! | |
| (1, 0) 51 | Beth gawn ni ddangos i chi y bore 'ma, Mr. Prosser? |
| (Albert) {Yn sefyll.} | |
| (Albert) Wel, wir, alla'i ddim dweyd imi ddod yma gyda'r bwriad o brynu dim heddiw, Miss Hobson. | |
| (1, 0) 54 | Cadw siop yw'n busnes ni, wyddoch, ac felly allwn ni ddim gadael i bobl fynd a dod yma heb brynu dim. |
| (Albert) O'r gora: dewch â phâr o gareiau imi, os gwelwch chi'n dda. | |
| (Albert) {Yn symud i'r dde.} | |
| (1, 0) 57 | Beth yw "size" eich sgidiau chi? |
| (Albert) "Eights." | |
| (1, 0) 63 | Na; ond hynny sy'n penderfynnu "size" y sgidiau. |
| (1, 0) 65 | Eisteddwch, Mr. Prosser. |
| (Albert) {Yn eistedd.} | |
| (Albert) {Y mae MAGGIE ar ei gliniau yn prysur ddatod es esgid.} | |
| (1, 0) 69 | Mae'n bryd i chi gael pâr o sgidiau newydd. |
| (1, 0) 70 | Mae y rhain yn rhy hên a diolwg i ŵr o'ch safle chi. |
| (1, 0) 71 | Estyn bâr o "eights" imi o'r silff yna, Vickey, os gweli di'n dda. |
| (1, 0) 72 | ALICE |
| (1, 0) 74 | Nid i brynu sgidiau y daeth Mr. Prosser yma, Maggie. |
| (1, 0) 76 | 'Sgwn i pam mae e'n dod i'r siop yma mor aml? |
| (Albert) Un ofnadwy wy' i am dorri careiau, Miss Maggie. | |
| (Albert) Un ofnadwy wy' i am dorri careiau, Miss Maggie. | |
| (1, 0) 80 | A ydych yn treulio pâr o gareiau bob dydd? |
| (1, 0) 81 | Mae'n rhaid eich bod yn gryf ofnadwy. |
| (Albert) 'Rwy'n cadw stoc o honynt wrth law rhag ofn. | |
| (Albert) Mae'n well bod yn barod i'r gwaetha'. | |
| (1, 0) 84 | A nawr bydd gennych sgidiau newydd i fynd gyda'r careiau, Mr. Prosser. |
| (1, 0) 85 | Sut mae honna'n teimlo? |
| (Albert) Yn gyfforddus iawn, wir. | |
| (Albert) Yn gyfforddus iawn, wir. | |
| (1, 0) 87 | Treiwch chi ar eich sefyll. |
| (Albert) {Yn cerdded ychydig gamau.} | |
| (Albert) Ydi; mae hi'n ffitio i'r dim. | |
| (1, 0) 90 | Gadewch imi wisgo'r llall i chi. |
| (Albert) O, na'n wir; does arna'i ddim eisiau pâr o sgidiau newydd ar hyn o bryd. | |
| (1, 0) 93 | Eisteddwch, Mr. Prosser. |
| (1, 0) 94 | Allwch chi ddim mynd allan i'r stryd felna, un hên esgid sâl ac un esgid newydd, smart, am eich traed. |
| (Albert) Wel, beth yw pris y rhain, ynte? | |
| (Albert) Wel, beth yw pris y rhain, ynte? | |
| (1, 0) 97 | Punt. |
| (Albert) Punt! ond─ | |
| (Albert) Punt! ond─ | |
| (1, 0) 99 | Ond mae nhw'n sgidiau da, Mr. Prosser. |
| (1, 0) 100 | Ac ni bydd rhaid i chi dalu am gareiau heddiw. |
| (1, 0) 101 | Fe gewch bâr o gareiau newydd yn y fargen, careiau rhawn, bid siwr. |
| (1, 0) 103 | Ond gan eich bod mor gryf ac yn torri cynifer, falle bydd yn well gennych gael careiau lledr. |
| (1, 0) 104 | Gallwch eu cael, wrth gwrs, ond fe gostia rheiny ddwy geiniog yn rhagor i chi. |
| (Albert) Fe wna—fe wna y rhain y tro, diolch. | |
| (Albert) Fe wna—fe wna y rhain y tro, diolch. | |
| (1, 0) 106 | O'r gora; a gwell i chi adael yr hên bâr yma i'w cywiro. |
| (1, 0) 107 | Danfonaf hwynt i'ch ty chi fory gyda'r bil. |
| (Albert) {Gydag ochenaid.} | |
| (Albert) Pe buasai rhywun wedi dweyd wrthyf fy mod yn dod i mewn yma i wario punt buaswn wedi ei alw'n ffŵl. | |
| (1, 0) 113 | Nid ydych wedi gwastraffu punt, coeliwch fi. |
| (1, 0) 114 | Fe bery'r sgidiau yna'n hir, cewch weld. |
| (1, 0) 115 | Bore da, Mr. Prosser. |
| (1, 0) 121 | Dyna wers iddo gadw oddiyma am dipyn. |
| (1, 0) 122 | Mae ganddo ormod o amser i'w wastraffu. |
| (Alice) Fe wyddost pam mae e'n dod yma. | |
| (Alice) Fe wyddost pam mae e'n dod yma. | |
| (1, 0) 124 | Gwn y dylai dalu rhent am gael treulio cymaint o amser yma. |
| (1, 0) 125 | Nid yw pris un pâr o gareiau yn hanner digon. |
| (1, 0) 126 | Dod yma i syllu'n wirion arnat ti y mae e. |
| (1, 0) 127 | Rwy'i wedi diflasu ar 'i weld e'. |
| (Alice) Mae o'r gora i hên ferch fel ti i siarad, ond gan fod nhad yn anfodlon inni fynd allan gyda bechgyn ifainc, ymhle arall y gall Albert a minnau gwrdd ond yn y siop pan fydd nhad ei hunan allan? | |
| (1, 0) 130 | Os yw e am dy briodi di, pam na wnaiff e hynny? |
| (Alice) Rhaid caru cyn priodi. | |
| (Alice) Rhaid caru cyn priodi. | |
| (1, 0) 132 | Does dim rhaid iddi fod felly. |
| (1, 0) 134 | Weli di'r bwcwl mawr gloyw ar yr esgid fach yma? |
| (1, 0) 135 | Mae caru fel y bwcwl yma, merch i; rhywbeth gloyw ond hollol ddiangenrhaid. |
| (Hobson) {Yn symud i gyfeiriad y drws ar y chwith.} | |
| (1, 0) 144 | O'r gora, nhad; ond peidiwch â bod yn ddiweddar i ginio. |
| (1, 0) 145 | Afu sydd yma i ginio heddiw, |
| (Hobson) Mae awr o amser cyn cinio. | |
| (Hobson) {Yn mynd.} | |
| (1, 0) 148 | Os arhoswch chi fwy nag awr yn Y Bedol, fe fyddwch yn ddiweddar. |
| (Hobson) Y Bedol? | |
| (Alice) Mae digon o chwant arna'i roi eitha gwers ichi bob un. | |
| (1, 0) 165 | Rwy'n siwr fod Mr. Heeler yn aros am danoch yn Y Bedol, nhad. |
| (Hobson) Gad iddo aros. | |
| (Hobson) Ond y fi sy'n rhoi a chwithau'n cymryd, a rhaid cael pen ar hynny. | |
| (1, 0) 180 | Faint o gyflog ydych chi'n roi inni? |
| (Hobson) Does a wnelo hynny ddim â'r mater | |
| (Hobson) Ffasiwn y diawl, ddweda'i. | |
| (1, 0) 219 | Nhad, nid yn Y Bedol rydych chi 'nawr. |
| (Vickey) Fe ddylech sylwi sut y mae boneddigesau eraill yn gwisgo. | |
| (Hobson) A minnau wedi bod am y pum munud diwetha 'ma yn dweyd wrthych nad ydych yn ffit i ddewis hyd yn oed eich dillad eich hunain! | |
| (1, 0) 243 | Mae gennych lawer i'w ddweyd wrth Vickey ac Alice, nhad. |
| (1, 0) 244 | Beth am dana' i? |
| (Hobson) Y ti? | |
| (Hobson) {Yn troi i edrych arni mewn syndod.} | |
| (1, 0) 247 | Os ydych yn dewis gwŷr iddyn' nhw, oes gennych un mewn golwg imi? |