| (Deiniol) {Yn neidio ar ei draed mewn dychryn.} | |
| (Sera) 'Ti 'di mynd yn rhy bell rŵan, 'ngwas i. | |
| (1, 0) 65 | 'Ti'n gwbod faint o'r gloch ydi hi? |
| (Deiniol) Coed tân, myn diawl─dau swllt y bwndal. | |
| (Sera) Mae o'n feddw gaib beipan. | |
| (1, 0) 71 | Llawn at 'i styds. |
| (Elin) {Yn dal y ffrog o'i flaen.} | |
| (Deiniol) Nid fi ddaru... dwi ddim yn talu... | |
| (1, 0) 75 | Tyn y trowsus 'na. |
| (Deiniol) W! | |
| (Sera) Tri munud sgin ti. | |
| (1, 0) 80 | Dau. |
| (1, 0) 81 | Ma'r |overture| hanner ffordd drosodd... o, be 'na i? |
| (1, 0) 84 | Elli di 'i strejio hi dipyn. |
| (1, 0) 86 | Dam! |
| (Mici) Alla i fod o help? | |
| (Elin) Ma' hwn yn clashio 'dwi'n gwybod, ond mi geith neud y tro. | |
| (1, 0) 192 | Reit! |
| (1, 0) 193 | Dwi wedi newid y dechra. |
| (Deiniol) Gwatsia di rŵan, 'y ngwas i. | |
| (1, 0) 197 | Ar ôl yr agoriad, dwi am i chdi ddeud wrth y gath... |
| (Deiniol) {Yn gweiddi.} | |
| (Deiniol) A dyma chi unwaith eto, y feri dyn... a'r unig un─Robert Deiniol. | |
| (1, 0) 200 | 'Nei di gau dy hopran! |
| (1, 0) 202 | Dwi am i ti ddeud wrth y gath... |
| (1, 0) 203 | "O, 'di Mam ddim yma!" |
| (Sera) {Yn ailadrodd.} | |
| (Deiniol) Y? | |
| (1, 0) 208 | Mi ddudith y gath 'Miaw'─ne' 'Pyrr'... ne' rwbio... ne' beth bynnag uffern liciwch chi... |
| (Deiniol) Hei! | |
| (1, 0) 212 | 'Gei di ddeud wedyn... |
| (1, 0) 213 | "Falla 'i bod hi 'di cael 'i dal yn rhwla." |
| (Deiniol) Dal yn lle... hei... gwranda'r weiran gaws... | |
| (Deiniol) Dal yn lle... hei... gwranda'r weiran gaws... | |
| (1, 0) 215 | Dos yn syth wedyn i'r gân gynta. |
| (Deiniol) Pa gân gynta? | |
| (Deiniol) 'Ti'n boncyrs ne' rwbath─fedar hi ddim canu'r gân gynta. | |
| (1, 0) 219 | Wel, ma' hi'n mynd i blydi gneud heno, llafn, gydag arddeliad. |
| (Sera) 'Ti'n deud 'mod i yn mynd i... | |
| (Deiniol) Ond fedar hi ddim canu 'nghân i. | |
| (1, 0) 222 | Dwi ddim yn sôn am dy gân di. |
| (Deiniol) Ond dyna'r gân gynta. | |
| (Deiniol) Ond dyna'r gân gynta. | |
| (1, 0) 224 | Dim heno... 'i chân gynta hi dwi'n 'i feddwl. |
| (Sera) Ia, ond... | |
| (Sera) Ma' gynno fo bwynt yn fan'na. | |
| (1, 0) 232 | Wnaiff o fawr o wahaniaeth... |
| (1, 0) 233 | ma' cân Dic yn deud dy fod ti'n greulon, 'tydi? |
| (Sera) Iawn! | |
| (Sera) Iawn! | |
| (1, 0) 235 | A dyna pam mae o'n 'i heglu hi i Lundain p'run bynnag. |
| (Sera) Ma' hynny'n ddigon gwir. | |
| (Deiniol) Bolocs! | |
| (1, 0) 238 | Hi sy'n canu gynta. |
| (Deiniol) Fi sy'n canu gynta, wasi bach... | |
| (Deiniol) fi ma'n nhw'n 'i weld gynta ar y llwyfan 'na─ma' hynny yn 'y nghontract i, swîti pei! | |
| (1, 0) 241 | Ydi o yn dy gontract di hefyd y gelli di fynd allan ar y llwyfan 'na'n feddw dwll beipan? |
| (Deiniol) Gwatsia di be' 'ti'n 'i ddeud, coc oen... | |
| (Deiniol) {Yn cyfeirio at Sera.} | |
| (1, 0) 259 | Stwffia hwnna i lawr 'i gorn claga fo─falla sobrith o ddigon i'r drydedd sgets. |
| (1, 0) 261 | Reit! |
| (1, 0) 262 | Munud i'r codi! |
| (Deiniol) A be' mae |o|'n mynd i'w ddeud─'ti 'di meddwl am hynny? | |
| (1, 0) 265 | Pwy 'di |o|? |
| (Deiniol) Yr awdur, mêt. | |
| (Deiniol) Be' mae o'n mynd i'w neud pan glywith o dy fod ti'n poitsian 'i sgript o? | |
| (1, 0) 268 | Clyw! |
| (1, 0) 269 | Doedd hwnnw ddim yn nabod 'i sgript 'i hun y noson gynta─heb sôn am be' dach chi 'di neud iddo fo wedyn. |
| (Deiniol) A be' am y cynhyrchydd? | |
| (1, 0) 273 | Mi geith hwnnw fynd i fyny unrhyw wal mae o isio. |
| (1, 0) 274 | Fi sy wedi dal y sioe 'ma wrth 'i gilydd am y tri mis dwytha. |
| (1, 0) 275 | Fi, dallt! |
| (1, 0) 276 | Fi sy wedi gorfod delio hefo'ch tantryms chi. |
| (1, 0) 277 | Fi sy di gorfod chwysu trwy pob creisys... a be' mae o'n 'i neud?... |
| (1, 0) 278 | Dŵad wrtha i... |
| (1, 0) 279 | gwneud blydi ffilm i S4C ar gweirio moch bach a ballu. |
| (1, 0) 280 | Os dudith y bastard bach diegwyddor hwnnw air wrtha i, mi setla i o unwaith ac am byth hefo C.C.C. |
| (1, 0) 281 | Chaiff o ddim digon o grant i gynnal penny reading... |
| (1, 0) 283 | Ac os ei di'n agos i'r llwyfan 'na cyn y drydedd sgets... |
| (1, 0) 284 | ne' os gnei di rwbath fydd yn stompio petha... |
| (1, 0) 285 | mi fyddi di'n chwara extra yn Pobl y Cwm weddill dy oes! |
| (Deiniol) Oes rhaid i ni gael hwnna mor uchel? | |
| (Elin) Mwy o'r 'ballu' ddwedwn i. | |
| (1, 0) 518 | Sut mae o rŵan? |
| (Elin) Fel y gweli di o. | |
| (Elin) Fel y gweli di o. | |
| (1, 0) 520 | Ydi o 'di yfad 'i goffi? |
| (Elin) Mygeidia o'r sglyfath! | |
| (1, 0) 523 | Ti'n ffit? |
| (Deiniol) {Yn ffyrnig.} | |
| (1, 0) 532 | Roist ti goffi iddo fo? |
| (Elin) Dwi 'di deud wrthat ti─mae o 'di yfad fel ych ar dranc. | |
| (Elin) Dwi 'di deud wrthat ti─mae o 'di yfad fel ych ar dranc. | |
| (1, 0) 534 | Ond mae o'n waeth rŵan nag oedd o gynna. |
| (Deiniol) Ac mi wn i be' 'ti'n trio'i neud, wasi─o gwn. | |
| (Deiniol) Ches i ddim coleg drama fel y gweddill ohonach chi, ond dwi'n dallt, dallt. | |
| (1, 0) 538 | Wnaiff o byth y sgets nesa... |
| (Deiniol) Fi i gario'r bwcad olch! | |
| (Elin) Honci ponci pw! | |
| (1, 0) 548 | Ond ma' rhaid iddo fo ddal Dic yn y goedwig a mynd â fo'n ôl. |