Yr Hen Deiliwr

Cue-sheet for Nansi

(Sioni) Brau ac ansicr ydyw yr hen fywyd 'ma, ac i fynwent Llansilio y daw y trigolion o un i un.
 
(Ffeirad) Ac er mwyn i'r Festri i gael gwybod dy amgylchiadau, dwed faint o blant sydd gyda thi.
(1, 0) 94 O, syr, mae gyda fi lond y tŷ o blant.
(1, 0) 95 Dyma John Thomas Henry, mae e'n naw; dyma Evan Jenkin Thomas, mae e'n wyth; a Mary Jane, yn saith; a Sarah Ellen, yn whech; a dyma'r un bach 'ma, Lloyd Williams—{yn troi at y SCWEIER gan wenu a rhoi cwtch)—mae e' wedi câl ych enw chi, syr, a dyma'r babi yn y nghôl i, mae e'n wyth mis.
(Ffeirad) Dyna hi, llon'd tŷ o blant, a'r tad yn y jâl am botchan.
 
(Ffeirad) Dyna hi, llon'd tŷ o blant, a'r tad yn y jâl am botchan.
(1, 0) 97 'Dyw Jac ddim yn botcher, syr, nag yw, wirione fach annwl.
(1, 0) 98 Yr hen gymdogion 'ma sy wedi gweyd celwy.
(1, 0) 99 Ma' pawb lawr ar bobol dlawd, a ma' nhw lawr ar Jac a finne am yn bod ni'n dlawd.
(1, 0) 100 O, Jac bach, dyna ti yn yr hen jâl heb neud un drwg, a finne a'r plant bach yn starvo.
(1, 0) 101 Beth ddaw o hono ni?
 
(Ffeirad) Y mae Jac wedi torri'r gyfreth drwy botchan, ac y mae'r gyfreth wedi cymeryd gafael arno a'i roi yn y jâl.
(1, 0) 105 Ond 'dyw Jac ddim wedi bod yn potchan eriod, nag yw, wirione i.
(Scweier) O'dd Jac ddim yn potcher, Nansi, a'r bobol yn gweyd celwy ie.
 
(Scweier) Ma cawl gweningen yn tŷ Nansi, medde fi.
(1, 0) 110 Cawl gweningen, syr, phrofes i ddim cawl gweningen yn 'y mywyd.
(1, 0) 111 Dodd dim bwyd yn y tŷ, a mi gês asgwrn gyda Roli'r bwtchwr, i neud cawl i'r plant, a mi roes pun bach o deim a phersli o'r ardd yndo fe i neud blâs arno, a dyna beth wech chi'n smelo, syr.
(1, 0) 112 Ie, wirione fach annwl.
(Scweier) Paid ti bod mor smart, Nansi.
 
(Scweier) Ie, Nansi, hen dyn drwg yw Jac, a hen potcher mowr hefyd, a fi'n falch fod e' yn y jâl.
(1, 0) 117 O, syr, peidiwch bod mor galon galed; ma'r plant a finne heb fwyd yn y tŷ, ac heb dân ar y tywydd oer 'ma.
(1, 0) 118 O beth ddaw ohono ni?
 
(Dafi) Ar dy ffordd adre galw yn ein tŷ ni, a gwêd wrth Marged am roi cwded o flawd i ti, a phishyn o ham y mochyn coch.
(1, 0) 122 Diolch yn fowr, Dafi; diolch yn fowr.