| (Cân) Sdimbydineud-i-neud | |
| (Sylwebydd) I weld beth yw oblygiadau hynny, draw â ni at y ein sylwebydd, R Ben Igol. | |
| (0, 8) 430 | Gadewch i ni rewi'r chwarae ar y pwynt yma a gweld, eto, be sy'n mynd mlan mewn gwirionedd. |
| (0, 8) 431 | Nawrte, ry' chi'n cofio fy nghyfaill yn dweud mai'r tric yw ffurfio cabinet fydd yn ddigon cryf i'w helpu i reoli'r bwrdd yn grwn. |
| (0, 8) 432 | ~ |
| (0, 8) 433 | Wel – wrth feddiannu'r gweision coch a gwyn hyn mae hi ar ei ffordd tuag at y nod hynny. |
| (0, 8) 434 | Unwaith mae gyda chi ddau was ar ben ei gilydd, mae gennych was sydd â dwbl y grym. |
| (0, 8) 435 | Yn wahanol i'r gweision normal sydd ddim ond yn gallu symud ffor' na neu ffor' na, ma'r uwch-Weision hyn – y gweision Cabinet – yn gallu mynd i ba gyfeiriad bynnag ma nhw am. |
| (0, 8) 436 | ~ |
| (0, 8) 437 | A – meddech chi – siwt ma'r Gweision Cabinet yma – os y'n nhw mor rhydd a holl bwerus – ddim yn creu problemau i'r Meistr? |
| (0, 8) 438 | Nawrte, mae'r ateb yn yr hyn y'ch chi ddim yn gweld – yr hyn dyw'r camerâu ddim yn gallu dangos i chi. |
| (0, 8) 439 | Ond, os edrychwch chi'n ofalus iawn iawn iawn, falle fe welwch chi fod yna rywbeth yn dal y tope gwyrdd wrth y gwaelodion, beth bynnag bo'u lliw. |
| (0, 8) 440 | Y'ch chi'n gallu gweld beth yw e? |
| (0, 8) 441 | Weda'i wrthoch chi – punnoedd. |
| (0, 8) 442 | Wyth mil ohonyn nhw. |
| (0, 8) 443 | ~ |
| (0, 8) 444 | Ma' pob un o'r Gweision Cabinet hyn yn cael £8,000 ychwanegol y flwyddyn – o law'r Meistr-Chwaraewr – am yr hawl a'r fraint o wisgo'r goron werdd. |
| (0, 8) 445 | ~ |
| (0, 8) 446 | Does gan rein – y gweision cyffredin – dim owns o rym, a gweud y gwir. |
| (0, 8) 447 | Allan nhw gico a sgrechen a bygwth fel ma' nhw am. |
| (0, 8) 448 | Gwneith hi fawr ddim o wahaniaeth. |
| (0, 8) 449 | Ac os penderfynith un o'r Gwesion Cabinet fynd eu ffordd eu hunain, wel 'Ffein' medde'r Meistr. |
| (0, 8) 450 | Ond fydd hi'n 'ta-ta' i'r £8,000 ychwanegol wedyn. |
| (0, 8) 451 | ~ |
| (0, 8) 452 | Mae cynghorwyr – y rhan fwyaf ohonynt, yn ddi-os – yn gweithio'n galed am y £12,000 a ganiateir iddynt. |
| (0, 8) 453 | Mae aelodau'r cabinet – o gofio yr oriau ychwanegol a'r cyfrifoldebau mawr ma nhw'n cario – yn haeddiannol o'r tâl ychwanegol. |
| (0, 8) 454 | Ond yr hyn y mae'r system cabinet wedi'i greu yw... |