| (Deiniol) {Yn neidio ar ei draed mewn dychryn.} | |
| (Deiniol) Dach chi 'di malu'r blydi drws. | |
| (1, 0) 64 | 'Ti 'di mynd yn rhy bell rŵan, 'ngwas i. |
| (Maldwyn) 'Ti'n gwbod faint o'r gloch ydi hi? | |
| (Deiniol) {Yn chwerthin.} | |
| (1, 0) 70 | Mae o'n feddw gaib beipan. |
| (Maldwyn) Llawn at 'i styds. | |
| (Elin) Sgynnon ni ddim amser i dy jôc sglyfaethus di─gollwng o. | |
| (1, 0) 79 | Tri munud sgin ti. |
| (Maldwyn) Dau. | |
| (1, 0) 99 | Dim cythral o beryg, cefndar! |
| (1, 0) 101 | Ca' warad o honna! |
| (Deiniol) Hold on, Defi John! | |
| (1, 0) 106 | 'Ti'n gall?... |
| (1, 0) 107 | Wyt ti'n blydi call? |
| (1, 0) 109 | 'Tisio colli dy job? |
| (Deiniol) Mi'i colla i hi eniwê ar ôl heno. | |
| (Elin) Belt? | |
| (1, 0) 114 | Be'? |
| (Elin) Lle mae'r belt piws 'di mynd? | |
| (Mici) Yn y ffinale─mi daflodd o'i felt i'r gynulleidfa. | |
| (1, 0) 122 | Do, dwi'n cofio. |
| (Elin) I be' nath o beth felly? | |
| (Elin) {Mae'n brasgamu allan gyda Mici yn ei dilyn.} | |
| (1, 0) 131 | Nefoedd─ma' isio gras hefo chdi! |
| (Deiniol) Dyro i mi sws. | |
| (Deiniol) {Mae'n ymbalfalu amdani.} | |
| (1, 0) 134 | Cad dy facha a rho hwn am dy ben. |
| (Deiniol) Un bach! | |
| (1, 0) 138 | Pam na wnest ti nghyfarfod i i de fel y gwnest ti addo, 'ta? |
| (Deiniol) Sws! | |
| (Deiniol) Sws! | |
| (1, 0) 140 | Y babi gwirion! |
| (1, 0) 142 | Nefoedd yr adar─'ti'n drewi fel bragdy! |
| (Deiniol) Dim isio fi, 'ta─dim isio fi... dŵad y gwir, rŵan, i ni gael dallt 'n gilydd. | |
| (Deiniol) Dim isio fi, 'ta─dim isio fi... dŵad y gwir, rŵan, i ni gael dallt 'n gilydd. | |
| (1, 0) 144 | Chdi ddaru ddim troi i fyny, llafn, nid fi! |
| (Deiniol) Mi gysgis i, do! | |
| (Deiniol) Mi gysgis i, do! | |
| (1, 0) 146 | Mi feddwist ti'n dwll. |
| (Deiniol) Ro'n i wedi blino, 'to'n─ma' hi 'di bod yn sison calad, dallt. | |
| (Deiniol) Ro'n i wedi blino, 'to'n─ma' hi 'di bod yn sison calad, dallt. | |
| (1, 0) 148 | Uffernol o galad, dd'wedwn i, ac ma' gin i hwn yn fan'ma i brofi, toes? |
| (Deiniol) Blydi hel! | |
| (1, 0) 152 | Be' dan ni'n mynd i'w neud, 'ta? |
| (Deiniol) Clyw!... dwi wedi deud wrthat ti, do... dwi wedi... dwi wedi... | |
| (Deiniol) Clyw!... dwi wedi deud wrthat ti, do... dwi wedi... dwi wedi... | |
| (1, 0) 154 | Deud y bydda i'n olreit... |
| (1, 0) 155 | Do! |
| (1, 0) 156 | 'Ti wedi deud hefyd dy fod ti'n mynd i ddeud wrthi hi. |
| (Deiniol) Do! | |
| (Deiniol) Dallt hynny─ac mi 'na i hefyd. | |
| (1, 0) 159 | Cyn y noson ola─dyna ddudist ti. |
| (Deiniol) Ac mi wna i, gwnaf─dwi wedi deud. | |
| (Deiniol) Ac mi wna i, gwnaf─dwi wedi deud. | |
| (1, 0) 161 | Ond ma' hi'n noson ola rŵan, 'tydi? |
| (Deiniol) Ro'n i wedi meddwl deud wrthi ar ôl y matiné. | |
| (Deiniol) Ro'n i wedi meddwl deud wrthi ar ôl y matiné. | |
| (1, 0) 163 | Ond mi est ti ar y botal. |
| (Deiniol) {Yn gweiddi.} | |
| (1, 0) 169 | Be' dw i i fod i neud, ta? |
| (Deiniol) Cau dy geg am chydig─taswn i'n cael chydig llai o hasyls gin ti. | |
| (Deiniol) Cau dy geg am chydig─taswn i'n cael chydig llai o hasyls gin ti. | |
| (1, 0) 171 | Hasyls─be' ddiawl 'ti'n 'i feddwl? |
| (Deiniol) Rho amsar i mi. | |
| (Deiniol) Rho amsar i mi. | |
| (1, 0) 173 | Mae o'n bedwar mis, wasi─mi fydd yma ym mis Mai. |
| (Deiniol) Dydi o ddim yn hawdd, dallt─chwartar canrif o fyw hefo rhywun a deud dy fod chdi wedi rhoi bynsan ym mhopty Dick Whittington. | |
| (1, 0) 176 | O! |
| (1, 0) 178 | 'Ti ddim yn gall, yn nac wyt... ti'n hollol boncyrs. |
| (Deiniol) 'Ti'n meddwl? | |
| (Deiniol) {Mae'n dechrau chwerthin hefyd.} | |
| (1, 0) 181 | Dic yn pregyrs a'i fam yn cael y bai. |
| (1, 0) 183 | Lle ma' hi rŵan? |
| (Deiniol) Pwy? | |
| (Deiniol) Pwy? | |
| (1, 0) 185 | Dy wraig di, pwy arall? |
| (Deiniol) Yn yr hotel... mi gyrhaeddodd neithiwr. | |
| (Deiniol) Yn yr hotel... mi gyrhaeddodd neithiwr. | |
| (1, 0) 187 | Ac mi fydd yn y parti heno? |
| (Elin) Ma' hwn yn clashio 'dwi'n gwybod, ond mi geith neud y tro. | |
| (1, 0) 205 | "O, 'di Mam ddim yma!" |
| (Deiniol) {Yn clywed hyn.} | |
| (Deiniol) Pa gân gynta? | |
| (1, 0) 217 | Ia, ond sut gallai..? |
| (Deiniol) 'Ti'n boncyrs ne' rwbath─fedar hi ddim canu'r gân gynta. | |
| (Maldwyn) Wel, ma' hi'n mynd i blydi gneud heno, llafn, gydag arddeliad. | |
| (1, 0) 220 | 'Ti'n deud 'mod i yn mynd i... |
| (Deiniol) Ond fedar hi ddim canu 'nghân i. | |
| (Maldwyn) Dim heno... 'i chân gynta hi dwi'n 'i feddwl. | |
| (1, 0) 225 | Ia, ond... |
| (Deiniol) Ond ma' honno'n dŵad yn syth ar ôl i mi waldio Dic a rhoi cic i'r gath, tydi... | |
| (Deiniol) ma' rhaid iddyn nhw 'ngweld i'n cam-drin yr hogyn. | |
| (1, 0) 231 | Ma' gynno fo bwynt yn fan'na. |
| (Maldwyn) Wnaiff o fawr o wahaniaeth... | |
| (Maldwyn) ma' cân Dic yn deud dy fod ti'n greulon, 'tydi? | |
| (1, 0) 234 | Iawn! |
| (Maldwyn) A dyna pam mae o'n 'i heglu hi i Lundain p'run bynnag. | |
| (Maldwyn) A dyna pam mae o'n 'i heglu hi i Lundain p'run bynnag. | |
| (1, 0) 236 | Ma' hynny'n ddigon gwir. |
| (Deiniol) Bolocs! | |
| (Deiniol) {Mae'n siglo.} | |
| (1, 0) 244 | Fedri di ddim sefyll yn iawn heb sôn am actio. |
| (1, 0) 246 | Reit, ar ôl yr intro, tipyn o ad-lib ac yn syth i'r gân gynta. |
| (Deiniol) Dim tra bydd chwythiad yno i─mi ddo i allan pan dwi i fod... | |
| (Deiniol) {Yn torri gwynt.} | |
| (1, 0) 252 | Sglyfath! |