| (Cân) Sdimbydineud-i-neud | |
| (0, 8) 376 | Helo. |
| (0, 8) 377 | A chroeso i'r sesiwn Dosbarth Meistr arbennig hon. |
| (0, 8) 378 | Mae'r ford, y bwrdd a'r gadair yn barod ar gyfer ymddangosiad y Meistr ei hun. |
| (0, 8) 379 | O – a dyma hi'n dod... |
| (0, 8) 380 | Arweinydd y cyngor. |
| (0, 8) 381 | Cyngor Sir Iawn. |
| (0, 8) 382 | ~ |
| (0, 8) 383 | Ac wrth iddi gymryd ei lle wrth y bwrdd, dyma gyfle i fi gyflwyno rhai ohonoch chi sydd ddim yn gyfarwydd â'r gêm i rai o'r rheolau mwyaf sylfaenol. |
| (0, 8) 384 | ~ |
| (0, 8) 385 | Fel y'ch chi'n gweld, mae'r bwrdd yn ymdebygu i fwrdd gwyddbwyll neu ddrafftiau. |
| (0, 8) 386 | Ond yn y fan honno, fwy neu lai, mae'r tebygrwydd yn gorffen. |
| (0, 8) 387 | Mae'r gêm cabiné – cabinet i'w roi yn ei ffurf Gymraeg – yn gêm go wahanol. |
| (0, 8) 388 | ~ |
| (0, 8) 389 | Yn y lle cyntaf, fel y gwelwch chi heno, gêm un chwaraewr yw hi. |
| (0, 8) 390 | Ac yn ail – fel y gwelwch chi wrth i'r darnau gael eu gosod, nid du a gwyn yw'r unig liwiau. |
| (0, 8) 391 | Eich pleidleisiau chi, gatre, wrth gwrs sydd wedi penderfynu faint o weision sydd gan y Chwaraewyr i'w gwthio o le i le. |
| (0, 8) 392 | Fel y gwelwch chi heno, ry' chi wedi rhoi i'r Meistr-Chwaraewr mwy o weision gwyrdd nag unrhyw liw arall. |
| (0, 8) 393 | Ond, am fod yma hefyd un gwas coch, twr o rai melyn ac ambell i un gwyn hefyd, does gan y Meistr-Chwaraewr ddim mwyafrif o'i phlaid. |
| (0, 8) 394 | Mae hi'n mynd i orfod chwarae gêm glyfar iawn fan hyn er mwyn ffurfio cabinet a fydd yn ei helpu i gadw rheolaeth ar fwrdd y chwarae. |
| (0, 8) 395 | ~ |
| (0, 8) 396 | Felly, wrth i'r cloc ar gyfer y sesiwn cyntaf hwn gael ei osod yn ei le... |
| (0, 8) 398 | Mae hi'n canolbwyntio'n galed... |
| (0, 8) 399 | Drychwch ar yr holl ganolbwyntio yna... |
| (0, 8) 400 | A... |
| (0, 8) 402 | Odi. |
| (0, 8) 403 | Mae hi wedi dechrau. |
| (0, 8) 404 | Beth fydd ei symudiad cyntaf, tybed? |
| (0, 8) 405 | Odi hi'n mynd i drio cael gwared ar rai o'r gweision melyn hynny sy'n sefyll yn ffordd ei gweision gwyrdd? |
| (0, 8) 407 | W! |
| (0, 8) 408 | Symudiad annisgwyl yn y fan honno. |
| (0, 8) 409 | Beth sydd yn ei meddwl, tybed? |
| (0, 8) 411 | Aha! |
| (0, 8) 413 | W! |
| (0, 8) 414 | Da iawn. |
| (0, 8) 415 | Symudiad da. |
| (0, 8) 416 | Fel ry' chi'n gweld, trwy'r symudiad yna mae'r meistr wedi troi gwas coch – yr unig was coch – yn was gwyrdd. |
| (0, 8) 417 | Coch yw e yn y gwaelod o hyd. |
| (0, 8) 418 | Ond gwyrdd yw e i bob golwg. |
| (0, 8) 419 | Symudiad craff iawn. |
| (0, 8) 423 | O – Ie. |
| (0, 8) 424 | Fel o'n i'n disgwyl, wedi gweld ei symudiad cyntaf, mae hi nawr wedi cyflawni'r un tric a dau was gwyn – dau chwaraewr annibynnol. |
| (0, 8) 425 | Un ohonyn nhw, rhyngddo chi a fi, a allai fod wedi peri tipyn bach o drafferth i'r Meistr. |
| (0, 8) 426 | Ond ma' hi wedi'i fachu a – ie... |
| (0, 8) 428 | ... fel y'ch chi'n gweld, eu troi o fod yn chwaraewyr annibynnol i fod yn weision gwyrdd. |
| (0, 8) 429 | I weld beth yw oblygiadau hynny, draw â ni at y ein sylwebydd, R Ben Igol. |