| (Mavis) {yn cerdded yn hamddenol o'r Aswy (A) i'r Dde (D)} Mae'n dda gan fy nu fod William wn cael lle fel clerc o dan Mr Davies! | |
| (Mavis) William anwyl! | |
| (1, 1) 29 | Ti gofi nghusan i ynte! |
| (Mavis) Chi, Mr Symonds, sydd yna! | |
| (Mavis) Rwy'n synnu atoch! | |
| (1, 1) 34 | Pe gallasech wel'd eich hun y funud yma, a deall mor dlos ydych, f'anwylyd brydferth, fysech chi'n synnu dim! |
| (Mavis) A ry chi'n galwch hunan yn foneddwr! | |
| (Mavis) Does dim gweithiwr yn Nghymru na fuase'n teimlo'i hunan yn ormod o wr bonheddig i insulto merch dd'amddiffyn! | |
| (1, 1) 37 | Does yma neb gwerth ei alw yn weithiwr ymhlith y Cymry! |
| (1, 1) 38 | Yr unig beth da welais i yn Nghymru yw'r merched; a chi, merch anwyl i, yw'r oreu welais i eto. |
| (Mavis) A dyma beth yw gyniad Sais am fod yn foneddwr! | |
| (Mavis) Insulto merched ifanc ar yr heol. | |
| (1, 1) 43 | Insulto! |
| (1, 1) 44 | Na! |
| (1, 1) 45 | Na talu compliment uchel i chi ow'n i, nghariad i. |
| (Mavis) Ry chi'n lwcus nad oes un o'r gweithwyr yr ydych chi'n edrych lawr arnyn' nhw yma nawr, neu fe gawsech wel'd! | |
| (Mavis) Ry chi'n lwcus nad oes un o'r gweithwyr yr ydych chi'n edrych lawr arnyn' nhw yma nawr, neu fe gawsech wel'd! | |
| (1, 1) 49 | Twt! |
| (1, 1) 50 | Merch fach i, peidiwch bod mor ddwl! |
| (1, 1) 51 | Fe ddwgais i un cusan oddiarnoch chi. |
| (1, 1) 52 | Rw i am fod yn onest, ac am ei roi yn ol i chi nawr. |
| (Mavis) {yn gwaeddi} Help! | |
| (1, 1) 63 | Y creadur impudent! |
| (1, 1) 64 | Pwy fusnes sy' gen ti i ymyryd a mi! |
| (Gruffydd) Mae yn fusnes pob dyn teilwng o'r enw i amddiffyn y gwan rhag cael cam! | |
| (Gruffydd) Mae yn fusnes pob dyn teilwng o'r enw i amddiffyn y gwan rhag cael cam! | |
| (1, 1) 66 | Ti gei weld! |
| (1, 1) 67 | Mi ro i'r sac iti ddydd Sadwrn, was i! |
| (Gruffydd) O'r goreu. | |
| (1, 1) 71 | Wnaiff hi byth o'r tro i Mr Wynn gael gwybod, neu fe gawswn y sac fy hunan! |
| (1, 1) 72 | Rhaid i fi geisio taflu llwch i'w llygaid hwynt! |
| (1, 1) 74 | Peidiwch gadael ini gwympo maes! |
| (1, 1) 75 | Chi wyddoch galla i fel manager wneud llawer o ddrwg i chi fel gweithiwr. |
| (Gruffydd) Gwnewch eich gwaethaf, tra bydd gen i gydwybod Ian. | |
| (Gruffydd) Gwnewch eich gwaethaf, tra bydd gen i gydwybod Ian. | |
| (1, 1) 77 | Ie, ie! |
| (1, 1) 78 | Ond 'dw i ddim am wneud niwed i chi'r dyn! |
| (1, 1) 79 | Dyma hanner sofren i chi. |
| (1, 1) 80 | Dow'n i'n meddwl dim drwg i'r ferch—a fe bryna i brooch beautiful yn bresent iddi yn Abertawe dydd Sadwrn fel iawn am yr hyn a wnaethum. |
| (Gruffydd) Nid wyf fi yn mofyn arian heb eu hennill, nac yn derbyn llwgrwobrwy chwaith. | |
| (1, 1) 88 | Ond fel mai byw fy enaid, chi gewch 'difaru eich dau gynifer gwelltyn sy ar eich pen! |
| (1, 1) 89 | Fe gadwa i lygad arnat ti Gruffydd Elias yn y gwaith, was i! |
| (1, 1) 90 | Ac am danat ti, Mavis, fe wna i ti fynd ar dy liniau o'm mlaen i eto am hyn, tae hi'n cymeryd dwy flynedd o amser i fi wneud hynny. |