Yr Hen Deiliwr

Cue-sheet for Tomos

(Sioni) Brau ac ansicr ydyw yr hen fywyd 'ma, ac i fynwent Llansilio y daw y trigolion o un i un.
 
(Scweier) Gwêd dy stori.
(1, 0) 163 Ma'r si ar lêd, syr, fod Beca a'i merched ar garlam wyllt drwy y gymdogaeth.
(Dafi) Hwre, bendigedig!
 
(Scweier) Cer ymlaen â dy stori, Twm, yn lle sefyll fel mwlsin fan 'na.
(1, 0) 167 'Rodd y cipar a finne yn câl bob o beint yn Tafarn Spite heno, pan ddaeth gwas Hafod Isa miwn gan waeddi yn wyllt tros y lle fod Beca a'i merched ar gefen ceffyle ar garlam wyllt drwy y lle, eu bod nhw wedi torri gât New Inn, ac eu bod ar eu ffordd i dorri gât Drefach; eu bod wedi gyrru i dŷ Salmon y Cybydd a'i dynnu o'i wely, a bwgwth llosgi ei helem wenith os na addewai roi help i bobol dlawd y plwy.
(1, 0) 168 Eu bod wedi cario plentyn Sian Pantfoel i dŷ Twm Sâr, a bwgwth towlu Twm i Bwll y Dibyn yn afon Teifi, os na wnai addaw priodi Sian.
(1, 0) 169 Yr oedd y ddau frawd gan fawr eu dychryn yn barod i addaw unrhyw beth.
(1, 0) 170 Yna fe aethant—