Dewis Anorfod

Ciw-restr ar gyfer Hobson

(Alice) O, y ti sydd 'na, Maggie.
 
(Maggie) {Dyry'r esgid yn ôl ac eistedd wrth y ddesc.}
(1, 0) 142 Maggie, rwy'n mynd allan am ryw chwarter awr.
 
(Maggie) Afu sydd yma i ginio heddiw,
(1, 0) 146 Mae awr o amser cyn cinio.
 
(Maggie) Os arhoswch chi fwy nag awr yn Y Bedol, fe fyddwch yn ddiweddar.
(1, 0) 149 Y Bedol?
(1, 0) 150 Pwy ddwedodd—?
 
(Vickey) Os bydd eich cinio wedi diflasu, arnoch chi y bydd y bai.
(1, 0) 153 Wel; wel, myn─
(Alice) Peidiwch â rhegi, nhad.
 
(Maggie) Rwy'n siwr fod Mr. Heeler yn aros am danoch yn Y Bedol, nhad.
(1, 0) 166 Gad iddo aros.
(1, 0) 167 Ar hyn o bryd rwy'i am gael gair â'r merched ffroen-uchel sydd yn fy nhŷ fy hun, a mae'n rhaid i chi wrando arna'i.
(1, 0) 168 Byth er pan fu'ch mam farw, rydych chi wedi ymroi i ennill y llaw ucha' arna'i.
(Vickey) Nhad, cewch fwy o hamdden i siarad â ni wedi inni gau'r siop heno.
 
(Vickey) {Mae hi'n awyddus i ddarllen.}
(1, 0) 171 Rwy'i'n siarad nawr, a chwithau'n gwrando.
(1, 0) 172 Fe drefnodd Rhagluniaeth i chi gael eich amddifadu o gyfarwydd eich mam yn yr adeg pan mae merched dibriod yn mynd yn ffroen-uchel ac yn mynnu cael rheoli rhywun.
(1, 0) 173 Ond cymrwch chi hyn genny', chewch chi ddim rheoli arna'i.
(Vickey) Rwy'n siwr nad ydw'i ddim yn ffroen-uchel, nhad.
 
(Vickey) Rwy'n siwr nad ydw'i ddim yn ffroen-uchel, nhad.
(1, 0) 175 Wyt, yr wyt ti.
(1, 0) 176 Rwyt yn ferch brydferth ond yr wyt yn ffroen-uchel, a mae merch ffroenuchel mor atgas imi a chyfreithiwr.
(Alice) Os awn ni i'r drafferth o baratoi bwyd i chi nid arwydd ein bod yn ffroen-uchel yw gofyn i chi beidio â bod yn ddiweddar i ginio.
 
(Vickey) Rhoi a chymryd yw hanes pawb, nhad.
(1, 0) 179 Ond y fi sy'n rhoi a chwithau'n cymryd, a rhaid cael pen ar hynny.
(Maggie) Faint o gyflog ydych chi'n roi inni?
 
(Maggie) Faint o gyflog ydych chi'n roi inni?
(1, 0) 181 Does a wnelo hynny ddim â'r mater
 
(1, 0) 183 Merched ffroen-uchel yw'r pwnc o dan sylw ar hyn o bryd, a rwy'n eich rhybuddio bod yn rhaid i chi newid yn hollol yn eich ymddygiad tuag at eich tad.
 
(1, 0) 185 Ac nid dim ond hynny yn unig.
(1, 0) 186 Peth o fewn cylch y teulu yw hynny.
(1, 0) 187 Rwy'i am son nawr am rywbeth arall, eich ymddygiad yn y cyhoedd.
(1, 0) 188 Rwy'i wedi sylwi ar 'mhlant yn cerdded y strydoedd ac wedi gwrido o gywilydd.
(1, 0) 189 Mae enw da Hobson wedi ei lychwino gan aelodau o deulu Hobson ei hun, a balchder ffroen-uchel yw'r achos o hynny.
(Vickey) Wn i yn y byd beth ydych chi'n feddwl.
 
(Vickey) Wn i yn y byd beth ydych chi'n feddwl.
(1, 0) 191 Rwyt yn dlos, Vickey, ond fe alli dithau ddweyd celwydd fel "gas-meter."
(1, 0) 192 Pwy oedd yn gwisgo dillad newydd yr wythnos ddiwetha?
(Alice) Rydych yn cyfeirio at Vickey a mi, debig.
 
(Alice) Rydych yn cyfeirio at Vickey a mi, debig.
(1, 0) 194 Ydw.
(Vickey) Fe wisgwn ni fel y mynnom, nhad, waeth i chi heb wastraffu'ch anadl.
 
(Vickey) Fe wisgwn ni fel y mynnom, nhad, waeth i chi heb wastraffu'ch anadl.
(1, 0) 196 Dwy'i ddim wedi aros i mewn y bore yma ac esgeuluso "business appointments" er mwyn arbed fy anadl.
(Vickey) Ond rydych yn hoffi 'ngweld i wedi gwisgo'n neis.
 
(Vickey) Ond rydych yn hoffi 'ngweld i wedi gwisgo'n neis.
(1, 0) 198 Ydw: rwy'n hoffi gweld fy merched wedi eu gwisgo'n neis.
 
(1, 0) 200 Dyna pam rwy'n talu deg punt ar hugain bob blwyddyn ì Mr. Tudsbury, y Draper, i'ch dilladu chi'n weddus.
(1, 0) 201 Mae hynny'n llonder i'r llygad ac yn fantais i fasnach.
(1, 0) 202 Ond deallwch hyn, pe gallasai rhai merched weld eu hunain fel mae dynion yn eu gweld, buasent yn cael "shock" ofnadwy.
(1, 0) 203 Ac fe fynna'i air â Tudsbury am adael i chi ddewis gwisgoedd fel bwganod.
 
(1, 0) 205 Fe'th welais di ac Alice drwy ffenestr parlwr Y Bedol nos Iau, a dyna 'nghyfaill Sam Minns─
(Alice) Tafarnwr!
 
(1, 0) 208 Ie, tafarnwr.
(1, 0) 209 Ond dyn cywir, cofia, mor gywir a gonest ag undyn â godwyd gan Ragluniaeth i gadw tafarn, merch i.
(1, 0) 210 Dyna 'nghyfaill, Sam Minns yn gofyn imi pwy yn y byd oeddech chi.
(1, 0) 211 Pa ryfedd!
(1, 0) 212 Roeddech yn cerdded i lawr Chapel Street a chlap mawr na luniwyd erioed gan natur ar waelod eich cefn.
(Alice) {Yn protestio.}
 
(Alice) Nhad!
(1, 0) 215 Ac roedd y clap yn siglo wrth i chi gerdded a chwithau'n sangu ar y ddaear fel pe buasai llosg-eira ar eich traed, ie, eich penliniau yn gwegian o'tanoch chi, ond a'ch pennau yn y gwynt yn warsyth a ffroen-uchel.
(1, 0) 216 Digywilydd-dra noeth!
(Alice) Na, nid digywilydd-dra, nhad; ond dyna'r ffasiwn—i wisgo "bustles."
 
(Alice) Na, nid digywilydd-dra, nhad; ond dyna'r ffasiwn—i wisgo "bustles."
(1, 0) 218 Ffasiwn y diawl, ddweda'i.
(Maggie) Nhad, nid yn Y Bedol rydych chi 'nawr.
 
(Vickey) {Yn codi.}
(1, 0) 222 Os ydyn' nhw rhywbeth yn debig ichi gwell genny' beidio.
(1, 0) 223 Rwy'i'n ddyn bucheddol.
(1, 0) 224 Hobson yw fy enw, aelod o'r dosbarth canol, asgwrn cefn ac addurn Teyrnas Loegr.
(1, 0) 225 Rwy'i'n sefyll dros synnwyr cyffredin a gonestrwydd barn.
(1, 0) 226 Rydych chi'n fursennaidd, a dyw hynny na synnwyr cyffredin na gonestrwydd.
(1, 0) 227 Rydych chi wedi peidio â gwisgo yn addas ac yn ceisio bod yn smart—{mae VICKEY yn eistedd}─nodweddion ffyliaid a phobl ddisens.
(1, 0) 228 Rydych chi'n anghofio urddas masnach a rhagoriaethau y Wladwriaeth Brydeinig, pethau sy'n dibynnu ar sefydlogrwydd meddwl y dosbarth canol, ynghyd â diwydrwydd y dosbarth gweithiol.
(1, 0) 229 Ond am danoch chi, rydych chi'n gwyro mewn barn; rydych chi'n gosod pethau diwerth o flaen pethau hanfodol.
(1, 0) 230 Os ydych am lanw eich lle ym mywyd Lancashire, os er am gadw eich lle yn nhy Hobson, rhaid ichi ddangos synnwyr cyffredin.
(Vickey) Ydych am inni wisgo fel merched y ffatris?
 
(Vickey) Ydych am inni wisgo fel merched y ffatris?
(1, 0) 232 Na, na fel merched Ffrainc chwaith.
(1, 0) 233 Dyw hynny ddim yn weddus yn y wlad hon.
(Alice) Fe ddaliwn ni i wisgo yn ol y ffasiwn, nhad.
 
(Alice) Fe ddaliwn ni i wisgo yn ol y ffasiwn, nhad.
(1, 0) 235 O'r gora.
(1, 0) 236 Dyma fi yn rhoi eich dewis i chi'ch dwy, ti Vickey ac Alice.
(1, 0) 237 Rhaid i chi ddangos synnwyr cyffredin os ydych i aros yn y tŷ hwn; dim rhagor o'r balchder ffôl yna sydd wedi gafael ynoch chi.
(1, 0) 238 Os nad ydych yn fodlon ar hynny cewch fynd oddiyma, a cheisio rhywun arall i ddiodde'ch ffolineb chi.
(1, 0) 239 Dych chi ddim yn sylweddoli byd mor dda sydd arnoch chi; ond fe ddowch i wybod fydda'i wedi gorffen â chi.
(1, 0) 240 Fe ddewisa'i bob o ŵr i chi, dyna beth wna'i.
(Alice) Allwn ni ddim dewis gwŷr inni ein hunain?
 
(Alice) Allwn ni ddim dewis gwŷr inni ein hunain?
(1, 0) 242 A minnau wedi bod am y pum munud diwetha 'ma yn dweyd wrthych nad ydych yn ffit i ddewis hyd yn oed eich dillad eich hunain!
(Maggie) Mae gennych lawer i'w ddweyd wrth Vickey ac Alice, nhad.
 
(Maggie) Beth am dana' i?
(1, 0) 245 Y ti?