Dewis Anorfod

Ciw-restr ar gyfer Maggie

(Alice) O, y ti sydd 'na, Maggie.
 
(Alice) A minnau'n gobeithio mai nhad oedd ar ei ffordd allan.
(1, 0) 27 Camsyniad wnest ti.
 
(Alice) Mae e'n hwyr y bore 'ma.
(1, 0) 30 'Roedd e'n hwyr yn codi.
 
(Vickey) Ydi e wedi cael brecwast, Maggie?
(1, 0) 34 Brecwast!
(1, 0) 35 Ar ol cinio'r Clwb neithiwr?
(Vickey) Fe fydd arno eisiau rhywbeth i godi tipyn ar ei galon felly.
 
(Albert) O!
(1, 0) 51 Beth gawn ni ddangos i chi y bore 'ma, Mr. Prosser?
(Albert) {Yn sefyll.}
 
(Albert) Wel, wir, alla'i ddim dweyd imi ddod yma gyda'r bwriad o brynu dim heddiw, Miss Hobson.
(1, 0) 54 Cadw siop yw'n busnes ni, wyddoch, ac felly allwn ni ddim gadael i bobl fynd a dod yma heb brynu dim.
(Albert) O'r gora: dewch â phâr o gareiau imi, os gwelwch chi'n dda.
 
(Albert) {Yn symud i'r dde.}
(1, 0) 57 Beth yw "size" eich sgidiau chi?
(Albert) "Eights."
 
(1, 0) 63 Na; ond hynny sy'n penderfynnu "size" y sgidiau.
 
(1, 0) 65 Eisteddwch, Mr. Prosser.
(Albert) {Yn eistedd.}
 
(Albert) {Y mae MAGGIE ar ei gliniau yn prysur ddatod es esgid.}
(1, 0) 69 Mae'n bryd i chi gael pâr o sgidiau newydd.
(1, 0) 70 Mae y rhain yn rhy hên a diolwg i ŵr o'ch safle chi.
(1, 0) 71 Estyn bâr o "eights" imi o'r silff yna, Vickey, os gweli di'n dda.
(1, 0) 72 ALICE
 
(1, 0) 74 Nid i brynu sgidiau y daeth Mr. Prosser yma, Maggie.
 
(1, 0) 76 'Sgwn i pam mae e'n dod i'r siop yma mor aml?
(Albert) Un ofnadwy wy' i am dorri careiau, Miss Maggie.
 
(Albert) Un ofnadwy wy' i am dorri careiau, Miss Maggie.
(1, 0) 80 A ydych yn treulio pâr o gareiau bob dydd?
(1, 0) 81 Mae'n rhaid eich bod yn gryf ofnadwy.
(Albert) 'Rwy'n cadw stoc o honynt wrth law rhag ofn.
 
(Albert) Mae'n well bod yn barod i'r gwaetha'.
(1, 0) 84 A nawr bydd gennych sgidiau newydd i fynd gyda'r careiau, Mr. Prosser.
(1, 0) 85 Sut mae honna'n teimlo?
(Albert) Yn gyfforddus iawn, wir.
 
(Albert) Yn gyfforddus iawn, wir.
(1, 0) 87 Treiwch chi ar eich sefyll.
(Albert) {Yn cerdded ychydig gamau.}
 
(Albert) Ydi; mae hi'n ffitio i'r dim.
(1, 0) 90 Gadewch imi wisgo'r llall i chi.
(Albert) O, na'n wir; does arna'i ddim eisiau pâr o sgidiau newydd ar hyn o bryd.
 
(1, 0) 93 Eisteddwch, Mr. Prosser.
(1, 0) 94 Allwch chi ddim mynd allan i'r stryd felna, un hên esgid sâl ac un esgid newydd, smart, am eich traed.
(Albert) Wel, beth yw pris y rhain, ynte?
 
(Albert) Wel, beth yw pris y rhain, ynte?
(1, 0) 97 Punt.
(Albert) Punt! ond─
 
(Albert) Punt! ond─
(1, 0) 99 Ond mae nhw'n sgidiau da, Mr. Prosser.
(1, 0) 100 Ac ni bydd rhaid i chi dalu am gareiau heddiw.
(1, 0) 101 Fe gewch bâr o gareiau newydd yn y fargen, careiau rhawn, bid siwr.
 
(1, 0) 103 Ond gan eich bod mor gryf ac yn torri cynifer, falle bydd yn well gennych gael careiau lledr.
(1, 0) 104 Gallwch eu cael, wrth gwrs, ond fe gostia rheiny ddwy geiniog yn rhagor i chi.
(Albert) Fe wna—fe wna y rhain y tro, diolch.
 
(Albert) Fe wna—fe wna y rhain y tro, diolch.
(1, 0) 106 O'r gora; a gwell i chi adael yr hên bâr yma i'w cywiro.
(1, 0) 107 Danfonaf hwynt i'ch ty chi fory gyda'r bil.
(Albert) {Gydag ochenaid.}
 
(Albert) Pe buasai rhywun wedi dweyd wrthyf fy mod yn dod i mewn yma i wario punt buaswn wedi ei alw'n ffŵl.
(1, 0) 113 Nid ydych wedi gwastraffu punt, coeliwch fi.
(1, 0) 114 Fe bery'r sgidiau yna'n hir, cewch weld.
(1, 0) 115 Bore da, Mr. Prosser.
 
(1, 0) 121 Dyna wers iddo gadw oddiyma am dipyn.
(1, 0) 122 Mae ganddo ormod o amser i'w wastraffu.
(Alice) Fe wyddost pam mae e'n dod yma.
 
(Alice) Fe wyddost pam mae e'n dod yma.
(1, 0) 124 Gwn y dylai dalu rhent am gael treulio cymaint o amser yma.
(1, 0) 125 Nid yw pris un pâr o gareiau yn hanner digon.
(1, 0) 126 Dod yma i syllu'n wirion arnat ti y mae e.
(1, 0) 127 Rwy'i wedi diflasu ar 'i weld e'.
 
(Alice) Mae o'r gora i hên ferch fel ti i siarad, ond gan fod nhad yn anfodlon inni fynd allan gyda bechgyn ifainc, ymhle arall y gall Albert a minnau gwrdd ond yn y siop pan fydd nhad ei hunan allan?
(1, 0) 130 Os yw e am dy briodi di, pam na wnaiff e hynny?
(Alice) Rhaid caru cyn priodi.
 
(Alice) Rhaid caru cyn priodi.
(1, 0) 132 Does dim rhaid iddi fod felly.
 
(1, 0) 134 Weli di'r bwcwl mawr gloyw ar yr esgid fach yma?
(1, 0) 135 Mae caru fel y bwcwl yma, merch i; rhywbeth gloyw ond hollol ddiangenrhaid.
 
(Hobson) {Yn symud i gyfeiriad y drws ar y chwith.}
(1, 0) 144 O'r gora, nhad; ond peidiwch â bod yn ddiweddar i ginio.
(1, 0) 145 Afu sydd yma i ginio heddiw,
(Hobson) Mae awr o amser cyn cinio.
 
(Hobson) {Yn mynd.}
(1, 0) 148 Os arhoswch chi fwy nag awr yn Y Bedol, fe fyddwch yn ddiweddar.
(Hobson) Y Bedol?
 
(Alice) Mae digon o chwant arna'i roi eitha gwers ichi bob un.
(1, 0) 165 Rwy'n siwr fod Mr. Heeler yn aros am danoch yn Y Bedol, nhad.
(Hobson) Gad iddo aros.
 
(Hobson) Ond y fi sy'n rhoi a chwithau'n cymryd, a rhaid cael pen ar hynny.
(1, 0) 180 Faint o gyflog ydych chi'n roi inni?
(Hobson) Does a wnelo hynny ddim â'r mater
 
(Hobson) Ffasiwn y diawl, ddweda'i.
(1, 0) 219 Nhad, nid yn Y Bedol rydych chi 'nawr.
(Vickey) Fe ddylech sylwi sut y mae boneddigesau eraill yn gwisgo.
 
(Hobson) A minnau wedi bod am y pum munud diwetha 'ma yn dweyd wrthych nad ydych yn ffit i ddewis hyd yn oed eich dillad eich hunain!
(1, 0) 243 Mae gennych lawer i'w ddweyd wrth Vickey ac Alice, nhad.
(1, 0) 244 Beth am dana' i?
(Hobson) Y ti?
 
(Hobson) {Yn troi i edrych arni mewn syndod.}
(1, 0) 247 Os ydych yn dewis gwŷr iddyn' nhw, oes gennych un mewn golwg imi?