Y Ddraenen Wen

Ciw-restr ar gyfer Desc

(1, 0) 1 Ystafell gysurus mewn Hotel â French window yn wynebu'r edrychwyr yn agor i'r balconi, a drws ar y dde.
(1, 0) 2 SYR TOMOS ar y balconi yn weledig i'r edrychwyry mae'n annerch yr etholwyr y tuallan ac yn diolch iddynt am ethol HARRI MEREDITH.
(1, 0) 3 Y SYR yw'r hen aelod a fu dros y rhanbarth am chwarter canrif, ond sydd erbyn hyn wedi ymddiswyddo.
(1, 0) 4 Y mae bywyd wedi ei galedu, ond edrychir ar MEREDITH fel un â digon o dalent ganddo i adael ei farc ar y wlad ond iddo chware ei gardiau'n ddeheuig.
(1, 0) 5 Yn gwrando wrth y ffenestr y mae OLIFER, aelod Seneddol Cymreig sy'n ffefryn mewn cylchoedd politicaidd, a'i wraig KITTY; NAN, gwraig MEREDITH, yn llawn uchelgais.
(1, 0) 6 Hefyd MR JONES-ROBERTS, gŵr mawr yn yr etholaeth, ond, fel y greadigaeth faterol (os gwir y dybiaeth), wedi codi o ddim; a MRS JONES-ROBERTS, ei wraig, o'r un dim.
(1, 0) 7 Y mae'r ddau wedi anghofio'r shop y gwnaethant eu harian ynddi, o leiaf nid yw ond atgof poenus, ond erys y shop o hyd yng nghof eu gelynion, ac nid yw eu cyfeillion chwaith yn anghofus ohoni.
(1, 0) 8 Wrth odre'r cwmni gwelir MABLI (oddeutu pymtheg oed), a MYRDDIN HUWS yn ysgrifennu wrth fwrdd ar ochr chwith yr ystafell─gŵr sydd â'i law a'i ddylanwad yn drwm ar y Wasg a'r blaid y perthyn iddi.
(Syr Tomos) Fel eich hen aelod, rwy'n diolch i chwi eto am ethol un o blant y Werin sydd hefyd yn gynnyrch diwylliant goreu'n gwlad, a phwy a ŵyr nad oes gennym yn Mr. Harri Meredith Owain Glyndŵr arall, ond Glyndŵr heb loyw arf ond ei gariad at ei wlad a'i athrylith i weini arni?
 
(Syr Tomos) Am y tro diweddaf, |three cheers| iddo ac hir oes i wasnaethu 'i genedl.
(1, 0) 11 Ar ôl y banllefain y tuallan a'r tufewn daw'r cwmni i'r ystafell.
(1, 0) 12 Eistedd OLIFER wrth yr un bwrdd a MYRDDIN a deil y ddau i ysgrifennu, ac â NAN a MABLI a KITTY allan.
(Mr Jones-Roberts) {Staccato yn ei ddull o siarad a defnydd mynych o'r spectol aur i gyfleu ei feddwl.}
 
(Mrs Jones-Roberts) Peidiwch ag anghofio'r |Hazels|─|not later than ten|!
(1, 0) 110 Y ddau yn mynd, a'r SYR yn curo'r awyr â'i gadach poced yn enbyd.}
(Myrddin) Be sy'n bod?
 
(Syr Tomos) |Wrong| eto, chymerais i'r un, roedd digon i'w cael.
(1, 0) 159 MRS. OLIFER yn mynd.
(Myrddin) Rwan Meredith─sylwn ni ddim ar goegni Syr Tomos, ond yn sicr i chi y mae llawer gwir yn well o'i gelu ac mi welwch hynny'n fuan ym myd politics.
 
(Harri) Diolch i chithau, Myrddin, am bob help yn yr etholiad, ond cofiwch nad wy'n rhwymo fy hun wrth neb─Syr Tomos na'r Wasg na'r Weinyddiaeth.
(1, 0) 224 Exit y ddau.
(Syr Tomos) Ryda ni'n tri wedi dod i'r casgliad fod yn rhaid agor dy lygaid cyn mynd i'r Senedd.
 
(Syr Tomos) Mae awyr y balconi yna'n well na lol fel hyn.
(1, 0) 233 A allan i'r balconi a daw MABLI i mewn gyda choronbleth o flodeu.
(Mabli) Rwyf wedi plethu coron o flodeu i roi ar eich pen.
 
(Syr Tomos) Yn ddistaw bach, mae o'n tynnu ar ôl ei fam mewn rhai pethau─mae o dipyn yn feistrolgar fel petai.
(1, 0) 301 Daw JANET MEREDITH i mewn â golwg wladaidd arni, tua thrigain a phump oed ond yn gadarn.
(Janet) Wel, Harri, mi gest d'ethol yn anrhydeddus.
 
(Nan) Raid i chwi ddim ofni hynny, a gwell cyngor iddo heddiw fasa'i annog i gyd-dynnu yn yr un harnis ag eraill.
(1, 0) 312 Daw MABLI i mewn a chwery gyda'r blodeu.
(Harri) {Yn dda ei dymer.}
 
(Harri) Am awr gyfa y mae pawb wedi bod wrthi yn stwffio cynghorion i lawr fy ngwddw─rhowch chware teg i greadur gwael.
(1, 0) 316 MABLI o'r tu ôl iddo'n gosod y goronbleth eto ar ei ben.}