Y Ddraenen Wen

Ciw-restr ar gyfer Harri

(Syr Tomos) Fel eich hen aelod, rwy'n diolch i chwi eto am ethol un o blant y Werin sydd hefyd yn gynnyrch diwylliant goreu'n gwlad, a phwy a ŵyr nad oes gennym yn Mr. Harri Meredith Owain Glyndŵr arall, ond Glyndŵr heb loyw arf ond ei gariad at ei wlad a'i athrylith i weini arni?
 
(1, 0) 28 Wel, wir, fûm i 'rioed yn meddwl dim o'r |honours| yma.
(Mrs Jones-Roberts) |Oh, you musn't say that|, Mr. Meredith; "teilwng i'r gweithiwr"─rych yn cofio'r adnod.
 
(1, 0) 56 |Hold on|, Syr Tomos, ddwedais i mo'r fath beth.
(Syr Tomos) {Yn ddigon dig i'w ladd yn y fan, ond yn gwenu.}
 
(1, 0) 67 Mi gadwa hynny mewn cof.
 
(1, 0) 69 Gwelaf fod f'eisiau islaw.
(Mrs Jones-Roberts) Good-bye, a chofiwch fod yr |Hazels| yn agored bob amser.
 
(1, 0) 122 A yw'r ddau yna wedi mynd?
(Syr Tomos) {Yn deimladwy.}
 
(1, 0) 128 Mae snobs Cymru yma'n ddiweddar yn annioddefol─rhyw daclau o dwll tan y grât yn dynwared stumiau snobs o Saeson.
(Syr Tomos) {Yn dringar.}
 
(Syr Tomos) Sebon, Harri, rhaid cael sebon ymhob cylch.
(1, 0) 131 Rwy'n ceisio bod o ddifri efo pawb.
(Syr Tomos) Nid bod o ddifri sy'n bwysig ond rhoi'r argraff dy fod o ddifri.
 
(Myrddin) "Yn awr y gollyngi dy was."
(1, 0) 136 Welwch chi, Syr Tomos, fe welodd rhywrai drwy'ch sebon a'ch──
 
(1, 0) 146 Mi fydd yn anodd iawn f'argyhoeddi i fod yn rhaid dweyd anwiredd i helpu'r gwir hyd yn oed mewn politics.
(Syr Tomos) {Yn ffug-bryderus.}
 
(1, 0) 162 Felly wir.
(Myrddin) Yng nghanol berw politics y mae pob diwygiwr penboeth naill ai'n cael ei rewi allan o'r blaid neu ynteu'n troi'n bolitisian doeth.
 
(1, 0) 165 "Call" yw'r gair goreu─politisian call.
(Olifer) {Yn gorffen wrth y bwrdd a dod ymlaen.}
 
(1, 0) 169 Rôg cyfrwys, politisian call, diwygiwr doeth: cyfrwys i uffern, call i'ch oes, a doeth i'r oesoedd.
(Olifer) Call neu ddoeth, 'dall neb roi'r un cam ymlaen mewn busnes na pholitics heb gompromeisio rhyw gymaint.
 
(1, 0) 172 Compromeisio─compromeisio, beth yn syml yw hynny?
(Syr Tomos) Yn syml dyna yw compromeisio─titotal sy'n cashau |ginger-beer| ond â blys cwrw arno yn torri'r ddadl drwy gymysgu'r ddau a gwneud yr hyn elwir yn shandigaff, a shandigaff o gelwydd a gwir yn gymysg yw busnes a pholitics y byd a'r oesoedd, a dyna fydd hi byth.'
 
(1, 0) 177 Pan oeddwn i'n hogyn yn y ffair mi wariais lawer ceiniog ar rywbeth elwid yn "Try your strength." Roedd rhyw baladr o ddyn pren at faint Syr Tomos yma, a'r pwynt oedd ei daro yn rhywle yn ei ganol {gan ddangos y smotyn ar gorff y SYR} ac wedyn roedd yna fath o gloc yn uwch i fyny ar frest y dyn pren fan yma {ar gorff y SYR o hyd} yn mesur nerth yr ergyd: thrawais i rioed rownd y cloc ond choelia í byth na fedrwn i heddiw.
 
(Myrddin) {Y ddau'n codi i fynd, a HARRI yn dod i mewn..}
(1, 0) 208 Ydach chi'n mynd?
(Myrddin) Rhaid mynd rwan.
 
(Syr Tomos) Ffarwel i chwi'ch dau─Latimer a Ridley Cymru, mi losgwch fel dwy gannwyll wêr.
(1, 0) 222 Ffarwel, Olifer.
(1, 0) 223 Diolch i chithau, Myrddin, am bob help yn yr etholiad, ond cofiwch nad wy'n rhwymo fy hun wrth neb─Syr Tomos na'r Wasg na'r Weinyddiaeth.
(Syr Tomos) Ryda ni'n tri wedi dod i'r casgliad fod yn rhaid agor dy lygaid cyn mynd i'r Senedd.
 
(Syr Tomos) Ryda ni'n tri wedi dod i'r casgliad fod yn rhaid agor dy lygaid cyn mynd i'r Senedd.
(1, 0) 226 Beth sydd o'i le arnyn' nhw?
(Syr Tomos) Y gwir plaen, rhyw hogyn mawr o freuddwydiwr wyt ti─byrbwyll, penstiff; a fi yw spesialist Ysbryd yr Oes i agor dy lygaid.
 
(1, 0) 229 Rwy'n gweld pobl gyffredin yr ydych chwi ac eraill wrth droi mewn cylchoedd artifisial cyfoeth a dysg wedi colli golwg arnynt ers talwm.
(Syr Tomos) {Wedi digio.}
 
(Mabli) Rwyf wedi plethu coron o flodeu i roi ar eich pen.
(1, 0) 235 Dy ben di yw'r clysa o bawb.
(Mabli) I chi mae rhein.
 
(Mabli) I chi mae rhein.
(1, 0) 237 Wel, rwan am dani.
(Mabli) Rhaid i chi fynd ar eich gliniau.
 
(Mabli) Rhaid i chi fynd ar eich gliniau.
(1, 0) 239 Pam?
(Mabli) Ar eu gliniau y mae pawb yn derbyn coron.
 
(1, 0) 242 Fel hyn?
(Mabli) Ie.
 
(Mabli) Coron wen ar ei ben: ond fe ddylech gael clôg o'ch cylch.
(1, 0) 246 Beth am y llian sydd ar y bwrdd?
(Mabli) I'r dim.
 
(1, 0) 251 Ydw i'n debyg i frenin?
(Mabli) Neisiach na dim brenin fu erioed.
 
(Syr Tomos) Pymtheg─ers plwc bellach.
(1, 0) 266 Hen lanc ydi o, Mabli, ac mae o'n drigain a phump os yn ddiwrnod.
(Mabli) Faint sy rhwng pymtheg a thrigain a phump?
 
(1, 0) 275 Wel rwan am dani.
(Syr Tomos) {Mewn ystum areithyddol o'r ffenestr.}
 
(1, 0) 284 Ydi mam wedi dod?
(Nan) {Yn ddig.}
 
(Nan) Harri, dyma'ch siawns ar ddechreu.
(1, 0) 291 Siawns i beth, Nan fach?
(Nan) {Yn ddreng.}
 
(1, 0) 297 Mae mam yn o hir yn dod.
(Nan) {Wrth y SYR yn wawdus.}
 
(1, 0) 314 Gormod o bwdin dagith gi.
(1, 0) 315 Am awr gyfa y mae pawb wedi bod wrthi yn stwffio cynghorion i lawr fy ngwddw─rhowch chware teg i greadur gwael.
 
(1, 0) 317 Mabli, rwyt ti'n werth Ty'r Arglwyddi a Thy'r Cyffredin gyda'i gilydd.
(Nan) {Yn neidio ymlaen ac yn tynnu'r blodeu oddiar ei ben.}
 
(Mabli) Rhoi coron o flodeu ar ben nhad oeddwn i.
(1, 0) 323 Wel ar fy ngair, wyddwn i ddim eich bod mor ofergoelus.
(Janet) Harri bach, y gwir yw nid wyf innau yn leicio gweld drain gwynion mewn ty.
 
(1, 0) 326 Grym annwyl, beth yw'r gwahaniaeth rhwng draenen wen a rhosyn coch: mae'r naill a'r llall yn pigo?
 
(1, 0) 328 Beth yw'r mater?