Y Ddraenen Wen

Ciw-restr ar gyfer Nan

(Syr Tomos) Fel eich hen aelod, rwy'n diolch i chwi eto am ethol un o blant y Werin sydd hefyd yn gynnyrch diwylliant goreu'n gwlad, a phwy a ŵyr nad oes gennym yn Mr. Harri Meredith Owain Glyndŵr arall, ond Glyndŵr heb loyw arf ond ei gariad at ei wlad a'i athrylith i weini arni?
 
(1, 0) 281 Harri! oddiwrth y Prifweinidog; rwyf wedi ei agor.
 
(1, 0) 286 Mi fasa dyn yn meddwl oddiwrth eich dull mai teligram oddiwrth ysgubwr simneu yw hwn.
(Syr Tomos) Fachgen, fachgen!
 
(1, 0) 290 Harri, dyma'ch siawns ar ddechreu.
(Harri) Siawns i beth, Nan fach?
 
(1, 0) 293 Siawns i ddod ymlaen, bid siwr.
(1, 0) 294 Pan fo pawb yng Nghymru yn crafangu am swyddau, mae'n deg i un sydd wedi gwneud cymaint o waith tawel a chi gael ei gydnabod.
(Syr Tomos) Wel di, Harri, mae hwn {yn dal y teligram} naill ai'n em yn dy goron neu'n hoelen yn dy arch.
 
(1, 0) 299 Ei fam, ei fam yw popeth.
(Syr Tomos) Yn ddistaw bach, mae o'n tynnu ar ôl ei fam mewn rhai pethau─mae o dipyn yn feistrolgar fel petai.
 
(1, 0) 311 Raid i chwi ddim ofni hynny, a gwell cyngor iddo heddiw fasa'i annog i gyd-dynnu yn yr un harnis ag eraill.
(Harri) {Yn dda ei dymer.}
 
(1, 0) 319 Mabli, peth anlwcus iawn yw drain gwynion mewn ty.
(Mabli) {Wedi dychryn braidd.}
 
(Harri) Beth yw'r mater?
(1, 0) 329 Dim ond fod y ddraenen wedi rhoi pigiad imi.