Y Ddraenen Wen

Ciw-restr ar gyfer Olifer

(Syr Tomos) Fel eich hen aelod, rwy'n diolch i chwi eto am ethol un o blant y Werin sydd hefyd yn gynnyrch diwylliant goreu'n gwlad, a phwy a ŵyr nad oes gennym yn Mr. Harri Meredith Owain Glyndŵr arall, ond Glyndŵr heb loyw arf ond ei gariad at ei wlad a'i athrylith i weini arni?
 
(Syr Tomos) Rhaid cael gwared o'r ddau |atmosphere| yna.
(1, 0) 115 Mae Myrddin a finnau'n gorfod cysgu yno heno.
 
(Syr Tomos) Fasa waeth gen i gysgu ar lwyn o gelyn, ond myn brain! 'does dim |tact| yn Harri.
(1, 0) 118 Fasa fo byth ar ben y pôl onibae am danom ni'n tri.
(Myrddin) Wneiff o ddim ohoni yn y senedd efo'i lol am frawdoliaeth y cenhedloedd─|political morality| fy nain: chwi sy'n gyfrifol am i ni ei ddewis.
 
(1, 0) 167 Beth yw'r gwahaniaeth?
(Harri) {Yn egniol.}
 
(Harri) Rôg cyfrwys, politisian call, diwygiwr doeth: cyfrwys i uffern, call i'ch oes, a doeth i'r oesoedd.
(1, 0) 170 Call neu ddoeth, 'dall neb roi'r un cam ymlaen mewn busnes na pholitics heb gompromeisio rhyw gymaint.
(Harri) {Yn danllyd.}
 
(1, 0) 190 Yr ydach chi'n cymryd yn ganiataol fod yn rhaid i ddyn werthu'i gydwybod os am lwyddo fel masnachwr neu bolitisian.
(Syr Tomos) Sut yr oedd yr hen chware gynt?
 
(Syr Tomos) "Dros y bont neu drwy'r caea," ac ymlaen fel yna, a'r gamp oedd peidio dweyd ïe, ond dweyd ïe yr oeddym bob cynnig mewn ffordd rownd-abowt.
(1, 0) 195 Wel?