Panto

Ciw-restr ar gyfer Maldwyn

(Deiniol) {Yn neidio ar ei draed mewn dychryn.}
 
(Sera) 'Ti 'di mynd yn rhy bell rŵan, 'ngwas i.
(1, 0) 65 'Ti'n gwbod faint o'r gloch ydi hi?
(Deiniol) Coed tân, myn diawl─dau swllt y bwndal.
 
(Sera) Mae o'n feddw gaib beipan.
(1, 0) 71 Llawn at 'i styds.
(Elin) {Yn dal y ffrog o'i flaen.}
 
(Deiniol) Nid fi ddaru... dwi ddim yn talu...
(1, 0) 75 Tyn y trowsus 'na.
(Deiniol) W!
 
(Sera) Tri munud sgin ti.
(1, 0) 80 Dau.
(1, 0) 81 Ma'r |overture| hanner ffordd drosodd... o, be 'na i?
 
(1, 0) 84 Elli di 'i strejio hi dipyn.
 
(1, 0) 86 Dam!
(Mici) Alla i fod o help?
 
(Elin) Ma' hwn yn clashio 'dwi'n gwybod, ond mi geith neud y tro.
(1, 0) 192 Reit!
(1, 0) 193 Dwi wedi newid y dechra.
(Deiniol) Gwatsia di rŵan, 'y ngwas i.
 
(1, 0) 197 Ar ôl yr agoriad, dwi am i chdi ddeud wrth y gath...
(Deiniol) {Yn gweiddi.}
 
(Deiniol) A dyma chi unwaith eto, y feri dyn... a'r unig un─Robert Deiniol.
(1, 0) 200 'Nei di gau dy hopran!
 
(1, 0) 202 Dwi am i ti ddeud wrth y gath...
(1, 0) 203 "O, 'di Mam ddim yma!"
(Sera) {Yn ailadrodd.}
 
(Deiniol) Y?
(1, 0) 208 Mi ddudith y gath 'Miaw'─ne' 'Pyrr'... ne' rwbio... ne' beth bynnag uffern liciwch chi...
(Deiniol) Hei!
 
(1, 0) 212 'Gei di ddeud wedyn...
(1, 0) 213 "Falla 'i bod hi 'di cael 'i dal yn rhwla."
(Deiniol) Dal yn lle... hei... gwranda'r weiran gaws...
 
(Deiniol) Dal yn lle... hei... gwranda'r weiran gaws...
(1, 0) 215 Dos yn syth wedyn i'r gân gynta.
(Deiniol) Pa gân gynta?
 
(Deiniol) 'Ti'n boncyrs ne' rwbath─fedar hi ddim canu'r gân gynta.
(1, 0) 219 Wel, ma' hi'n mynd i blydi gneud heno, llafn, gydag arddeliad.
(Sera) 'Ti'n deud 'mod i yn mynd i...
 
(Deiniol) Ond fedar hi ddim canu 'nghân i.
(1, 0) 222 Dwi ddim yn sôn am dy gân di.
(Deiniol) Ond dyna'r gân gynta.
 
(Deiniol) Ond dyna'r gân gynta.
(1, 0) 224 Dim heno... 'i chân gynta hi dwi'n 'i feddwl.
(Sera) Ia, ond...
 
(Sera) Ma' gynno fo bwynt yn fan'na.
(1, 0) 232 Wnaiff o fawr o wahaniaeth...
(1, 0) 233 ma' cân Dic yn deud dy fod ti'n greulon, 'tydi?
(Sera) Iawn!
 
(Sera) Iawn!
(1, 0) 235 A dyna pam mae o'n 'i heglu hi i Lundain p'run bynnag.
(Sera) Ma' hynny'n ddigon gwir.
 
(Deiniol) Bolocs!
(1, 0) 238 Hi sy'n canu gynta.
(Deiniol) Fi sy'n canu gynta, wasi bach...
 
(Deiniol) fi ma'n nhw'n 'i weld gynta ar y llwyfan 'na─ma' hynny yn 'y nghontract i, swîti pei!
(1, 0) 241 Ydi o yn dy gontract di hefyd y gelli di fynd allan ar y llwyfan 'na'n feddw dwll beipan?
(Deiniol) Gwatsia di be' 'ti'n 'i ddeud, coc oen...
 
(Deiniol) {Yn cyfeirio at Sera.}
(1, 0) 259 Stwffia hwnna i lawr 'i gorn claga fo─falla sobrith o ddigon i'r drydedd sgets.
 
(1, 0) 261 Reit!
(1, 0) 262 Munud i'r codi!
 
(Deiniol) A be' mae |o|'n mynd i'w ddeud─'ti 'di meddwl am hynny?
(1, 0) 265 Pwy 'di |o|?
(Deiniol) Yr awdur, mêt.
 
(Deiniol) Be' mae o'n mynd i'w neud pan glywith o dy fod ti'n poitsian 'i sgript o?
(1, 0) 268 Clyw!
(1, 0) 269 Doedd hwnnw ddim yn nabod 'i sgript 'i hun y noson gynta─heb sôn am be' dach chi 'di neud iddo fo wedyn.
(Deiniol) A be' am y cynhyrchydd?
 
(1, 0) 273 Mi geith hwnnw fynd i fyny unrhyw wal mae o isio.
(1, 0) 274 Fi sy wedi dal y sioe 'ma wrth 'i gilydd am y tri mis dwytha.
(1, 0) 275 Fi, dallt!
(1, 0) 276 Fi sy wedi gorfod delio hefo'ch tantryms chi.
(1, 0) 277 Fi sy di gorfod chwysu trwy pob creisys... a be' mae o'n 'i neud?...
(1, 0) 278 Dŵad wrtha i...
(1, 0) 279 gwneud blydi ffilm i S4C ar gweirio moch bach a ballu.
(1, 0) 280 Os dudith y bastard bach diegwyddor hwnnw air wrtha i, mi setla i o unwaith ac am byth hefo C.C.C.
(1, 0) 281 Chaiff o ddim digon o grant i gynnal penny reading...
 
(1, 0) 283 Ac os ei di'n agos i'r llwyfan 'na cyn y drydedd sgets...
(1, 0) 284 ne' os gnei di rwbath fydd yn stompio petha...
(1, 0) 285 mi fyddi di'n chwara extra yn Pobl y Cwm weddill dy oes!
(Deiniol) Oes rhaid i ni gael hwnna mor uchel?
 
(Elin) Mwy o'r 'ballu' ddwedwn i.
(1, 0) 518 Sut mae o rŵan?
(Elin) Fel y gweli di o.
 
(Elin) Fel y gweli di o.
(1, 0) 520 Ydi o 'di yfad 'i goffi?
(Elin) Mygeidia o'r sglyfath!
 
(1, 0) 523 Ti'n ffit?
(Deiniol) {Yn ffyrnig.}
 
(1, 0) 532 Roist ti goffi iddo fo?
(Elin) Dwi 'di deud wrthat ti─mae o 'di yfad fel ych ar dranc.
 
(Elin) Dwi 'di deud wrthat ti─mae o 'di yfad fel ych ar dranc.
(1, 0) 534 Ond mae o'n waeth rŵan nag oedd o gynna.
(Deiniol) Ac mi wn i be' 'ti'n trio'i neud, wasi─o gwn.
 
(Deiniol) Ches i ddim coleg drama fel y gweddill ohonach chi, ond dwi'n dallt, dallt.
(1, 0) 538 Wnaiff o byth y sgets nesa...
(Deiniol) Fi i gario'r bwcad olch!
 
(Elin) Honci ponci pw!
(1, 0) 548 Ond ma' rhaid iddo fo ddal Dic yn y goedwig a mynd â fo'n ôl.