Panto

Ciw-restr ar gyfer Sera

(Deiniol) {Yn neidio ar ei draed mewn dychryn.}
 
(Deiniol) Dach chi 'di malu'r blydi drws.
(1, 0) 64 'Ti 'di mynd yn rhy bell rŵan, 'ngwas i.
(Maldwyn) 'Ti'n gwbod faint o'r gloch ydi hi?
 
(Deiniol) {Yn chwerthin.}
(1, 0) 70 Mae o'n feddw gaib beipan.
(Maldwyn) Llawn at 'i styds.
 
(Elin) Sgynnon ni ddim amser i dy jôc sglyfaethus di─gollwng o.
(1, 0) 79 Tri munud sgin ti.
(Maldwyn) Dau.
 
(1, 0) 99 Dim cythral o beryg, cefndar!
 
(1, 0) 101 Ca' warad o honna!
(Deiniol) Hold on, Defi John!
 
(1, 0) 106 'Ti'n gall?...
(1, 0) 107 Wyt ti'n blydi call?
 
(1, 0) 109 'Tisio colli dy job?
(Deiniol) Mi'i colla i hi eniwê ar ôl heno.
 
(Elin) Belt?
(1, 0) 114 Be'?
(Elin) Lle mae'r belt piws 'di mynd?
 
(Mici) Yn y ffinale─mi daflodd o'i felt i'r gynulleidfa.
(1, 0) 122 Do, dwi'n cofio.
(Elin) I be' nath o beth felly?
 
(Elin) {Mae'n brasgamu allan gyda Mici yn ei dilyn.}
(1, 0) 131 Nefoedd─ma' isio gras hefo chdi!
(Deiniol) Dyro i mi sws.
 
(Deiniol) {Mae'n ymbalfalu amdani.}
(1, 0) 134 Cad dy facha a rho hwn am dy ben.
 
(Deiniol) Un bach!
(1, 0) 138 Pam na wnest ti nghyfarfod i i de fel y gwnest ti addo, 'ta?
(Deiniol) Sws!
 
(Deiniol) Sws!
(1, 0) 140 Y babi gwirion!
 
(1, 0) 142 Nefoedd yr adar─'ti'n drewi fel bragdy!
(Deiniol) Dim isio fi, 'ta─dim isio fi... dŵad y gwir, rŵan, i ni gael dallt 'n gilydd.
 
(Deiniol) Dim isio fi, 'ta─dim isio fi... dŵad y gwir, rŵan, i ni gael dallt 'n gilydd.
(1, 0) 144 Chdi ddaru ddim troi i fyny, llafn, nid fi!
(Deiniol) Mi gysgis i, do!
 
(Deiniol) Mi gysgis i, do!
(1, 0) 146 Mi feddwist ti'n dwll.
(Deiniol) Ro'n i wedi blino, 'to'n─ma' hi 'di bod yn sison calad, dallt.
 
(Deiniol) Ro'n i wedi blino, 'to'n─ma' hi 'di bod yn sison calad, dallt.
(1, 0) 148 Uffernol o galad, dd'wedwn i, ac ma' gin i hwn yn fan'ma i brofi, toes?
 
(Deiniol) Blydi hel!
(1, 0) 152 Be' dan ni'n mynd i'w neud, 'ta?
(Deiniol) Clyw!... dwi wedi deud wrthat ti, do... dwi wedi... dwi wedi...
 
(Deiniol) Clyw!... dwi wedi deud wrthat ti, do... dwi wedi... dwi wedi...
(1, 0) 154 Deud y bydda i'n olreit...
(1, 0) 155 Do!
(1, 0) 156 'Ti wedi deud hefyd dy fod ti'n mynd i ddeud wrthi hi.
(Deiniol) Do!
 
(Deiniol) Dallt hynny─ac mi 'na i hefyd.
(1, 0) 159 Cyn y noson ola─dyna ddudist ti.
(Deiniol) Ac mi wna i, gwnaf─dwi wedi deud.
 
(Deiniol) Ac mi wna i, gwnaf─dwi wedi deud.
(1, 0) 161 Ond ma' hi'n noson ola rŵan, 'tydi?
(Deiniol) Ro'n i wedi meddwl deud wrthi ar ôl y matiné.
 
(Deiniol) Ro'n i wedi meddwl deud wrthi ar ôl y matiné.
(1, 0) 163 Ond mi est ti ar y botal.
(Deiniol) {Yn gweiddi.}
 
(1, 0) 169 Be' dw i i fod i neud, ta?
(Deiniol) Cau dy geg am chydig─taswn i'n cael chydig llai o hasyls gin ti.
 
(Deiniol) Cau dy geg am chydig─taswn i'n cael chydig llai o hasyls gin ti.
(1, 0) 171 Hasyls─be' ddiawl 'ti'n 'i feddwl?
(Deiniol) Rho amsar i mi.
 
(Deiniol) Rho amsar i mi.
(1, 0) 173 Mae o'n bedwar mis, wasi─mi fydd yma ym mis Mai.
(Deiniol) Dydi o ddim yn hawdd, dallt─chwartar canrif o fyw hefo rhywun a deud dy fod chdi wedi rhoi bynsan ym mhopty Dick Whittington.
 
(1, 0) 176 O!
 
(1, 0) 178 'Ti ddim yn gall, yn nac wyt... ti'n hollol boncyrs.
(Deiniol) 'Ti'n meddwl?
 
(Deiniol) {Mae'n dechrau chwerthin hefyd.}
(1, 0) 181 Dic yn pregyrs a'i fam yn cael y bai.
 
(1, 0) 183 Lle ma' hi rŵan?
(Deiniol) Pwy?
 
(Deiniol) Pwy?
(1, 0) 185 Dy wraig di, pwy arall?
(Deiniol) Yn yr hotel... mi gyrhaeddodd neithiwr.
 
(Deiniol) Yn yr hotel... mi gyrhaeddodd neithiwr.
(1, 0) 187 Ac mi fydd yn y parti heno?
(Elin) Ma' hwn yn clashio 'dwi'n gwybod, ond mi geith neud y tro.
 
(1, 0) 205 "O, 'di Mam ddim yma!"
(Deiniol) {Yn clywed hyn.}
 
(Deiniol) Pa gân gynta?
(1, 0) 217 Ia, ond sut gallai..?
(Deiniol) 'Ti'n boncyrs ne' rwbath─fedar hi ddim canu'r gân gynta.
 
(Maldwyn) Wel, ma' hi'n mynd i blydi gneud heno, llafn, gydag arddeliad.
(1, 0) 220 'Ti'n deud 'mod i yn mynd i...
(Deiniol) Ond fedar hi ddim canu 'nghân i.
 
(Maldwyn) Dim heno... 'i chân gynta hi dwi'n 'i feddwl.
(1, 0) 225 Ia, ond...
(Deiniol) Ond ma' honno'n dŵad yn syth ar ôl i mi waldio Dic a rhoi cic i'r gath, tydi...
 
(Deiniol) ma' rhaid iddyn nhw 'ngweld i'n cam-drin yr hogyn.
(1, 0) 231 Ma' gynno fo bwynt yn fan'na.
(Maldwyn) Wnaiff o fawr o wahaniaeth...
 
(Maldwyn) ma' cân Dic yn deud dy fod ti'n greulon, 'tydi?
(1, 0) 234 Iawn!
(Maldwyn) A dyna pam mae o'n 'i heglu hi i Lundain p'run bynnag.
 
(Maldwyn) A dyna pam mae o'n 'i heglu hi i Lundain p'run bynnag.
(1, 0) 236 Ma' hynny'n ddigon gwir.
(Deiniol) Bolocs!
 
(Deiniol) {Mae'n siglo.}
(1, 0) 244 Fedri di ddim sefyll yn iawn heb sôn am actio.
 
(1, 0) 246 Reit, ar ôl yr intro, tipyn o ad-lib ac yn syth i'r gân gynta.
(Deiniol) Dim tra bydd chwythiad yno i─mi ddo i allan pan dwi i fod...
 
(Deiniol) {Yn torri gwynt.}
(1, 0) 252 Sglyfath!