Rhywun Wrth y Drws

Ciw-restr ar gyfer Dr Hughes

(Meredith) Fedra' i ddim diodde' yn hir iawn eto, na fedraf wir.
 
(Mrs Morris) Felly mae'n edrych.
(1, 0) 440 Ydy hi'n dda am gadw cyfrifon hefyd?
(Morris) Mae hi wedi cael digon o brofiad yn ystod y ddwy flynedd ddwaetha' 'ma.
 
(Mrs Morris) Wel mi ddowch yn ôl a chael swper efo ni ynte' Doctor?
(1, 0) 453 Does gen i ond eisio galw mewn un lle.
(1, 0) 454 Mi ddo i yn ôl wedyn.
(Mrs Morris) Diolch i chi.
 
(Morris) Ydych chi ar frys Doctor?
(1, 0) 458 Ddim o gwbwl.
(Morris) Ga' i sgwrs bach efo chi?
 
(Morris) Ga' i sgwrs bach efo chi?
(1, 0) 460 Can croeso.
(Morris) Gadewch i ni eistedd i lawr ynte'.
 
(Morris) D'wedwch i mi, ddar'u chi sylwi bod yna rywbeth yn rhyfedd yn Gladys?
(1, 0) 465 Gynna', pan oedd hi yma, ydych chi'n ei feddwl?
(Morris) Ie, yn ei hymddygiad ata' i.
 
(1, 0) 469 Wel, rhaid cyfadde', fedrai dyn ddim llai na sylwi bod eich gwraig... hm...
(Morris) Wel?
 
(Morris) Wel?
(1, 0) 471 Nad ydy'r wraig ddim yn rhyw hoff iawn o Miss Parry.
(Morris) Ai dyna'r cwbwl?
 
(Morris) Rydw i wedi sylwi ar hynny fy hun.
(1, 0) 474 A rhaid i mi dd'eud, 'dydy hynny'n synnu dim arna' i.
(Morris) Be'?
 
(Morris) Be'?
(1, 0) 476 Nad ydy hi'n hollol fodlon eich bod chi'n gweld cymaint ar ddynes arall drwy'r dydd a phob dydd.
(Morris) Nâc ydy siŵr.
 
(Morris) Ond mae unrhyw newid yn amhosib.
(1, 0) 480 Allech chi ddim cyflogi clarc?
(1, 0) 481 Dyn felly?
(Morris) Rhywun rywun, fasai'n ei gynnig ei hun.
 
(Morris) Ddim diolch; wnâi hynny byth 'mo'r tro i mi.
(1, 0) 484 Ond os ydy'ch gwraig...?
(1, 0) 485 Meddyliwch am funud am y gwendid mae hi ynddo fo.
(1, 0) 486 Beth pe byddai hyn oll yn ormod iddi hi?
(Morris) Wel, bron na dd'wedwn i, 'does 'mo'r help.
 
(Morris) Fedrai neb arall gymryd ei lle hi.
(1, 0) 490 Neb arall?
(Morris) {Yn gwta.}
 
(1, 0) 494 Yn awr, gwrandewch arna' i Mr Morris annwyl.
(1, 0) 495 Ga' i ofyn cwestiwn i chi, rhyngon ni'n dau yn unig?
(Morris) Ar bob cyfri'.
 
(Morris) Ar bob cyfri'.
(1, 0) 497 Mae gan ferched, ydych chi'n gweld, ryw reddfa' sensitif eithriadol ynglŷn â rhai petha'.
(Morris) Oes wir.
 
(Morris) Does dim gronyn o amheuaeth ynghylch hynny... ond...
(1, 0) 500 D'wedwch wrtha i rŵan, os na all eich gwraig ddiodde'r Gwyneth Parry 'ma.
(Morris) Ie.
 
(Morris) Be' wedyn?
(1, 0) 503 Oes ganddi hi ddim, oes ganddi hi ddim,... wel... y mymryn lleia' o reswm dros y drwglecio greddfol yma?
(Morris) {Yn edrych arno a chodi.}
 
(Morris) Oho!
(1, 0) 506 Rŵan peidiwch â digio... ond oes 'na ddim?
(Morris) {Yn gwta a phendant.}
 
(Morris) Nâc oes.
(1, 0) 509 Dim math o reswm?
(Morris) Dim byd ond ei natur ddrwgdybus hi ei hun.
 
(Morris) Dim byd ond ei natur ddrwgdybus hi ei hun.
(1, 0) 511 Rydw i'n gwybod i chi fod efo llawer o ferched yn eich oes.
(Morris) Do mi fûm i.
 
(Morris) Do mi fûm i.
(1, 0) 513 A rhai ohonyn nhw wedi mynd â'ch bryd, hefyd?
(Morris) O do, 'nâ' i ddim gwadu.
 
(Morris) O do, 'nâ' i ddim gwadu.
(1, 0) 515 Ond ynglŷn â Miss Parry.
(1, 0) 516 Does dim byd felly yn ei hachos hi?
(Morris) Na, dim o gwbwl o'm hochor i.
 
(Morris) Na, dim o gwbwl o'm hochor i.
(1, 0) 518 Ond o'i hochor hi?
(Morris) Dydw i ddim yn meddwl bod gennych chi hawl i ofyn y cwestiwn yna, Doctor.
 
(Morris) Dydw i ddim yn meddwl bod gennych chi hawl i ofyn y cwestiwn yna, Doctor.
(1, 0) 520 Am yr hyn a elwir yn sythwelediad neu reddf eich gwraig yr oedden ni'n sôn, mi gofiwch chi.
(Morris) Digon gwir.
 
(Morris) A chyn belled â hynny... {gostwng ei lais} mewn ffordd... dydy Gladys ddim ymhell iawn o'i lle efo'i greddf fel rydych chi'n galw'r peth.
(1, 0) 523 Aha.
(1, 0) 524 Dyna ni!
(Morris) {Eistedd i lawr.}
 
(Morris) Dr Hughes rydw i am dd'eud stori ryfedd wrthych chi os leciwch chi wrando ami hi.
(1, 0) 527 Mi fydda' i'n hoffi gwrando ar straeon rhyfedd.
(Morris) O'r gora' ynte'.
 
(Morris) Rydych chi'n cofio, mae'n siŵr, i mi gymryd Owen Meredith a'i fab i weithio i mi wedi i fusnes yr hen frawd fynd i'r gwellt.
(1, 0) 530 Ydw rydw i'n cofio rhywbeth am hynny.
(Morris) Mae'r ddau yma, mewn gwirionedd, yn ddynion clyfar.
 
(1, 0) 536 Ie, on'd ydy o'n hen arferiad cas, yr hen awydd priodi 'ma?
(Morris) Yn hollol.
 
(Morris) Mae o'n dda ofnadwy efo mathemateg, clandro straen pwysa' ac ati.
(1, 0) 541 Ie, mae hynny'n bwysig iawn, mae'n sicir.
(Morris) Yn bendant.
 
(Morris) 'Doedd wiw sôn am ddim arall.
(1, 0) 545 Ond mae o wedi aros efo chi er hynny.
(Morris) Ydy.
 
(Morris) A phan welais i gymaint yr oedd y ddau wedi gwirioni am ei gilydd, mi drawodd arna' i; petawn i ddim ond yn medru ei chael hi i'r swyddfa yma, yna efallai y b'asai Elwyn yn aros hefyd.
(1, 0) 551 Syniad campus.
(Morris) Ie, ond ar y pryd, ddwedais i ddim gair o'r hyn oedd ar fy meddwl i.
 
(Morris) Wedyn mi aeth.
(1, 0) 556 O, ac wedi hynny?
(Morris) Wel, ynte', y diwrnod wedyn, yn hwyr gyda'r nos wedi i'r hen Feredith ac Elwyn fynd adre dyma hi yma'r eilwaith gan ymddwyn fel petawn i wedi g'neud rhyw drefniant efo hi.
 
(Morris) Wel, ynte', y diwrnod wedyn, yn hwyr gyda'r nos wedi i'r hen Feredith ac Elwyn fynd adre dyma hi yma'r eilwaith gan ymddwyn fel petawn i wedi g'neud rhyw drefniant efo hi.
(1, 0) 558 Trefniant, ynghylch be'?
(Morris) Ynghylch yr union beth yr oeddwn i wedi bod yn meddwl amdano fo.
 
(Morris) Ond 'doeddwn i ddim wedi sôn gair am y peth.
(1, 0) 561 Roedd hynny'n od iawn.
(Morris) Oedd.
 
(Morris) A wedyn roedd hi eisio gwybod beth oedd hi i'w 'neud yma, a fyddai hi'n iawn iddi hi ddechra'r bore wedyn ac ati.
(1, 0) 565 Ydych chi ddim yn meddwl mai er mwyn bod efo'i chariad y gwnaeth hi hynny?
(Morris) Dyna ddaeth i'm meddwl inna' i gychwyn.
 
(Morris) Roedd hi i'w gweld yn llithro i ffwrdd yn llwyr oddi wrtho fo unwaith y daeth hi yma ata' i.
(1, 0) 569 Mi lithrodd hi tuag atoch chi ynte'.
(Morris) Do'n gyfangwbwl.
 
(Morris) Be' 'ddyliech chi o hyn 'na?
(1, 0) 574 Hm.
(1, 0) 575 'Dydy hynny ddim yn anodd iawn ei egluro.
(Morris) Ond be' am y peth arall?
 
(Morris) Fedrwch chi egluro hyn 'na Doctor Hughes?
(1, 0) 579 Na, cheisia' i ddim g'neud hynny.
(Morris) Roeddwn i'n siŵr na 'naech chi ddim; dyna pam yr ydw i wedi bod yn anfodlon siarad am y peth o'r blaen.
 
(Morris) Achos os rhed hi i ffwrdd yna bydd Elwyn yn mynd hefyd.
(1, 0) 587 Dydych chi ddim wedi d'eud y stori'n iawn wrth eich gwraig?
(Morris) Naddo.
 
(Morris) Naddo.
(1, 0) 589 Pam ar y ddaear na newch chi ynte'?
(Morris) Oherwydd 'mod i fel petawn i'n cael rhyw bleser wrth adael i Gladys 'neud cam efo mi.
 
(Morris) Oherwydd 'mod i fel petawn i'n cael rhyw bleser wrth adael i Gladys 'neud cam efo mi.
(1, 0) 591 'Wn i yn y byd be' ydych chi'n ei feddwl.
(Morris) Mae o fel talu'n ôl rhyw gyfran fach, g'neud iawn am ryw ddyled ofnadwy o fawr.
 
(Morris) Mae o fel talu'n ôl rhyw gyfran fach, g'neud iawn am ryw ddyled ofnadwy o fawr.
(1, 0) 593 I'ch gwraig?
(Morris) Ie.
 
(Morris) Mae rhywun yn cael ei wynt ato am ysbaid, ydych chi'n gweld?
(1, 0) 597 Nâc ydw.
(1, 0) 598 Y nefoedd a ŵyr.
(1, 0) 599 Dydw i ddim yn gweld o gwbwl...
(Morris) {Yn rhoi'r gorau i'r testun a chodi eto.}
 
(1, 0) 607 Eich tynnu chi allan?
(1, 0) 608 Unwaith eto rydw i yn y niwl Mr Morris.
(Morris) Dowch.
 
(Morris) Allan â hi, achos rydw i'n ei gweld hi fel haul, wyddoch chi.
(1, 0) 611 Be' ydych chi'n ei weld?
(Morris) {Yn araf mewn llais isel.}
 
(Morris) Eich bod chi wedi bod yn cadw llygad arna' i'n slei.
(1, 0) 614 Fy mod i?
(1, 0) 615 A pham ar y ddaear y g'nawn i hynny?
(Morris) Am eich bod chi'n meddwl 'mod i...
 
(Morris) Wel twt, dam, rydych chi'n meddwl yr un peth â Gladys amdana' i.
(1, 0) 619 A be' mae hi'n ei feddwl amdanoch chi?
(Morris) {Wedi ei adfeddiannu ei hun.}
 
(Morris) Mae hi wedi dechra' meddwl 'mod i'n, 'mod i'n... sâl.
(1, 0) 622 Yn sâl?
(1, 0) 623 Chi?
(1, 0) 624 Ddar'u hi erioed gymaint ag awgrymu'r fath beth wrtha i.
(1, 0) 625 Be' all fod o'i le arnoch chi, gyfaill annwyl?
(Morris) {Gan blygu dros gefn y gadair a sibrwd.}
 
(1, 0) 630 O, chwarae teg Isaac Morris annwyl...
(Morris) Ydy ar fy ngwir.
 
(1, 0) 637 Isaac Morris, wnes i erioed ddychmygu'r fath beth.
(Morris) {Gyda gwên i ddangos nad yw'n coelio.}
 
(Morris) O ddifri?
(1, 0) 641 Naddo erioed.
(1, 0) 642 A 'naeth eich gwraig ddim chwaith rydw i'n berffaith siŵr.
(1, 0) 643 Mi awn ar fy llw.
(Morris) Chynghorwn i mohonoch chi i 'neud hynny.
 
(Morris) Ydych chi'n gweld, efallai nad ydy hi ymhell iawn o'i lle yn meddwl peth felly.
(1, 0) 646 Dowch rŵan.
(1, 0) 647 Mae'n rhaid i mi dd'eud...
(Morris) {Ar ei draws gan chwifìo'i law.}
 
(Morris) Ond edrychwch yma rŵan Doctor; hm...
(1, 0) 653 Wel?
(Morris) Gan nad ydych chi'n meddwl 'mod i'n sâl nâc o 'ngho nâc wedi d'rysu ac yn y blaen...
 
(Morris) Gan nad ydych chi'n meddwl 'mod i'n sâl nâc o 'ngho nâc wedi d'rysu ac yn y blaen...
(1, 0) 655 Be' wedyn?
(Morris) Rydych chi'n cario'r syniad 'mod i'n ddyn hapus ryfeddol debyg geni?
 
(Morris) Rydych chi'n cario'r syniad 'mod i'n ddyn hapus ryfeddol debyg geni?
(1, 0) 657 Nid camsyniad ydy hynny siŵr?
(Morris) {Yn chwerthin.}
 
(Morris) Mae gen i le mawr i fod yn ddiolchgar.
(1, 0) 663 Yn hollol.
(1, 0) 664 I bob golwg rydych chi wedi bod yn ffodus tu hwnt, rhaid i mi dd'eud.
(Morris) {Gan guddio gwên brudd.}
 
(Morris) 'Does gen i ddim lle i gwyno am hynny.
(1, 0) 668 Yn y lle cynta' mi losgwyd yr hen hongo o dŷ mawr yna oedd gennych chi.
(1, 0) 669 Roedd hynny'n siŵr o fod yn ddigwyddiad lwcus iawn i chi.
(Morris) Cartre' teulu Gladys oedd o er hynny, cofiwch.
 
(Morris) Cartre' teulu Gladys oedd o er hynny, cofiwch.
(1, 0) 671 Roedd o'n loes mawr iddi hi, siŵr o fod.
(Morris) 'Dydy hi byth wedi dod drosto fo, ers deuddeng mlynedd neu dair ar ddeg.
 
(Morris) 'Dydy hi byth wedi dod drosto fo, ers deuddeng mlynedd neu dair ar ddeg.
(1, 0) 673 Ie ond mae'n rhaid mai'r hyn a ddigwyddodd wedyn roddodd yr ergyd fwya' iddi hi.
(Morris) Y ddau beth efo'i gilydd.
 
(Morris) Y ddau beth efo'i gilydd.
(1, 0) 675 Ond o'r adfeilion hynny y dar'u chi godi.
(1, 0) 676 Mi ddechreusoch chi yn hogyn tlawd mewn pentref gwledig ond erbyn heddiw chi ydy prif adeiladwr y lle yma.
(1, 0) 677 Ydy wir, mae ffawd wedi bod o'ch plaid chi, yn ddi-os.
(Morris) {Yn edrych yn amheus arno.}
 
(Morris) Ydy, ond dyna'r union beth sy'n peri cymaint o ofn i mi.
(1, 0) 680 Ofn?
(1, 0) 681 Am fod ffawd o'ch plaid chi?
(Morris) Mae'n ddychryn i mi, yn ddychryn i mi bob awr o'r dydd.
 
(Morris) Achos, yn hwyr neu'n hwyrach mi fydd fy lwc i'n troi, welwch chi.
(1, 0) 684 Twt lol.
(1, 0) 685 Be' allai beri i'ch lwc chi droi?
(Morris) {Yn gryf a sicr.}
 
(Morris) Y genhedlaeth newydd!
(1, 0) 688 Y genhedlaeth newydd, twt.
(1, 0) 689 'Dydych chi ddim yn mynd i lawr yr allt eisoes gobeithio.
(1, 0) 690 Na, mae eich safle chi yma yn gadarnach nag y bu hi erioed, siŵr o fod.
(Morris) Bydd fy lwc yn troi.
 
(1, 0) 698 Wel diar annwyl, os dôn nhw?
(Morris) Pan ddôn nhw, dyna ddiwedd Isaac Ryan Morris, yr adeiladwr wedyn.
 
(Morris) Glywsoch chi ddim byd?
(1, 0) 703 Mae rhywun yn curo.
(Morris) {Yn uchel.}
 
(1, 0) 720 Ond rydw i'n eich cofio chi, 'ngeneth annwyl i.
(Helen) {Yn falch.}
 
(Helen) O, chi oedd yn...
(1, 0) 723 Ie, wrth gwrs.
 
(1, 0) 725 Mi ddar'u ni gyfarfod mewn gwesty yn y mynyddoedd yr ha' d'waetha'.
(1, 0) 726 Be' ddaeth o'r merched eraill?
(Helen) O, mi aethon nhw draw tua'r gorllewin.
 
(Helen) O, mi aethon nhw draw tua'r gorllewin.
(1, 0) 728 Roedden nhw'n ddig braidd ein bod ni'n cael cymaint o hwyl gyda'r nosa'...
(Helen) Oedden, 'dw i'n meddwl.
 
(1, 0) 731 A 'does dim gwadu na ddar'u chi fflyrtio dipyn bach efo ni.
(Helen) Wel, roedd hynny'n fwy o hwyl nag eiste' yno'n yfed te efo'r hen wragedd rheini.
 
(1, 0) 734 Cytuno'n hollol.
(Morris) Heno y daethoch chi i'r dre 'ma?
 
(Helen) Ie, newydd gyrraedd.
(1, 0) 737 Ar eich pen eich hun bach, Miss O'Reilly?
(Helen) Siwr iawn.
 
(Helen) Roeddwn i'n un deg tair.
(1, 0) 756 Dyma'r tro cynta' i chi ddod i'r dre', Miss O'Reilly?
(Helen) Yep.
 
(Morris) Rŵan mi a' i i dd'eud wrth fy ngwraig.
(1, 0) 781 Yn y cyfamser mi a' 'inna' i weld un o'r cleifion.
(Morris) le, dyna chi.
 
(1, 0) 785 O mi 'na' i hynny gellwch fod yn berffaith siŵr.
 
(1, 0) 787 Mae'r hyn oeddech chi'n ei broffwydo wedi dod yn wir Mr Morris.
(Morris) Sut felly?
 
(Morris) Sut felly?
(1, 0) 789 Mae'r to ifanc wedi dod i guro ar eich drws chi.
(Morris) {Yn siriol.}
 
(Morris) Ond mewn ffordd wahanol iawn i'r un oedd gen i mewn golwg.
(1, 0) 793 Ie, gwahanol iawn.
(1, 0) 794 Does dim gwadu hynny.
(Morris) Gladys, dowch yma os gwelwch chi'n dda.
 
(Morris) Yr ifanc yn amddiffynfa yn erbyn yr ifanc...
(1, 0) 1261 Helo.
(1, 0) 1262 Ydych chi a Miss O'Reilly yma o hyd?
(Morris) Rydyn ni wedi bod yn siarad am bob math o betha'.
 
(Helen) Hen a newydd.
(1, 0) 1265 Ydych chi wir?
(Helen) Sôn am hwyl.
 
(3, 0) 2600 Ydych chi'n eistedd allan, a hwyrach dal annwyd Mrs Morris?
(Mrs Morris) Mae hi reit braf a chynnes yma heddiw.
 
(Mrs Morris) Mae hi reit braf a chynnes yma heddiw.
(3, 0) 2602 Ydy mae hi.
(3, 0) 2603 Ond ydy popeth yn iawn yma?
(3, 0) 2604 Mi ges i neges ffôn gennych chi.
(Mrs Morris) {Yn codi.}
 
(Mrs Morris) Mae na rywbeth mae'n rhaid i mi siarad amdano efo chi.
(3, 0) 2607 O'r gora'.
(3, 0) 2608 Fyddai'n well i ni fynd i'r tŷ?
 
(3, 0) 2610 Yn eich dillad mynydda o hyd, Miss O'Reilly?
(Helen) {Yn codi ac ateb yn llon. Yn dangos ei hesgidiau a'i sanau, a chwiban a fflachlamp hwyrach.}
 
(Helen) Mi arhoswn ni'n dau'n ddistaw yn y gwaelod a sbïo, Doctor.
(3, 0) 2616 Be gawn ni weld?
(Mrs Morris) {Yn ddistaw ac wedi dychryn; wrth Helen.}
 
(Mrs Morris) Ga' i air efo chi?
(3, 0) 2630 Amdano fo?
(Mrs Morris) Ie wir.
 
(Mrs Morris) Ac wrth gysylltu hynny ag ambell i beth a glywais i o'i hun yn ei dd'eud...
(3, 0) 3028 Ydy o'n dod yn o fuan?
(Mrs Morris) Ydy, rydw i'n meddwl, rydw i wedi gyrru amdano fo beth bynnag.
 
(3, 0) 3031 F'asai hi ddim gwell i chi fynd i'r tŷ, Mrs Morris?
(Mrs Morris) Na, na.
 
(Mrs Morris) Mi arhosa' i allan yma i ddisgwyl Isaac.
(3, 0) 3034 Ond mae rhyw ferched wedi galw i'ch gweld chi.
(Mrs Morris) O'r annwyl, rhywbeth arall, a'r funud yma o bob adeg.
 
(Mrs Morris) O'r annwyl, rhywbeth arall, a'r funud yma o bob adeg.
(3, 0) 3036 Mae nhw'n d'eud eu bod nhw'n awyddus i weld y seremoni.
(Mrs Morris) O! wel, rhaid imi fynd atyn' nhw wedi'r cwbwl debyg.
 
(Mrs Morris) Mae'n ddyletswydd arna' i.
(3, 0) 3039 Fedrwch chi ddim gofyn iddyn' nhw alw eto?
(Mrs Morris) Na.
 
(Mrs Morris) Ond da chi, arhoswch chi allan yma i'w dderbyn o pan ddaw o.
(3, 0) 3044 A thrio'i ddal o i siarad cyhyd ag y medrwn ni.
(Mrs Morris) Ia, os gwelwch chi'n dda.
 
(3, 0) 3051 Dyma fo, mae o'n dod.
(Mrs Morris) A minna'n gorfod mynd i'r tŷ.
 
(3, 0) 3054 Peidiwch â sôn wrtho fo 'mod i yma.
(Helen) Na' i ddim.
 
(3, 0) 3256 Mi welwch mod i'n iawn.
(3, 0) 3257 Mae o wedi rhoi o'r neilltu'r syniad gwirion.
(Mrs Morris) O'r fath ryddhad.
 
(3, 0) 3264 Ie wir, Miss O'Reilly.
(3, 0) 3265 Rydych chi'n gwybod sut i ddal eich gafael yn rhywun pan rowch chi'ch meddwl ar hynny.
(Elwyn) {Yn mygu chwerthiniad a sibrwd yn isel.}
 
(3, 0) 3298 Edrychwch.
(3, 0) 3299 Dacw'r fforman yn dechra' dringo'r ysgol.
(Mrs Morris) A mae o'n cario'r |wreath| hefyd.
 
(Mrs Morris) Isaac!
(3, 0) 3312 Hsht, hsht.
(3, 0) 3313 Peidiwch â gweiddi arno fo.
(Mrs Morris) {Wedi colli arni ei hun.}
 
(3, 0) 3318 Peidiwch â symud.
(3, 0) 3319 Yr un ohonoch chi.
(3, 0) 3320 Dim smic.
(Helen) {Heb symud ond yn dilyn Morris â'i llygaid.}
 
(Mrs Morris) Fedra' i ddim diodde' edrych!
(3, 0) 3333 Gwell i chi beidio edrych.
(Helen) Dyna i chi.
 
(Helen) Reit yn y top!
(3, 0) 3337 Neb i symud.
(3, 0) 3338 Ydych chi'n clywed?
(Helen) {Yn dawel orfoleddus.}
 
(Helen) Hwre i'r adeiladwr!
(3, 0) 3371 Peidiwch.
(3, 0) 3372 Yn enw'r nefoedd, peidiwch...