Rhywun Wrth y Drws

Ciw-restr ar gyfer Morris

(Meredith) Fedra' i ddim diodde' yn hir iawn eto, na fedraf wir.
 
(1, 0) 51 Ydyn nhw wedi mynd?
(Gwyneth) {Yn isel gan ysgwyd ei phen.}
 
(1, 0) 58 Be. ydych chi'n ei deipio Miss Parry?
(Gwyneth) O, dim ond rhywbeth a...
 
(Gwyneth) O, dim ond rhywbeth a...
(1, 0) 60 Gadewch i mi weld.
 
(1, 0) 62 Gwyneth.
(Gwyneth) {Y'n isel ac yn dal i deipio.}
 
(Gwyneth) Wel?
(1, 0) 65 Pam y byddwch chi'n tynnu eich sbectol bob tro y bydda' i'n cyrraedd?
(Gwyneth) O, mae hi'n hyll i mi.
 
(1, 0) 68 Wnâi hi mo'r tro i fod felly?
(Gwyneth) Ddim am bris yn y byd, o'ch blaen chi.
 
(1, 0) 71 Gwyneth bach, annwyl.
(Gwyneth) Hisht.
 
(1, 0) 75 Alwodd rhywun i ngweld i?
(Elwyn) {Yn codi.}
 
(1, 0) 79 O'r rheini.
(1, 0) 80 Rhaid iddyn nhw ddisgwyl.
(1, 0) 81 'Dydw i ddim yn berffaith glir ynghylch y plania' eto.
(Elwyn) {Yn dod ymlaen yn betrus.}
 
(Elwyn) Roedden nhw'n awyddus iawn i weld y cynllunia' ar unwaith.
(1, 0) 84 O, oedden reit siŵr; felly y maen nhw i gyd.
(Meredith) Maen nhw'n ysu am gael mynd i dŷ o'u heiddo'u hunain, medden nhw.
 
(Meredith) Maen nhw'n ysu am gael mynd i dŷ o'u heiddo'u hunain, medden nhw.
(1, 0) 86 Ydyn, ydyn.
(1, 0) 87 Rydyn ni'n gwybod hynny.
(1, 0) 88 Yn fodlon derbyn beth bynnag a gynigir iddyn nhw debyg.
(1, 0) 89 Cael to uwch eu penna', ac enw, ond dim y medrwch chi ei alw yn gartre'.
(1, 0) 90 Ddim diolch.
(1, 0) 91 Os felly mae hi gadewch iddyn nhw chwilio am rywun arall!
(1, 0) 92 Mi ellwch dd'eud hynny wrthyn nhw y tro nesa' y galwan nhw.
(Meredith) {Gwthia ei sbectol am ei dalcen ac edrych arno mewn syndod.}
 
(1, 0) 97 B'aswn 'nenw'r Tad.
(1, 0) 98 A gwynt teg ar eu hola' nhw, os felly mae hi i fod.
(1, 0) 99 Mi fyddai hynny'n well na chodi tŷ heb wybod b'le rydw i'n sefyll.
(1, 0) 100 Heblaw hynny, 'chydig iawn a wn i am y bobol yma hyd yn hyn.
(Meredith) Mae'r bobol yn iawn.
 
(Meredith) Mae o'n gyfaill i'r teulu; pobol berffaith onest.
(1, 0) 104 Gonest, o ddigon gonest.
(1, 0) 105 Nid dyna ydw i'n 'i feddwl.
(1, 0) 106 Duw annwyl, ydych chitha' ddim yn fy neall i chwaith?
 
(1, 0) 108 'Na i ddim byd â'r bobol ddiarth 'ma.
(1, 0) 109 Mi gân' nhw ofyn i bwy fynnon nhw o'm rhan i.
(Meredith) Ydych chi o ddifri?
 
(1, 0) 112 Ydw ar ei phen, am unwaith.
(Meredith) Ga' i air neu ddau efo chi?
 
(Meredith) Ga' i air neu ddau efo chi?
(1, 0) 114 Wrth reswm.
(Meredith) {Wrth Gwyneth.}
 
(Meredith) Does arna' i ddim eisio i'r plant druain yma wybod pa mor sâl ydw i.
(1, 0) 124 Ie, rydych chi wedi bod yn edrych yn wael yn ddiweddar yma.
(Meredith) Mi fydd y cwbwl ar ben arna' i reit fuan.
 
(Meredith) Rydw i'n gwanio bob dydd.
(1, 0) 127 Steddwch chi ddim?
(Meredith) Os ca' i.
 
(1, 0) 131 Dyma chi.
(1, 0) 132 Cymerwch y gadair yma.
(1, 0) 133 A rŵan?
(Meredith) {Wedi eistedd gydag anhawster.}
 
(Meredith) Be' ddaw ohono fo?
(1, 0) 138 Wel mi gaiff y mab aros yma efo mi, wrth gwrs, cyhyd ag y mynn o.
(Meredith) Ond dyna'r union beth na fynn o.
 
(Meredith) Mae o'n teimlo na fedr o aros ddim hwy.
(1, 0) 141 Tewch.
(1, 0) 142 Mae hi'n eitha' arno yma 'ddyliwn i.
(1, 0) 143 Ond os eisio mwy o gyflog mae o, f'aswn i ddim yn gwrthod ystyried...
(Meredith) Na, na.
 
(1, 0) 148 Ydych chi'n meddwl y gwnâi Elwyn rywbeth ohoni hi ar ei ben ei hun?
(Meredith) Wel, nâc ydw.
 
(Meredith) Dydy o ddim yn ddidalent, yn fy marn i.
(1, 0) 153 Wel 'dydy o ddim wedi dysgu dim byd yn drwyadl felly, ar wahân i dipyn ar bapur, wrth gwrs.
(Meredith) {Gan edrych arno â chasineb dirgel, dywaid yn gras.}
 
(Meredith) Digon 'chydig wyddech chi o'r busnes pan oeddech chi'n gweithio i mi ond ddar'u hynny 'mo'ch rhwystro chi rhag dechra' arni {yn anadlu'n drwm} a'ch gwthio'ch hun i fyny, a dwyn y gwynt o'm hwylia' i a phobol eraill.
(1, 0) 156 Ie, roedd amgylchiada' o 'mhlaid i, welwch chi.
(Meredith) Rydych chi'n iawn.
 
(1, 0) 162 Hi sy'n dymuno hynny?
(Meredith) Nid Gwyneth yn gymaint ag Elwyn.
 
(1, 0) 169 Fedrwch chi ddim disgwyl i mi dynnu gwaith o'r awyr.
(Meredith) Mae ganddo fo gyfle am waith ardderchog y funud yma; job reit fawr.
 
(1, 0) 172 Oes?
(Meredith) Pe rhoech chi'ch caniatâd.
 
(Meredith) Pe rhoech chi'ch caniatâd.
(1, 0) 174 Sut fath o waith ydy o?
(Meredith) {Yn betrus braidd.}
 
(Meredith) Mi gaiff 'neud y tŷ yna draw ym Mrynfelin.
(1, 0) 177 Hwnnw.
(1, 0) 178 Rydw i'n mynd i godi hwnnw fy hun.
(Meredith) Ond 'does dim llawer o wahaniaeth gennych chi.
 
(1, 0) 181 Dim gwahaniaeth gen i.
(1, 0) 182 Nâc oes?
(1, 0) 183 Pwy sy'n meiddio d'eud hynny?
(Meredith) Mi dd'wed'soch chi hynny eich hun gynna'.
 
(Meredith) Mi dd'wed'soch chi hynny eich hun gynna'.
(1, 0) 185 Twt, twt.
(1, 0) 186 Peidiwch â chymryd sylw o be' fydda' i'n ei dd'eud.
(1, 0) 187 F'asen nhw yn rhoi'r gwaith yna i Elwyn?
(Meredith) B'asen.
 
(Meredith) A pheth arall, mae o wedi g'neud plania', ─ o ran 'myrraeth felly, a rhoi amcan o'r gost ac ati...
(1, 0) 191 Ydyn nhw'n hoffi'r cynllunia'?
(1, 0) 192 Y bobol fydd yn mynd i fyw yno.
(Meredith) Ydyn.
 
(Meredith) Dim ond i chi edrych arnyn nhw a rhoi eich caniatâd.
(1, 0) 195 Mi fasen nhw'n gadael i Elwyn adeiladu eu cartref iddyn nhw?
(Meredith) Roedden nhw wrth eu bodd efo'i syniada' fo; gwreiddiol iawn, medden nhw.
 
(Meredith) Roedden nhw wrth eu bodd efo'i syniada' fo; gwreiddiol iawn, medden nhw.
(1, 0) 197 Oho! gwreiddiol ai e?
(1, 0) 198 Ddim mor hen ffasiwn â'r petha' fydda' i'n eu g'neud debyg.
(Meredith) Eu gweld nhw'n wahanol rywsut yr oedden nhw.
 
(1, 0) 201 Felly i weld Elwyn y daethon nhw yma pan oeddwn i allan?
(Meredith) Galw i'ch gweld chi ddar'u nhw ac ar yr un pryd gofyn a fyddai wahaniaeth gennych chi roi'r gora' i'r gwaith.
 
(1, 0) 204 Rhoi'r gora' iddi.
(Meredith) A chaniatâu eich bod chi'n meddwl bod plania' Elwyn...
 
(Meredith) A chaniatâu eich bod chi'n meddwl bod plania' Elwyn...
(1, 0) 206 Fi.
(1, 0) 207 Rhoi'r gora' iddi hi, i 'neud lle i'ch mab chi!
(Meredith) Tynnu'n ôl o'r cytundeb oedden nhw'n ei feddwl.
 
(Meredith) Tynnu'n ôl o'r cytundeb oedden nhw'n ei feddwl.
(1, 0) 209 O, 'run peth yn union.
 
(1, 0) 211 A felly mae hi ai e?
(1, 0) 212 Ydy hi'n bryd i Ryan Morris feddwl am hel ei bac i neud lle i ddynion fengach, y fenga un o bosib?
(1, 0) 213 Mae'n rhaid iddo fynd o'r ffordd... i 'neud lle.
(Meredith) Pam 'nenw'r Tad?
 
(Meredith) Mae 'na le i fwy nag un, debyg.
(1, 0) 216 O, does 'na ddim cymaint â hynny o le yn sbâr chwaith.
(1, 0) 217 Ond p'run bynnag, riteiria' i ddim byth.
(1, 0) 218 'Ro' i 'mo fy lle i neb os medra' i beidio.
(1, 0) 219 Byth dragywydd hedd, wna i 'mo hynny.
(Meredith) {Cyfyd gyda thrafferth.}
 
(1, 0) 227 Hm.
(1, 0) 228 Peidiwch â gofyn dim mwy rŵan.
(Meredith) Ond atebwch yr un cwestiwn yna.
 
(1, 0) 232 Rhaid i chi adael y byd 'ma ora' y gellwch chi.
(Meredith) Felly y bo hi ynte'.
 
(1, 0) 236 Fedrwch chi ddim deall nad oes gen i ddim help.
(1, 0) 237 Rydw i yr hyn ydw i, a fedra' i ddim newid fy natur.
(Meredith) Na fedrwch debyg.
 
(Meredith) Ga'i lasiad o ddŵr, os gwelwch chi'n dda?
(1, 0) 241 Wrth gwrs.
 
(1, 0) 246 Elwyn, gwell iti ddod i nôl dy dad a mynd â fo adre.
(Elwyn) {Yn codi'n sydyn. Daw ef a Gwyneth i'r stafell.}
 
(Elwyn) Mi fyddai'n well i titha' wisgo amdanat hefyd Gwyneth.
(1, 0) 253 Rhaid i Miss Parry aros, dim ond am funud.
(1, 0) 254 Mae na lythyr iddi i'w deipio.
(Meredith) {Yn edrych ar Morris.}
 
(Meredith) Cysgwch yn iawn,... os medrwch chi.
(1, 0) 258 Pnawn da.
(Gwyneth) {Yn amheus.}
 
(Gwyneth) Oes 'na lythyr?
(1, 0) 263 Nâc oes wrth gwrs.
 
(1, 0) 265 Gwyneth.
(Gwyneth) {Yn bryderus mewn llais isel.}
 
(1, 0) 269 Dowch yma.
(1, 0) 270 Ar unwaith.
(Gwyneth) {Yn betrusgar.}
 
(1, 0) 274 Yn nes.
(Gwyneth) {Yn ufuddhau.}
 
(1, 0) 278 I chi y mae'r diolch am hyn i gyd?
(Gwyneth) Nâc e.
 
(Gwyneth) Peidiwch â meddwl hynny.
(1, 0) 282 Ond waeth i chi gyfaddef rŵan; mae arnoch chi eisio priodi.
(Gwyneth) {Yn isel.}
 
(Gwyneth) Mae Elwyn a finna' wedi dyweddïo ers pedair neu bum mlynedd ac felly...
(1, 0) 285 Felly rydych chi'n teimlo'i bod hi'n bryd i hynny ddod i ben.
(1, 0) 286 Onid fel 'na y mae hi?
(Gwyneth) Mae Elwyn a f'ewyrth yn d'eud bod rhaid i mi.
 
(1, 0) 290 Gwyneth, mae gennych chi dipyn o feddwl o Elwyn hefyd on'd oes?
(Gwyneth) Roeddwn i'n meddwl y byd o Elwyn unwaith, cyn i mi ddod yma atoch chi.
 
(Gwyneth) Roeddwn i'n meddwl y byd o Elwyn unwaith, cyn i mi ddod yma atoch chi.
(1, 0) 292 Ond rŵan 'does gennych chi fawr i'w dd'eud wrtho o gwbwl?
(Gwyneth) {Yn llawn teimlad gan wasgu ei dwylo a'u hestyn allan tuag ato.}
 
(Gwyneth) 'Na' i byth garu neb arall heblaw hwnnw eto.
(1, 0) 297 Ie, rydych chi'n d'eud hynny ac eto rydych chi am fynd i ffwrdd a ngadael i yma fy hun a'r cwbwl ar f'ysgwydda' i.
(Gwyneth) Ond, allwn i ddim aros yma efo chi, hyd yn oed petai Elwyn...?
 
(1, 0) 300 O na.
(1, 0) 301 Mae hynny'n hollol amhosib.
(1, 0) 302 Os ydy Elwyn am fy ngadael i a dechra' gweithio ar ei ben ei hun, yna, wrth gwrs, mi fydd eich angen chi arno fo.
(Gwyneth) {Yn dirwasgu ei dwylo.}
 
(Gwyneth) Mae'n gwbwl amhosib.
(1, 0) 306 Yna gofalwch gael y syniada' 'ma o ben Elwyn.
(1, 0) 307 Priodwch o ar bob cyfrif.
 
(1, 0) 309 Hynny ydy, peidiwch â gadael iddo roi'r gora' i'w swydd dda yma achos mi alla' i eich cadw chitha' wedyn, Gwyneth annwyl.
(Gwyneth) O, ie.
 
(1, 0) 313 Achos fedra' i ddim g'neud heboch chi ydych chi'n gweld.
(1, 0) 314 Mae'n rhaid i mi eich cael chi efo mi bob dydd.
(Gwyneth) {Yn nerfus, orawenus.}
 
(1, 0) 318 Gwyneth.
(1, 0) 319 Gwyneth.
(Gwyneth) {Yn ymollwng i lawr o'i flaen.}
 
(1, 0) 324 Codwch, bendith y Tad i chi.
(1, 0) 325 Rydw i'n meddwl i mi glywed rhywun!
(Mrs Morris) {O'r drws.}
 
(1, 0) 334 O chi sy' 'na 'nghariad i?
(Mrs Morris) {Yn taflu ei golwg at Gwyneth.}
 
(Mrs Morris) Rydw i'n dod ar eich traws chi mae arna' i ofn.
(1, 0) 337 Ddim o gwbwl.
(1, 0) 338 Mae gan Miss Parry lythyr byr i'w deipio, dyna'r cwbwl.
(Mrs Morris) Oes, felly rydw i'n gweld.
 
(Mrs Morris) Oes, felly rydw i'n gweld.
(1, 0) 340 Be' sy' Gladys?
(Mrs Morris) Dim ond dod i ddeud bod Dr Hughes yma.
 
(1, 0) 344 Hm.
(1, 0) 345 Ydy'r meddyg eisio 'ngweld i'n arw?
(Mrs Morris) Na ddim yn arbennig.
 
(1, 0) 349 Ie debyg.
(1, 0) 350 Wel gofynnwch iddo fo aros am funud.
(Mrs Morris) Mi ddowch chi drwodd yn y munud ynte'?
 
(Mrs Morris) Mi ddowch chi drwodd yn y munud ynte'?
(1, 0) 352 'Ddo' i wedyn.
(1, 0) 353 Toc, fy nghariad i.
(1, 0) 354 Reit fuan.
(Mrs Morris) {Yn taflu cipolwg arall ar Gwyneth.}
 
(Gwyneth) Rydw i'n siŵr bod Mrs Morris yn meddwl drwg rywsut.
(1, 0) 360 Nâc ydy, ddim o gwbwl.
(1, 0) 361 Ddim mwy nag arfer beth bynnag.
(1, 0) 362 Ond mynd fyddai ora' i chi rŵan, p'run bynnag Gwyneth.
(Gwyneth) Ie, ie.
 
(1, 0) 366 A mi 'newch chi ymorol bod y mater yna wedi'i setlo i mi?
(1, 0) 367 Glywsoch chi?
(Gwyneth) O, petai o'n dibynnu arna' i fy hun...
 
(Gwyneth) O, petai o'n dibynnu arna' i fy hun...
(1, 0) 369 Mae'n rhaid i mi gael setlo'r peth, cofiwch: yfory, ddim hwyrach.
(Gwyneth) {Wedi dychryn.}
 
(1, 0) 373 Ei thorri?
(1, 0) 374 Ydych chi o'ch co'?
(1, 0) 375 F'asech chi'n meddwl am y fath beth?
(Gwyneth) {Yn ddryslyd.}
 
(1, 0) 381 Ond Duw a'm helpo i!
(1, 0) 382 Be' am Elwyn wedyn?
(1, 0) 383 Elwyn sydd gen i...
(Gwyneth) {Yn edrych arno a'i llygaid yn llawn arswyd.}
 
(1, 0) 387 Nâc e.
(1, 0) 388 Nâc e, wrth gwrs.
(1, 0) 389 Dydych chitha' ddim yn fy neall i chwaith?
(1, 0) 390 Wrth gwrs chi sydd arna' i eisio ei chadw yn fwy na dim, Gwyneth.
(1, 0) 391 Ond am yr union reswm hwnnw rhaid i chi rwystro Elwyn rhag rhoi'r gora' i'w swydd.
(1, 0) 392 Dyna ni rŵan, dyna ni.
(1, 0) 393 Ewch adre rŵan.
(Gwyneth) Ie mi a' i.
 
(Gwyneth) Nos dawch.
(1, 0) 396 Nos dawch.
 
(1, 0) 398 O 'rhoswch am eiliad.
(1, 0) 399 Ydy cynllunia' Elwyn yma?
(Gwyneth) Welais i mohono fo'n mynd â nhw efo fo.
 
(Gwyneth) Welais i mohono fo'n mynd â nhw efo fo.
(1, 0) 401 Wel ewch i chwilio amdanyn nhw i mi ynte'.
(1, 0) 402 Hwyrach y medra' i daro golwg arnyn nhw wedi'r cwbwl.
(Gwyneth) {Yn llawen.}
 
(Gwyneth) O ie, os gwelwch chi'n dda.
(1, 0) 405 Er eich mwyn chi Gwyneth f'anwylyd.
(1, 0) 406 Rŵan, gadewch i mi eu cael nhw ar unwaith os gwelwch chi'n dda.
(Gwyneth) Dyma nhw'r plania' i gyd.
 
(Gwyneth) Dyma nhw'r plania' i gyd.
(1, 0) 410 Da iawn.
(1, 0) 411 Rhowch nhw ar y bwrdd yn fan 'na.
(Gwyneth) {Yn ei roi i lawr.}
 
(Gwyneth) A meddyliwch amdana' i, yn annwyl, os gwelwch chi'n dda.
(1, 0) 416 O mi fydda' i'n g'neud hynny bob amser.
(1, 0) 417 P'nawn da, Gwyneth bach annwyl.
 
(1, 0) 419 Ewch, ewch rŵan.
(Mrs Morris) {Yn y drws o hyd.}
 
(Mrs Morris) Isaac, 'fedra' i gadw'r doctor ddim hwy.
(1, 0) 424 Wel, ynte'; dowch i mewn yma.
(Mrs Morris) {Wrth Gwyneth sy'n diffodd y lamp ar y ddesg.}
 
(Gwyneth) Y llythyr...?
(1, 0) 429 Do, un byr oedd o.
(Mrs Morris) Rhaid ei fod o'n fyr iawn.
 
(Mrs Morris) Rhaid ei fod o'n fyr iawn.
(1, 0) 431 'Gewch chi fynd rŵan Miss Parry.
(1, 0) 432 Dowch yn gynnar yfory os gwelwch chi'n dda.
(Gwyneth) Mi fydda' i'n siŵr o 'neud.
 
(Mrs Morris) Mae'n rhaid ei bod hi'n gaffaeliad mawr i chi, Isaac, Miss Parry 'ma.
(1, 0) 437 Ydy wir.
(1, 0) 438 Mae hi'n ddefnyddiol iawn mewn llawer modd.
(Mrs Morris) Felly mae'n edrych.
 
(Dr Hughes) Ydy hi'n dda am gadw cyfrifon hefyd?
(1, 0) 441 Mae hi wedi cael digon o brofiad yn ystod y ddwy flynedd ddwaetha' 'ma.
(1, 0) 442 A mae hi mor ddymunol a chymwynasgar ym mhob modd.
(Mrs Morris) Ie.
 
(Mrs Morris) Rhaid bod hynny'n braf iawn.
(1, 0) 445 Ydy, mae o.
(1, 0) 446 Yn enwedig os nad ydy dyn yn arfer cael rhyw lawer o hynny.
(Mrs Morris) {Â sŵn cerydd ysgafn yn ei llais.}
 
(Mrs Morris) Fedrwch chi dd'eud hynny Isaac?
(1, 0) 449 Na fedraf, wrth gwrs, Gladys annwyl.
(1, 0) 450 Maddeuwch i mi.
(Mrs Morris) Mae'n iawn.
 
(Mrs Morris) {Mae'n mynd allan drwy'r drws ar y dde.}
(1, 0) 457 Ydych chi ar frys Doctor?
(Dr Hughes) Ddim o gwbwl.
 
(Dr Hughes) Ddim o gwbwl.
(1, 0) 459 Ga' i sgwrs bach efo chi?
(Dr Hughes) Can croeso.
 
(Dr Hughes) Can croeso.
(1, 0) 461 Gadewch i ni eistedd i lawr ynte'.
 
(1, 0) 464 D'wedwch i mi, ddar'u chi sylwi bod yna rywbeth yn rhyfedd yn Gladys?
(Dr Hughes) Gynna', pan oedd hi yma, ydych chi'n ei feddwl?
 
(Dr Hughes) Gynna', pan oedd hi yma, ydych chi'n ei feddwl?
(1, 0) 466 Ie, yn ei hymddygiad ata' i.
(1, 0) 467 Ddar'u rhywbeth eich taro chi?
(Dr Hughes) {Yn gwenu.}
 
(Dr Hughes) Wel, rhaid cyfadde', fedrai dyn ddim llai na sylwi bod eich gwraig... hm...
(1, 0) 470 Wel?
(Dr Hughes) Nad ydy'r wraig ddim yn rhyw hoff iawn o Miss Parry.
 
(Dr Hughes) Nad ydy'r wraig ddim yn rhyw hoff iawn o Miss Parry.
(1, 0) 472 Ai dyna'r cwbwl?
(1, 0) 473 Rydw i wedi sylwi ar hynny fy hun.
(Dr Hughes) A rhaid i mi dd'eud, 'dydy hynny'n synnu dim arna' i.
 
(Dr Hughes) A rhaid i mi dd'eud, 'dydy hynny'n synnu dim arna' i.
(1, 0) 475 Be'?
(Dr Hughes) Nad ydy hi'n hollol fodlon eich bod chi'n gweld cymaint ar ddynes arall drwy'r dydd a phob dydd.
 
(Dr Hughes) Nad ydy hi'n hollol fodlon eich bod chi'n gweld cymaint ar ddynes arall drwy'r dydd a phob dydd.
(1, 0) 477 Nâc ydy siŵr.
(1, 0) 478 Rydych chi'n iawn ynglŷn â hynny ddyliwn, a Gladys hefyd.
(1, 0) 479 Ond mae unrhyw newid yn amhosib.
(Dr Hughes) Allech chi ddim cyflogi clarc?
 
(Dr Hughes) Dyn felly?
(1, 0) 482 Rhywun rywun, fasai'n ei gynnig ei hun.
(1, 0) 483 Ddim diolch; wnâi hynny byth 'mo'r tro i mi.
(Dr Hughes) Ond os ydy'ch gwraig...?
 
(Dr Hughes) Beth pe byddai hyn oll yn ormod iddi hi?
(1, 0) 487 Wel, bron na dd'wedwn i, 'does 'mo'r help.
(1, 0) 488 Rhaid i mi gadw Gwyneth Parry.
(1, 0) 489 Fedrai neb arall gymryd ei lle hi.
(Dr Hughes) Neb arall?
 
(1, 0) 492 Na fedrai; neb.
(Dr Hughes) {Yn tynnu ei gadair yn nes.}
 
(Dr Hughes) Ga' i ofyn cwestiwn i chi, rhyngon ni'n dau yn unig?
(1, 0) 496 Ar bob cyfri'.
(Dr Hughes) Mae gan ferched, ydych chi'n gweld, ryw reddfa' sensitif eithriadol ynglŷn â rhai petha'.
 
(Dr Hughes) Mae gan ferched, ydych chi'n gweld, ryw reddfa' sensitif eithriadol ynglŷn â rhai petha'.
(1, 0) 498 Oes wir.
(1, 0) 499 Does dim gronyn o amheuaeth ynghylch hynny... ond...
(Dr Hughes) D'wedwch wrtha i rŵan, os na all eich gwraig ddiodde'r Gwyneth Parry 'ma.
 
(Dr Hughes) D'wedwch wrtha i rŵan, os na all eich gwraig ddiodde'r Gwyneth Parry 'ma.
(1, 0) 501 Ie.
(1, 0) 502 Be' wedyn?
(Dr Hughes) Oes ganddi hi ddim, oes ganddi hi ddim,... wel... y mymryn lleia' o reswm dros y drwglecio greddfol yma?
 
(1, 0) 505 Oho!
(Dr Hughes) Rŵan peidiwch â digio... ond oes 'na ddim?
 
(1, 0) 508 Nâc oes.
(Dr Hughes) Dim math o reswm?
 
(Dr Hughes) Dim math o reswm?
(1, 0) 510 Dim byd ond ei natur ddrwgdybus hi ei hun.
(Dr Hughes) Rydw i'n gwybod i chi fod efo llawer o ferched yn eich oes.
 
(Dr Hughes) Rydw i'n gwybod i chi fod efo llawer o ferched yn eich oes.
(1, 0) 512 Do mi fûm i.
(Dr Hughes) A rhai ohonyn nhw wedi mynd â'ch bryd, hefyd?
 
(Dr Hughes) A rhai ohonyn nhw wedi mynd â'ch bryd, hefyd?
(1, 0) 514 O do, 'nâ' i ddim gwadu.
(Dr Hughes) Ond ynglŷn â Miss Parry.
 
(Dr Hughes) Does dim byd felly yn ei hachos hi?
(1, 0) 517 Na, dim o gwbwl o'm hochor i.
(Dr Hughes) Ond o'i hochor hi?
 
(Dr Hughes) Ond o'i hochor hi?
(1, 0) 519 Dydw i ddim yn meddwl bod gennych chi hawl i ofyn y cwestiwn yna, Doctor.
(Dr Hughes) Am yr hyn a elwir yn sythwelediad neu reddf eich gwraig yr oedden ni'n sôn, mi gofiwch chi.
 
(Dr Hughes) Am yr hyn a elwir yn sythwelediad neu reddf eich gwraig yr oedden ni'n sôn, mi gofiwch chi.
(1, 0) 521 Digon gwir.
(1, 0) 522 A chyn belled â hynny... {gostwng ei lais} mewn ffordd... dydy Gladys ddim ymhell iawn o'i lle efo'i greddf fel rydych chi'n galw'r peth.
(Dr Hughes) Aha.
 
(1, 0) 526 Dr Hughes rydw i am dd'eud stori ryfedd wrthych chi os leciwch chi wrando ami hi.
(Dr Hughes) Mi fydda' i'n hoffi gwrando ar straeon rhyfedd.
 
(Dr Hughes) Mi fydda' i'n hoffi gwrando ar straeon rhyfedd.
(1, 0) 528 O'r gora' ynte'.
(1, 0) 529 Rydych chi'n cofio, mae'n siŵr, i mi gymryd Owen Meredith a'i fab i weithio i mi wedi i fusnes yr hen frawd fynd i'r gwellt.
(Dr Hughes) Ydw rydw i'n cofio rhywbeth am hynny.
 
(Dr Hughes) Ydw rydw i'n cofio rhywbeth am hynny.
(1, 0) 531 Mae'r ddau yma, mewn gwirionedd, yn ddynion clyfar.
(1, 0) 532 Mae gan bob un ohonyn nhw, allu, yn ei ffordd ei hun.
(1, 0) 533 Ond mi gymerodd y mab yn ei ben i addo priodi, a'r peth nesa', wrth gwrs, oedd ei fod o eisio priodi, a dechra' adeiladu ar ei ben ei hun.
(1, 0) 534 Fel 'na mae'r bobol ifainc yma i gyd.
(Dr Hughes) {Dan chwerthin.}
 
(Dr Hughes) Ie, on'd ydy o'n hen arferiad cas, yr hen awydd priodi 'ma?
(1, 0) 537 Yn hollol.
(1, 0) 538 Ond, wrth gwrs, roedd hynny yn d'rysu fy nghynllunia' i.
(1, 0) 539 Achos roedd arna' i eisio Elwyn fy hun a'r hen ŵr hefyd.
(1, 0) 540 Mae o'n dda ofnadwy efo mathemateg, clandro straen pwysa' ac ati.
(Dr Hughes) Ie, mae hynny'n bwysig iawn, mae'n sicir.
 
(Dr Hughes) Ie, mae hynny'n bwysig iawn, mae'n sicir.
(1, 0) 542 Yn bendant.
(1, 0) 543 Ond roedd Elwyn yn benderfynol o ddechra' gweithio iddo'i hun.
(1, 0) 544 'Doedd wiw sôn am ddim arall.
(Dr Hughes) Ond mae o wedi aros efo chi er hynny.
 
(Dr Hughes) Ond mae o wedi aros efo chi er hynny.
(1, 0) 546 Ydy.
(1, 0) 547 Mi dd'weda' i wrthych chi sut y digwyddodd hynny.
(1, 0) 548 Ryw ddiwrnod, mi ddaeth yr hogan ma, Gwyneth Parry, i'w gweld nhw ar ryw neges neu'i gilydd.
(1, 0) 549 'Doedd hi erioed wedi bod yma cyn hynny.
(1, 0) 550 A phan welais i gymaint yr oedd y ddau wedi gwirioni am ei gilydd, mi drawodd arna' i; petawn i ddim ond yn medru ei chael hi i'r swyddfa yma, yna efallai y b'asai Elwyn yn aros hefyd.
(Dr Hughes) Syniad campus.
 
(Dr Hughes) Syniad campus.
(1, 0) 552 Ie, ond ar y pryd, ddwedais i ddim gair o'r hyn oedd ar fy meddwl i.
(1, 0) 553 Wnes i ddim byd ond aros ac edrych arni hi a dal i feddwl yn galed mor braf fyddai ei chael hi yma.
(1, 0) 554 Yna siarad dipyn efo hi yn gyfeillgar... ynghylch hyn a'r llall.
(1, 0) 555 Wedyn mi aeth.
(Dr Hughes) O, ac wedi hynny?
 
(Dr Hughes) O, ac wedi hynny?
(1, 0) 557 Wel, ynte', y diwrnod wedyn, yn hwyr gyda'r nos wedi i'r hen Feredith ac Elwyn fynd adre dyma hi yma'r eilwaith gan ymddwyn fel petawn i wedi g'neud rhyw drefniant efo hi.
(Dr Hughes) Trefniant, ynghylch be'?
 
(Dr Hughes) Trefniant, ynghylch be'?
(1, 0) 559 Ynghylch yr union beth yr oeddwn i wedi bod yn meddwl amdano fo.
(1, 0) 560 Ond 'doeddwn i ddim wedi sôn gair am y peth.
(Dr Hughes) Roedd hynny'n od iawn.
 
(Dr Hughes) Roedd hynny'n od iawn.
(1, 0) 562 Oedd.
(1, 0) 563 On'd oedd o?
(1, 0) 564 A wedyn roedd hi eisio gwybod beth oedd hi i'w 'neud yma, a fyddai hi'n iawn iddi hi ddechra'r bore wedyn ac ati.
(Dr Hughes) Ydych chi ddim yn meddwl mai er mwyn bod efo'i chariad y gwnaeth hi hynny?
 
(Dr Hughes) Ydych chi ddim yn meddwl mai er mwyn bod efo'i chariad y gwnaeth hi hynny?
(1, 0) 566 Dyna ddaeth i'm meddwl inna' i gychwyn.
(1, 0) 567 Ond nid dyna oedd.
(1, 0) 568 Roedd hi i'w gweld yn llithro i ffwrdd yn llwyr oddi wrtho fo unwaith y daeth hi yma ata' i.
(Dr Hughes) Mi lithrodd hi tuag atoch chi ynte'.
 
(Dr Hughes) Mi lithrodd hi tuag atoch chi ynte'.
(1, 0) 570 Do'n gyfangwbwl.
(1, 0) 571 Os digwydd imi edrych ami hi pan fydd hi a'i chefn ata' i mi fedra' i dd'eud ei bod hi'n synhwyro hynny.
(1, 0) 572 Mi fydd yn crynu ac yn cynhyrfu y munud y bydda' i'n mynd yn agos ati hi.
(1, 0) 573 Be' 'ddyliech chi o hyn 'na?
(Dr Hughes) Hm.
 
(Dr Hughes) 'Dydy hynny ddim yn anodd iawn ei egluro.
(1, 0) 576 Ond be' am y peth arall?
(1, 0) 577 Ei bod hi'n credu 'mod i wedi d'eud wrthi yr hyn na wnes i ddim ond ei ddymuno a'i ewyllysio ynof fi fy hun; yn ddistaw oddi fewn.
(1, 0) 578 Fedrwch chi egluro hyn 'na Doctor Hughes?
(Dr Hughes) Na, cheisia' i ddim g'neud hynny.
 
(Dr Hughes) Na, cheisia' i ddim g'neud hynny.
(1, 0) 580 Roeddwn i'n siŵr na 'naech chi ddim; dyna pam yr ydw i wedi bod yn anfodlon siarad am y peth o'r blaen.
(1, 0) 581 Ond yn y pen draw, mae o'r teimlad annifyrra dan haul i mi.
(1, 0) 582 Dyma fi'n gorfod dal ati i gymryd arnaf bob dydd...
(1, 0) 583 A mae o'n bechod trin yr hogan fel 'na, druan ohoni.
 
(1, 0) 585 Ond fedra' i 'neud dim arall.
(1, 0) 586 Achos os rhed hi i ffwrdd yna bydd Elwyn yn mynd hefyd.
(Dr Hughes) Dydych chi ddim wedi d'eud y stori'n iawn wrth eich gwraig?
 
(Dr Hughes) Dydych chi ddim wedi d'eud y stori'n iawn wrth eich gwraig?
(1, 0) 588 Naddo.
(Dr Hughes) Pam ar y ddaear na newch chi ynte'?
 
(Dr Hughes) Pam ar y ddaear na newch chi ynte'?
(1, 0) 590 Oherwydd 'mod i fel petawn i'n cael rhyw bleser wrth adael i Gladys 'neud cam efo mi.
(Dr Hughes) 'Wn i yn y byd be' ydych chi'n ei feddwl.
 
(Dr Hughes) 'Wn i yn y byd be' ydych chi'n ei feddwl.
(1, 0) 592 Mae o fel talu'n ôl rhyw gyfran fach, g'neud iawn am ryw ddyled ofnadwy o fawr.
(Dr Hughes) I'ch gwraig?
 
(Dr Hughes) I'ch gwraig?
(1, 0) 594 Ie.
(1, 0) 595 A mae hynny bob amser yn help i dawelu dipyn ar feddwl dyn.
(1, 0) 596 Mae rhywun yn cael ei wynt ato am ysbaid, ydych chi'n gweld?
(Dr Hughes) Nâc ydw.
 
(1, 0) 601 Wel, wel, wel.
(1, 0) 602 Soniwn ni ddim mwy am y peth ynte'.
 
(1, 0) 605 Rydych chi'n meddwl eich bod chi wedi fy nhynnu i allan reit ddel, debyg gen i Doctor?
(Dr Hughes) {Yn dechrau mynd yn bigog.}
 
(Dr Hughes) Unwaith eto rydw i yn y niwl Mr Morris.
(1, 0) 609 Dowch.
(1, 0) 610 Allan â hi, achos rydw i'n ei gweld hi fel haul, wyddoch chi.
(Dr Hughes) Be' ydych chi'n ei weld?
 
(1, 0) 613 Eich bod chi wedi bod yn cadw llygad arna' i'n slei.
(Dr Hughes) Fy mod i?
 
(Dr Hughes) A pham ar y ddaear y g'nawn i hynny?
(1, 0) 616 Am eich bod chi'n meddwl 'mod i...
 
(1, 0) 618 Wel twt, dam, rydych chi'n meddwl yr un peth â Gladys amdana' i.
(Dr Hughes) A be' mae hi'n ei feddwl amdanoch chi?
 
(1, 0) 621 Mae hi wedi dechra' meddwl 'mod i'n, 'mod i'n... sâl.
(Dr Hughes) Yn sâl?
 
(1, 0) 627 Mae Gladys wedi dod i'r penderfyniad 'mod i wedi d'rysu.
(1, 0) 628 Dyna be' mae hi'n ei feddwl.
(Dr Hughes) {Yn codi.}
 
(Dr Hughes) O, chwarae teg Isaac Morris annwyl...
(1, 0) 631 Ydy ar fy ngwir.
(1, 0) 632 Fel 'na mae petha', coeliwch chi fí.
(1, 0) 633 A mae hi wedi medru'ch perswadio chitha' i gredu'r un peth; yn bendifadda' Doctor.
(1, 0) 634 Rydw i'n ei weld o ar eich gwyneb chi mor glir â dim.
(1, 0) 635 Fedrwch chi 'mo 'nhwyllo i mor hawdd, cofiwch.
(Dr Hughes) {Yn edrych arno mewn syndod.}
 
(1, 0) 639 Ddar'u chi ddim?
(1, 0) 640 O ddifri?
(Dr Hughes) Naddo erioed.
 
(Dr Hughes) Mi awn ar fy llw.
(1, 0) 644 Chynghorwn i mohonoch chi i 'neud hynny.
(1, 0) 645 Ydych chi'n gweld, efallai nad ydy hi ymhell iawn o'i lle yn meddwl peth felly.
(Dr Hughes) Dowch rŵan.
 
(1, 0) 649 Wel, wel Doctor annwyl, rhaid i ni roi'r gora' i siarad am y peth.
(1, 0) 650 Waeth i ni gytuno i anghytuno.
 
(1, 0) 652 Ond edrychwch yma rŵan Doctor; hm...
(Dr Hughes) Wel?
 
(Dr Hughes) Wel?
(1, 0) 654 Gan nad ydych chi'n meddwl 'mod i'n sâl nâc o 'ngho nâc wedi d'rysu ac yn y blaen...
(Dr Hughes) Be' wedyn?
 
(Dr Hughes) Be' wedyn?
(1, 0) 656 Rydych chi'n cario'r syniad 'mod i'n ddyn hapus ryfeddol debyg geni?
(Dr Hughes) Nid camsyniad ydy hynny siŵr?
 
(1, 0) 659 Nâc e, wrth gwrs.
(1, 0) 660 Gwared y gwirion, meddyliwch am funud.
(1, 0) 661 Isaac Ryan Morris, adeiladwr a datblygwr pwysica'r ardaloedd yma.
(1, 0) 662 Mae gen i le mawr i fod yn ddiolchgar.
(Dr Hughes) Yn hollol.
 
(1, 0) 666 Ffodus, o do.
(1, 0) 667 'Does gen i ddim lle i gwyno am hynny.
(Dr Hughes) Yn y lle cynta' mi losgwyd yr hen hongo o dŷ mawr yna oedd gennych chi.
 
(Dr Hughes) Roedd hynny'n siŵr o fod yn ddigwyddiad lwcus iawn i chi.
(1, 0) 670 Cartre' teulu Gladys oedd o er hynny, cofiwch.
(Dr Hughes) Roedd o'n loes mawr iddi hi, siŵr o fod.
 
(Dr Hughes) Roedd o'n loes mawr iddi hi, siŵr o fod.
(1, 0) 672 'Dydy hi byth wedi dod drosto fo, ers deuddeng mlynedd neu dair ar ddeg.
(Dr Hughes) Ie ond mae'n rhaid mai'r hyn a ddigwyddodd wedyn roddodd yr ergyd fwya' iddi hi.
 
(Dr Hughes) Ie ond mae'n rhaid mai'r hyn a ddigwyddodd wedyn roddodd yr ergyd fwya' iddi hi.
(1, 0) 674 Y ddau beth efo'i gilydd.
(Dr Hughes) Ond o'r adfeilion hynny y dar'u chi godi.
 
(1, 0) 679 Ydy, ond dyna'r union beth sy'n peri cymaint o ofn i mi.
(Dr Hughes) Ofn?
 
(Dr Hughes) Am fod ffawd o'ch plaid chi?
(1, 0) 682 Mae'n ddychryn i mi, yn ddychryn i mi bob awr o'r dydd.
(1, 0) 683 Achos, yn hwyr neu'n hwyrach mi fydd fy lwc i'n troi, welwch chi.
(Dr Hughes) Twt lol.
 
(1, 0) 687 Y genhedlaeth newydd!
(Dr Hughes) Y genhedlaeth newydd, twt.
 
(Dr Hughes) Na, mae eich safle chi yma yn gadarnach nag y bu hi erioed, siŵr o fod.
(1, 0) 691 Bydd fy lwc yn troi.
(1, 0) 692 Rydw i'n gwybod hynny.
(1, 0) 693 Mi glywa' i'r diwrnod yn dod yn nes.
(1, 0) 694 Mi ddaw i feddwl rhywun neu'i gilydd i dd'eud: "Rhowch gyfle i |mi|," a wedyn bydd y lleill i gyd yn rhuthro ar ei ôl, yn crochlefain ac yn ysgwyd eu dyrna' a gweiddi arna' i "G'newch le, g'newch le, gnewch le!"
(1, 0) 695 Bydd, gewch chi weld Doctor.
(1, 0) 696 Yn fuan mi fydd y to ifanc yn dod i gnocio ar fy nrws i...
(Dr Hughes) {Yn chwerthin.}
 
(Dr Hughes) Wel diar annwyl, os dôn nhw?
(1, 0) 699 Pan ddôn nhw, dyna ddiwedd Isaac Ryan Morris, yr adeiladwr wedyn.
 
(1, 0) 701 Be' oedd na?
(1, 0) 702 Glywsoch chi ddim byd?
(Dr Hughes) Mae rhywun yn curo.
 
(1, 0) 705 Dowch i mewn.
(Helen) Hiya.
 
(1, 0) 715 Sut ydych chi?
(Helen) {Gan chwerthin.}
 
(Helen) 'Dydych chi erioed wedi colli nabod arna' i?
(1, 0) 718 Ydw, rhaid i mi gyfadde'... am funud...
(Dr Hughes) {Yn dod yn nes.}
 
(Dr Hughes) Cytuno'n hollol.
(1, 0) 735 Heno y daethoch chi i'r dre 'ma?
(Helen) Ie, newydd gyrraedd.
 
(Helen) Siwr iawn.
(1, 0) 739 O'Reilly, O'Reilly ydy'ch enw chi?
(Helen) {Yn edrych arno gyda syndod direidus.}
 
(Helen) le, wrth gwrs.
(1, 0) 742 Rhaid mai merch y doctor draw ym Mryn Padarn ydych chi felly?
(Helen) {Fel o'r blaen.}
 
(Helen) le, merch pwy arall allwn i fod?
(1, 0) 745 O wel.
(1, 0) 746 Rhaid ein bod ni wedi cyfarfod pan oeddwn i yno yn codi tŵr ar yr hen eglwys.
(Helen) {Yn fwy o ddifri.}
 
(Helen) le wrth gwrs, yr adeg honno oedd hi.
(1, 0) 749 Wel, mae dipyn go lew o amser ers hynny.
(Helen) {Yn edrych arno'n galed.}
 
(Helen) Deng mlynedd union yn ôl oedd hi.
(1, 0) 752 Rhaid nad oeddech chi ond plentyn bach yr adeg honno f'aswn i'n meddwil.
(Helen) {Ffwrdd â hi.}
 
(Helen) Yep.
(1, 0) 758 Dydych chi'n nabod neb yma chwaith?
(Helen) Neb ond chi.
 
(Helen) A'ch gwraig wrth gwrs.
(1, 0) 761 O, rydych chi'n ei nabod hitha' felly?
(Helen) Ddim yn dda iawn.
 
(Helen) Ddar'u ni dreulio 'chydig ddiwrnodia' efo'n gilydd pan oedd hi yn y mynyddoedd er mwyn ei hiechyd.
(1, 0) 764 O, i fyny yno.
(Helen) Mi ddwedodd hi wrtha i am alw os byth y down i i'r dre.
 
(Helen) Nid na f'aswn i wedi dod 'run fath, cofiwch.
(1, 0) 768 Rhyfedd na f'asai hi wedi sôn.
(Helen) Wel rŵan rhaid i mi ofyn i chi.
 
(Helen) Ga' i aros yma dros nos, os gwelwch chi'n dda?
(1, 0) 775 Mi fedrwn ni drefnu hynny rydw i'n siŵr.
(Helen) Diolch yn fawr.
 
(Helen) Mae nhw'n fudron iawn.
(1, 0) 779 O mi ofalwn ni am hynny.
(1, 0) 780 Rŵan mi a' i i dd'eud wrth fy ngwraig.
(Dr Hughes) Yn y cyfamser mi a' 'inna' i weld un o'r cleifion.
 
(Dr Hughes) Yn y cyfamser mi a' 'inna' i weld un o'r cleifion.
(1, 0) 782 le, dyna chi.
(1, 0) 783 A dowch yn eich ôl wedyn.
(Dr Hughes) {Yn chwareus, gyda chipolwg ar Helen.}
 
(Dr Hughes) Mae'r hyn oeddech chi'n ei broffwydo wedi dod yn wir Mr Morris.
(1, 0) 788 Sut felly?
(Dr Hughes) Mae'r to ifanc wedi dod i guro ar eich drws chi.
 
(1, 0) 791 Do.
(1, 0) 792 Ond mewn ffordd wahanol iawn i'r un oedd gen i mewn golwg.
(Dr Hughes) Ie, gwahanol iawn.
 
(Dr Hughes) Does dim gwadu hynny.
(1, 0) 797 Gladys, dowch yma os gwelwch chi'n dda.
(1, 0) 798 Dyma ffrind i chi, Miss O'Reilly.
(Mrs Morris) {Yn ymddangos yn y drws.}
 
(Mrs Morris) Mi ddaethoch i'r dre wedi'r cwbwl.
(1, 0) 805 Newydd gyrraedd mae Miss O'Reilly.
(1, 0) 806 Mi f'asai hi'n hoffi aros noson yma.
(Mrs Morris) Yma, efo ni?
 
(Mrs Morris) Cewch â chroeso.
(1, 0) 809 Iddi gael dipyn o drefn ar ei phetha', ydych chi'n gweld.
(Mrs Morris) Mi 'na' i fy ngora' i chi.
 
(Mrs Morris) Esgusodwch fi yn eich gadael chi yma efo'r gŵr am dipyn, tra bydda' i'n paratoi stafell i chi.
(1, 0) 816 Fedrwn ni ddim rhoi un o stafelloedd y plant iddi hi?
(1, 0) 817 Mae'r rheini yn barod eisoes.
(Mrs Morris) O ie.
 
(Helen) Oes gennych chi lawer o stafelloedd plant?
(1, 0) 827 Mae yma dair yn y tŷ yma.
(Helen) Ew! mae hynny'n Ilawer.
 
(Helen) Mae gennych chi lawer iawn o blant felly, debyg.
(1, 0) 830 Na 'does yma'r un plentyn.
(1, 0) 831 Ond rŵan mi gewch chi fod yn blentyn yma am dipyn.
(Helen) Am heno.
 
(Helen) Mi gysga' i fel top.
(1, 0) 836 Ie, rydych chi wedi blino'n arw reit siŵr.
(Helen) O naddo.
 
(Helen) Ond p'run bynnag mae hi'n braf ofnadwy; gorwedd a breuddwydio.
(1, 0) 839 Fyddwch chi'n breuddwydio'n aml yn y nos?
(Helen) O byddaf, bron bob amser.
 
(Helen) O byddaf, bron bob amser.
(1, 0) 841 Am be' y byddwch chi'n breuddwydio amla'?
(Helen) 'Dydw i ddim yn mynd i dd'eud heno.
 
(1, 0) 846 Ydych chi'n chwilio am rywbeth?
(Helen) Na, dim ond sbio ar yr holl betha' 'ma.
 
(Helen) Hwyrach na ddylwn i ddim?
(1, 0) 850 Twt, twt.
(1, 0) 851 G'newch ar bob cyfri.
(Helen) Chi fydd yn gweithio ar y cyfrifiadur 'ma?
 
(Helen) Chi fydd yn gweithio ar y cyfrifiadur 'ma?
(1, 0) 853 Nac e.
(1, 0) 854 F'ysgrifenyddes i.
(Helen) Merch felly?
 
(1, 0) 857 Wrth gwrs.
(Helen) Un o staff yr offis 'ma, ie?
 
(Helen) Un o staff yr offis 'ma, ie?
(1, 0) 859 Ie.
(Helen) Ydy hi wedi priodi?
 
(Helen) Ydy hi wedi priodi?
(1, 0) 861 Na, sengal ydy hi.
(Helen) Wela i.
 
(Helen) Wela i.
(1, 0) 863 Ond mae hi'n mynd i briodi reit fuan, rydw i'n meddwl.
(Helen) Neis iawn iddi hi.
 
(Helen) Neis iawn iddi hi.
(1, 0) 865 Ond fydd hynny ddim yn braf i mi achos fydd gen i neb i f'helpu i wedyn.
(Helen) Fedrwch chi ddim cael rhywun arall cystal â hi?
 
(Helen) Fedrwch chi ddim cael rhywun arall cystal â hi?
(1, 0) 867 Hwyrach y b'asech chi yn aros yma fel ysgrifenyddes?
(Helen) {Yn edrych yn ddirmygus arno.}
 
(Helen) {Gan wenu.}
(1, 0) 875 Siŵr iawn.
(1, 0) 876 Yn gynta' peth mi fyddwch eisio mynd rownd y siopa' i brynu dillad newydd debyg?
(Helen) {Yn llon.}
 
(Helen) Na, mi gaiff hynny ddisgwyl, 'dw i'n meddwl.
(1, 0) 879 O, felly wir.
(Helen) 'Does gen i 'run geiniog ar ôl, ydych chi'n gweld.
 
(1, 0) 882 Na chesus na phres felly!
(Helen) 'Run o'r ddau ond hidiwch befo; dim dam ots am hynny rŵan.
 
(Helen) 'Run o'r ddau ond hidiwch befo; dim dam ots am hynny rŵan.
(1, 0) 884 Wel dyna hogan.
(1, 0) 885 Rydw i'n hoffi hyn'na ynoch chi.
(Helen) Hyn 'na'n unig?
 
(Helen) Hyn 'na'n unig?
(1, 0) 887 Hyn 'na ymhlith petha' eraill.
 
(1, 0) 889 Ydy'ch tad yn dal yn fyw?
(Helen) Ydy, mae o'n fyw.
 
(Helen) Ydy, mae o'n fyw.
(1, 0) 891 Rydych chi'n meddwl astudio yma hwyrach?
(Helen) Na, feddyliais i ddim am hynny.
 
(Helen) Na, feddyliais i ddim am hynny.
(1, 0) 893 Ond mi fyddwch yn aros am dipyn?
(Helen) Dibynnu.
 
(Helen) Mr Morris?
(1, 0) 897 Wel?
(Helen) Ydy'ch co' chi'n ddrwg iawn?
 
(Helen) Ydy'ch co' chi'n ddrwg iawn?
(1, 0) 899 Fy ngho' i'n ddrwg.
(1, 0) 900 Ddim hyd y gwn i.
(Helen) Does gennych chi ddim byd i'w dd'eud wrtha i am yr hyna ddigwyddodd i fyny yna?
 
(1, 0) 903 I fyny ym Mryn Padarn yna?
 
(1, 0) 905 'Doedd yno ddim byd o bwys hyd y gwn i.
(Helen) {Yn edrych yn flin.}
 
(Helen) Pan orffennwyd y tŵr mi gawson ni lawer o hwyl yn dathlu yn y dre.
(1, 0) 911 O do.
(1, 0) 912 Anghofia' i 'mo'r diwrnod hwnnw'n hawdd.
(Helen) {Yn gwenu.}
 
(Helen) 'Dydych chi ddim mor ddrwg felly, yr hen gariad.
(1, 0) 916 Drwg?
(Helen) Roedd 'na ganu yn y fynwent, a channoedd lawer o bobol.
 
(Helen) Roedden ni'r genod ysgol mewn gwyn a roedden ni i gyd yn cario fflagia'.
(1, 0) 919 A! Ie, y baneri rheini.
(1, 0) 920 Rydw i'n cofio'r rheini, mi ellwch fentro.
(Helen) Wedyn mi ddar'u chi ddringo i fyny'r |scaffold| yn syth i ben ucha'r tŵr.
 
(1, 0) 924 Roeddwn i'n g'neud hynny bob amser ers talwm; mae o'n hen arferiad.
(Helen) Roedd o'n exciting iawn i fod yn y gwaelod yn edrych i fyny arnoch chi.
 
(1, 0) 928 Ie, ie, ie.
(1, 0) 929 Mi allai hynny fod wedi digwydd yn hawdd achos roedd yno un g'nawes bach, yn ei ffrog wen, yn mynd trwy'i phetha'n ofnadwy, ac yn sgrechian cymaint ama' i...
(Helen) {Ei llygaid disglair yn dangos ei llawenydd.}
 
(Helen) Ie?
(1, 0) 934 A roedd hi'n codi'i law a chwifio'i baner gymaint nes yr oeddwn i'n teimlo dipyn o bendro wrth edrych arni hi.
(Helen) {Yn isel ac o ddifrif.}
 
(1, 0) 938 Rydw i'n siŵr o hynny rŵan.
(1, 0) 939 Mae'n rhaid mai chi oedd hi.
(Helen) {Yn llawn bywyd eto.}
 
(Helen) Roeddwn i'n teimlo'n reit wan wrth sbio.
(1, 0) 946 Sut roeddech chi'n medru bod mor siŵr nad oedd arna i...?
(Helen) {Yn wfftio'r syniad.}
 
(1, 0) 952 Canu?
(1, 0) 953 Wnes i ganu?
(Helen) Do, mi f'aswn i'n meddwl wir.
 
(1, 0) 956 Chanais i erioed nodyn yn fy mywyd.
(Helen) Do wir.
 
(Helen) Ond wedyn, wedyn y digwyddodd y peth mawr.
(1, 0) 965 Y peth mawr?
(Helen) {Yn llawn asbri a'i llygaid yn ddisglair.}
 
(Helen) Ie, 'does dim rhaid i mi'ch atgoffa chi o hynny, siawns.
(1, 0) 968 Oes wir.
(1, 0) 969 D'wedwch ychydig bach i'm hatgoffa i o hynny hefyd.
(Helen) Ydych chi ddim yn cofio bod cinio mawr yn y neuadd i'ch anrhydeddu chi?
 
(Helen) Ydych chi ddim yn cofio bod cinio mawr yn y neuadd i'ch anrhydeddu chi?
(1, 0) 971 Ydw.
(1, 0) 972 Rhaid mai'r un pnawn oedd hi, achos mi es i odd'no'r bore wedyn.
(Helen) Ac ar ôl hynny mi gawsoch chi wadd i'n tŷ ni i swper.
 
(Helen) Ac ar ôl hynny mi gawsoch chi wadd i'n tŷ ni i swper.
(1, 0) 974 Rydych chi'n iawn Miss O'Reilly.
(1, 0) 975 Mae'n syndod gymaint o argraff y mae'r manion yma wedi'i 'neud arnoch chi.
(Helen) Manion!
 
(Helen) Peth bychan hefyd oedd fy mod i ar |fy mhen fy hun| pan ddaethoch chi i mewn debyg?
(1, 0) 979 Oeddech chi ar eich pen eich hun?
(Helen) {Heb ateb.}
 
(Helen) Nid hen g'nawes bach ddar'u chi 'ngalw i yr adeg honno.
(1, 0) 982 Nac e debyg.
(Helen) Mi dd'wedsoch 'mod i'n ddel iawn yn fy ffrog wen a 'mod i'n edrych fel tywysoges fach.
 
(Helen) Mi dd'wedsoch 'mod i'n ddel iawn yn fy ffrog wen a 'mod i'n edrych fel tywysoges fach.
(1, 0) 984 'Dydw i ddim yn ama' nad oeddech chi, Miss O'Reilly.
(1, 0) 985 A pheth arall, roeddwn i'n teimlo mor rhydd a llon y diwrnod hwnnw.
(Helen) Wedyn dyma chi'n d'eud y cawn i fod yn dywysoges i chi wedi i mi dyfu.
 
(1, 0) 988 Bobol annwyl.
(1, 0) 989 Dd'wedais i hynny hefyd?
(Helen) Do, mi ddar'u chi.
 
(1, 0) 994 le, wel.
(1, 0) 995 Ar ôl cinio da, fydd dyn ddim yn dadla' ynghylch rhyw geiniog neu ddwy.
(1, 0) 996 Ond, ddar'u i mi dd'eud hyn 'na i gyd, o ddifri'?
(Helen) {Yn chwerthin ynddi'i hun.}
 
(Helen) Do, a mi ddar'u chi dd'eud hefyd be' fyddai enw'r deyrnas.
(1, 0) 999 Wel, be' oedd o?
(Helen) Teyrnas y Cymyla' fyddai ei henw hi, meddech chi.
 
(Helen) Teyrnas y Cymyla' fyddai ei henw hi, meddech chi.
(1, 0) 1001 Enw hyfryd iawn wir.
(Helen) Na 'doeddwn i'n lecio dim arno fo; roedd o fel 'tâech chi'n g'neud sbort am fy mhen i.
 
(Helen) Na 'doeddwn i'n lecio dim arno fo; roedd o fel 'tâech chi'n g'neud sbort am fy mhen i.
(1, 0) 1003 Rydw i'n siwr nad hynny oedd fy mwriad i.
(Helen) Nac e gobeithio, a chofio be' ddar'u chi wedyn...
 
(Helen) Nac e gobeithio, a chofio be' ddar'u chi wedyn...
(1, 0) 1005 Be' ar y ddaear wnes i wedyn?
(Helen) Wel, dyna'r ora' eto.
 
(Helen) Mi f'aswn i'n disgwyl na allai neb lai na chofio peth felly.
(1, 0) 1009 Ol reit.
(1, 0) 1010 Rhowch ryw awgrym bach i mi, a wedyn, efallai....
(1, 0) 1011 Wel?
(Helen) {Yn dal i edrych arno.}
 
(1, 0) 1015 Wnes i?
(Helen) Do wir, mi ddar'u chi.
 
(Helen) Mi roesoch chi'ch breichia' amdana i a phlygu 'mhen i'n ôl a 'nghusanu fi,... lawer gwaith.
(1, 0) 1018 Rŵan, mewn difri', Miss O'Reilly...
(Helen) {Yn codi.}
 
(Helen) 'Dydych chi erioed yn mynd i wadu?
(1, 0) 1021 Ydw.
(1, 0) 1022 Rydw i'n gwadu'r cwbwl.
(Helen) {Yn edrych yn ddirmygus arno.}
 
(1, 0) 1028 Miss O'Reilly...
 
(1, 0) 1030 Peidiwch â sefyll fel delw yn fan 'na.
(1, 0) 1031 Rhaid eich bod chi wedi breuddwydio'r cwbwl.
 
(1, 0) 1033 Rŵan, gwrandewch.
 
(1, 0) 1036 Neu...!
(1, 0) 1037 'Rhoswch am funud.
(1, 0) 1038 Ma 'na rywbeth wrth wraidd hyn i gyd, mi ellwch fentro.
 
(1, 0) 1041 Mae'n rhaid fy mod i wedi |meddwl| hyn 'na i gyd.
(1, 0) 1042 Rhaid fy mod i wedi'i |ddymuno| fo, ei ewyllysio, wedi ysu am gael g'neud y petha' yma.
(1, 0) 1043 Ac yna...
(1, 0) 1044 Ai dyna ydy'r eglurhad, o bosib?
(Helen) {Yn troi ei phen ychydig ond heb edrych arno.}
 
(Helen) Rydych chi'n cyfadde' rŵan ynte?
(1, 0) 1052 Ydw, unrhyw beth leciwch chi.
(Helen) Roesoch chi'ch breichia' amdana' i?
 
(Helen) Roesoch chi'ch breichia' amdana' i?
(1, 0) 1054 Do.
(Helen) A phlygu 'mhen i'n ôl?
 
(Helen) A phlygu 'mhen i'n ôl?
(1, 0) 1056 O, reit yn ôl.
(Helen) A nghusanu fi?
 
(Helen) A nghusanu fi?
(1, 0) 1058 Do, mi wnes i.
(Helen) Lawer gwaith?
 
(Helen) Lawer gwaith?
(1, 0) 1060 Gymaint o weithia' ag a fynnoch chi.
(Helen) {Yn troi ato'n sydyn a'r llawenydd yn disgleirio ar ei hwyneb eto.}
 
(Helen) O rydych chi wedi cusanu cymaint o ferched yn eich dydd, debyg.
(1, 0) 1069 Na, rhaid i chi beidio meddwl hynny amdana i.
 
(1, 0) 1072 Miss O'Reilly?
(Helen) Ie?
 
(Helen) Ie?
(1, 0) 1074 Be' ddigwyddodd?
(1, 0) 1075 Be' ddaeth o hyn i gyd... rhyngon ni'n dau?
(Helen) Ddaeth yna ddim byd ohono fo.
 
(Helen) Achos mi ddaeth y bobol eraill i mewn a wedyn,... bah.
(1, 0) 1079 Do wrth gwrs, mi ddaeth y Ileill i mewn.
(1, 0) 1080 Pwy f'asai'n meddwl y b'aswn i'n anghofio hynny hefyd.
(Helen) O, 'dydych chi ddim wedi anghofio dim byd mewn gwirionedd; dipyn o g'wilydd sydd arnoch chi, dyna'r cwbwl.
 
(Helen) Rydw i'n sicr nad ydy pobol ddim yn anghofio petha' fel'na.
(1, 0) 1083 Na, dyna fasai rhywun yn ei feddwl.
(Helen) {Yn lawn asbri eto.}
 
(Helen) Hwyrach eich bod chi wedi anghofio pa ddiwrnod oedd hi, hyd yn oed?
(1, 0) 1086 Pa ddiwrnod?
(Helen) Ie, pa ddiwrnod ddar'u chi osod y bloda' ar ben y tŵr...
 
(Helen) Come on.
(1, 0) 1090 Hm.
(1, 0) 1091 Rhaid i mi gyfaddef 'mod i wedi anghofio yr union ddiwrnod.
(1, 0) 1092 Mi wn i mai deng mlynedd yn ôl oedd hi.
(1, 0) 1093 Rywdro yn yr Hydref.
(Helen) {Yn nodio ei phen yn araf lawer gwaith.}
 
(Helen) A'r dyddiad, Medi un deg naw.
(1, 0) 1097 Ie, mae'n rhaid mai tua'r adeg honno oedd hi.
(1, 0) 1098 Pwy fuasai'n meddwl y b'asech chi'n cofio hynny hefyd.
(1, 0) 1099 O!...
 
(1, 0) 1101 Ond 'rhoswch am funud...
(1, 0) 1102 Ie, y pedwerydd ar bymtheg o Fedi ydy hi heddiw.
(Helen) Ie, mae'r deng mlynedd ar ben.
 
(Helen) A ddaethoch chi ddim fel y dar'u chi addo i mi.
(1, 0) 1105 Addo i chi?
(1, 0) 1106 Bygwth ydych chi'n feddwl, debyg.
(Helen) 'Dydw i ddim yn meddwl bod 'na fygythiad o gwbwl yn hynny.
 
(Helen) 'Dydw i ddim yn meddwl bod 'na fygythiad o gwbwl yn hynny.
(1, 0) 1108 Wel, dipyn o dynnu coes hwyrach?
(Helen) Dyna'r cwbwl oeddech chi eisio'i 'neud?
 
(Helen) Cael hwyl am fy mhen i?
(1, 0) 1111 Neu gael jôc bach.
(1, 0) 1112 'Does gen i ddim co' ond, mewn difri, rhaid mai felly roedd hi i radda'.
(1, 0) 1113 Wedi'r cwbwl, dim ond plentyn oeddech chi'r adeg honno.
(Helen) Ddim cweit.
 
(1, 0) 1117 Oeddech chi o ddifri calon yn disgwyl y down i'n ôl?
(Helen) {Yn cuddio gwên led ddireidus.}
 
(Helen) Oeddwn wir; hynny o leia'.
(1, 0) 1120 Dod yn ôl i'ch tŷ chi a mynd â chi i ffwrdd efo mi?
(Helen) Ie, 'run fath â stori dylwyth teg.
 
(Helen) Ie, 'run fath â stori dylwyth teg.
(1, 0) 1122 A'ch g'neud chi'n dywysoges?
(Helen) Dyna ddar'u chi addo.
 
(Helen) Dyna ddar'u chi addo.
(1, 0) 1124 A rhoi teyrnas i chi hefyd?
(Helen) {Yn edrych i fyny ar y nenfwd.}
 
(Helen) Wrth gwrs 'doedd dim thaid iddi hi fod yn deyrnas go iawn, un gyffredin fel rhyw deyrnas arall.
(1, 0) 1128 Ond rhywbeth lawn cystal?
(Helen) O, gystal o leia'.
 
(Helen) Roeddwn i'n meddwil, os oeddech chi'n gallu codi'r tŵr ucha'n y byd, y byddech chi'n siŵr o allu g'neud teyrnas o ryw fath neu'i gilydd hefyd.
(1, 0) 1132 Wn i ddim yn iawn b'le rydw i'n sefyll efo chi, Miss O'Reilly.
(Helen) Na wyddoch?
 
(Helen) Mae'r cyfan yn edrych reit hawdd i mi.
(1, 0) 1135 Na, fedra' i ddim penderfynu ydych chi'n golygu popeth ydych chi'n ei dd'eud ynte' dim ond gyboli ydych chi.
(Helen) {Yn gwenu.}
 
(Helen) Finna' hefyd?
(1, 0) 1139 le, yn hollol.
(1, 0) 1140 Yn chwara' castia'... ein dau.
 
(1, 0) 1142 Oeddech chi'n gwybod 'mod i'n briod?
(Helen) Roeddwn i'n gwybod hynny o'r dechra'.
 
(Helen) Pam rydych chi'n gofyn?
(1, 0) 1145 O wel.
(1, 0) 1146 Rŵan y trawodd o arna i.
 
(1, 0) 1148 Pam y daethoch chi?
(Helen) Mae arna i eisio fy nheyrnas.
 
(1, 0) 1152 Wel, rydych chi'n goblyn o hogan!
(Helen) {Yn llon.}
 
(1, 0) 1161 Rŵan, a siarad o ddifri'; pam y daethoch chi?
(1, 0) 1162 Be' sy' arnoch chi ei eisio yma mewn gwirionedd?
(Helen) Wel, i ddechra' mae gen i eisio mynd am dro i weld pob peth ydych chi wedi'i adeiladu.
 
(Helen) Wel, i ddechra' mae gen i eisio mynd am dro i weld pob peth ydych chi wedi'i adeiladu.
(1, 0) 1164 Dipyn o waith cerdded o'ch blaen chi felly.
(Helen) Oes.
 
(Helen) Mi wn i'ch bod chi wedi adeiladu peth wmbreth.
(1, 0) 1167 Ydw wir, yn enwedig y blynyddoedd d'waetha yma.
(Helen) Llawer tŵr eglwys ymhlith petha' eraill?
 
(Helen) Rhai uchel, uchel?
(1, 0) 1170 Na.
(1, 0) 1171 Fydda' i ddim yn codi tyra' eglwysi erbyn hyn, nac eglwysi chwaith.
(Helen) Be' |fyddwch| chi'n ei adeiladu rŵan?
 
(Helen) Be' |fyddwch| chi'n ei adeiladu rŵan?
(1, 0) 1173 Cartrefi i bobol.
(Helen) {Yn ystyried.}
 
(1, 0) 1187 Na.
(1, 0) 1188 'Does dim gofyn am betha' felly.
(Helen) Neb eisio un?
 
(1, 0) 1192 Ond rydw i'n g'neud tŷ newydd i mi fy hun, rŵan, dros y ffordd.
(Helen) Ar eich cyfer chi'ch hun?
 
(Helen) Ar eich cyfer chi'ch hun?
(1, 0) 1194 Ie, mae o bron wedi'i orffen.
(1, 0) 1195 Ac y mae yna dŵr arno fo.
(Helen) Tŵr uchel?
 
(Helen) Tŵr uchel?
(1, 0) 1197 Ie.
(Helen) Uchel iawn?
 
(Helen) Uchel iawn?
(1, 0) 1199 'Does dim dwywaith na ddyfyd pobol ei fod o'n rhy uchel i dŷ.
(Helen) Mi a' i allan y peth cynta' bore 'fory i'w weld o.
 
(1, 0) 1202 D'wedwch i mi, Miss O'Reilly, be' ydy eich enw chi, eich enw cynta' chi ydw i'n el feddwl?
(Helen) Ond Helen wrth gwrs.
 
(1, 0) 1205 Helen?
(1, 0) 1206 Ie wir?
(Helen) Ydych chi ddim yn cofio |hynny|?
 
(Helen) Helen ddar'u chi 'ngalw i y diwrnod hwnnw y buoch chi'n hogyn drwg.
(1, 0) 1209 O, felly?
(Helen) Ond yr adeg honno, Helen bach ddar'u chi dd'eud a 'doedd hynny ddim yn plesio.
 
(Helen) Ond yr adeg honno, Helen bach ddar'u chi dd'eud a 'doedd hynny ddim yn plesio.
(1, 0) 1211 O, oeddech chi ddim yn hoffi hynny, Miss Helen?
(Helen) Na.
 
(Helen) Byddai hynny'n swnio'n dda iawn.
(1, 0) 1216 Yn dda iawn wir, 'Y Dywysoges Helen'.
(1, 0) 1217 O, ie, be' oedd enw'r deymas i fod?
(Helen) Twt lol, 'na i ddim byd a'r deyrnas wirion honno.
 
(1, 0) 1221 On'd ydy o'n rhyfedd?
(1, 0) 1222 Po fwya' y meddylia' i am y peth, tebyca'n y byd mae o'n edrych fel petawn i wedi bod yn poeni 'mhen ar hyd y blynyddoedd efo... hm...
(Helen) Efo be'?
 
(Helen) Efo be'?
(1, 0) 1224 Efo rhyw ymdrech i adennill rhywbeth, rhyw brofiad yr oeddwn i'n meddwl ei fod 0owedi mynd yn ango'.
(1, 0) 1225 Ond fu gen i erioed syniad be' fyddai o.
(Helen) Mi ddylech chi fod wedi rhoi cwlwm ar eich cadach poced Mr Morris, bach.
 
(Helen) Mi ddylech chi fod wedi rhoi cwlwm ar eich cadach poced Mr Morris, bach.
(1, 0) 1227 A phendronni wedyn pam roedd o yna, mae'n debyg.
(Helen) Hm.
 
(1, 0) 1231 Dyna beth da eich bod chi wedi dod ata' i rŵan.
(Helen) {Yn edrych i ddyfnder ei lygaid.}
 
(Helen) Ydy o'n beth da?
(1, 0) 1234 Achos rydw i wedi bod mor unig yma.
(1, 0) 1235 Rydw i wedi bod yn syllu mor ddiymadferth ar y cwbwl.
 
(1, 0) 1237 Mi dd'weda' i wrthych chi.
(1, 0) 1238 Ers sbel rydw i wedi dechra' ofni, ie, ofni'n arw lawn, y to ifanc.
(Helen) {Chwerthiniad bach gwawdlyd.}
 
(Helen) Ydy'r bobol ifainc yn peri dychryn i chi?
(1, 0) 1242 O, ydyn.
(1, 0) 1243 Dyna pam yr ydw i wedi fy nghloi a'm bario fy hun i mewn.
 
(1, 0) 1245 Ryw ddiwmod mi ddaw'r genhedlaeth ifanc a tharanu ar fy nrws i.
(1, 0) 1246 Mi ruthran amdana' i.
(Helen) Eisio i chi fynd allan ac agor y drws i'r ifainc sydd, yn fy meddwl i.
 
(Helen) Eisio i chi fynd allan ac agor y drws i'r ifainc sydd, yn fy meddwl i.
(1, 0) 1248 Agor y drws?
(Helen) Ie siŵr, gadael iddyn nhw ddod i mewn atoch chi, yn gyfeillgar.
 
(Helen) Alla' i fod o unrhyw help ichi Mr Morris?
(1, 0) 1257 Medrwch wir.
(1, 0) 1258 Achos rydych chitha'n martsio dan faner newydd.
(1, 0) 1259 Yr ifanc yn amddiffynfa yn erbyn yr ifanc...
(Dr Hughes) Helo.
 
(Dr Hughes) Ydych chi a Miss O'Reilly yma o hyd?
(1, 0) 1263 Rydyn ni wedi bod yn siarad am bob math o betha'.
(Helen) Hen a newydd.
 
(1, 0) 1274 Un o stafelloedd y plant?
(Mrs Morris) Ie, yr un ganol.
 
(1, 0) 1278 Mi gaiff Helen gysgu yn un o stafelloedd y plant.
(Mrs Morris) {Yn edrych arno.}
 
(Mrs Morris) Helen?
(1, 0) 1281 Ie, Helen ydy enw Miss O'Reilly.
(1, 0) 1282 Roeddwn i'n ei nabod hi'n blentyn.
(Mrs Morris) Oeddech chi wir, Isaac?
 
(1, 0) 1292 Chi ydy'r union eneth yr ydw i wedi bod ei hangen hi fwyaf.
(Helen) {Yn edrych arno gyda llygaid llawn syndod a hapusrwydd.}
 
(1, 0) 1296 Sut?
(Helen) Os felly rydw i wedi cael fy nheyrnas!
 
(1, 0) 1299 Helen.
(Helen) {Ei gwefusau'n crynu eto.}
 
(2, 0) 1325 O, chi sy' na?
(Gwyneth) Dim ond gadael i chi wybod 'mod i wedi cyrraedd.
 
(Gwyneth) Dim ond gadael i chi wybod 'mod i wedi cyrraedd.
(2, 0) 1327 Ie, ie, popeth yn iawn.
(2, 0) 1328 Ddaeth Elwyn ddim?
(Gwyneth) Naddo, ddim eto.
 
(Gwyneth) Ond mae o'n dod toc, i'ch holi chi ynghylch...
(2, 0) 1332 Sut mae'r hen ŵr heddiw?
(Gwyneth) Ddim hanner da; mae o'n gofyn 'newch chi'i esgusodi o; rhaid iddo fo aros yn ei wely.
 
(Gwyneth) Ddim hanner da; mae o'n gofyn 'newch chi'i esgusodi o; rhaid iddo fo aros yn ei wely.
(2, 0) 1334 Yn hollol; mi fydd yn lles iddo fo gael gorffwys, ar bob cyfri'.
(2, 0) 1335 Well i chi fynd ymlaen efo'ch gwaith.
(Gwyneth) {Yn aros wrth y drws.}
 
(Gwyneth) Ydych chi eisio sgwrs efo Elwyn pan ddaw o?
(2, 0) 1338 Na, wela' i ddim bod gen i ddim byd arbennig i'w dd'eud wrtho fo.
(Mrs Morris) {Draw wrth y planhigion.}
 
(2, 0) 1344 Ynta' hefyd?
(2, 0) 1345 Pwy arall ydych chi'n ei feddwl?
(Mrs Morris) Ydy siŵr, mae'r hen Feredith yn mynd i farw, Isaac, gewch chi weld.
 
(Mrs Morris) Ydy siŵr, mae'r hen Feredith yn mynd i farw, Isaac, gewch chi weld.
(2, 0) 1347 Gladys annwyl, fasai hi ddim gwell i chi fynd am dro bach?
(Mrs Morris) Ie, hwyrach y dylwn i.
 
(2, 0) 1351 Dal i gysgu mae hi?
(Mrs Morris) {Yn edrych arno.}
 
(2, 0) 1355 Cofio amdani hi yn sydyn 'nes i.
(Mrs Morris) Mae Miss O'Reilly wedi codi ers meitin.
 
(Mrs Morris) Mae Miss O'Reilly wedi codi ers meitin.
(2, 0) 1357 O, ydy hi?
(Mrs Morris) Pan ês i i mewn i'w gweld hi roedd hi'n brysur yn rhoi trefn ar ei phetha'.
 
(2, 0) 1361 Dyna un o'r stafelloedd plant wedi dod i mewn reit handi wedi'r cwbwl, Gladys.
(Mrs Morris) Ie on'd e?
 
(Mrs Morris) Ie on'd e?
(2, 0) 1363 Gwell na'u bod nhw i gyd yn wag 'ddyliwn.
(Mrs Morris) Mae'r gwacter yma'n ofnadwy.
 
(2, 0) 1367 O hyn ymlaen Gladys mi fydd petha'n well, gewch chi weld.
(2, 0) 1368 Mi fydd yn brafiach, mi fydd bywyd yn haws, yn arbennig i chi.
(Mrs Morris) O hyn ymlaen?
 
(Mrs Morris) O hyn ymlaen?
(2, 0) 1370 Ie'n sicir i chi Gladys.
(Mrs Morris) Am ei bod |hi| wedi dod yma ydych chi'n ei feddwl?
 
(2, 0) 1373 Be' oeddwn i'n ei feddwl, wrth gwrs, oedd... wedi i ni symud i'r tŷ newydd.
(Mrs Morris) {Yn codi ei chôt.}
 
(Mrs Morris) Fydd hi'n well wedyn?
(2, 0) 1377 Mae'n rhaid iddi fod.
(2, 0) 1378 Rydych chitha' 'n credu hynny debyg?
(Mrs Morris) Fydda' i'n meddwl dim o gwbwl am y tŷ newydd.
 
(2, 0) 1387 Peidiwch, peidiwch â d'eud hyn'na er mwyn popeth, Gladys.
(2, 0) 1388 Fedra' i ddim diodde' eich clywed chi'n d'eud y fath beth.
(Mrs Morris) O'r gora' 'na' i ddim d'eud hynny ynte' Isaac.
 
(Mrs Morris) O'r gora' 'na' i ddim d'eud hynny ynte' Isaac.
(2, 0) 1390 Rydw i'n dal at be' dd'wedais i.
(2, 0) 1391 Gewch chi weld y bydd hi'n brafiach o lawer arnoch chi yn y tŷ newydd.
(Mrs Morris) Nefoedd annwyl, brafiach arna' i?
 
(2, 0) 1394 Bydd wir, mi fydd hi.
(2, 0) 1395 Mi ellwch fod yn berffaith siŵr achos mi fydd y lle'n llawn o betha' fydd yn eich atgoffa chi o'ch hen gartre'.
(Mrs Morris) Hen gartre' 'nhad a mam a losgwyd i'r llawr?
 
(2, 0) 1398 Ie, ie.
(2, 0) 1399 Gladys druan, roedd honno'n ergyd drom iawn i chi.
(Mrs Morris) {Yn torri allan i ochneidio.}
 
(2, 0) 1403 Wel yn enw'r nefoedd gadewch i ni beidio sôn dim mwy am y peth ynte'.
(Mrs Morris) Fyddwn ni byth |yn| sôn amdano fo.
 
(2, 0) 1407 Fydda' i?
(2, 0) 1408 A pham y b'aswn i'n g'neud hynny, gwrthod meddwl am y peth?
(Mrs Morris) O byddwch Isaac.
 
(2, 0) 1413 Amdanoch chi, chi'ch hun ydych chi'n sôn Gladys?
(Mrs Morris) Ie wrth gwrs, amdana' i fy hun.
 
(2, 0) 1416 Bobol annwyl.
(Mrs Morris) Gyda golwg ar yr hen dŷ, roedd y tân i fod i ddigwydd.
 
(Mrs Morris) Does dim fedrwch chi ei 'neud yn erbyn ffawd.
(2, 0) 1419 Rydych chi'n iawn.
(2, 0) 1420 'Anodd atal anlwc,' chwedl yr hen air.
(Mrs Morris) Ond, yr hyn a ddigwyddodd o achos y tân, y peth dychrynllyd a ddigwyddodd wedyn, dyna'r peth na alla' i byth, byth, byth...
 
(2, 0) 1423 Peidiwch â meddwl amdano fo, Gladys.
(Mrs Morris) Dyna'r union beth na fedra' i ddim peidio â meddwl amdano.
 
(2, 0) 1427 Chi eich hun.
(Mrs Morris) Ie, achos roedd gen i ddyletswydd at y ddwy ochor, atoch chi ac at y rhai bychain.
 
(2, 0) 1433 Gladys, rhaid i chi addo na 'newch chi byth feddwl am hyn eto.
(2, 0) 1434 Newch chi addo f'annwyl i?
(Mrs Morris) O'r nefoedd.
 
(2, 0) 1439 O, mae hyn yn anobeithiol.
(2, 0) 1440 Dim llygedyn o heulwen na gwawr fach o oleuni ar ein cartre' ni.
(Mrs Morris) |'Dydy| hwn ddim yn gartre', Isaac.
 
(Mrs Morris) |'Dydy| hwn ddim yn gartre', Isaac.
(2, 0) 1442 O nâc ydy.
(2, 0) 1443 Hawdd y gellwch chi dd'eud hynny.
 
(2, 0) 1445 A hwyrach eich bod chi'n iawn na fydd hi ddim gwell yn y tŷ newydd chwaith.
(Mrs Morris) Fydd hi byth yn well.
 
(2, 0) 1449 Pam ar y ddaear yr ydyn ni wedi'i adeiladu o ynte'?
(2, 0) 1450 Fedrwch chi dd'eud wrtha i?
(Mrs Morris) Na fedraf.
 
(2, 0) 1454 Be' yn hollol ydych chi'n ei feddwl Gladys?
(Mrs Morris) Be' ydw i'n ei feddwl?
 
(Mrs Morris) Be' ydw i'n ei feddwl?
(2, 0) 1456 Ie.
(2, 0) 1457 Be' aflwydd ydych chi'n ei feddwl?
(2, 0) 1458 Mi ddwed'soch chi'r peth mor rhyfedd fel 'tai rhyw ystyr gudd ynddo fo.
(Mrs Morris) Nâc oedd, yn enw'r Tad, ar fy ngwir.
 
(2, 0) 1461 Dowch rŵan.
(2, 0) 1462 Mi wn i be ydy be.
(2, 0) 1463 'Dydw i ddim yn ddall nâc yn fyddar.
(Mrs Morris) Bobol annwyl; am be' ar y ddaear ydych chi'n siarad?
 
(2, 0) 1467 Rydych chi'n gweld rhyw ystyr gudd a llechwraidd yn y petha' mwya' diniwed fydda' i'n ei ddeud, on'd ydych?
(Mrs Morris) Fi?
 
(Mrs Morris) Ydych chi'n d'eud 'mod i'n g'neud hynny?
(2, 0) 1470 Ho, ho, ho.
(2, 0) 1471 Mae o'n ddigon naturiol, debyg, a chitha' efo dyn sâl i edrych ar ei ôl.
(Mrs Morris) {Yn bryderus.}
 
(2, 0) 1475 Dyn hanner call ynte', dyn wedi drysu.
(2, 0) 1476 Galwch fi be' fynnoch chi.
(Mrs Morris) {Yn palfalu am gadair ac yn eistedd i lawr.}
 
(Mrs Morris) Isaac, yn enw'r nefoedd...!
(2, 0) 1479 Ond rydych chi wedi methu, chi a'r doctor.
(2, 0) 1480 Nid dyna sy' o'i le arna' i.
 
(2, 0) 1484 Mewn gwirionedd 'does 'na ddim o gwbwl o'i le arna' i.
(Mrs Morris) Nâc oes, wrth gwrs.
 
(Mrs Morris) Ond eto, be' sy'n eich poeni chi gymaint?
(2, 0) 1487 Fy mod i'n teimlo'n barod i sigo dan ryw faich dychrynllyd o ddyled.
(Mrs Morris) Dyled?
 
(2, 0) 1491 Rydw i mewn dyled ddiderfyn i chi Gladys.
(Mrs Morris) {Yn codi'n araf.}
 
(Mrs Morris) Waeth i chi ddeud wrtha i ar unwaith.
(2, 0) 1495 Does yna ddim byd y tu ôl iddo fo.
(2, 0) 1496 'Dydw i erioed wedi g'neud dim drwg i chi, ddim o fwriad beth bynnag.
(2, 0) 1497 Ac eto, mae fel petai yna euogrwydd mawr yn fy ngwasgu fi i lawr.
(Mrs Morris) Euogrwydd o'm plegid i?
 
(Mrs Morris) Euogrwydd o'm plegid i?
(2, 0) 1499 Ie, chi'n bennaf.
(Mrs Morris) Felly mae'n rhaid eich bod chi'n sâl wedi'r cwbwl Isaac.
 
(2, 0) 1502 Mae'n rhaid fy mod i, neu bod rhywbeth o'i le.
 
(2, 0) 1504 A, dyna hi'n goleuo rŵan.
(Helen) Hiya, Mr Morris.
 
(2, 0) 1509 Ddar'u chi gysgu'n iawn?
(Helen) Ardderchog.
 
(2, 0) 1514 Roeddech chi'n berffaith gyffyrddus felly?
(Helen) Great.
 
(Helen) Great.
(2, 0) 1516 Ac mi ddar'u chi freuddwydio reit siŵr.
(Helen) Do mi wnes i, ond roedd hynny'n ofnadwy.
 
(Helen) Do mi wnes i, ond roedd hynny'n ofnadwy.
(2, 0) 1518 O?
(Helen) Oedd, achos mi freuddwydiais i 'mod i'n disgyn dros ymyl clogwyn uchel a serth.
 
(Helen) Fyddwch chi'n cael breuddwyd felly?
(2, 0) 1521 Byddaf, rŵan ac yn y man.
(Helen) Mae o'n gyrru ias drwy rywun, mae o'n braf ofnadwy pan fyddwch chi'n disgyn a disgyn.
 
(Helen) Mae o'n gyrru ias drwy rywun, mae o'n braf ofnadwy pan fyddwch chi'n disgyn a disgyn.
(2, 0) 1523 Iasa' nes bod rhywun yn teimlo'n oer drosto.
(Helen) Fyddwch chi'n tynnu'ch coesa' i fyny o danoch chi pan fyddwch chi'n disgyn?
 
(Helen) Fyddwch chi'n tynnu'ch coesa' i fyny o danoch chi pan fyddwch chi'n disgyn?
(2, 0) 1525 Byddaf cyn uched fyth ag a fedra' i.
(Helen) A finna'.
 
(2, 0) 1542 Ie, ond mi allai pobol gymryd yn eu penna' eich bod chitha' o'ch co', ydych chi'n gweld.
(Helen) O 'ngho'?
 
(2, 0) 1546 Dyma i chi |un| beth bynnag.
(Helen) Chi, Mr Morris?
 
(Mrs Morris) O peidiwch â siarad fel 'na Isaac annwyl.
(2, 0) 1549 Ydych chi ddim wedi sylwi ar hynny eto?
(Helen) Bobol bach, nâc ydw i.
 
(Helen) Ac eto, mewn rhyw un peth bach.
(2, 0) 1553 Glywsoch chi |hyn'na| Gladys?
(Mrs Morris) A be' ydy'r un peth hwnnw, Miss O'Reilly?
 
(Mrs Morris) O, 'dydw i ddim am dd'eud.
(2, 0) 1557 Dowch rŵan, allan â fo.
(Helen) No way.
 
(Mrs Morris) Pan fyddwch chi a Miss O'Reilly ar eich penna' eich hunain mi dd'wedith wrthych chi, Isaac, fwy na thebyg.
(2, 0) 1561 Ydych chi'n meddwl hynny?
(Mrs Morris) Ydw, siŵr.
 
(Helen) Ydy'ch gwraig chi'n fy nrwglecio i'n arw?
(2, 0) 1567 Ydych chi'n meddwl eich bod chi wedi gweld rhyw arwydd o hynny o gwbwl?
(Helen) Ddar'u chi ddim sylwi'ch hun?
 
(2, 0) 1570 Mae Gladys wedi mynd yn swil iawn efo pobol ddiarth y blynyddoedd d'waetha' 'ma.
(Helen) Ydy hi wir?
 
(Helen) Ydy hi wir?
(2, 0) 1572 Ond dim ond i chi ddod i'w nabod hi'n iawn, mae hi mor neis a charedig.
(2, 0) 1573 Mae ganddi hi galon fawr.
(Helen) {Yn ddiamynedd.}
 
(Helen) Ond os ydy hi mor dda, be wnaeth iddi hi sôn am ei dyletswydd?
(2, 0) 1576 Ei dyletswydd?
(Helen) Mi ddywedodd yr âi hi allan a phrynu rhywbeth i mi, am ei fod yn |ddyletswydd| ami.
 
(Helen) O, fedra' i ddim diodde''r hen air hyll yna.
(2, 0) 1579 Pam?
(Helen) Mae o'n swnio mor oer, mor finiog a phigog.
 
(Helen) Ydy o ddim yn eich pigo chitha'?
(2, 0) 1584 Hm!
(2, 0) 1585 Feddyliais i ddim llawer amdano fo.
(Helen) Wel |mae| o!
 
(Helen) Ac os ydy hi mor neis, fel yr ydych chi yn deud, pam mae hi'n siarad fel na?
(2, 0) 1588 Ond nefoedd fawr, be' f'asech chi wedi hoffi iddi hi 'i ddeud ynte'?
(Helen) Mi allai hi fod wedi d'eud ei bod yn g'neud am ei bod wedi cymryd ata' i'n arw.
 
(Helen) Mi allai hi fod wedi d'eud rhywbeth fel 'na, rhywbeth cynnes a serchog, ydych chi'n deall?
(2, 0) 1591 Felly yr hoffech chi?
(Helen) Ie, yn hollol.
 
(Helen) Ew, llawer o lyfra' sy' gennych chi!
(2, 0) 1595 Oes.
(2, 0) 1596 Rydw i wedi hel cryn dipyn.
(Helen) Fyddwch chi'n eu darllen nhw i gyd hefyd?
 
(Helen) Fyddwch chi'n eu darllen nhw i gyd hefyd?
(2, 0) 1598 Mi fyddwn i'n arfer trïo.
(2, 0) 1599 Fyddwch chi'n darllen llawer?
(Helen) Na fydda' i, byth.
 
(Helen) Mae'r cwbwl mor amherthnasol.
(2, 0) 1603 Dyna'n union fydda' inna' 'n ei feddwl.
(Helen) {Yn symud o gwmpas, aros wrth y bwrdd bach ac edrych drwy'r ffolder.}
 
(Helen) Chi bia' 'r plania' yma i gyd?
(2, 0) 1606 Nâc e.
(2, 0) 1607 Dyn ifanc sy'n gweithio i mi sy' wedi'i g'neud nhw.
(Helen) Rhywun ydych chi wedi'i ddysgu?
 
(Helen) Rhywun ydych chi wedi'i ddysgu?
(2, 0) 1609 Ydy, yn ddiama' mae o wedi dysgu dipyn oddi wrtha i.
(Helen) {Yn eistedd.}
 
(Helen) Ydy o ddim?
(2, 0) 1614 Dydy o ddim yn ddrwg, at be' ydw i ei angen.
(Helen) O ydy wir, rydw i'n siŵr ei fod o'n glyfar ofnadwy.
 
(Helen) O ydy wir, rydw i'n siŵr ei fod o'n glyfar ofnadwy.
(2, 0) 1616 Ydych chi'n medru gweld hynny o'r cynllunia'?
(Helen) Na, twt, twt, ddim o'r sgribliada' yma.
 
(Helen) Ond os ydy o'n ddisgybl i chi...
(2, 0) 1619 Ond mae 'na ddigonedd o bobol sy' wedi dysgu efo mi ac wedi g'neud ychydig iawn o'u hôl er hynny.
(Helen) {Yn edrych arno ac ysgwyd ei phen.}
 
(Helen) Fedra' i ddim deall sut y gellwch chi fod mor dwp.
(2, 0) 1622 Twp?
(2, 0) 1623 Ydych chi'n meddwl 'mod i'n un gwirion iawn?
(Helen) Ydw, sorry.
 
(2, 0) 1627 Wel, a pham lai?
(Helen) {Yn codi, hanner o ddifri a hanner chwerthin.}
 
(Helen) Wel?
(2, 0) 1636 Sut ar y ddaear y daeth hyn'na i'ch pen chi?
(Helen) Ydych chi'n meddwl 'mod i'n nuts ynte'?
 
(Helen) Ydych chi'n meddwl 'mod i'n nuts ynte'?
(2, 0) 1638 Na, nid dyna ydw i'n ei feddwl.
(2, 0) 1639 Ond rŵan mi dd'weda i rywbeth wrthych chi.
(Helen) Wel?
 
(Helen) Wel?
(2, 0) 1641 Yma, ar fy mhen fy hun, mi fydda i'n synfyfyrio uwchben yr union syniad yna.
(Helen) Mae hynny'n swnio'n hollol naturiol i mi.
 
(2, 0) 1644 Ydych chi wedi sylwi'n barod, felly?
(Helen) Nâc ydw, ddim o gwbwl.
 
(Helen) Nâc ydw, ddim o gwbwl.
(2, 0) 1646 Ond gynna' pan ddar'u chi dd'eud eich bod chi'n meddwl bod 'na ryw un peth od...
(Helen) O, am rywbeth hollol wahanol yr oeddwn i'n meddwl.
 
(Helen) O, am rywbeth hollol wahanol yr oeddwn i'n meddwl.
(2, 0) 1648 Be' oedd o?
(Helen) Dydw i ddim am dd'eud.
 
(2, 0) 1651 Iawn, fel y mynnoch chi.
 
(2, 0) 1653 Dowch yma.
(2, 0) 1654 Mi dd'weda' i rywbeth wrthych chi.
(Helen) {Yn agosáu.}
 
(Helen) Be?
(2, 0) 1657 Welwch chi yn fan'cw, yn yr ardd?
(Helen) Gwelaf.
 
(2, 0) 1660 Reit uwchben y chwarel.
(Helen) Y tŷ newydd yna ydych chi'n ei feddwl?
 
(Helen) Y tŷ newydd yna ydych chi'n ei feddwl?
(2, 0) 1662 Ie, yr un sy'n cael ei adeiladu rŵan, bron wedi'i orffen.
(Helen) Mae o'n edrych fel petai 'na dŵr uchel arno fo.
 
(Helen) Mae o'n edrych fel petai 'na dŵr uchel arno fo.
(2, 0) 1664 Mae'r sgaffald yn dal i fyny.
(Helen) Eich tŷ newydd chi ydy o?
 
(Helen) Eich tŷ newydd chi ydy o?
(2, 0) 1666 Ie.
(Helen) Y tŷ yr ydych chi'n mynd i symud iddo fo yn fuan?
 
(Helen) Y tŷ yr ydych chi'n mynd i symud iddo fo yn fuan?
(2, 0) 1668 Ie.
(Helen) {Yn edrych ar Morris.}
 
(Helen) Oes 'na stafelloedd plant yn y tŷ acw hefyd?
(2, 0) 1671 Oes, tair fel sy' yma.
(Helen) A dim un plentyn?
 
(Helen) A dim un plentyn?
(2, 0) 1673 Ie, a fydd yno byth un.
(Helen) {Gyda hanner gwên.}
 
(Helen) Wel, ydy hi ddim yn union fel y dwedais i?
(2, 0) 1676 Sut felly?
(Helen) Eich bod chi dipyn bach o'ch co' wedi'r cwbwl.
 
(Helen) Eich bod chi dipyn bach o'ch co' wedi'r cwbwl.
(2, 0) 1678 Hynny oedd y tu ôl i'ch meddwl chi?
(Helen) Ie.
 
(2, 0) 1682 Mi |fu| gan Gladys a finna' blant wyddoch chi.
(Helen) {Yn edrych arno'n eiddgar.}
 
(Helen) Do wir?
(2, 0) 1685 Dau hogyn bach, yr un oed.
(Helen) Twins.
 
(Helen) Twins.
(2, 0) 1687 Ie, gefeilliaid.
(2, 0) 1688 Mae un mlynedd ar ddeg neu ddeuddeng mlynedd ers hynny rŵan.
(Helen) {Yn ofalus.}
 
(2, 0) 1693 Dim ond rhyw dair wythnos y buon nhw gennyn ni, prin hynny.
 
(2, 0) 1695 O Helen, fedra' i ddim d'eud wrthych chi pa mor fendithiol ydy eich bod chi wedi dod.
(2, 0) 1696 Achos, o'r diwedd mae gen i rywun y medra' i |siarad| efo hi.
(Helen) Ellwch chi ddim siarad efo |hi|?
 
(Helen) Ellwch chi ddim siarad efo |hi|?
(2, 0) 1698 Ddim am hyn.
(2, 0) 1699 Nid fel yr ydw i'n dymuno.
(2, 0) 1700 Ac fel y mae'n rhaid i mi siarad.
 
(2, 0) 1702 Nâc am lawer o betha' eraill chwaith.
(Helen) {Mewn llais gostyngedig.}
 
(Helen) Dyna'r cwbwl oeddech chi'n ei feddwl pan dd'wedsoch chi fod arnoch chi f'angen i?
(2, 0) 1705 Hynny'n fwy na dim.
(2, 0) 1706 O leiaf, ddoe, achos erbyn heddiw dydw i ddim mor siŵr.
 
(2, 0) 1708 Helen, dowch yma; mi eisteddwn ni.
(2, 0) 1709 Eisteddwch chi yn fan'na lle medrwch chi weld yr ardd.
 
(2, 0) 1712 Fasech chi'n hoffi clywed am y peth?
(Helen) Mi f'aswn i wrth fy modd yn eistedd a gwrando arnoch chi.
 
(2, 0) 1715 Mi dd'weda' i'r cyfan wrthych chi ynte'.
(2, 0) 1716 'Helen
(2, 0) 1717 Reit.
(2, 0) 1718 Mi alla' i weld yr ardd a chitha.
(2, 0) 1719 Away.
 
(2, 0) 1721 Draw ar y codiad tir acw... lle gwelwch chi'r tŷ newydd.
(Helen) Ie.
 
(Helen) Ie.
(2, 0) 1723 Roedd Gladys a finna''n byw yn fan'na y blynyddoedd cyntaf ar ôl priodi.
(2, 0) 1724 Roedd yno hen dŷ wedi bod yn perthyn i'w mam hi.
(2, 0) 1725 Fe gafodd ei adael i ni a'r cwbwl o'r hen ardd i'w ganlyn o.
(Helen) Oedd 'na dŵr ar y tŷ hwnnw hefyd?
 
(Helen) Oedd 'na dŵr ar y tŷ hwnnw hefyd?
(2, 0) 1727 Nâc oedd.
(2, 0) 1728 Dim byd tebyg.
(2, 0) 1729 O'r tu allan roedd o'n edrych fel bocs pren mawr tywyll ond oddi fewn roedd o'n ddigon clyd a chysurus.
(Helen) Be ddar'u chi?
 
(Helen) Ei dynnu o i lawr?
(2, 0) 1732 Na.
(2, 0) 1733 Mi aeth ar dân.
(Helen) Y cwbwl?
 
(Helen) Y cwbwl?
(2, 0) 1735 Ie.
(Helen) W! dyna golled i chi.
 
(Helen) W! dyna golled i chi.
(2, 0) 1737 Mae'n dibynnu sut yr edrychwch chi ar y peth.
(2, 0) 1738 O ran busnes dyna'r peth gora' a ddigwyddodd i mi.
(Helen) Sut hynny?
 
(Helen) Sut hynny?
(2, 0) 1740 Yn fuan wedi geni'r ddau hogyn bach oedd hi.
(Helen) Y twins bach druan?
 
(Helen) Y twins bach druan?
(2, 0) 1742 Roedden nhw'n fabanod bach cryf, nobl.
(2, 0) 1743 A thyfu yr oedden nhw.
(2, 0) 1744 Mi fedrech chi weld y gwahaniaeth bob dydd.
(Helen) Mae babis yn tyfu'n fuan ar y cychwyn.
 
(Helen) Mae babis yn tyfu'n fuan ar y cychwyn.
(2, 0) 1746 Fel y byddai'r ddau'n gorwedd ym mreichia'u mam, ddela' welsoch chi erioed.
(2, 0) 1747 Ond wedyn mi ddaeth noson y tân...
(Helen) {Yn llawn cynnwrf.}
 
(Helen) Anafwyd rhywun?
(2, 0) 1752 Naddo.
(2, 0) 1753 Mi ddaeth pawb allan o'r tŷ yn ddiogel.
(Helen) A wedyn?
 
(Helen) A wedyn?
(2, 0) 1755 Roedd Gladys wedi dychryn a chynhyrfu'n arw.
(2, 0) 1756 Y corn tân, y rhuthro allan ar frys gwyllt ac ar ben hynny, awyr oer y nos...
(2, 0) 1757 Achos mi fu'n rhaid eu cario allan yn union fel yr oedden nhw'n gorwedd, hi a'r plant.
(Helen) Ac yr oedd hynny'n ormod iddyn nhw?
 
(Helen) Ac yr oedd hynny'n ormod iddyn nhw?
(2, 0) 1759 Na, doedden nhw ddim gwaeth.
(2, 0) 1760 Ond mi gafodd Gladys dwymyn ac mi effeithiodd ar ei llaeth hi.
(2, 0) 1761 Thalai dim ond iddi gael eu magu nhw ei hun, am mai dyna oedd ei dyletswydd hi, meddai hi.
(2, 0) 1762 A mi ddaru ein dau blentyn bach ni...
 
(2, 0) 1764 Mi fuon nhw...
(Helen) Ddar'u nhw ddim dal hynny?
 
(Helen) Ddar'u nhw ddim dal hynny?
(2, 0) 1766 Naddo.
(2, 0) 1767 Dyna sut y dar'u ni eu colli nhw.
(Helen) Mi gawsoch chi amser caled ofnadwy ynte'.
 
(Helen) Mi gawsoch chi amser caled ofnadwy ynte'.
(2, 0) 1769 Roedd hi'n ddigon drwg arna' i ond roedd hi'n saith gwaeth ar Gladys.
 
(2, 0) 1771 I feddwl bod y fath beth yn cael ei ganiatáu ar y ddaear yma.
 
(2, 0) 1773 O'r diwrnod y collais i nhw 'doedd gen i ddim awydd i adeiladu eglwysi mwy.
(Helen) Chawsoch chi ddim pleser yn codi tŵr ein heglwys ni?
 
(Helen) Chawsoch chi ddim pleser yn codi tŵr ein heglwys ni?
(2, 0) 1775 Na doedd o ddim yn bleser.
(2, 0) 1776 Mi wn i pa mor hapus a rhydd oeddwn i'n teimlo pan orffennwyd y tŵr hwnnw.
(Helen) Mi wn inna' hefyd.
 
(Helen) Mi wn inna' hefyd.
(2, 0) 1778 A rŵan, adeilada' i byth ddim byd fel 'na eto, byth eto.
(2, 0) 1779 Nâc eglwysi na thyra' eglwysi.
(Helen) {Yn nodio'n araf.}
 
(Helen) Dim heblaw tai i bobol fyw ynddyn nhw.
(2, 0) 1782 Cartrefi i foda' dynol Helen.
(Helen) Ond cartrefi efo tyra' uchel a phinacla' arnyn nhw.
 
(Helen) Ond cartrefi efo tyra' uchel a phinacla' arnyn nhw.
(2, 0) 1784 Ie, hwyrach.
 
(2, 0) 1786 Ond, fel yr oeddwn i'n d'eud, y tân roddodd fi ar fy nhraed, fel contractor ydw i'n ei feddwl.
(Helen) Ydych chi ddim yn galw'ch hun yn architect fel y lleill?
 
(Helen) Ydych chi ddim yn galw'ch hun yn architect fel y lleill?
(2, 0) 1788 Chefais i erioed yr addysg dechnegol.
(2, 0) 1789 Petha' ydw i wedi ddysgu wrth fynd ydy'r rhan fwyaf o'r hyn a wn i.
(Helen) Ond rydych chi wedi llwyddo'n eithriadol er hynny.
 
(Helen) Ond rydych chi wedi llwyddo'n eithriadol er hynny.
(2, 0) 1791 Do, diolch i'r tân.
(2, 0) 1792 Mi rannais i bron y cwbwl o'r ardd yn blotia' a chodi tai ar y rheini yn ôl fy ffansi.
(2, 0) 1793 Mi ddois i ymlaen yn wych.
(Helen) {Yn edrych yn daer arno.}
 
(2, 0) 1797 Hapus?
(2, 0) 1798 Ydych chitha'n d'eud hynny hefyd, 'run fath â'r lleill?
(Helen) Mae'n rhaid eich bod chi, petaech chi'n gallu anghofio am y ddau blentyn bach.
 
(2, 0) 1801 Y ddau fachgen bach; 'dydyn nhw ddim mor hawdd eu hanghofio, Helen.
(Helen) {Yn ansicr.}
 
(2, 0) 1805 Dyn hapus dd'wedsoch chi?
(Helen) Rydych chi'n hapus, mewn ffyrdd eraill, siŵr iawn?
 
(2, 0) 1808 Pan oeddwn i'n d'eud yr hanes am y tân...
(Helen) Wel?
 
(Helen) Wel?
(2, 0) 1810 Ddaru 'na ddim byd eich taro chi'n arbennig?
(Helen) {Yn ceisio meddwl.}
 
(2, 0) 1815 Y tân yna a hwnnw'n unig roddodd y cyfle i mi i neud cartrefi.
(2, 0) 1816 Cartrefi clyd a chysurus a siriol lle gall tad a mam a phlant fyw'n ddiogel a llawen a theimlo ei bod hi'n braf bod yn fyw.
(2, 0) 1817 A mwy na hynny bod yn perthyn y naill i'r llall mewn petha' bach a phetha' mawr.
(Helen) {Yn frwd.}
 
(Helen) Wel, ydy o ddim yn destun hapusrwydd mawr i chi eich bod chi'n gallu g'neud cartrefi mor hyfryd?
(2, 0) 1820 Y pris Helen, y pris dychrynllyd y bu raid i mi ei dalu am hynny.
(Helen) Ond ellwch chi ddim rhoi hynny o'r neilltu?
 
(Helen) Ond ellwch chi ddim rhoi hynny o'r neilltu?
(2, 0) 1822 Na fedraf.
(2, 0) 1823 Er mwyn g'neud cartrefi i bobol eraill roedd yn rhaid i mi fyw heb gartre' i mi fy hun,... am byth, hynny ydy cartre' i griw o blant ac i dad a mam.
(Helen) {Yn ofalus.}
 
(2, 0) 1827 Dyna oedd pris yr hapusrwydd yma y bydd pobol yn sôn amdano.
(2, 0) 1828 'Doedd yr hapusrwydd yma ddim i'w gael yn rhatach Helen.
(Helen) {Fel o'r blaen.}
 
(Helen) Ond, mi all petha' wella, hyd yn oed rŵan?
(2, 0) 1831 Byth yn y byd yma.
(2, 0) 1832 Byth.
(2, 0) 1833 Dyna un arall o ganlyniada'r tân.
(2, 0) 1834 Ac o afiechyd Gladys ar ei ôl o.
(Helen) {Yn edrych arno â golwg anniffìniadwy.}
 
(2, 0) 1838 Ydych chi erioed wedi sylwi fel mae'r amhosib yn hudo dyn, yn codi'i law a galw'n daer ar rywun?
(Helen) {Yn ystyried.}
 
(Helen) Ydych chitha'n teimlo hynny hefyd?
(2, 0) 1844 Ydw.
(Helen) Mae'n rhaid bod rhyw ddewin o'ch mewn chitha' hefyd.
 
(Helen) Mae'n rhaid bod rhyw ddewin o'ch mewn chitha' hefyd.
(2, 0) 1846 Dewin?
(Helen) Be' fuasech chi'n ei alw ynte', witj?
 
(2, 0) 1849 Ie, hwyrach eich bod chi'n iawn.
 
(2, 0) 1851 Ond sut y medra i ddianc o afael yr ysbrydion yma, pan fo popeth yn troi allan fel hyn yn fy hanes i bob amser?
(Helen) Be ydych chi'n 'i feddwl?
 
(2, 0) 1854 Gwrandewch yn ofalus Helen.
(2, 0) 1855 Mae'r cwbwl ydw i wedi llwyddo i'w 'neud, adeiladu tai, llunio cyfle llawenydd, ceisio darparu cysur, ie, a'r gwychter hefyd...
 
(2, 0) 1857 O, mae'n ofnadwy meddwl am y peth...
(Helen) Be sy mor ofnadwy?
 
(Helen) Be sy mor ofnadwy?
(2, 0) 1859 Bod rhaid i mi dalu'n ôl am hyn i gyd, talu, nid mewn arian ond mewn hapusrwydd.
(2, 0) 1860 Ac nid fy hapusrwydd fy hun yn unig ond efo hapusrwydd pobol eraill hefyd.
(2, 0) 1861 Welwch chi Helen?
(2, 0) 1862 Dyna bris bod yn artist, y pris am |lwyddo wrth gyflawni rhywbeth yn y byd 'ma|, i mi ac eraill.
(2, 0) 1863 A phob un dydd mae'n rhaid i mi wylio tra bo'r pris yn cael ei dalu drosta' i o'r newydd.
(2, 0) 1864 Drosodd a throsodd a throsodd, am byth.
(Helen) {Yn codi a sefydlu ei golwg arno.}
 
(Helen) Meddwl yr ydych chi amdani hi.
(2, 0) 1867 Ie, am Gladys yn bennaf.
(2, 0) 1868 Oherwydd roedd ganddi hitha' ei galwedigaeth mewn bywyd gymaint ag oedd gen i.
 
(2, 0) 1870 Ond mi fu raid gwasgu ei gweledigaeth hi, ei malu a'i chwalu er mwyn i f'un i fedru gwthio'i ffordd i ryw fath o fuddugoliaeth fawr.
(2, 0) 1871 Roedd gan Gladys ddawn i adeiladu hefyd, cofiwch.
(Helen) Hi, i adeiladu?
 
(2, 0) 1874 Nid tai a thyra' a'r petha' y bydda' i yn gweithio arnyn nhw.
(Helen) Be ynte'?
 
(2, 0) 1877 Llunio eneidia' plant bach, Helen; eu llunio nhw i dyfu'n gytbwys i fod yn bobol ifainc o gymeriad ac yna'n bobol dda, yn gryf ac yn annibynnol.
(2, 0) 1878 Dyna oedd talent Gladys.
(2, 0) 1879 A dyna hi'n gorwedd heb ei harfer, yn ddiffrwyth am byth... yn dda i ddim i neb,... yn union 'run fath â'r adfeilion ar ôl y tân.
(Helen) Ie, ond hyd yn oed petai hyn yn wir...?
 
(Helen) Ie, ond hyd yn oed petai hyn yn wir...?
(2, 0) 1881 Mae o'n wir.
(2, 0) 1882 O, ydy.
(2, 0) 1883 Mi wn i.
(Helen) P'run bynnag, nid arnoch chi mae'r bai.
 
(2, 0) 1886 A! Dyna ydy'r cwestiwn mawr, y cwestiwn brawychus.
(2, 0) 1887 Ama' hynny sy'n fy mwyta i nos a dydd.
(Helen) Hynny?
 
(Helen) Hynny?
(2, 0) 1889 Ie.
(2, 0) 1890 Fy mai i oedd o mewn rhyw ffordd, cofiwch.
(Helen) Eich bai chi?
 
(Helen) Y tân?
(2, 0) 1893 Y cwbwl, y tân a'r cwbwl.
(2, 0) 1894 Ac eto hwyrach 'mod i'n ddieuog.
(Helen) {Yn edrych arno â golwg bryderus.}
 
(Helen) O, Mr Morris, os gellwch chi siarad fel 'na, mae'n rhaid eich bod chi'n sâl wedi'r cwbwl, mae arna' i ofn.
(2, 0) 1897 Hm.
(2, 0) 1898 'Dydw i ddim yn meddwl y bydda i byth yn iach,... mewn un ystyr.
(Elwyn) {Pan wêl Helen.}
 
(Elwyn) {Yn gwneud osgo i droi'n ôl.}
(2, 0) 1904 Na, paid â mynd.
(2, 0) 1905 Gad i ni ei gael o drosodd.
(Elwyn) Ie wir.
 
(Elwyn) Piti na fedren ni.
(2, 0) 1908 Dydy dy dad ddim gwell rydw i'n deall.
(Elwyn) Mae 'nhad yn gwanio'n gyflym.
 
(2, 0) 1913 Wrandawa' i ddim mwy am y cynllunia' yma sy' gen ti.
(Elwyn) Ydych chi wedi edrych arnyn nhw?
 
(Elwyn) Ydych chi wedi edrych arnyn nhw?
(2, 0) 1915 Ydw.
(Elwyn) A dydyn nhw'n dda i ddim?
 
(2, 0) 1919 Aros di yma efo mi, Elwyn.
(2, 0) 1920 Gei di bopeth dy ffordd dy hun.
(2, 0) 1921 Mi fedri di briodi Gwyneth wedyn a byw yn braf, yn hapus hwyrach, pwy a ŵyr.
(2, 0) 1922 Ond paid â meddwl am godi tai ar dy liwt dy hun.
(Elwyn) Ah wel.
 
(2, 0) 1928 O, o.
(2, 0) 1929 Dywed ti be' fynnot ti o'm rhan i.
(2, 0) 1930 Gwell peidio deud dim wrtho fo.
(Elwyn) Ga' i'r plania' i fynd efo mi?
 
(Elwyn) Ga' i'r plania' i fynd efo mi?
(2, 0) 1932 Cei, cymer nhw ar bob cyfri.
(2, 0) 1933 Maen nhw ar y bwrdd yn fan 'na.
(Elwyn) {Yn mynd at y bwrdd.}
 
(Helen) Na, gadewch nhw yma.
(2, 0) 1938 Pam?
(Helen) Am fod arna' i eisio edrych arnyn nhw.
 
(Helen) Am fod arna' i eisio edrych arnyn nhw.
(2, 0) 1940 Ond rydych chi |wedi bod|...
 
(2, 0) 1942 Gadael nhw yma ynte'.
(Elwyn) O'r gora'.
 
(Elwyn) O'r gora'.
(2, 0) 1944 Gwell i ti fynd adre at dy dad ar d'union.
(Elwyn) Ie, rhaid i mi.
 
(2, 0) 1947 Elwyn, rhaid i ti beidio gofyn i mi 'neud rhywbeth sy' y tu hwnt i ngallu i.
(2, 0) 1948 Wyt ti'n clywed?
(2, 0) 1949 Rhaid i ti beidio.
(Elwyn) Wrth gwrs, maddeuwch i mi.
 
(Helen) Roedd yn beth hyll iawn i'w ddweud.
(2, 0) 1955 Ydych chi'n meddwl hynny?
(Helen) Ydw, roedd o'n ofnadwy o hyll ac yn galed.
 
(Helen) Ac yn ddrwg a chreulon hefyd.
(2, 0) 1958 Dydych chi ddim yn deall fy sefyllfa i.
(Helen) Dim gwahaniaeth am hynny.
 
(Helen) Ddylech chi ddim bod fel 'na.
(2, 0) 1961 Mi dd'wedsoch eich hun gynna' na ddylai neb arall ond fi gael adeiladu.
(Helen) Mi ga i dd'eud petha' fel 'na.
 
(Helen) Chewch |chi| ddim.
(2, 0) 1964 Siawns na cha' i, yn anad neb, fi sy' wedi talu mor ddrud am fy safle.
(Helen) O ie.
 
(Helen) Efo cysur cartre ac ati.
(2, 0) 1967 A thawelwch cydwybod yn y fargen.
(Helen) {Yn codi.}
 
(2, 0) 1976 Eisteddwch i lawr am funud eto Helen.
(2, 0) 1977 Mi dd'weda' i rywbeth doniol wrthych chi.
(Helen) {Yn eistedd gan ddangos diddordeb.}
 
(Helen) OK.
(2, 0) 1980 Mae o'n swnio'n beth bach mor wrthun; achos mae'r stori i gyd yn troi o gylch dim byd ond... crac mewn simdde.
(Helen) Dim ond hynny?
 
(Helen) Dim ond hynny?
(2, 0) 1982 Ddim yn y dechra'.
 
(Helen) Rŵan am stori'r crac yn y simdde.
(2, 0) 1987 Roeddwn i wedi sylwi ar y crac yn y simdde.
(2, 0) 1988 O, ymhell cyn y tân.
(2, 0) 1989 Bob tro y byddwn i'n mynd i'r atig mi fyddwn i'n edrych oedd o'n dal yno.
(Helen) A roedd o?
 
(Helen) A roedd o?
(2, 0) 1991 Oedd, 'doedd neb arall yn gwybod amdano fo.
(Helen) Ddar'u chitha' ddim d'eud?
 
(Helen) Ddar'u chitha' ddim d'eud?
(2, 0) 1993 Dim gair.
(Helen) Na meddwl am ei drwsio chwaith?
 
(Helen) Na meddwl am ei drwsio chwaith?
(2, 0) 1995 O, do.
(2, 0) 1996 Mi feddyliais i am 'neud ond dyna'r cwbwl.
(2, 0) 1997 Bob tro y byddwn i'n bwriadu dechra' arni roedd yn union fel petai rhyw law yn fy nal i'n ôl.
(2, 0) 1998 Ddim heddiw, meddwn i wrthyf fy hun,... yfory.
(2, 0) 1999 Yn y diwedd chafodd o 'mo'i 'neud.
(Helen) Pam yr oeddech chi yn ei roi o heibio o hyd fel 'na?
 
(Helen) Pam yr oeddech chi yn ei roi o heibio o hyd fel 'na?
(2, 0) 2001 Am fy mod i'n pendronni ynghylch rhywbeth.
 
(2, 0) 2003 Mi fedrwn i, hwyrach, drwy'r crac bach yn y simdde, fy ngwthio fy hun i fyny... fel adeiladwr.
(Helen) {Yn edrych yn union o'i blaen.}
 
(Helen) Roedd y syniad yn eich hudo chi'n llwyr?
(2, 0) 2006 Bron yn llwyr.
(2, 0) 2007 Wel, yn llwyr.
(2, 0) 2008 Achos yr adeg honno roeddwn i'n ei weld o'n fater syml a hawdd.
(2, 0) 2009 Mi ddigwyddai yn y gaeaf,... ychydig cyn amser cinio.
(2, 0) 2010 Mi fyddwn i allan am dro bach yn y car efo Gladys.
(2, 0) 2011 Byddai'r forwyn, gartre', wedi g'neud tanllwyth o dân iawn i gynhesu'r tŷ.
(Helen) Achos roedd hi i fod yn gafael o oer y diwrnod hwnnw.
 
(Helen) Achos roedd hi i fod yn gafael o oer y diwrnod hwnnw.
(2, 0) 2013 Yn oer iawn allan.
(2, 0) 2014 A byddai'r forwyn yn awyddus i Gladys deimlo'r tŷ yn berffaith glyd a chynnes pan ddoen ni adre.
(Helen) Mae hi'n teimlo'r oeri'n arw, ydy hi?
 
(Helen) Mae hi'n teimlo'r oeri'n arw, ydy hi?
(2, 0) 2016 Ydy, mae hi.
(2, 0) 2017 Ac fel y bydden ni'n agosáu, roedden ni i weld mwg.
(Helen) Dim ond mwg?
 
(Helen) Dim ond mwg?
(2, 0) 2019 Y mwg gynta'.
(2, 0) 2020 Ond pan fydden ni'n dod at giat yr ardd, mi fyddai'r hen dŷ i gyd ar dân a'r fflama' 'n rhuo drwy'r ffenestri.
(2, 0) 2021 Felly roeddwn i'n dychmygu sut y byddai hi, ydych chi'n gweld.
(Helen) Pam ar y ddaear na allai hi fod wedi digwydd felly?
 
(Helen) Pam ar y ddaear na allai hi fod wedi digwydd felly?
(2, 0) 2023 Pam yn wir?
(Helen) Ond 'rhoswch am funud, Mr Morris.
 
(Helen) Ydych chi'n berffaith siŵr mai drwy'r crac bach 'na y digwyddodd y tân?
(2, 0) 2026 Nâc ydw.
(2, 0) 2027 I'r gwrthwyneb, rydw i'n hollol siŵr nad oedd a wnelo'r crac yn y simdde ddim byd o gwbwl â'r tân.
(Helen) O ddifri?
 
(Helen) O ddifri?
(2, 0) 2029 Mi wnaethpwyd yn berffaith siŵr mai yn y cwpwrdd dillad, mewn darn hollol wahanol o'r tŷ y cychwynnodd y tân.
(Helen) Be ydych chi'n gyboli'n wirion am y crac yn y simdde ynte'?
 
(Helen) Be ydych chi'n gyboli'n wirion am y crac yn y simdde ynte'?
(2, 0) 2031 Ga' i ddal i siarad efo chi am dipyn, Helen?
(Helen) OK.
 
(Helen) Ond triwch siarad yn gall, plis.
(2, 0) 2034 Mi wnâ i 'ngore.
 
(2, 0) 2038 Ydych chi ddim yn cytuno fod na rai pobol, rhai wedi cael eu dewis yn arbennig.
(2, 0) 2039 Rhai'n meddu'r gallu a'r ddawn i ddymuno rhywbeth, awchu amdano, ewyllysio rhywbeth efo cymaint o ddyfalbarhad ac mor benderfynol, fel yn y diwedd bod yn rhaid i'r peth ddigwydd?
(2, 0) 2040 Ydych chi ddim yn credu hyn na?
(Helen) {Â golwg amhendant yn ei llygaid.}
 
(Helen) Os felly, mi gawn ni weld un o'r dyddia' nesa 'ma, ydw i'n un o'r bobol arbennig.
(2, 0) 2043 All rhywun ddim g'neud petha' mor fawr ohono'i hun yn unig, cofiwch.
(2, 0) 2044 O na.
(2, 0) 2045 Mae'n rhaid i'r rhai nad ydyn nhw ond gweision a negeswyr 'neud eu rhan hefyd,... i'r peth weithio.
(2, 0) 2046 Ond fydd y rheini byth yn dod ohonyn nhw'u hunain.
(2, 0) 2047 Mae'n rhaid i ddyn alw yn daer iawn arnyn nhw.
(2, 0) 2048 Galw oddi mewn iddo'i hun, ydych chi'n deall?
(Helen) Be' ydy'r gweision a'r negeswyr 'ma?
 
(Helen) Be' ydy'r gweision a'r negeswyr 'ma?
(2, 0) 2050 O mi gawn ni siarad am hynny rywdro eto.
(2, 0) 2051 Ar hyn o bryd gadewch i ni gadw at fusnes y tân 'ma.
(Helen) Ydych chi ddim yn meddwl y b'asai'r tân wedi digwydd 'run fath yn union, hyd yn oed pe baech chi heb ddymuno amdano fo?
 
(Helen) Ydych chi ddim yn meddwl y b'asai'r tân wedi digwydd 'run fath yn union, hyd yn oed pe baech chi heb ddymuno amdano fo?
(2, 0) 2053 Petai'r tŷ wedi digwydd bod yn perthyn i'r hen Owen Meredith, fasai fo byth wedi mynd ar dân mor hwylus iddo fo.
(2, 0) 2054 Rydw i'n siŵr o hynny achos ŵyr o ddim sut i alw'r gweision a'r negeswyr.
 
(2, 0) 2056 Felly fy mai i oedd o wedi'r cwbwl, bod rhaid aberthu bywyda'r bechgyn bach, ydych chi'n gweld, Helen?
(2, 0) 2057 Ydych chi ddim yn meddwl, hefyd, mai arna' i mae'r bai am gyflwr Gladys?
(2, 0) 2058 Na chafodd hi ddatblygu i'r ddynes allai hi fod a'r hyn yr oedd hi'n hiraethu am fod?
(Helen) Ie, ond os mai gwaith y gweision a'r negeswyr ydy o i gyd?
 
(Helen) Ie, ond os mai gwaith y gweision a'r negeswyr ydy o i gyd?
(2, 0) 2060 Pwy alwodd ar y gweision a'r negeswyr?
(2, 0) 2061 Fi!
(2, 0) 2062 Ac mi ddaethon ac ufuddhau i'm hewyllys i.
 
(2, 0) 2064 Bod yn lwcus, dyna fydd pobol yn galw hyn 'na.
(2, 0) 2065 Ond mi dd'weda' i wrthych chi sut mae'r lwc 'ma'n teimlo.
(2, 0) 2066 Mae o fel petai gen i ddarn mawr o gig noeth ar fy mrest.
(2, 0) 2067 A'r gweision a'r negeswyr wrthi'n wastad yn plicio darna' o groen oddi ar gyrff pobol eraill i gau fy mriw i.
(2, 0) 2068 Ond 'dydy'r briw ddim wedi'i gau byth.
(2, 0) 2069 O, pe baech chi ond yn gwybod sut y mae o'n tynnu ac yn llosgi weithia'.
(Helen) {Yn edrych yn bryderus arno.}
 
(Helen) Rydych chi yn sâl, Mr Morris, bron na ddwedwn i, yn wael iawn.
(2, 0) 2072 Wedi drysu, waeth i chi ddeud, achos dyna ydych chi'n ei feddwl.
(Helen) Na, 'dydw i ddim yn credu bod 'na lawer o'i le ar eich meddwl chi.
 
(Helen) Na, 'dydw i ddim yn credu bod 'na lawer o'i le ar eich meddwl chi.
(2, 0) 2074 Ar be' ynte'?
(2, 0) 2075 Allan â fo.
(Helen) Os gwn i a ddaethoch chi i'r byd 'ma efo cydwybod giami.
 
(Helen) Os gwn i a ddaethoch chi i'r byd 'ma efo cydwybod giami.
(2, 0) 2077 Cydwybod giami?
(2, 0) 2078 Be goblyn ydy hynny?
(Helen) Meddwl rydw i bod eich cydwybod chi'n wan, yn ddelicet felly, dim nerth ynddi hi i fynd i'r afael â phetha'; methu dal pwysa'.
 
(2, 0) 2081 Hm.
(2, 0) 2082 Ga' i ofyn, sut gydwybod ddylai fod gan ddyn?
(Helen) Mi hoffwn i i'ch cydwybod chi fod yn gwbwl gadarn.
 
(Helen) Mi hoffwn i i'ch cydwybod chi fod yn gwbwl gadarn.
(2, 0) 2084 Felly wir?
(2, 0) 2085 Cadarn ai e?
(2, 0) 2086 Ydy'ch cydwybod chi'ch hun yn gadarn?
(Helen) Rydw i'n meddwl ei bod hi.
 
(Helen) Sylwais i erioed nad oedd hi ddim.
(2, 0) 2089 Chafodd hi 'mo'i phrofi'n galed iawn 'ddyliwn.
(Helen) {Cryndod bach ar ei gwefus.}
 
(Helen) Doedd gadael 'nhad ddim yn fater mor hawdd,... rydw i mor ofnadwy o hoff ohono fo.
(2, 0) 2092 A hynny ddim ond am ryw fis neu ddau?
(Helen) 'Dydw i ddim yn meddwl yr a' i adre byth eto.
 
(Helen) 'Dydw i ddim yn meddwl yr a' i adre byth eto.
(2, 0) 2094 Byth?
(2, 0) 2095 Wel pam y dar'u chi ei adael o ynte'?
(Helen) {Hanner difri, hanner gwamal.}
 
(Helen) Ydych chi wedi anghofio eto bod y deng mlynedd ar ben?
(2, 0) 2098 Twt lol.
(2, 0) 2099 Oedd 'na rywbeth o'i le gartre' ynte'?
(Helen) {O ddifri.}
 
(2, 0) 2103 Dyna chi wedi'i tharo hi, Helen.
(2, 0) 2104 Mae yna ddewin neu witj yn eich corddi chi fel finna'.
(2, 0) 2105 Oherwydd yr ysbryd mewn dyn sy'n galw ar y pwera' y tu allan iddo, ydych chi'n gweld.
(2, 0) 2106 A wedyn mae'n rhaid i ni ildio, hoffí hynny neu beidio.
(Helen) Rydw i bron â meddwl eich bod chi'n iawn.
 
(2, 0) 2109 Oes, mae na ysbrydion ar gerdded yn y byd 'ma, Helen.
(2, 0) 2110 Tylwyth na fyddwn i byth yn eu gweld nhw.
(Helen) Be ydych chi'n ei feddwl?
 
(2, 0) 2114 Tylwyth teg a thylwyth drwg.
(2, 0) 2115 Rhai pryd gola' a rhai pryd tywyll.
(2, 0) 2116 Petai rhywun ddim ond yn gwybod pa fath sy' wedi gafael ynddo fo.
 
(2, 0) 2118 Ho, ho.
(2, 0) 2119 Mi fuasai'n reit hawdd wedyn.
(Helen) {Yn ei ddilyn â'i llygaid.}
 
(2, 0) 2123 Rydw i'n credu erbyn hyn mai creaduriaid go wan fel finna' ydy'r rhan fwyaf o bobol yn hynny o beth.
(Helen) Synnwn i ddim.
 
(2, 0) 2126 Yn y llyfra' hanes,... ydych chi wedi darllen rhai ohonyn nhw?
(Helen) Do, pan oeddwn i'n arfer darllen llyfra', mi...
 
(Helen) Do, pan oeddwn i'n arfer darllen llyfra', mi...
(2, 0) 2128 Yn y llyfra' hanes mae 'na sôn am y cenhedloedd duon yn hwylio ar longa', o wledydd y gogledd, i ysbeilio a llosgi a lladd...
(Helen) A chipio'r merched i ffwrdd...
 
(Helen) A chipio'r merched i ffwrdd...
(2, 0) 2130 A'u cadw'n gaeth...
(Helen) Mynd â nhw adre yn eu llonga'...
 
(Helen) Mynd â nhw adre yn eu llonga'...
(2, 0) 2132 Ac ymddwyn tuag atyn nhw fel... fel diawliaid.
(Helen) {Yn edrych yn syth o'i blaen a'i llygaid yn hanner cau.}
 
(2, 0) 2136 Dwyn merched, ie?
(Helen) |Cael| eich dwyn.
 
(2, 0) 2139 O, felly wir.
(Helen) {Y'n torri ar rediad y sgwrs.}
 
(Helen) Be 'naeth i chi sôn am y Vikings?
(2, 0) 2142 Am fod rhaid bod gan yr hogia' yne gydwyboda' go wydn, beth bynnag.
(2, 0) 2143 Ar ôl cyrraedd adre' roedden nhw'n medru bwyta ac yfed a bod yn hapus fel plant.
(2, 0) 2144 Ac am y merched, roedden nhw'n gwrthod gadael wedyn ar unrhyw gyfri'.
(2, 0) 2145 Fedrwch chi ddeall hynny Helen?
(Helen) Mi fedra i ddeall y merched yn dda iawn.
 
(Helen) Mi fedra i ddeall y merched yn dda iawn.
(2, 0) 2147 Oho!
(2, 0) 2148 Hwyrach y b'asech chi'n medru g'neud yr un peth eich hun.
(Helen) Pam lai?
 
(Helen) Pam lai?
(2, 0) 2150 Fasech chi byth, o'ch bodd, yn dewis byw efo rhyw fwystfil fel 'na.
(Helen) Petawn i wedi dod i'w garu.
 
(Helen) Petawn i wedi dod i'w garu.
(2, 0) 2152 Fedrech chi ddod i garu dyn fel 'na?
(Helen) Nefi wen.
 
(2, 0) 2156 Ie.
(2, 0) 2157 Mae'n debyg mai'r dewin tu fewn i rywun sy'n gyfrifol am hynny.
(Helen) {Yn hanner chwerthin.}
 
(2, 0) 2161 Wel, rydw i'n gobeithio â'm holl galon y bydd yr ysbrydion yn dewis yn garedig drosoch chi, Helen.
(Helen) Maen nhw wedi dewis drosta' i eisoes.
 
(2, 0) 2165 Helen, rydych chi fel deryn gwyllt o'r coed!
(Helen) Ddim peryg.
 
(Helen) Fydda' i byth yn cuddio dan y llwyni.
(2, 0) 2168 Na.
(2, 0) 2169 Dipyn o deulu'r barcud sy' ynoch chi.
(Helen) Mae hynny'n nes i'r gwir hwyrach.
 
(Helen) Cipio'r ysglyfaeth sy' ama' i ei eisio, cyn belled ag y galla' i gael fy nghrafanga' arno fo a chael fy ffordd fy hun efo fo.
(2, 0) 2175 Helen, wyddoch chi be ydych chi?
(Helen) Gwn.
 
(Helen) Deryn go ryfedd ydw i debyg.
(2, 0) 2178 Na.
(2, 0) 2179 Rydych chi megis toriad gwawr.
(2, 0) 2180 Pan fydda' i'n edrych arnoch chi mae fel petawn i'n gweld y dydd yn deffro.
(Helen) Dwedwch wrtha i, y contractor clyfar, ydych chi'n siŵr na wnaethoch chi 'mo 'ngalw i atoch chi?
 
(2, 0) 2184 Bron na thybiwn i fod yn rhaid 'mod i wedi g'neud.
(2, 0) 2185 58 Helen
(2, 0) 2186 Be' sy' arnoch chi ei eisio gen i?
(2, 0) 2187 Chi ydy'r genhedlaeth ifanc, Helen.
(Helen) {Yn gwenu.}
 
(2, 0) 2191 Ac yr ydw i'n hiraethu cymaint amdano yn fy nghalon.
(Helen) {Codi, mynd at y bwrdd bach a chodi ffolder Elwyn Meredith.}
 
(2, 0) 2195 Rhowch y petha' yna o'r neilltu.
(2, 0) 2196 Rydw i wedi gweld digon arnyn nhw.
(Helen) Do, ond mi sgrifennwch chi air o gymeradwyaeth arnyn nhw.
 
(Helen) Do, ond mi sgrifennwch chi air o gymeradwyaeth arnyn nhw.
(2, 0) 2198 Cymeradwyaeth?
(2, 0) 2199 Byth.
(Helen) Ond mae'r hen ŵr druan ar farw.
 
(Helen) A hwyrach y câi o'r job o godi'r tŷ wedyn.
(2, 0) 2203 Ie, dyna'n union be' gâi o.
(2, 0) 2204 Mae o wedi g'neud yn siŵr o hynny,... y dyn ifanc smart 'ma.
(Helen) Os felly, ellwch chi ddim d'eud y mymryn lleia' o gelwydd am dro?
 
(Helen) Os felly, ellwch chi ddim d'eud y mymryn lleia' o gelwydd am dro?
(2, 0) 2206 Celwydd?
 
(2, 0) 2208 Helen, ewch â phlania'r diafol o 'ngolwg i.
(Helen) {Yn tynnu'r ffolder yn ôl fymryn.}
 
(Helen) Oes gennych chi feiro?
(2, 0) 2215 Ddim arna' i.
(Helen) {Yn mynd tua'r drws.}
 
(Helen) Yn yr offis lle mae'r hogan 'na...
(2, 0) 2218 Arhoswch ble rydych chi, Helen.
(2, 0) 2219 Mi ddylwn i dd'eud celwydd, meddech chi.
(2, 0) 2220 Wel, dylwn hwyrach er mwyn yr hen ddyn ei dad druan.
(2, 0) 2221 Achos mi wnes i ddrwg iddo fo, ei wasgu o i lawr.
(Helen) Fo hefyd?
 
(Helen) Fo hefyd?
(2, 0) 2223 Roedd arna' i angen lle í mi fy hun.
(2, 0) 2224 Ond yr Elwyn ma, does wiw iddo fo ddechra' dod yn ei flaen.
(Helen) Y dyn ifanc druan, 'does dim peryg o hynny siŵr, os nad oes 'na ddim byd yn ei ben o.
 
(2, 0) 2227 Os daw Elwyn Meredith yn ei flaen mi fydd yn fy ngwthio i i lawr, yn rhoi'r farwol i mi.
(Helen) O. Ydy o mor alluog â hynny?
 
(Helen) O. Ydy o mor alluog â hynny?
(2, 0) 2229 O ydy, mi ellwch fentro.
(2, 0) 2230 Fo ydy'r genhedlaeth newydd sy'n barod i gnocio ar fy nrws i a rhoi diwedd am byth ar Isaac Ryan Morris, y contractor.
(Helen) {Yn edrych arno gyda cherydd distaw.}
 
(Helen) Rhag cywilydd i chi Mr Morris.
(2, 0) 2234 Mae'r frwydr y bûm i'n ei hymladd wedi costio'n ddrud iawn i mi eisoes.
(2, 0) 2235 Ac y mae arna' i ofn na fydd y gweision a'r negeswyr yn ufuddhau i mi mwy.
(Helen) Mi fydd rhaid i chi fynd yn eich blaen hebddyn nhw ynte'.
 
(Helen) 'Does dim arall amdani hi.
(2, 0) 2238 Anobeithiol, Helen.
(2, 0) 2239 Mae fy lwc i'n siŵr o droi.
(2, 0) 2240 Yn hwyr neu'n hwyrach.
(2, 0) 2241 Talu'r pris fydd raid.
(2, 0) 2242 Y pris eithaf.
(Helen) {Yn rhoi ei dwylo dros ei chlustiau rhag y boen.}
 
(Helen) Dwyn oddi arna' i yr hyn sy'n fwy na mywyd i?
(2, 0) 2247 A be' ydy hwnnw?
(Helen) Y dyhead am eich gweld chi yn eich gogoniant.
 
(2, 0) 2255 Mae gen i un yn fan 'ma.
(Helen) {Yn rhoi'r ffolder ar y bwrdd wrth y soffa.}
 
(2, 0) 2264 Dwedwch un peth wrtha i Helen.
(Helen) Ie?
 
(Helen) Ie?
(2, 0) 2266 Os ydych chi wedi bod yn disgwyl amdana' i ar hyd y deng mlynedd yma...
(Helen) Wel?
 
(Helen) Wel?
(2, 0) 2268 Pam na ddaru chi sgrifennu ata' i?
(2, 0) 2269 Mi allwn i fod wedi ateb wedyn.
(Helen) {Yn frysiog.}
 
(Helen) Dyna'r union beth nad oeddwn i eisio.
(2, 0) 2273 Pam?
(Helen) Roedd arna' i ofn i'r holl beth ddisgyn yn chwilfriw.
 
(Helen) Ond mynd i sgrifennu ar y cynllunia' roedden ni, Mr Morris.
(2, 0) 2276 Ie, siŵr.
(Helen) {Yn plygu ymlaen ac edrych dros ei ysgwydd wrth iddo sgrifennu.}
 
(2, 0) 2281 Fuoch chi erioed yn caru rhywun, Helen?
(Helen) {Yn gas.}
 
(Helen) Be ddaru chi ddeud?
(2, 0) 2284 Dim ond gofyn fuoch chi'n caru rhywun.
(Helen) Rhywun arall ydych chi'n ei feddwl, debyg?
 
(2, 0) 2287 Rhywun arall, ie.
(2, 0) 2288 Fuoch chi o gwbwl?
(2, 0) 2289 Yn ystod y deng mlynedd?
(2, 0) 2290 Erioed?
(Helen) Do, yn awr ac yn y man.
 
(Helen) Pan fyddwn i'n flin iawn efo chi am beidio dod.
(2, 0) 2293 Roeddech ch'n cymryd diddordeb mewn bechgyn, felly?
(Helen) Ychydig, am ryw wythnos neu ddwy.
 
(Helen) Duwcs annwyl, rydych chi'n gwybod sut mae petha' fel 'na'n digwydd, debyg.
(2, 0) 2296 Helen.
(2, 0) 2297 I be daethoch chi yma?
(Helen) Peidiwch â gwastraffu amser yn siarad.
 
(Helen) Mi allai'r hen ŵr farw.
(2, 0) 2300 Atebwch, Helen.
(2, 0) 2301 Be sy arnoch chi eisio gen i?
(Helen) Rydw i eisio 'nheyrnas.
 
(Helen) Rydw i eisio 'nheyrnas.
(2, 0) 2303 H'm.
(Mrs Morris) Dyma ychydig o betha' ydw i wedi gael i chi, Miss O'Reilly.
 
(2, 0) 2311 Gladys.
(Mrs Morris) Ie?
 
(Mrs Morris) Ie?
(2, 0) 2313 Ddaru chi sylwi oedd yr ysgrifenyddes yn y swyddfa?
(Mrs Morris) Oedd, wrth gwrs ei bod hi yna.
 
(2, 0) 2316 H'm.
(Mrs Morris) Roedd hi wrth y ddesg fel y mae hi bob amser y bydda i'n mynd trwodd.
 
(2, 0) 2319 Wel mi ro' i hwn iddi hi ynte', a d'eud wrthi bod...
(Helen) {Yn cymryd y ffolder oddi arno.}
 
(Helen) Be ydy ei henw hi?
(2, 0) 2324 Miss Parry.
(Helen) Mae hynny'n swnio mor oeraidd.
 
(Helen) Ei henw cynta hi oeddwn i'n 'i feddwl.
(2, 0) 2327 Gwyneth, rydw i'n meddwl.
(Helen) {Yn agor y drws a galw.}
 
(Gwyneth) O, o'r diwedd!
(2, 0) 2338 Rhowch nhw i'r hen ŵr cyn gynted ag y medrwch chi.
(Gwyneth) Mi a' i adre'n syth efo nhw.
 
(Gwyneth) Mi a' i adre'n syth efo nhw.
(2, 0) 2340 Mi gaiff Elwyn gyfle i godi tai ar ei ben ei hun rŵan.
(Gwyneth) Well iddo fo ddod i ddiolch i chi am bob peth, ie...?
 
(2, 0) 2343 'Does ama i ddim eisio diolch.
(2, 0) 2344 D'wedwch 'mod i'n d'eud hynny.
(Gwyneth) Mi 'na 'i...
 
(Gwyneth) Mi 'na 'i...
(2, 0) 2346 A d'wedwch wrtho fo'r un pryd na fydda' i angen ei wasanaeth o o hyn ymlaen.
(2, 0) 2347 Na chitha' chwaith.
(Gwyneth) {Yn ddistaw a chrynedig.}
 
(Gwyneth) Na finna' chwaith!
(2, 0) 2350 Mi fydd gennych chi betha' eraill i feddwl amdanyn nhw ac edrych ar eu hola' rŵan.
(2, 0) 2351 Dyna'r ffordd ora' debyg.
(2, 0) 2352 Adre â chi efo'r plania' rŵan, Miss Parry.
(2, 0) 2353 Ar unwaith.
(2, 0) 2354 Ydych chi'n clywed?
(Gwyneth) {Fel o'r blaen.}
 
(Mrs Morris) Mewn difri', on'd oes ganddi hi lygaid t'wyllodrus?
(2, 0) 2359 Hi?
(2, 0) 2360 Y greadures fach yna?
(Mrs Morris) O, 'dydw i ddim yn ddall Isaac...
 
(Mrs Morris) Ydych chi'n eu diswyddo nhw o ddifri?
(2, 0) 2363 Ydw.
(Mrs Morris) Y ferch hefyd?
 
(Mrs Morris) Y ferch hefyd?
(2, 0) 2365 Dyna oeddech chi eisio Gladys.
(2, 0) 2366 Rydw i'n gwybod.
(Mrs Morris) Ond sut y medrwch chi 'neud hebddi |hi|?
 
(Helen) Wel, 'dydw i 'mo'r un i fod wrth y ddesg yna beth bynnag.
(2, 0) 2372 Hidiwch befo, hidiwch befo.
(2, 0) 2373 Mi fydd popeth yn iawn, Gladys.
(2, 0) 2374 Yr unig beth sy' eisio i chi ei 'neud rŵan ydy meddwl am symud i'n cartre' newydd cyn gynted ag y medrwch chi.
(2, 0) 2375 Heno mi rown ni'r dorch floda' i fyny.
 
(2, 0) 2377 Reit ar binacl y tŵr.
(2, 0) 2378 Be ydych chi'n dd'eud am |hyn 'na|, Miss Helen?
(Helen) {Yn edrych arno gyda llygaid gloyw.}
 
(Helen) Mi fydd yn wych eich gweld chi mor uchel unwaith eto!
(2, 0) 2381 Fi!
(Mrs Morris) Yn enw'r nefoedd, Miss O'Reilly, peidiwch â meddwl am y fath beth.
 
(2, 0) 2391 Amhosib, ydy yn amhosib.
(2, 0) 2392 Ond mi wnes i sefyll yno er hynny.
(Mrs Morris) Sut y medrwch chi dd'eud hyn 'na Isaac?
 
(Mrs Morris) Fel na y buoch chi erioed.
(2, 0) 2396 Hwyrach y gwelwch chi rywbeth gwahanol heno.
(Mrs Morris) {Wedi dychryn.}
 
(Mrs Morris) Wnaiff o byth ganiatâu'r fath beth.
(2, 0) 2402 Ond Gladys...!
(Mrs Morris) Rhaid i mi 'neud.
 
(Helen) Ydy hyn yn wir neu ydy o ddim?
(2, 0) 2410 Mod i'n cael pendro?
(Helen) Na |feiddia| fy arwr i, na |fedar| o, ddringo cyn uched ag y gall o adeiladu?
 
(Helen) Na |feiddia| fy arwr i, na |fedar| o, ddringo cyn uched ag y gall o adeiladu?
(2, 0) 2412 Fel'na ydych chi'n ei gweld hi?
(Helen) Ie.
 
(Helen) Ie.
(2, 0) 2414 'Does 'na 'run darn ohono i yn ddiogel oddi wrthych chi, 'ddyliwn.
(Helen) {Yn edrych tua'r ffenest fae.}
 
(2, 0) 2419 Mi allech chi gael y stafell ucha yn y tŵr, Helen.
(2, 0) 2420 Mi allech chi fyw fel tywysoges yno.
(Helen) {Rhwng difri a chwarae.}
 
(Helen) Ie, dyna ddaru chi addo i mi.
(2, 0) 2423 |Ddaru| mi?
(Helen) Come on, Mr Morris.
 
(2, 0) 2430 Ydych chi'n berffaith siŵr nad breuddwyd ydy hyn i gyd... rhyw ffansi yn eich pen chi?
(Helen) {Yn siarp.}
 
(Helen) D'eud na ddaru chi ddim?
(2, 0) 2434 Dydw i ddim yn gwybod yn iawn.
 
(2, 0) 2436 Ond un peth a wn i rŵan, sef...
(Helen) Sef be?
 
(Helen) Dwedwch ar unwaith.
(2, 0) 2439 Y dylwn i fod wedi g'neud.
(Helen) {Yn orfoleddus.}
 
(Helen) F'asech |chi| byth yn cael pendro!
(2, 0) 2442 Heno, mi rown i'r dorch floda' i fyny... Dywysoges Helen.
(Helen) {Braidd yn chwerw.}
 
(Helen) Uwchben eich cartre' newydd chi, on'd e?
(2, 0) 2445 Uwchben tŷ newydd na fydd o byth yn gartre' i mi.
 
(Mrs Morris) Dowch i mewn.
(3, 0) 2636 Ydych chi wedi sylwi, Helen, ei bod hi'n mynd pan fydda' i'n ymddangos?
(Helen) Rydw i wedi sylwi eich bod chi'n cael effaith felly.
 
(Helen) Rydw i wedi sylwi eich bod chi'n cael effaith felly.
(3, 0) 2638 Hwyrach.
(3, 0) 2639 Ond 'does gen i mo'r help.
 
(3, 0) 2641 Ydych chi'n oer, Helen?
(3, 0) 2642 Rydych chi'n edrych felly.
(Helen) Rydw i newydd ddod i fyny o blith y meirw.
 
(Helen) Rydw i newydd ddod i fyny o blith y meirw.
(3, 0) 2644 Be' ydych chi'n 'i feddwl?
(Helen) Bod iasa' oer wedi bod yn fy ngherdded i, Mr Morris.
 
(3, 0) 2647 Rydw i'n meddwl mod i'n deall...
(Helen) Be' ddaeth â chi yma rŵan?
 
(Helen) Be' ddaeth â chi yma rŵan?
(3, 0) 2649 Mi gefais i gip arnoch chi o'r fan 'cw.
(Helen) Ond rhaid eich bod chi wedi'i gweld hitha' hefyd.
 
(Helen) Ond rhaid eich bod chi wedi'i gweld hitha' hefyd.
(3, 0) 2651 Mi wyddwn i yr âi hi ar unwaith pan ddeuwn i yma.
(Helen) Ydy o'n boenus iawn i chi ei bod hi'n eich osgoi chi fel hyn?
 
(Helen) Ydy o'n boenus iawn i chi ei bod hi'n eich osgoi chi fel hyn?
(3, 0) 2653 Mewn ffordd mae o'n rhyddhad hefyd.
(Helen) Nad os raid i chi ei hwynebu hi.
 
(Helen) Nad os raid i chi ei hwynebu hi.
(3, 0) 2655 Ie.
(Helen) Rhag i chi orfod gweld yn gyson gymaint o loes ydy colli'r bechgyn bach iddi hi o hyd?
 
(Helen) Rhag i chi orfod gweld yn gyson gymaint o loes ydy colli'r bechgyn bach iddi hi o hyd?
(3, 0) 2657 Ie, hynny'n bennaf.
 
(3, 0) 2661 Gawsoch chi sgwrs hir efo hi?
 
(3, 0) 2663 Mi ofynnais i gawsoch chi sgwrs hir?
 
(3, 0) 2665 Am be' roedd hi'n siarad Helen?
 
(Morris; Gladys druan.) {Rhyw gryndod nerfus yn cerdded corff Helen; mae'n nodio'n gyflym ychydig weithiau.}
(3, 0) 2669 Ddaw hi byth drosto fo.
(3, 0) 2670 Byth, tra bo hi ar y ddaear 'ma.
 
(3, 0) 2672 Rydych chi'n sefyll yn fan'na fel delw eto, yn union fel roeddech chi'n sefyll neithiwr.
(Helen) {Yn troi ac edrych arno gyda llygaid mawr difri.}
 
(3, 0) 2676 Mynd i ffwrdd?
(Helen) Ydw.
 
(Helen) Ydw.
(3, 0) 2678 Ond, 'na i ddim gadael i chi fynd.
(Helen) Be' ydw i'n mynd i'w 'neud yma?
 
(Helen) Be' ydw i'n mynd i'w 'neud yma?
(3, 0) 2680 Dim ond aros yma Helen.
(Helen) {Yn edrych arno'n amheus.}
 
(3, 0) 2686 Wel, gora' oll.
(Helen) {Gydag angerdd.}
 
(Helen) Alla' i ddim dwyn rhywbeth sy'n perthyn iddi hi.
(3, 0) 2690 Pwy sy'n sôn am hynny?
(Helen) {Yn mynd ymlaen fel o'r blaen.}
 
(Helen) No way.
(3, 0) 2698 Ie, ond wnes i erioed awgrymu y dylech chi.
(Helen) O, Mr Morris.
 
(Helen) A dyna pam rydw i'n mynd i ffwrdd.
(3, 0) 2702 A be' ddaw ohonof fi wedi i chi fynd?
(3, 0) 2703 Be' fydd gen i i fyw er ei fwyn o wedyn?
(Helen) {Golwg annirnadwy yn ei llygaid.}
 
(Helen) Rhaid i chi fyw i'r rheini.
(3, 0) 2708 Rhy hwyr.
(3, 0) 2709 Mae'r pwera' 'ma... yr... yr...
(Helen) ... Ysbrydion...
 
(Helen) ... Ysbrydion...
(3, 0) 2711 Ie, yr ysbrydion 'na.
(3, 0) 2712 A'r dewin oddi mewn i mi hefyd.
(3, 0) 2713 Mae nhw wedi sugno gwaed ei bywyd hi.
 
(3, 0) 2715 Er mwyn fy hapusrwydd i y gwnaethon nhw.
(3, 0) 2716 Ie.
 
(3, 0) 2718 A rŵan mae hi wedi marw... er fy mwyn i.
(3, 0) 2719 A finna', yn fyw, ond wedi fy rhwymo wrth ddynes farw.
 
(3, 0) 2721 Fi, na |alla'| i fyw heb sirioldeb mewn bywyd.
(Helen) Be' ydych chi am adeiladu nesa?
 
(3, 0) 2726 Dydw ddim yn credu yr adeilada' i lawer eto.
(Helen) Ddim mwy o'r cartrefi clyd rheini i fam a thad a thyaid o blant?
 
(Helen) Ddim mwy o'r cartrefi clyd rheini i fam a thad a thyaid o blant?
(3, 0) 2728 Fydd 'na alw am dai felly yn y dyfodol, os gwn i?
(Helen) Y contractor druan!
 
(Helen) Wedi rhoi eich bywyd i hynny'n unig.
(3, 0) 2732 Ie, mae 'na lawer o wir yn yr hyn ydych chi'n 'i dd'eud.
(Helen) {Yn uchel.}
 
(Helen) O! Mae'r cwbwl yn edrych mor wirion, mor hurt.
(3, 0) 2735 Be?
(Helen) Na all rhywun afael yn dynn yn ei hapusrwydd ei hun.
 
(Helen) Am ddim rheswm ond bod rhywun ydych chi'n ei nabod yn digwydd bod yn y ffordd.
(3, 0) 2738 Rhywun nad oes gennych chi ddim hawl i'w wthio o'r neilltu.
(Helen) Tybed, nad oes gan rywun yr hawl mewn gwirionedd?
 
(3, 0) 2744 Oedd gennych chi gartre' cysurus hapus draw efo'ch tad Helen?
(Helen) {Heb symud ac fel petai hi'n hanner cysgu.}
 
(Helen) Doedd gen i ddim byd ond carchar.
(3, 0) 2747 A rydych chi'n benderfynol nad ewch chi'n ôl iddo?
(Helen) {Fel o'r blaen.}
 
(Helen) Fydd deryn gwyllt o'r coed byth eisio bod mewn cawell.
(3, 0) 2750 Gwell ganddo wibio drwy'r awyr agored...
(Helen) {Fel o'r blaen.}
 
(3, 0) 2754 Biti na bai ysbryd dewr yr hen anturwyr ynon ninna'.
(Helen) {Yn ei llais arferol, yn agor ei llygaid ond heb symud.}
 
(Helen) D'wedwch be' oedd |hwnnw|.
(3, 0) 2758 Cydwybod gref.
(Helen) {Yn nodio arno.}
 
(Helen) Mi wn i be ydych chi'n mynd i adeiladu nesa'.
(3, 0) 2762 Mi wyddoch chi fwy nag a wn i ynte', Helen.
(Helen) Wir.
 
(Helen) Mae'r contractors 'ma mor dwp.
(3, 0) 2765 Be' fydd o ynte?
(Helen) {Yn nodio eto.}
 
(Helen) Y castell.
(3, 0) 2768 Pa gastell?
(Helen) Fy nghastell i wrth gwrs.
 
(Helen) Fy nghastell i wrth gwrs.
(3, 0) 2770 Ydych chi eisio castell rŵan?
(Helen) Rydych chi wedi addo teyrnas i mi.
 
(Helen) Rydych chi wedi addo teyrnas i mi.
(3, 0) 2772 Felly rydych chi'n dal i dd'eud.
(Helen) Reit, rydych chi'n cyfadde'ch bod chi wedi addo teyrnas i mi.
 
(3, 0) 2776 Ie.
(3, 0) 2777 |Maen| nhw'n cyd-fynd fel arfer.
(Helen) Da iawn.
 
(3, 0) 2782 Rŵan, y munud 'ma?
(Helen) Wrth gwrs.
 
(Helen) Y castell, Mr Morris!
(3, 0) 2788 Nid mater bach ydy bod yn eich dyled chi Helen.
(3, 0) 2789 | Helen
(3, 0) 2790 Ddylech chi fod wedi meddwl am hynny'n gynt.
(3, 0) 2791 Mae'n rhy hwyr rŵan.
 
(3, 0) 2793 Felly, y castell ar y bwrdd.
(3, 0) 2794 Fy nghastell i ydy o.
(3, 0) 2795 Rydw i eisio fo rŵan!
(3, 0) 2796 | Morris
 
(3, 0) 2798 Sut fath o gastell sy' gennych chi mewn golwg, Helen?
(Helen) {Daw mwy o ddirgelwch i'w golwg fel petai hi'n syllu i mewn i'w phersonoliaeth ei hun. Siarad yn araf.}
 
(Helen) Fel y galla' i weld ymhell i'r pellter.
(3, 0) 2803 Efo tŵr uchel, 'does dim dwywaith.
(Helen) Tŵr uchel ofnadwy.
 
(3, 0) 2808 O, fel y byddwch chi wrth eich bodd yn sefyll mewn lle mor beryglus o uchel...
(Helen) Wrth gwrs.
 
(3, 0) 2813 Gaiff yr hen adeiladwr ddringo i fyny at y dywysoges?
(Helen) Os bydd o'n dymuno.
 
(3, 0) 2816 Felly, rydw i'n credu y daw'r adeiladwr.
(Helen) {Yn nodio.}
 
(Helen) Daw, mi ddaw.
(3, 0) 2819 Ond wnaiff o byth adeiladu wedyn, yr hen adeiladwr druan.
(Helen) {Yn llawn bywyd.}
 
(3, 0) 2825 Helen, d'wedwch wrtha i, be' ydy hwnnw?
(Helen) Adeiladwyr.
 
(Helen) Bobol bach, mae nhw'n rhai twp, mor ofnadwy o dwp.
(3, 0) 2830 Ydyn, mwy na thebyg.
(3, 0) 2831 Ond rŵan dwedwch wrtha' i be' ydy o.
(3, 0) 2832 Y peth hardda' yn y byd.
(3, 0) 2833 Yr un rydyn ni'n mynd i'w adeiladu efo'n gilydd?
(Helen) {Yn ddistaw am ychydig. Yna dywaid â golwg bell yn ei llygaid.}
 
(Helen) Cestyll yn yr awyr.
(3, 0) 2836 Cestyll yn yr awyr?
(Helen) {Yn nodio.}
 
(Helen) Wyddoch chi sut beth ydy castell yn yr awyr?
(3, 0) 2841 Dyna'r peth hardda' yn y byd, meddech chi.
(Helen) {Y'n codi'n wyllt a gwneud arwydd â'i llaw o daflu'r syniad i ffwrdd.}
 
(3, 0) 2849 Ar ôl heddiw mi adeiladwn ni'n dau efo'n gilydd Helen.
(Helen) {Gyda gwên led amheus.}
 
(Helen) Castell go iawn yn yr awyr?
(3, 0) 2852 Ie.
(3, 0) 2853 Un â sylfeini cadarn iddo fo.
(Helen) {Cri o lawenydd.}
 
(3, 0) 2860 O, chdi sy' wedi dod â hi Elwyn?
(Elwyn) Roeddwn i wedi addo i'r fforman y g'nawn i.
 
(3, 0) 2863 A mae dy dad yn well felly ynte?
(Elwyn) Nâc ydy.
 
(Elwyn) Nâc ydy.
(3, 0) 2865 Ddaru'r hyn sgrifennais i mo'i gysuro fo?
(Elwyn) Roedd hi'n rhy hwyr.
 
(Elwyn) Roedd hi'n rhy hwyr.
(3, 0) 2867 Rhy hwyr!
(Elwyn) Pan gyrhaeddodd hi roedd o'n anymwybodol.
 
(Elwyn) Wedi cael strôc.
(3, 0) 2870 Gwell i ti fynd adre ato fo.
(3, 0) 2871 Rhaid i ti fynd i edrych ar ôl dy dad.
(Elwyn) 'Dydy o mo f'angen i ddim mwy.
 
(Elwyn) 'Dydy o mo f'angen i ddim mwy.
(3, 0) 2873 Ond mi ddylet ti fod efo fo, debyg iawn.
(Elwyn) Mae hi'n eistedd wrth ei wely fo.
 
(3, 0) 2876 Gwyneth?
(Elwyn) {Yn edrych yn gyhuddgar braidd.}
 
(Elwyn) Ie, Gwyneth.
(3, 0) 2879 Dos di adre, Elwyn.
(3, 0) 2880 I fod efo fo a hitha'.
(3, 0) 2881 Dyro i mi'r |wreath|.
(Elwyn) {Yn atal gwên wawdlyd.}
 
(Elwyn) Dydych chi erioed yn meddwl g'neud hynny'ch hun?
(3, 0) 2884 Rydw i eisio mynd â hi i lawr iddyn nhw fy hun.
 
(3, 0) 2886 A rŵan, dos di adre.
(3, 0) 2887 'Dydyn ni mo d'angen di heddiw.
(Elwyn) Rydw i'n deall na fyddwch chi mo' f'angen i yn y dyfodol.
 
(Elwyn) Ond rydw i'n aros heddiw.
(3, 0) 2890 O'r gora', aros.
(3, 0) 2891 Os wyt ti wedi rhoi dy feddwl ar hynny.
(Helen) {Wrth ymyl y ganllaw.}
 
(Helen) Mi arhosa' i yn fan 'ma i'ch gwylio chi.
(3, 0) 2895 Fy ngwylio i!
(Helen) Mi fydd yn hollol wefreiddiol.
 
(3, 0) 2898 Mi siaradwn ni am hynny eto, Helen.
 
(Mrs Morris) Chi fedar 'neud hynny ora'.
(3, 0) 3062 Mae nhw'n d'eud bod rhywun eisio 'ngweld i.
(Helen) Oes.
 
(Helen) Fi, Mr Morris.
(3, 0) 3065 O! Chi sy 'na Helen?
(3, 0) 3066 Roedd arna' i ofn mai'r doctor a Gladys oedd yma.
(Helen) Ofn.
 
(Helen) Rydych chi'n hawdd iawn eich dychryn, mae'n rhaid.
(3, 0) 3069 Ydych chi'n meddwl?
(Helen) Ydw, mae pobol yn d'eud fod arnoch chi ofn dringo, dringo i fyny sgaffald ac ati.
 
(Helen) Ydw, mae pobol yn d'eud fod arnoch chi ofn dringo, dringo i fyny sgaffald ac ati.
(3, 0) 3071 Mae hynny'n fater gwahanol.
(3, 0) 3072 'Helen
(3, 0) 3073 Mae'n wir fod arnoch chi ofn ynte?
(3, 0) 3074 Ydy.
(Helen) Ofn disgyn i lawr, a'ch lladd eich hun.
 
(Helen) Ofn disgyn i lawr, a'ch lladd eich hun.
(3, 0) 3076 Na, nid hynny.
(Helen) Ofn be', ynte?
 
(Helen) Ofn be', ynte?
(3, 0) 3078 Ofn cosbedigaeth, Helen, ofn y farn.
(Helen) Cosb?
 
(Helen) 'Dydw i ddim yn deall.
(3, 0) 3081 Eisteddwch i lawr, a mi dd'weda' i rywbeth wrthych chi.
(Helen) Ie, g'newch, ar unwaith.
 
(3, 0) 3085 Mi wyddoch chi mai drwy adeiladu eglwysi y dechreuais i.
(Helen) {Yn nodio.}
 
(Helen) Mi wn i hynny.
(3, 0) 3088 Wel, hogyn o gartre duwiol yn y wlad oeddwn i, ydych chi'n gweld.
(3, 0) 3089 Felly roeddwn i'n meddwl mai adeiladu eglwysi oedd y gwaith mwya' teilwng fedrwn i 'i neud.
(Helen) Ie, ie.
 
(Helen) Ie, ie.
(3, 0) 3091 A rydw i'n meddwl y medra' i dd'eud mod i wedi codi'r eglwysi bychain hynny mor onest a chywir a chyda cymaint o barch fel...
(Helen) Fel be?
 
(Helen) Fel be?
(3, 0) 3093 Fel y disgwyliwn i 'mod i wedi'i blesio Fo.
(Helen) Plesio pwy?
 
(Helen) Plesio pwy?
(3, 0) 3095 Yr un roedd yr eglwysi er ei fwyn o, wrth gwrs.
(3, 0) 3096 Hwnnw roedden nhw wedi'u cysegru i'w ogoniant o, ac er ei glod.
(Helen) Wela' i.
 
(3, 0) 3100 |Fo| yn falch ohona' i?
(3, 0) 3101 Sut y medrwch chi siarad fel 'na Helen?
(3, 0) 3102 Yr un roddodd y dewin oddi mewn i mi i chwara' ei gastia'?
(3, 0) 3103 Hwnnw barodd iddyn nhw fod wrth law ddydd a nos... nhw... tylwyth yr...
(Helen) Yr ysbrydion?
 
(Helen) Yr ysbrydion?
(3, 0) 3105 Ie.
(3, 0) 3106 Y ddau fath.
(3, 0) 3107 O, na.
(3, 0) 3108 Mi ddangosodd yn ddigon buan nad oeddwn i wedi'i blesio Fo.
 
(3, 0) 3110 Dyna, mewn gwirionedd, pam y parodd o i'r hen dŷ fynd ar dân, ydych chi'n gweld.
(Helen) O, dyna pam?
 
(Helen) O, dyna pam?
(3, 0) 3112 Ie.
(3, 0) 3113 Ydych chi ddim yn deall?
(3, 0) 3114 Roedd o eisio rhoi'r cyfle i mi ddod yn bencampwr yn fy ngwaith fel y b'aswn i'n adeiladu eglwysi mwy gogoneddus iddo Fo.
(3, 0) 3115 Yn y dechra' 'doeddwn i ddim yn deall be' oedd ganddo Fo mewn golwg.
(3, 0) 3116 Ond mi wawriodd arna i mewn amrantiad.
(Helen) Pryd oedd hynny?
 
(Helen) Pryd oedd hynny?
(3, 0) 3118 Pan oeddwn i'n codi tŵr yr eglwys i fyny ym Mryn Padarn.
(Helen) Roeddwn i'n ama'.
 
(Helen) Roeddwn i'n ama'.
(3, 0) 3120 Oherwydd, i fyny yno yn yr ardal anial honno mi fûm i'n crwydro gan fy holi fy hun.
(3, 0) 3121 Yr adeg honno mi sylweddolais i'n glir pam roedd O wedi cymryd fy mhlant bach oddi arna' i.
(3, 0) 3122 Rhag bod gen i ormod o feddwl o betha' eraill.
(3, 0) 3123 Doedd dim byd fel cariad a hapusrwydd yn cyfri', ydych chi'n gweld?
(3, 0) 3124 Adeiladwr oeddwn i i fod a dim arall.
(3, 0) 3125 A thrwy gydol fy mywyd roeddwn i i fod i ddal ati i adeiladu iddo Fo.
 
(3, 0) 3127 Ond, mi fedra' i'ch sicrhau chi nad felly y bu hi.
(Helen) Be 'naethoch chi?
 
(Helen) Be 'naethoch chi?
(3, 0) 3129 I ddechra' mi holais fy hun... a phrofi fy hun...
(Helen) A wedyn?
 
(Helen) A wedyn?
(3, 0) 3131 Yna... mi wnes i'r amhosib... fi gystal â Fo.
(Helen) Yr amhosib?
 
(Helen) Yr amhosib?
(3, 0) 3133 'Doeddwn i erioed wedi medru dringo i unrhyw uchder.
(3, 0) 3134 Ond y diwrnod hwnnw, mi lwyddais i.
(Helen) {Yn neidio.}
 
(Helen) O do mi 'naethoch chi.
(3, 0) 3137 A phan oeddwn i'n sefyll yno yn uchel, reit ar y top, wrth i mi roi'r dorch floda' ar y ceiliog gwynt, mi dd'wedais i wrtho Fo:
(3, 0) 3138 Clyw fi yn awr.
(3, 0) 3139 Tydi yr Hollalluog.
(3, 0) 3140 O'r dydd hwn ymlaen byddaf yn adeiladwr rhydd.
(3, 0) 3141 Myfi yn fy myd fy hun fel yr wyt Ti yn dy fyd.
(3, 0) 3142 Adeilada' i byth eglwysi i Ti eto... dim ond cartrefi i bobol.
(Helen) {Ei llygaid yn ddisglair.}
 
(Helen) Dyna oedd y gân a glywais i yn yr awyr!
(3, 0) 3145 Ond wedi hynny mi ddaeth ei dro ynta'.
(Helen) Be' ydych chi'n 'i feddwl?
 
(3, 0) 3148 Dydy codi tai i bobol yn dda i ddim, Helen.
(Helen) Pam rydych chi'n d'eud hynny?
 
(Helen) Pam rydych chi'n d'eud hynny?
(3, 0) 3150 Oherwydd mod i'n gweld nad ydy pobol ddim yn medru defnyddio'r tai er mwyn eu hapusrwydd.
(3, 0) 3151 A f'aswn inna' ddim chwaith petawn i wedi cael un.
 
(3, 0) 3153 Wrth edrych yn ôl, be' sy' 'na?
(3, 0) 3154 'Dydw i wedi adeiladu dim byd.
(3, 0) 3155 Na dim byd wedi'i aberthu chwaith er mwyn cael y cyfle i adeiladu.
(3, 0) 3156 Dim.
(3, 0) 3157 Dim oll!
(Helen) Newch hi byth adeiladu dim byd eto felly?
 
(3, 0) 3160 O g'naf.
(3, 0) 3161 Rydw i ar fin dechra'!
(Helen) Be' ydych chi am adeiladu?
 
(Helen) Dwedwch ar unwaith.
(3, 0) 3164 Does dim ond un trigfan i hapusrwydd pobol.
(3, 0) 3165 A dyna ydw i am ei adeiladu rŵan.
(Helen) {Yn sefydlu ei golwg arno.}
 
(Helen) Ein cestyll yn yr awyr ydych chi'n feddwl, on'd e?
(3, 0) 3168 Ie.
(3, 0) 3169 Cestyll yn yr awyr.
(Helen) Mae arna' i ofn y caech chi bendro cyn cyrraedd hanner y ffordd i fyny.
 
(Helen) Mae arna' i ofn y caech chi bendro cyn cyrraedd hanner y ffordd i fyny.
(3, 0) 3171 Nid os ca' i fynd i fyny law yn llaw efo chi, Helen.
(Helen) {Yn methu cuddio eiddigedd.}
 
(Helen) Oni fydd 'na amryw ohonon ni?
(3, 0) 3175 Pwy arall?
(Helen) O, y Gwyneth 'na.
 
(Helen) Ydych chi ddim am fynd â hi hefyd?
(3, 0) 3179 Oho!
(3, 0) 3180 Amdani hi yr oedd Gladys yn siarad efo chi?
(Helen) Ai dyna'r gwir?
 
(3, 0) 3184 Ateba' i 'mo'r fath gwestiwn.
(3, 0) 3185 Rhaid i chi gredu ynof fi, yn llwyr.
(Helen) Ar hyd y deng mlynedd d'waetha, rydw i wedi credu ynoch chi'n gyfangwbwl.
 
(Helen) Ar hyd y deng mlynedd d'waetha, rydw i wedi credu ynoch chi'n gyfangwbwl.
(3, 0) 3187 Rhaid i chi ddal i gredu ynof fi.
(Helen) Gadewch i mi'ch gweld chi yn sefyll ar y top, yn ddyn rhydd ynte'.
 
(3, 0) 3190 Helen, nid bob dydd y medra' i neud hynny.
(Helen) {Gydag angerdd.}
 
(3, 0) 3197 Os ceisia' i Helen, mi safa' i fyny yn fan 'cw a siarad fel y gwnes i o'r blaen.
(Helen) {Yn mynd yn fwy brwdfrydig.}
 
(Helen) Be dd'wedwch chi wrtho Fo?
(3, 0) 3200 Mi dd'weda' i wrtho Fo:
(3, 0) 3201 Clyw fi, Arglwydd Hollalluog.
(3, 0) 3202 Rhaid i Ti fy marnu i yn ôl dy ddoethineb.
(3, 0) 3203 Ond o hyn allan, adeilada' i ddim ond y peth hardda' yn y byd...
(Helen) {Wedi ymgolli.}
 
(Helen) Ie!... Ie!... Ie!
(3, 0) 3206 Ei adeiladu o gyda thywysoges a garaf.
(Helen) Ie.
 
(Helen) D'wedwch hynny wrtho Fo.
(3, 0) 3210 G'naf.
(3, 0) 3211 Ac yna mi dd'weda' i wrtho Fo:
(3, 0) 3212 Yn awr rwy'n mynd i lawr, rhoi fy mreichia' amdani hi a'i chusanu...
(Helen) Lawer gwaith.
 
(Helen) D'wedwch hynny.
(3, 0) 3215 Laweroedd o weithia', dyna dd'weda' i.
(Helen) A wedyn?
 
(Helen) A wedyn?
(3, 0) 3217 Yna mi chwifia' i fy het a dod i lawr i'r ddaear a g'neud fel y d'wedais i.
(Helen) {Â'i breichiau allan.}
 
(3, 0) 3221 Sut ddar'u chi ddatblygu i'r hyn ydych chi, Helen?
(Helen) Sut y g'naethoch chi fi yr hyn ydw i?
 
(3, 0) 3224 Mi gaiff y dywysoges ei chastell.
(Helen) {Yn llawenhau a chlapio.}
 
(Helen) Ein castell yn yr awyr!
(3, 0) 3229 Ar ei sylfaen gadarn.
(Mrs Morris) {Wrth Elwyn.}
 
(3, 0) 3241 Iawn.
(3, 0) 3242 Mi a' i i lawr.
(Mrs Morris) {Yn bryderus.}
 
(3, 0) 3246 Rhaid i mi fod i lawr 'na efo'r dynion.
(Mrs Morris) Ie, i |lawr| cofiwch.
 
(Mrs Morris) Dim ond ar lawr.
(3, 0) 3249 Dyna lle bydda' i bob amser.
(3, 0) 3250 Fel arfer.