Rhywun Wrth y Drws

Ciw-restr ar gyfer Mrs Morris

(Meredith) Fedra' i ddim diodde' yn hir iawn eto, na fedraf wir.
 
(1, 0) 332 Isaac.
(Morris) {Yn troi.}
 
(1, 0) 336 Rydw i'n dod ar eich traws chi mae arna' i ofn.
(Morris) Ddim o gwbwl.
 
(Morris) Mae gan Miss Parry lythyr byr i'w deipio, dyna'r cwbwl.
(1, 0) 339 Oes, felly rydw i'n gweld.
(Morris) Be' sy' Gladys?
 
(Morris) Be' sy' Gladys?
(1, 0) 341 Dim ond dod i ddeud bod Dr Hughes yma.
(1, 0) 342 Ydych chi ddim am ddod i'w weld o Isaac?
(Morris) {Yn edrych yn amheus arni.}
 
(Morris) Ydy'r meddyg eisio 'ngweld i'n arw?
(1, 0) 346 Na ddim yn arbennig.
(1, 0) 347 I 'ngweld i y daeth o mewn gwirionedd ond na fasai 'fo ddim yn lecio mynd, heb gael gair efo chitha' hefyd.
(Morris) {Yn chwerthin ynddo'i hun.}
 
(Morris) Wel gofynnwch iddo fo aros am funud.
(1, 0) 351 Mi ddowch chi drwodd yn y munud ynte'?
(Morris) 'Ddo' i wedyn.
 
(1, 0) 356 Wel, cofiwch chi rŵan Isaac.
 
(1, 0) 423 Isaac, 'fedra' i gadw'r doctor ddim hwy.
(Morris) Wel, ynte'; dowch i mewn yma.
 
(1, 0) 426 Ydych chi wedi gorffen y llythyr yn barod Miss Parry?
(Gwyneth) {Yn ffwdanus.}
 
(Morris) Do, un byr oedd o.
(1, 0) 430 Rhaid ei fod o'n fyr iawn.
(Morris) 'Gewch chi fynd rŵan Miss Parry.
 
(Gwyneth) {Yn mynd allan drwy ddrws y cyntedd.}
(1, 0) 436 Mae'n rhaid ei bod hi'n gaffaeliad mawr i chi, Isaac, Miss Parry 'ma.
(Morris) Ydy wir.
 
(Morris) Mae hi'n ddefnyddiol iawn mewn llawer modd.
(1, 0) 439 Felly mae'n edrych.
(Dr Hughes) Ydy hi'n dda am gadw cyfrifon hefyd?
 
(Morris) A mae hi mor ddymunol a chymwynasgar ym mhob modd.
(1, 0) 443 Ie.
(1, 0) 444 Rhaid bod hynny'n braf iawn.
(Morris) Ydy, mae o.
 
(1, 0) 448 Fedrwch chi dd'eud hynny Isaac?
(Morris) Na fedraf, wrth gwrs, Gladys annwyl.
 
(Morris) Maddeuwch i mi.
(1, 0) 451 Mae'n iawn.
(1, 0) 452 Wel mi ddowch yn ôl a chael swper efo ni ynte' Doctor?
(Dr Hughes) Does gen i ond eisio galw mewn un lle.
 
(Dr Hughes) Mi ddo i yn ôl wedyn.
(1, 0) 455 Diolch i chi.
 
(1, 0) 800 Pwy ydych chi'n dd'eud sy' 'na?
 
(1, 0) 802 O, chi sy' 'na Miss O'Reilly?
 
(1, 0) 804 Mi ddaethoch i'r dre wedi'r cwbwl.
(Morris) Newydd gyrraedd mae Miss O'Reilly.
 
(Morris) Mi f'asai hi'n hoffi aros noson yma.
(1, 0) 807 Yma, efo ni?
(1, 0) 808 Cewch â chroeso.
(Morris) Iddi gael dipyn o drefn ar ei phetha', ydych chi'n gweld.
 
(Morris) Iddi gael dipyn o drefn ar ei phetha', ydych chi'n gweld.
(1, 0) 810 Mi 'na' i fy ngora' i chi.
(1, 0) 811 'Dydy o ddim ond fy nyletswydd i.
(1, 0) 812 Bydd eich cesus chi'n cyrraedd cyn bo hir, debyg?
(Helen) Does gen i ddim |luggage|.
 
(Helen) Does gen i ddim |luggage|.
(1, 0) 814 Wel, bydd popeth yn iawn mae'n siŵr.
(1, 0) 815 Esgusodwch fi yn eich gadael chi yma efo'r gŵr am dipyn, tra bydda' i'n paratoi stafell i chi.
(Morris) Fedrwn ni ddim rhoi un o stafelloedd y plant iddi hi?
 
(Morris) Mae'r rheini yn barod eisoes.
(1, 0) 818 O ie.
(1, 0) 819 Mae yna ddigon o le yn y fan honno.
 
(1, 0) 821 Eisteddwch rŵan a gorffwys dipyn.
 
(Helen) Mae o'n cofio'r manion lleia' ar unwaith.
(1, 0) 1270 Dyna ni.
(1, 0) 1271 Miss O'Reilly, mae'r stafell yn barod i chi rŵan.
(Helen) Ew, rydych chi'n ffeind.
 
(Morris) Un o stafelloedd y plant?
(1, 0) 1275 Ie, yr un ganol.
(1, 0) 1276 Gadewch i ni fynd am swper gynta'.
(Morris) {Yn nodio at Helen.}
 
(1, 0) 1280 Helen?
(Morris) Ie, Helen ydy enw Miss O'Reilly.
 
(Morris) Roeddwn i'n ei nabod hi'n blentyn.
(1, 0) 1283 Oeddech chi wir, Isaac?
(1, 0) 1284 Gawn ni fynd?
(1, 0) 1285 Mae swper yn barod.
(Helen) {Yn ysgafn a chflym wrth Morris.}
 
(2, 0) 1342 Synnwn i ddim petai ynta' hefyd yn marw.
(Morris) {Yn edrych i fyny arni.}
 
(Morris) Pwy arall ydych chi'n ei feddwl?
(2, 0) 1346 Ydy siŵr, mae'r hen Feredith yn mynd i farw, Isaac, gewch chi weld.
(Morris) Gladys annwyl, fasai hi ddim gwell i chi fynd am dro bach?
 
(Morris) Gladys annwyl, fasai hi ddim gwell i chi fynd am dro bach?
(2, 0) 1348 Ie, hwyrach y dylwn i.
 
(2, 0) 1353 Breuddwydio am Miss O'Reilly ydych chi'n ei neud yn eistedd yn fan 'na?
(Morris) {Yn ddidaro.}
 
(Morris) Cofio amdani hi yn sydyn 'nes i.
(2, 0) 1356 Mae Miss O'Reilly wedi codi ers meitin.
(Morris) O, ydy hi?
 
(Morris) O, ydy hi?
(2, 0) 1358 Pan ês i i mewn i'w gweld hi roedd hi'n brysur yn rhoi trefn ar ei phetha'.
 
(Morris) Dyna un o'r stafelloedd plant wedi dod i mewn reit handi wedi'r cwbwl, Gladys.
(2, 0) 1362 Ie on'd e?
(Morris) Gwell na'u bod nhw i gyd yn wag 'ddyliwn.
 
(Morris) Gwell na'u bod nhw i gyd yn wag 'ddyliwn.
(2, 0) 1364 Mae'r gwacter yma'n ofnadwy.
(2, 0) 1365 Rydych chi'n iawn.
(Morris) {Yn cau'r ffolder, yn codi a dod ati hi.}
 
(Morris) Mi fydd yn brafiach, mi fydd bywyd yn haws, yn arbennig i chi.
(2, 0) 1369 O hyn ymlaen?
(Morris) Ie'n sicir i chi Gladys.
 
(Morris) Ie'n sicir i chi Gladys.
(2, 0) 1371 Am ei bod |hi| wedi dod yma ydych chi'n ei feddwl?
(Morris) {Yn amddiffynnol.}
 
(2, 0) 1375 Ydych chi'n meddwl hynny, Isaac?
(2, 0) 1376 Fydd hi'n well wedyn?
(Morris) Mae'n rhaid iddi fod.
 
(Morris) Rydych chitha' 'n credu hynny debyg?
(2, 0) 1379 Fydda' i'n meddwl dim o gwbwl am y tŷ newydd.
(2, 0) 1380 Morris
 
(2, 0) 1382 Mae'n wirioneddol ddrwg gen i eich clywed yn d'eud hyn'na achos mi wyddoch mai er eich mwyn chi, yn bennaf, yr ydw i wedi'i 'neud o.
 
(2, 0) 1385 Y gwir ydy, rydych chi'n g'neud llawer gormod o betha' er fy mwyn i.
(Morris) {Dan dipyn o deimlad.}
 
(Morris) Fedra' i ddim diodde' eich clywed chi'n d'eud y fath beth.
(2, 0) 1389 O'r gora' 'na' i ddim d'eud hynny ynte' Isaac.
(Morris) Rydw i'n dal at be' dd'wedais i.
 
(Morris) Gewch chi weld y bydd hi'n brafiach o lawer arnoch chi yn y tŷ newydd.
(2, 0) 1392 Nefoedd annwyl, brafiach arna' i?
(Morris) {Yn eiddgar.}
 
(Morris) Mi ellwch fod yn berffaith siŵr achos mi fydd y lle'n llawn o betha' fydd yn eich atgoffa chi o'ch hen gartre'.
(2, 0) 1396 Hen gartre' 'nhad a mam a losgwyd i'r llawr?
(Morris) {Mewn llais isel.}
 
(2, 0) 1401 Faint bynnag o dai godwch chi, Isaac, fedrwch chi byth 'neud lle fydd yn gartre' iawn i mi.
(Morris) {Yn croesi'r stafell.}
 
(Morris) Wel yn enw'r nefoedd gadewch i ni beidio sôn dim mwy am y peth ynte'.
(2, 0) 1404 Fyddwn ni byth |yn| sôn amdano fo.
(2, 0) 1405 Mi fyddwch chi, bob amser, yn gwrthod meddwl am y peth.
(Morris) {Yn aros yn sydyn ac edrych arni.}
 
(Morris) A pham y b'aswn i'n g'neud hynny, gwrthod meddwl am y peth?
(2, 0) 1409 O byddwch Isaac.
(2, 0) 1410 Rydw i'n eich darllen chi fel llyfr.
(2, 0) 1411 Rydych chi eisio f'arbed i a g'neud esgusion dros fy nhyflwr i gymaint ag a fedrwch chi.
(Morris) {Gyda syndod yn ei lygaid.}
 
(Morris) Amdanoch chi, chi'ch hun ydych chi'n sôn Gladys?
(2, 0) 1414 Ie wrth gwrs, amdana' i fy hun.
(Morris) {Wrtho'i hun.}
 
(Morris) Bobol annwyl.
(2, 0) 1417 Gyda golwg ar yr hen dŷ, roedd y tân i fod i ddigwydd.
(2, 0) 1418 Does dim fedrwch chi ei 'neud yn erbyn ffawd.
(Morris) Rydych chi'n iawn.
 
(Morris) 'Anodd atal anlwc,' chwedl yr hen air.
(2, 0) 1421 Ond, yr hyn a ddigwyddodd o achos y tân, y peth dychrynllyd a ddigwyddodd wedyn, dyna'r peth na alla' i byth, byth, byth...
(Morris) {Gydag angerdd.}
 
(Morris) Peidiwch â meddwl amdano fo, Gladys.
(2, 0) 1424 Dyna'r union beth na fedra' i ddim peidio â meddwl amdano.
(2, 0) 1425 A rŵan, rhaid i mi siarad amdano fo beth bynnag, achos 'dydw i ddim yn teimlo y medra' i ei ddal o'n llawer hwy; a finna' 'n gwybod na fedra' i byth fadda' i mi fy hun...
(Morris) {Yn uchel.}
 
(Morris) Chi eich hun.
(2, 0) 1428 Ie, achos roedd gen i ddyletswydd at y ddwy ochor, atoch chi ac at y rhai bychain.
(2, 0) 1429 Mi ddylwn i fod wedi bod yn galed.
(2, 0) 1430 Peidio â gadael i'r arswyd fy llethu; na'r loes o golli 'nghartre efo'r tân chwaith.
(2, 0) 1431 O Isaac, gresyn na faswn i wedi bod yn ddigon cryf.
(Morris) {Yn dyner, dan gryn deimlad, daw yn nes ati.}
 
(Morris) Newch chi addo f'annwyl i?
(2, 0) 1435 O'r nefoedd.
(2, 0) 1436 Addo, addo.
(2, 0) 1437 Mi all rhywun addo unrhyw beth.
(Morris) {Yn gwasgu ei ddwylo'n ddyrnau a chroesi'r stafell.}
 
(Morris) Dim llygedyn o heulwen na gwawr fach o oleuni ar ein cartre' ni.
(2, 0) 1441 |'Dydy| hwn ddim yn gartre', Isaac.
(Morris) O nâc ydy.
 
(Morris) A hwyrach eich bod chi'n iawn na fydd hi ddim gwell yn y tŷ newydd chwaith.
(2, 0) 1446 Fydd hi byth yn well.
(2, 0) 1447 Yr un mor wag, yr un mor oeraidd ag ydy hi yma.
(Morris) {Gydag angerdd.}
 
(Morris) Fedrwch chi dd'eud wrtha i?
(2, 0) 1451 Na fedraf.
(2, 0) 1452 Mae'n rhaid i chi ateb hynny drosoch eich hun.
(Morris) {Yn taflu golwg amheus arni.}
 
(Morris) Be' yn hollol ydych chi'n ei feddwl Gladys?
(2, 0) 1455 Be' ydw i'n ei feddwl?
(Morris) Ie.
 
(Morris) Mi ddwed'soch chi'r peth mor rhyfedd fel 'tai rhyw ystyr gudd ynddo fo.
(2, 0) 1459 Nâc oedd, yn enw'r Tad, ar fy ngwir.
(Morris) {Yn dod yn nes.}
 
(Morris) 'Dydw i ddim yn ddall nâc yn fyddar.
(2, 0) 1464 Bobol annwyl; am be' ar y ddaear ydych chi'n siarad?
(2, 0) 1465 Be' sy'?
(Morris) {Yn sefyll o'i blaen.}
 
(Morris) Rydych chi'n gweld rhyw ystyr gudd a llechwraidd yn y petha' mwya' diniwed fydda' i'n ei ddeud, on'd ydych?
(2, 0) 1468 Fi?
(2, 0) 1469 Ydych chi'n d'eud 'mod i'n g'neud hynny?
(Morris) Ho, ho, ho.
 
(2, 0) 1473 Sâl; ydych chi'n sâl Isaac?
(Morris) {Yn wyllt.}
 
(2, 0) 1478 Isaac, yn enw'r nefoedd...!
(Morris) Ond rydych chi wedi methu, chi a'r doctor.
 
(Morris) Mewn gwirionedd 'does 'na ddim o gwbwl o'i le arna' i.
(2, 0) 1485 Nâc oes, wrth gwrs.
(2, 0) 1486 Ond eto, be' sy'n eich poeni chi gymaint?
(Morris) Fy mod i'n teimlo'n barod i sigo dan ryw faich dychrynllyd o ddyled.
 
(Morris) Fy mod i'n teimlo'n barod i sigo dan ryw faich dychrynllyd o ddyled.
(2, 0) 1488 Dyled?
(2, 0) 1489 Ond 'does arnoch chi ddim i neb.
(Morris) {Yn dawel a than deimlad.}
 
(2, 0) 1493 Be' sy' y tu ôl i hyn i gyd?
(2, 0) 1494 Waeth i chi ddeud wrtha i ar unwaith.
(Morris) Does yna ddim byd y tu ôl iddo fo.
 
(Morris) Ac eto, mae fel petai yna euogrwydd mawr yn fy ngwasgu fi i lawr.
(2, 0) 1498 Euogrwydd o'm plegid i?
(Morris) Ie, chi'n bennaf.
 
(Morris) Ie, chi'n bennaf.
(2, 0) 1500 Felly mae'n rhaid eich bod chi'n sâl wedi'r cwbwl Isaac.
(Morris) {Yn ddigalon.}
 
(2, 0) 1528 Rhaid i mi fynd i'r dre' rŵan, Isaac.
 
(2, 0) 1530 Ac mi chwilia i am un neu ddau o betha' fydd yn ddefnyddiol i chi, Miss O'Reilly.
(Helen) {Yn gwneud osgo fel petai am roi ei breichiau am ei gwddw.}
 
(2, 0) 1535 O, dim o gwbwl, dim ond fy nyletswydd i.
(2, 0) 1536 Rydw i'n falch o gael g'neud.
(Helen) O ddifri, mi fydda' i'n iawn yn y dillad sy' gen i.
 
(Helen) O ddifri, mi fydda' i'n iawn yn y dillad sy' gen i.
(2, 0) 1538 Mi edrycha' i am drowsus cynnes i'ch siwtio chi.
(2, 0) 1539 Mae hi'n gallu mynd yn oer iawn yma yr adeg yma o'r flwyddyn.
(Helen) Rydw i wedi arfer wyddoch chi.
 
(Helen) Chi, Mr Morris?
(2, 0) 1548 O peidiwch â siarad fel 'na Isaac annwyl.
(Morris) Ydych chi ddim wedi sylwi ar hynny eto?
 
(Morris) Glywsoch chi |hyn'na| Gladys?
(2, 0) 1554 A be' ydy'r un peth hwnnw, Miss O'Reilly?
(2, 0) 1555 Helen
(2, 0) 1556 O, 'dydw i ddim am dd'eud.
(Morris) Dowch rŵan, allan â fo.
 
(Helen) 'Dydw'i ddim mor bell o 'ngho â hynny.
(2, 0) 1560 Pan fyddwch chi a Miss O'Reilly ar eich penna' eich hunain mi dd'wedith wrthych chi, Isaac, fwy na thebyg.
(Morris) Ydych chi'n meddwl hynny?
 
(Morris) Ydych chi'n meddwl hynny?
(2, 0) 1562 Ydw, siŵr.
(2, 0) 1563 Achos roeddech chi'n ei nabod hi mor dda ers talwm; ers pan oedd hi'n blentyn, meddech chi.
 
(Morris) H'm.
(2, 0) 2306 Dyma ychydig o betha' ydw i wedi gael i chi, Miss O'Reilly.
(Helen) Rydych chi'n garedig dros ben.
 
(Helen) Rydych chi'n garedig dros ben.
(2, 0) 2308 Twt, dim ond fy nyletswydd i.
(2, 0) 2309 Dim mwy na hynny.
(Morris) {Yn darllen yr hyn a ysgrifennodd.}
 
(Morris) Gladys.
(2, 0) 2312 Ie?
(Morris) Ddaru chi sylwi oedd yr ysgrifenyddes yn y swyddfa?
 
(Morris) Ddaru chi sylwi oedd yr ysgrifenyddes yn y swyddfa?
(2, 0) 2314 Oedd, wrth gwrs ei bod hi yna.
(Morris) {Yn rhoi'r cynlluniau yn y ffolder.}
 
(Morris) H'm.
(2, 0) 2317 Roedd hi wrth y ddesg fel y mae hi bob amser y bydda i'n mynd trwodd.
(Morris) {Yn codi.}
 
(Gwyneth) {Yn mynd allan.}
(2, 0) 2358 Mewn difri', on'd oes ganddi hi lygaid t'wyllodrus?
(Morris) Hi?
 
(Morris) Y greadures fach yna?
(2, 0) 2361 O, 'dydw i ddim yn ddall Isaac...
(2, 0) 2362 Ydych chi'n eu diswyddo nhw o ddifri?
(Morris) Ydw.
 
(Morris) Ydw.
(2, 0) 2364 Y ferch hefyd?
(Morris) Dyna oeddech chi eisio Gladys.
 
(Morris) Rydw i'n gwybod.
(2, 0) 2367 Ond sut y medrwch chi 'neud hebddi |hi|?
(2, 0) 2368 O, ie.
(2, 0) 2369 Os ydw i'n eich nabod chi, mae gennych chi rywun arall mewn golwg.
(Helen) {Yn llon.}
 
(Morris) Fi!
(2, 0) 2382 Yn enw'r nefoedd, Miss O'Reilly, peidiwch â meddwl am y fath beth.
(2, 0) 2383 Fy ngŵr i!
(2, 0) 2384 Ac ynta'n cael pendro mor ofnadwy!
(Helen) Fo'n cael pendro!
 
(Helen) Na, mi wn i'n iawn nad ydy o ddim!
(2, 0) 2387 O ydy wir, mae o.
(Helen) Ond rydw i wedi'i weld o â'm llygaid fy hun reit ar ben tŵr eglwys uchel!
 
(Helen) Ond rydw i wedi'i weld o â'm llygaid fy hun reit ar ben tŵr eglwys uchel!
(2, 0) 2389 Ie, mi glywais i bobol yn sôn am hynny ond mae'n amhosib.
(Morris) {Yn bendant.}
 
(Morris) Ond mi wnes i sefyll yno er hynny.
(2, 0) 2393 Sut y medrwch chi dd'eud hyn 'na Isaac?
(2, 0) 2394 Gwarchod, fedrwch chi ddim diodde rhoi eich pen allan o ffenest y llofft ucha.
(2, 0) 2395 Fel na y buoch chi erioed.
(Morris) Hwyrach y gwelwch chi rywbeth gwahanol heno.
 
(2, 0) 2398 Nâc e, nâc e, nâc e!
(2, 0) 2399 O Dduw mawr, gobeithio na cha' i byth weld hynny.
(2, 0) 2400 Rydw i'n gyrru am y doctor y munud 'ma.
(2, 0) 2401 Wnaiff o byth ganiatâu'r fath beth.
(Morris) Ond Gladys...!
 
(Morris) Ond Gladys...!
(2, 0) 2403 Rhaid i mi 'neud.
(2, 0) 2404 Oherwydd rydych chi'n sâl, Isaac.
(2, 0) 2405 Mae hyn yn profi hynny.
(2, 0) 2406 O Dduw, O Dduw!
 
(3, 0) 2472 Fuoch chi o gwmpas yr ardd, Miss O'Reilly?
(Helen) Do, mi fûm i'n cael golwg arni.
 
(Helen) Do, mi fûm i'n cael golwg arni.
(3, 0) 2474 A dod o hyd i ychydig o floda' rydw i'n gweld.
(Helen) Do wir.
 
(Helen) Mae 'na glystyra' ohonyn nhw dan y llwyni.
(3, 0) 2477 Oes 'na wir?
(3, 0) 2478 O hyd?
(3, 0) 2479 Anaml iawn y bydda' i'n mynd yna, ydych chi'n gweld.
(Helen) {Yn dod yn nes.}
 
(3, 0) 2484 Fydda i ddim yn |picio| i unlle rŵan.
(Helen) Wel, ond fyddwch chi ddim yn mynd i lawr rŵan ac yn y man i weld yr holl betha' hardd sy' 'na?
 
(Helen) Wel, ond fyddwch chi ddim yn mynd i lawr rŵan ac yn y man i weld yr holl betha' hardd sy' 'na?
(3, 0) 2486 Mae'r cwbwl wedi mynd mor ddiarth i mi, bron nad oes arna i ofn mynd i weld erbyn hyn.
(Helen) Eich gardd chi'ch hun?
 
(Helen) Eich gardd chi'ch hun?
(3, 0) 2488 Dydw i ddim yn teimlo mai fi piau hi bellach.
(Helen) Be' ydych chi'n 'i feddwl?
 
(Helen) Be' ydych chi'n 'i feddwl?
(3, 0) 2490 Dydy hi ddim fel roedd hi yn amser nhad a mam.
(3, 0) 2491 O, nâc ydy.
(3, 0) 2492 Maen nhw wedi dwyn cymaint o'r ardd, Miss O'Reilly.
(3, 0) 2493 Be 'ddyliech chi?
(3, 0) 2494 Maen nhw wedi'i rhannu hi'n glytia' a chodi tai i bobol ddiarth yno, pobol nad ydw i ddim yn eu nabod nhw.
(3, 0) 2495 Ac mi fedran |nhw| eistedd ac edrych i mewn i'r tŷ arna' i o'u ffenestri.
(Helen) {Yn sirioli.}
 
(Helen) Mrs Morris.
(3, 0) 2498 Ie?
(Helen) Ga' i aros yma efo chi am dipyn?
 
(Helen) Ga' i aros yma efo chi am dipyn?
(3, 0) 2500 Cewch ar bob cyfri, os ydych chi eisio.
(Helen) {Yn symud stôl at fraich y gadair freichiau ac yn eistedd.}
 
(3, 0) 2504 Chwarae teg i chi am fod eisio eistedd efo |mi|.
(3, 0) 2505 Roeddwn i'n meddwl mai i'r tŷ at y gŵr yr oeddech chi am fynd.
(Helen) I be?
 
(Helen) I be?
(3, 0) 2507 I'w helpu o, dyna oeddwn i'n feddwl.
(Helen) Ddim diolch.
 
(Helen) Ond roedd o'n edrych mor ffyrnig na feiddiais i ddim siarad efo fo.
(3, 0) 2512 Ond un ffeind a thyner ydy o mewn gwirionedd, wyddoch chi.
(Helen) Tybed?
 
(Helen) Tybed?
(3, 0) 2514 Dydych chi ddim yn ei nabod o eto, Miss O'Reilly.
(Helen) {Yn edrych arni yn hoffus.}
 
(Helen) Ydych chi'n falch eich bod chi'n mynd i'r tŷ newydd?
(3, 0) 2517 Mi ddylwn i fod yn falch gan mai dyna ddymuniad Mr Morris.
(Helen) O, nid hynny'n unig, siŵr.
 
(Helen) O, nid hynny'n unig, siŵr.
(3, 0) 2519 Wir, Miss OReilly.
(3, 0) 2520 Oherwydd dyna 'nyletswydd i, cyd-dynnu efo fo.
(3, 0) 2521 Ond yn amal mae'n anodd iawn eich gorfodi eich hun i ufuddhau.
(Helen) Ydy, mae'n rhaid bod hynny'n anodd iawn.
 
(Helen) Ydy, mae'n rhaid bod hynny'n anodd iawn.
(3, 0) 2523 Ydy.
(3, 0) 2524 Coeliwch fi.
(3, 0) 2525 I rywun â chymaint o wendida' ag sy' gen i...
(Helen) I rywun sy' wedi bod drwy gymaint â chi...
 
(Helen) I rywun sy' wedi bod drwy gymaint â chi...
(3, 0) 2527 Sut y gwyddoch chi am hynny?
(Helen) Eich gŵr chi ddwedodd wrtha' i.
 
(Helen) Eich gŵr chi ddwedodd wrtha' i.
(3, 0) 2529 Prin iawn y bydd o'n sôn am y petha' yna efo mi.
(3, 0) 2530 Ydw, o ydw, rydw i wedi bod drwy fwy na digon o drwbwl yn fy mywyd, Miss OReilly.
(Helen) {Yn edrych arni yn llawn cydymdeimlad ac yn nodio'n araf.}
 
(3, 0) 2535 Do.
(3, 0) 2536 Popeth oedd yn perthyn i mi wedi'i losgi.
(Helen) A wedyn mi ddaeth rhywbeth gwaeth...
 
(3, 0) 2539 Gwaeth?
(Helen) Gwaeth na'r cwbwl.
 
(Helen) Gwaeth na'r cwbwl.
(3, 0) 2541 Be' ydych chi'n 'i feddwl?
(Helen) {Y'n dyner.}
 
(Helen) Mi goll'soch chi'r ddau hogyn bach.
(3, 0) 2544 O, ie.
(3, 0) 2545 Nhw.
(3, 0) 2546 Ond roedd hynny'n beth gwahanol, wyddoch chi.
(3, 0) 2547 Trefn rhagluniaeth oedd hynny ac felly fedar rhywun neud dim ond ymostwng a bodloni...
(3, 0) 2548 Ie, a bod yn ddiolchgar hefyd.
(Helen) Felly rydych chi'n teimlo, ie?
 
(Helen) Felly rydych chi'n teimlo, ie?
(3, 0) 2550 Nid bob amser, mae'n ddrwg gen i dd'eud.
(3, 0) 2551 Mi wn i o'r gora' mai dyna ydy 'nyletswydd i.
(3, 0) 2552 Ond er hynny fedra' i ddim.
(Helen) Na fedrwch.
 
(Helen) 'Dydy hynny ddim ond naturiol.
(3, 0) 2555 Ac yn amal rhaid i mi f'atgoffa fy hun mai cosb gyfiawn arna' i oedd hi.
(Helen) Am be?
 
(Helen) Am be?
(3, 0) 2557 Am nad oedd gen i ddigon o ddewrder yn wyneb anffawd.
(Helen) Ond wela' i ddim bod...
 
(Helen) Ond wela' i ddim bod...
(3, 0) 2559 O, peidiwch wir, Miss OReilly.
(3, 0) 2560 Peidiwch â siarad dim mwy am y ddau fachgen bach.
(3, 0) 2561 Dim rhaid bod yn drist yn eu cylch nhw.
(3, 0) 2562 Mae nhw'n hapus rŵan, y plant bach,... hapus rŵan.
(3, 0) 2563 Na, y mân golledion mewn bywyd sy'n torri calon rhywun.
(3, 0) 2564 Colli'r cwbwl o'r petha' nad ydy pobol yn meddwl dim ohonyn nhw.
(Helen) {Yn rhoi ei breichiau ar liniau Mrs Morris ac edrych arni yn annwyl.}
 
(Helen) Pa betha'?
(3, 0) 2569 Dim ond petha' bychain.
(3, 0) 2570 Fel roeddwn i'n d'eud.
(3, 0) 2571 Mi losgwyd yr hen lunia' i gyd ar y walia', a'r holl wisgoedd sidan oedd wedi bod yn y teulu ers cenedlaetha'.
(3, 0) 2572 A lês mam a nain, y cwbwl wedi'u llosgi.
(3, 0) 2573 A'r gema'.
 
(3, 0) 2575 A'r dolia' i gyd.
(Helen) Y dolia??
 
(3, 0) 2578 Roedd gen i naw o ddolia'; ddigon o ryfeddod.
(Helen) Mi gawson hwytha'u llosgi hefyd?
 
(Helen) Mi gawson hwytha'u llosgi hefyd?
(3, 0) 2580 Bob un.
(3, 0) 2581 Roedd hynny'n galed.
(3, 0) 2582 O mi deimlais i'n arw.
(Helen) Oeddech chi wedi cadw'r dolia' 'ma i gyd ers pan oeddech chi'n hogan bach?
 
(Helen) Oeddech chi wedi cadw'r dolia' 'ma i gyd ers pan oeddech chi'n hogan bach?
(3, 0) 2584 Wedi'u cadw, oeddwn.
(3, 0) 2585 Ond nid eu rhoi o'r neilltu.
(3, 0) 2586 Roedd y dolia' a finna' wedi dal i fyw efo'n gilydd.
(Helen) Wedi i chi dyfu?
 
(Helen) Wedi i chi dyfu?
(3, 0) 2588 Ie, ymhell ar ôl hynny.
(Helen) Wedi i chi briodi hefyd?
 
(Helen) Wedi i chi briodi hefyd?
(3, 0) 2590 O, ie.
(3, 0) 2591 Cyn belled na welai o mohonyn nhw.
(3, 0) 2592 Ond mi llosgwyd nhw i gyd, y petha' bach.
(3, 0) 2593 Feddyliodd neb am eu hachub nhw.
(3, 0) 2594 Rydw i mor ddigalon yn meddwl am y peth.
(3, 0) 2595 Wnewch chi ddim chwerthin am fy mhen i, na wnewch, Miss OReilly?
(Helen) Dydw i ddim yn chwerthin yn siŵr i chi.
 
(Helen) Dydw i ddim yn chwerthin yn siŵr i chi.
(3, 0) 2597 Oherwydd, roedd 'na fywyd ynddyn hwytha', ydych chi'n gweld?
(3, 0) 2598 Roeddwn i'n eu cario o dan fy nghalon, fel plant bach heb eu geni.
(Dr Hughes) {Yn dod allan a'i het yn ei law. Mae'n gweld Mrs Morris a Helen.}
 
(Dr Hughes) Ydych chi'n eistedd allan, a hwyrach dal annwyd Mrs Morris?
(3, 0) 2601 Mae hi reit braf a chynnes yma heddiw.
(Dr Hughes) Ydy mae hi.
 
(3, 0) 2606 Mae na rywbeth mae'n rhaid i mi siarad amdano efo chi.
(Dr Hughes) O'r gora'.
 
(3, 0) 2618 Hsht, hsht.
(3, 0) 2619 Yn enw'r nefoedd.
(3, 0) 2620 Mae o'n dod.
(3, 0) 2621 Ceisiwch gael y syniad 'na o'i ben o.
(3, 0) 2622 A Helen, fedrwn ni ddim bod yn ffrindia', dwedwch?
(Helen) {Yn taflu ei dwylo am wddw Mrs Morris.}
 
(3, 0) 2626 Dyna ni.
(3, 0) 2627 Dyna ni.
(3, 0) 2628 Dyma fo'n dod Doctor.
(3, 0) 2629 Ga' i air efo chi?
(Dr Hughes) Amdano fo?
 
(Dr Hughes) Amdano fo?
(3, 0) 2631 Ie wir.
(3, 0) 2632 Dowch i mewn.
(Morris) Ydych chi wedi sylwi, Helen, ei bod hi'n mynd pan fydda' i'n ymddangos?
 
(3, 0) 2996 Ydy o ddim yma?
(3, 0) 2997 B'le mae o wedi mynd?
(Elwyn) Mae Mr Morris i lawr yn fan'na efo'r dynion,
 
(3, 0) 3001 Mi aeth â'r |wreath| efo fo?
(3, 0) 3002 O'r nefoedd!
(3, 0) 3003 Duw a'n helpo ni.
(3, 0) 3004 Meredith, ewch i lawr ato fo wir.
(3, 0) 3005 Perswadiwch o i ddod yn ôl i fan 'ma.
(Elwyn) Ga' i ddeud eich bod chi eisio siarad efo fo, Mrs Morris?
 
(Elwyn) Ga' i ddeud eich bod chi eisio siarad efo fo, Mrs Morris?
(3, 0) 3007 Ie.
(3, 0) 3008 Nâc e.
(3, 0) 3009 Na, peidiwch â d'eud bod arna' i eisio fo.
(3, 0) 3010 D'wedwch fod 'na rywun yma ac iddo ddod ar unwaith.
(Elwyn) O'r gora', mi 'na i hynny Mrs Morris.
 
(Elwyn) {Yn mynd i Iawr y grisiau ac allan drwy'r ardd.}
(3, 0) 3013 O, Miss O'Reilly fedrwch chi ddim dychmygu mor bryderus ydw i yn ei gylch o.
(Helen) Dydw i ddim yn deall be' ydy'r panic.
 
(Helen) Dydw i ddim yn deall be' ydy'r panic.
(3, 0) 3015 Ydych hi ddim yn sylweddoli ngeneth i?
(3, 0) 3016 Y peryg petai o'n g'neud hyn?
(3, 0) 3017 Petai o'n cymryd yn ei ben i ddringo'r sgaffald?
(Helen) {Yn eiddgar.}
 
(Helen) Ydych chi'n meddwl y gwnaiff o?
(3, 0) 3020 Does dim dal be' all o gymryd yn ei ben.
(3, 0) 3021 Mi all o 'neud unrhyw beth dan haul.
(Helen) Aha!
 
(Helen) Ydych chitha''n meddwl ei fod o... wel...?
(3, 0) 3024 Wn i ddim be' i'w feddwl ohono fo, wir.
(3, 0) 3025 Mae'r doctor wedi bod yn d'eud pob math o betha' wrtha' i.
(3, 0) 3026 Ac wrth gysylltu hynny ag ambell i beth a glywais i o'i hun yn ei dd'eud...
(Dr Hughes) Ydy o'n dod yn o fuan?
 
(Dr Hughes) Ydy o'n dod yn o fuan?
(3, 0) 3029 Ydy, rydw i'n meddwl, rydw i wedi gyrru amdano fo beth bynnag.
(Dr Hughes) {Yn nesáu.}
 
(Dr Hughes) F'asai hi ddim gwell i chi fynd i'r tŷ, Mrs Morris?
(3, 0) 3032 Na, na.
(3, 0) 3033 Mi arhosa' i allan yma i ddisgwyl Isaac.
(Dr Hughes) Ond mae rhyw ferched wedi galw i'ch gweld chi.
 
(Dr Hughes) Ond mae rhyw ferched wedi galw i'ch gweld chi.
(3, 0) 3035 O'r annwyl, rhywbeth arall, a'r funud yma o bob adeg.
(Dr Hughes) Mae nhw'n d'eud eu bod nhw'n awyddus i weld y seremoni.
 
(Dr Hughes) Mae nhw'n d'eud eu bod nhw'n awyddus i weld y seremoni.
(3, 0) 3037 O! wel, rhaid imi fynd atyn' nhw wedi'r cwbwl debyg.
(3, 0) 3038 Mae'n ddyletswydd arna' i.
(Dr Hughes) Fedrwch chi ddim gofyn iddyn' nhw alw eto?
 
(Dr Hughes) Fedrwch chi ddim gofyn iddyn' nhw alw eto?
(3, 0) 3040 Na.
(3, 0) 3041 Wnâi hynny 'mo'r tro o gwbwl.
(3, 0) 3042 Gan eu bod nhw yma, fy nyletswydd i ydy eu gweld nhw.
(3, 0) 3043 Ond da chi, arhoswch chi allan yma i'w dderbyn o pan ddaw o.
(Dr Hughes) A thrio'i ddal o i siarad cyhyd ag y medrwn ni.
 
(Dr Hughes) A thrio'i ddal o i siarad cyhyd ag y medrwn ni.
(3, 0) 3045 Ia, os gwelwch chi'n dda.
(3, 0) 3046 Miss O'Reilly, daliwch eich gafael yn dynn ynddo fo.
(Helen) Fyddai hi ddim yn well i chi 'ch hun 'neud hynny.
 
(Helen) Fyddai hi ddim yn well i chi 'ch hun 'neud hynny.
(3, 0) 3048 Byddai, mae o'n ddyletswydd arna' i.
(3, 0) 3049 Ond pan fo gan rywun ddyletswydda' mewn cymaint o gyfeiriada'...
(Dr Hughes) {Yn edrych tua'r ardd.}
 
(Dr Hughes) Dyma fo, mae o'n dod.
(3, 0) 3052 A minna'n gorfod mynd i'r tŷ.
(Dr Hughes) {Wrth Helen.}
 
(Helen) Gellwch fentro y ca' i rywbeth arall i siarad amdano fo efo Mr Morris.
(3, 0) 3057 A plis, gofalwch gadw'ch gafael yn dynn ynddo fo.
(3, 0) 3058 Chi fedar 'neud hynny ora'.
(Morris) Mae nhw'n d'eud bod rhywun eisio 'ngweld i.
 
(3, 0) 3235 Oes 'na fand hefyd?
(Elwyn) Oes.
 
(3, 0) 3244 Pam mae eisio i chi fynd i lawr, Isaac?
(Morris) {Yn gwta.}
 
(Morris) Rhaid i mi fod i lawr 'na efo'r dynion.
(3, 0) 3247 Ie, i |lawr| cofiwch.
(3, 0) 3248 Dim ond ar lawr.
(Morris) Dyna lle bydda' i bob amser.
 
(3, 0) 3253 Da chi, perwch i'r dyn fod yn ofalus wrth fynd i fyny.
(3, 0) 3254 Cofiwch, Isaac.
(Dr Hughes) {Wrth Mrs Morris.}
 
(Dr Hughes) Mae o wedi rhoi o'r neilltu'r syniad gwirion.
(3, 0) 3258 O'r fath ryddhad.
(3, 0) 3259 Ddwy waith mae 'na ddynion wedi disgyn a chael eu lladd yn y fan.
 
(3, 0) 3261 Diolch i chi, Miss O'Reilly, am ddal gafael yn dynn ynddo fo.
(3, 0) 3262 Faswn i byth wedi medru g'neud hynny fy hun.
(Dr Hughes) {Yn siriol.}
 
(Dr Hughes) Dacw'r fforman yn dechra' dringo'r ysgol.
(3, 0) 3300 A mae o'n cario'r |wreath| hefyd.
(3, 0) 3301 O, gobeithio'r annwyl y bydd o'n ofalus.
(Elwyn) {Yn llygadrythu'n anghrediniol a gweiddi.}
 
(3, 0) 3308 Ie, Isaac ydy o!
(3, 0) 3309 O Dduw mawr!
(3, 0) 3310 Isaac!
(3, 0) 3311 Isaac!
(Dr Hughes) Hsht, hsht.
 
(3, 0) 3315 Rhaid i mi fynd ato fo.
(3, 0) 3316 Rhaid i mi ei gael o i lawr!
(Dr Hughes) {Yn dal ei afael ynddi.}
 
(Helen) Mae o bron ar ben y tŵr!
(3, 0) 3331 Mae'r ofn yn ddigon amdana' i.
(3, 0) 3332 Fedra' i ddim diodde' edrych!