Ystori'r Streic

Ciw-restr ar gyfer Mari

(Mavis) {yn cerdded yn hamddenol o'r Aswy (A) i'r Dde (D)} Mae'n dda gan fy nu fod William wn cael lle fel clerc o dan Mr Davies!
 
(Mavis) {Yn mynd allan drwy ddrws A.}
(1, 1) 110 Halo! Mavis! Ble ry chi os!
(Mavis) {yn dod yn ol drwy ddrws A a'r babi yn ei chol} Oh, Mari fach!
 
(Mavis) Mae'n dda gen i eich gwel'd chi, fenyw!
(1, 1) 113 P'am! Beth sy'n bod?
(Mavis) Dyw'r babi ddim hanner iach gen i.
 
(Mavis) Mae'r gofal i gyd arnaf fi.
(1, 1) 126 Dir! Gwelwch fel mae'r babi yn enjoyo'ch clywed chi'n canu, Mavis!
(1, 1) 127 Mae e'n edrych fel pe licse fe ganu gyda chi, yr un bach anwyl, shwd ag yw e!
(1, 1) 128 Ond does dim shwd gantwraig a chi, Mavis, yn y wlad yma.
(Mavis) {yn chwerthin} Cerwch ona chi, Mari, yn fflatro hen wraig fel fi fel 'na!
 
(Mavis) {yn chwerthin} Cerwch ona chi, Mari, yn fflatro hen wraig fel fi fel 'na!
(1, 1) 130 Hen wraig wir!
(1, 1) 131 Dy chi ddim ond croten, ond croten yn canu yn gwmws fel angel.
(Mavis) Hush! Beth sy'na, gwedwch?
 
(1, 1) 135 Hanner cant o blismen dierth!
(Mavis) Plismen dierth!
 
(Mavis) Beth mae nhw'n wneud a phlismen yma!
(1, 1) 139 Glywsoch chi ddim!
(1, 1) 140 O achos y streic!
(Mavis) Ond beth mae plismen yn wneud a'r streic!
 
(Mavis) Does yma ddim |rows|!
(1, 1) 143 Nag oes, eitha gwir!
(1, 1) 144 Ond mae nhw'n gweyd fod Symonds, y manager, wedi persuado Mr Wynn i hala i mo'yn lot o blismen a gwyr ceffylau rhag ofn i'r bechgyn ar streic wneud niwed i'r gwaith
(Mavis) Dyna gywilydd, ontefe!
 
(Mavis) Dyna gywilydd, ontefe!
(1, 1) 146 Fe allawn feddwl hynny wir!
(1, 1) 147 Fe wnaiff Gruffydd Elias fwy ei hunan i gadw'r bechgyn yn dawel nag a wnaiff cant o blismen Bendith ar ei ben e!
(Mavis) Ry chi'n hanner addoli Gruffydd Elias, rwy'n credu!
 
(Mavis) Ry chi'n hanner addoli Gruffydd Elias, rwy'n credu!
(1, 1) 149 Tae chi'n ei nabod e fel fi fe fysech chithau'n ei addoli e hefyd.
(1, 1) 150 Rwy'n meddwl weithiau mai rhyw un tebyg i Gruffydd Elias oedd Iesu Grist!
(Mavis) Mari! Mari!
 
(Mavis) Ymswynwch!
(1, 1) 154 Na gwrandewch chi arna'i Mavis fach!
(1, 1) 155 Ry chi'n cofio i fì gladdu'r gwr, William Huw, yr haf diweddaf.
(1, 1) 156 Doedd gen i neb i ennill tamaid o fara i'r plant bach yco, ond William bach, a doedd ei gyflog e, fel gwyddoch chi, ddim yn fawr.
(1, 1) 157 Ond fe ymdopson nes i'r streic yma ddod.
(1, 1) 158 Dim ond shar crwt oedd William bach yn gael o arian y streic, wrth gwrs—a doedd hynny ddim digon i gadw bara yn y ty chwaethach dim rhagor.
(Mavis) {yn sychu ei llygaid} Oh! Mari!
 
(Mavis) Fe gesech dorth bryd mynsech chi, a'ch greso!
(1, 1) 162 Fe wn hynny, merch fach i!
(1, 1) 163 Ond fues i erioed yn cardota, a alla i ddim dechreu 'nawr.
(1, 1) 164 Ond ta beth, fe ethon i'r gwely un noswaith, y plant a finnau, heb ddim tamaid o ddim byd oddiar amser cinio.
(1, 1) 165 Wel fe weddiais i'r noswaith honno fel nw weddiais i erioed o'r blaen!
(1, 1) 166 Wyddoch chi ddim, Mavis fach, beth yw teimlad mam yn gwel'd ei phlant bach yn dioddef eisieu bwyd!
(1, 1) 167 Ond ar ol gweddio, fe dawelodd fy nghalon, a fe es i'r gwely a fe gysgais drwy'r nos.
(1, 1) 168 Bore tranoeth roedd Mari fach yn chwilio am rywbeth ar ffenest y gegin, a dyma hi'n gwaeddi:
(1, 1) 169 "Mam fach! dyma bapur ar y ffenest a'i lond e o arian!" Ac erbyn edrych dyna beth oedd e hefyd.
(1, 1) 170 'Roedd yno dwll bach yn nghornel y ffenest, a rhyw un wedi saco papur a chwpl o sylltau ynddo fe mewn yn y nos.
(Mavis) Oh! Mari!
 
(Mavis) Rhyw un caredig oedd e!
(1, 1) 173 Wel, rown i'n meddwl am y gigfran yn porthi Elias, ac fe ddwedais wrth y plant mai Duw oedd wedi danfon ei angel i'n porthi ninnau pan ar newynu!
(1, 1) 174 Ond fe dd'gwyddws yr un peth wed'yn y pythefnos diweddaf yma, a hynny bob tro pan bysen ni wedi mynd heb ddim tamaid o fara yn y ty.
(1, 1) 175 A rown i'n meddwl am y wraig weddw a'r phiol olew a'r blawd yn y celwrn, ac yn ceisio meddwl pwy oedd y prophwyd santaidd oedd yn bendithio ffenest y gegin i fi a'r plant bach.
(1, 1) 176 A rown i a'r plant yn siarad yn aml licsen ni wel'd angel yr Arglwydd oedd mor garedig ini.
(Mavis) {yn sychu ei llygaid} Te wir, Mari fach!
 
(Mavis) {yn sychu ei llygaid} Te wir, Mari fach!
(1, 1) 178 Wel, neithiwr ddiwetha, doedd dim o Sioned fach yn dda iawn, ac fe godais wedi canol nos rywbryd i fynd lawr i'r gegin i mo'yn cwpaned o ddwr iddi.
(1, 1) 179 Fe etho heb un ganwyll, waeth fe wyddwn ble i roi fy llaw ar y cwpan a'r dwr.
(1, 1) 180 A chyda mod i'n cyrraedd godre'r stair, gwelwn law rhywun yn gwthio papur mewn drwy'r twll yn y ffenest.
(1, 1) 181 "Dyna'r angel does dim dowt!" myntwn i wrthyf fy hun.
(1, 1) 182 'Roedd hi'n oleu leuad fel y dydd, ac fe welais ar unwaith nag oedd dim adenydd gan yr angel, ta beth.
(1, 1) 183 A mlaen a fi'n ddistaw bach i edrych drwy'r ffenest ar yr angel yn mynd ar hyd y llwybr, a phan gyrhaeddodd e gat fach yr ardd, fe drows eì wyneb nes oedd goleuni'r lleuad yn taro arno fe, a fe welais oleuni'r nefoedd, a thrugaredd, a Duw yn llewyrchu ar ei wyneb gwyn e—a phwy oedd e ond Gruffydd Elias!
(Mavis) {yn gosod ei llaw allan ac yn cydio yn llaw Mari}
 
(Mavis) A fe oedd e!
(1, 1) 187 Ie. Fe oedd e.
(1, 1) 188 Yn rhanu ei damaid bach ei hunan rhwng y weddw a'r amddifad!
(1, 1) 189 A bore heddy gwnes ryw esgus i fynd draw at Shani, lle mae e'n lodjo, a fe ddwedodd Shani wrthyf ei bod hi'n siwr fod Gruffydd Elias yn hanner starvo ei hunan, nag oes gydag e ddim hanner digon o fwyd i gynnal dyn yn reit.
(1, 1) 190 A rhoi ei fwyd mae e, welwch chi, i fi a rhai fel fi, sydd heb ddim i'w gael, ac yn gwneyd hynny'n ddistaw bach, heb neb yn cael gwybod gydag ef.
 
(1, 1) 192 Ry chi'n gwel'd nawr pa'm rw i'n dweyd mod i'n meddwl fod Iesu Grist yn debyg i beth oedd gwyneb Gruffydd Elias neithwr.
(Mavis) Odw! odw!
 
(Mavis) Duw a'i fendithio!
(1, 1) 196 A dyna'r dyn mae'n rhaid cael hanner cant o blismen i'w gadw e rhag gwneud drwg!
(Mavis) Ie! Onid yw e'n gywilydd!
 
(Mavis) Ond mae Duw yn siwr o ddial arno cyn hir.
(1, 1) 200 Ody! ody!
(1, 1) 201 Dyna'r hen air:
(1, 1) 202 "Hir yr erys Duw cyn taro,
(1, 1) 203 Llwyr y dial pan y delo!"
(1, 1) 204 Ond peidwch a becso am y babi.
(1, 1) 205 Gwaith dannedd sy' arno fe'r un bach.
(1, 1) 206 'Rwy'n mynd nawr i gael clywed yr hanes.
(1, 1) 207 'Roedd Gruffydd Elias a rhai o'r dynion i gael siarad a Mr Wynn a Symonds heddy i gael treio setlo.
(1, 1) 208 Fe ddo i nol maes law.