Ystori'r Streic

Ciw-restr ar gyfer Mavis

 
(1, 1) 5 Does gen i gynnyg i'r hen Symonds yna, ys wedi dod yn |fanager| gwaith Mr Wynn.
(1, 1) 6 Rwy'n siwr mai hen greadur twyllodrus yw e, ac mai hen un cas yw e hefyd!
(1, 1) 7 Fuaswn i byth yn esmwyth fy meddwt tae William dano fe.
(1, 1) 8 Y lwc fwya yn y byd oedd i William gael cynnyg ar y lle yna yn offis Mr Davies.
(1, 1) 9 Fe fydda i'n esmwyth fy meddwl nawr am William, ta beth!
(1, 1) 10 A does dim ond mis eto cyn bydd William a finnau wedi priodi!
(1, 1) 11 Dim ond mis!
(1, 1) 12 Rwy'n ofni bydd rhaid i fi roi'r canu heibio wed'yn.
(1, 1) 13 Rwy'n gwybod nad yw William yn leicio mod i'n mynd ar gerdded cymaint i ganu.
(1, 1) 14 A leiciwn i ddim er y byd i wneud dim i siomi William.
(1, 1) 15 Ond fe gaf ganu gartref, a digon o achos canu rwy'n siwr.
 
(1, 1) 17 Canu, canu, canu,
(1, 1) 18 Y mae'r aderyn pur:
(1, 1) 19 Canu, canu, canu,
(1, 1) 20 Y mae fy nghalon wir.
(1, 1) 21 Canu mae'r aderyn,
(1, 1) 22 Wrth gofio'i gydmar cu;
(1, 1) 23 Canu mae fy nghalon,
(1, 1) 24 Wrth gofio'th gusan di!
 
(1, 1) 28 William anwyl!
(Symonds) Ti gofi nghusan i ynte!
 
(Symonds) Ti gofi nghusan i ynte!
(1, 1) 32 Chi, Mr Symonds, sydd yna!
(1, 1) 33 Rwy'n synnu atoch!
(Symonds) Pe gallasech wel'd eich hun y funud yma, a deall mor dlos ydych, f'anwylyd brydferth, fysech chi'n synnu dim!
 
(Symonds) Pe gallasech wel'd eich hun y funud yma, a deall mor dlos ydych, f'anwylyd brydferth, fysech chi'n synnu dim!
(1, 1) 35 A ry chi'n galwch hunan yn foneddwr!
(1, 1) 36 Does dim gweithiwr yn Nghymru na fuase'n teimlo'i hunan yn ormod o wr bonheddig i insulto merch dd'amddiffyn!
(Symonds) Does yma neb gwerth ei alw yn weithiwr ymhlith y Cymry!
 
(Symonds) Yr unig beth da welais i yn Nghymru yw'r merched; a chi, merch anwyl i, yw'r oreu welais i eto.
(1, 1) 41 A dyma beth yw gyniad Sais am fod yn foneddwr!
(1, 1) 42 Insulto merched ifanc ar yr heol.
(Symonds) Insulto!
 
(Symonds) Na talu compliment uchel i chi ow'n i, nghariad i.
(1, 1) 48 Ry chi'n lwcus nad oes un o'r gweithwyr yr ydych chi'n edrych lawr arnyn' nhw yma nawr, neu fe gawsech wel'd!
(Symonds) Twt!
 
(1, 1) 56 Help!
(Gruffydd) Yr adyn anheilwng!
 
(1, 1) 61 Gruffydd Elias anwyl!
(Symonds) {yn codi, ac yn ysgwyd ei ddwrn ar Gruffydd Elias} Y ti, aie!
 
(Gruffydd) A dyw Mavis ddim yn debyg o dderbyn dim oddiar eich llaw chwi, rwy'n credu.
(1, 1) 83 Fe allswn feddwl hynny, wir!
(Gruffydd) Ond dw i ddim am wneud drwg i neb, a thra gadewch chi lonydd i Mavis fe adawaf finnau lonydd i chwithau—a dim pellach.
 
(1, 1) 98 A nawr dyma'r streic wedi bod am chwech wythnos yn ngwaith Mr Wynn!
(1, 1) 99 Diolch byth na arhosodd William yn yr offis yno o dan Symonds!
(1, 1) 100 Mae lle William yn saff o dan Mr Davies yn ngwaith y Glyn, neu wn i ddm beth wnelawn i!
(1, 1) 101 Oh! hen greadur cas yw'r hen Symonds yna!
(1, 1) 102 Mae nhw'n dweyd mai fe yw achos y drwg i gyd yn nglŷn a'r streic yma.
(1, 1) 103 Rwy'n methu deall shwd mae Mr Wynn, ac yntau'n gystal gwr bonheddig ei hunan, yn rhoi cymaint o'i ffordd i greadur fel yr hen Symonds yna.
 
(1, 1) 106 Dyco'r babi'n llefain!
(1, 1) 107 Dyw e ddim hanner 8 iach, yr un bach at wyl ag e!
 
(1, 1) 112 Mae'n dda gen i eich gwel'd chi, fenyw!
(Mari) P'am! Beth sy'n bod?
 
(Mari) P'am! Beth sy'n bod?
(1, 1) 114 Dyw'r babi ddim hanner iach gen i.
(1, 1) 115 Dyna! dyna! Paid ti llefain y nghariad bach i.
(1, 1) 116 Dyma mami'n canu i ti.
 
(1, 1) 118 Myfi sy'n magu'r baban,
(1, 1) 119 Myfi sydd yn siglo'r cryd,
(1, 1) 120 Myfi sy'n hwian hwian,
(1, 1) 121 Ac yn hwian hwy o hyd.
(1, 1) 122 Bu'n crio bore heddyw
(1, 1) 123 O hanner y nos tan dri,
(1, 1) 124 Ond fi sy'n colli'm cysgu,
(1, 1) 125 Mae'r gofal i gyd arnaf fi.
(Mari) Dir! Gwelwch fel mae'r babi yn enjoyo'ch clywed chi'n canu, Mavis!
 
(Mari) Dy chi ddim ond croten, ond croten yn canu yn gwmws fel angel.
(1, 1) 132 Hush! Beth sy'na, gwedwch?
(Mari) {yn rhedeg i'r ffenestr} Oh! Mavis bach!
 
(Mari) Hanner cant o blismen dierth!
(1, 1) 136 Plismen dierth!
(1, 1) 137 Hawyr bach!
(1, 1) 138 Beth mae nhw'n wneud a phlismen yma!
(Mari) Glywsoch chi ddim!
 
(Mari) O achos y streic!
(1, 1) 141 Ond beth mae plismen yn wneud a'r streic!
(1, 1) 142 Does yma ddim |rows|!
(Mari) Nag oes, eitha gwir!
 
(Mari) Ond mae nhw'n gweyd fod Symonds, y manager, wedi persuado Mr Wynn i hala i mo'yn lot o blismen a gwyr ceffylau rhag ofn i'r bechgyn ar streic wneud niwed i'r gwaith
(1, 1) 145 Dyna gywilydd, ontefe!
(Mari) Fe allawn feddwl hynny wir!
 
(Mari) Fe wnaiff Gruffydd Elias fwy ei hunan i gadw'r bechgyn yn dawel nag a wnaiff cant o blismen Bendith ar ei ben e!
(1, 1) 148 Ry chi'n hanner addoli Gruffydd Elias, rwy'n credu!
(Mari) Tae chi'n ei nabod e fel fi fe fysech chithau'n ei addoli e hefyd.
 
(Mari) Rwy'n meddwl weithiau mai rhyw un tebyg i Gruffydd Elias oedd Iesu Grist!
(1, 1) 151 Mari! Mari!
(1, 1) 152 Ody chi'n ystyried beth ry chi'n ddweyd!
(1, 1) 153 Ymswynwch!
(Mari) Na gwrandewch chi arna'i Mavis fach!
 
(1, 1) 160 Pa'm ne fuasech yo dod yma ata i!
(1, 1) 161 Fe gesech dorth bryd mynsech chi, a'ch greso!
(Mari) Fe wn hynny, merch fach i!
 
(Mari) 'Roedd yno dwll bach yn nghornel y ffenest, a rhyw un wedi saco papur a chwpl o sylltau ynddo fe mewn yn y nos.
(1, 1) 171 Oh! Mari!
(1, 1) 172 Rhyw un caredig oedd e!
(Mari) Wel, rown i'n meddwl am y gigfran yn porthi Elias, ac fe ddwedais wrth y plant mai Duw oedd wedi danfon ei angel i'n porthi ninnau pan ar newynu!
 
(1, 1) 185 Oh! Mari fach!
(1, 1) 186 A fe oedd e!
(Mari) Ie. Fe oedd e.
 
(Mari) Ry chi'n gwel'd nawr pa'm rw i'n dweyd mod i'n meddwl fod Iesu Grist yn debyg i beth oedd gwyneb Gruffydd Elias neithwr.
(1, 1) 193 Odw! odw!
(1, 1) 194 Rwy'n deall!
(1, 1) 195 Duw a'i fendithio!
(Mari) A dyna'r dyn mae'n rhaid cael hanner cant o blismen i'w gadw e rhag gwneud drwg!
 
(Mari) A dyna'r dyn mae'n rhaid cael hanner cant o blismen i'w gadw e rhag gwneud drwg!
(1, 1) 197 Ie! Onid yw e'n gywilydd!
(1, 1) 198 Ond gwaith yr hen Symonds y felldith yna yw'r cwbwl!
(1, 1) 199 Ond mae Duw yn siwr o ddial arno cyn hir.