Ym Mharc y Rhath. Mae JESSE ar ben ei hun, yn aros. Daw DAF i mewn. Mae JESSE'n gadael. |
|
Daf |
Oer. Haul ar ei ffordd. Rhaid i fi fynd nôl. Sai gallu mynd nôl. Sai gallu. Sai gallu. |
Yn fflat JESSE. |
|
Jesse |
Trusta fi. Ni'n gallu neud e. |
Daf |
Fi jyst, ofn. |
Jesse |
Ofn be? |
Daf |
Colli ti. |
Curiad. |
|
Jesse |
Ma' mwy a mwy o bobl neud e. Jyst bo' nhw ddim yn siarad amdano fe. So ni'n swans. |
Daf |
E? |
Jesse |
So ni'n swans. |
Daf |
Be' i ni 'de? Flamingos? |
Mae JESSE'n chwerthin. |
|
Jesse |
Na, wel/ |
Daf |
Be?/ |
Jesse |
Swans – ma' nhw'n monogamous. They mate for life. Yn nôl Google. A ma' nhw gyd yn floato ar yr un "trywydd". So nhw fel cŵn. We're two men. Ni'n gallu creu perthynas ein hunan. Ni'n gallu herio. A t'bo, fi'n dri deg dau, a ti'n, ti'n.../ |
Daf |
Tri deg. |
Jesse |
Ie ie, tri deg! Tri deg! A ni'n byw, ni'n fucking byw yn 2019! A fi isie ni fyw/ |
Daf |
OK... |
Jesse |
Fi isie byw, fel fi'n hunan, y fersiwn gore o'n hunan – gyda ti. |
Daf |
Sai'n deall be' ti'n/ |
Jesse |
Ma'r byd yn mynd fwy a fwy unpredictable ydy, ond ma fe'n fwy explicitly lliwgar/ |
Daf |
Lliwgar? |
Jesse |
Ie lliwgar, sy'n wych i ni, ni'n ca'l y'n derbyn yn fwy, yn fwyfwy cryfach fel diwylliant/ |
Daf |
Ti'n mynd yn political 'da fi nawr. |
Jesse |
Na na, wel, ma' fe' jyst yn bwysig i ni wir berchnogi/ |
Daf |
Perchnogi? |
Jesse |
Perchnogi ein diwylliant ni, perchnogi y'n ffordd ni o fyw, a, a, a.../ |
Daf |
Perchnogi? |
Jesse |
Ie! Perchnogi/ |
Daf |
Fucking hell. |
Jesse |
...y'n ffordd ni o fod mewn perthynas, a bod yn proud o 'ny/ |
Daf |
Proud o be' sori? |
Jesse |
...a rhannu fe, dathlu fe, rhannu a dathlu ni 'da pawb, i rymuso'r dyfodol/ |
Daf |
Oh god. |
Jesse |
...union fel ma' dynion y gorffennol 'di neud i ni, dynion fel Tony a/ |
Daf |
Tony? |
Jesse |
Ie ie, ti'bo Tony. |
Daf |
Nope. |
Jesse |
Ma' fe wastad mas da'r criw hŷn yn, yn... O, so fe ots, ond dynion fel fe dylen ni edrych lan at, a dyle ysbrydoli ni i rymuso dyfodol i ddynion hoyw'r dyfodol... grymuso ein lle a'n, a'n, a'n gwerth ni yn y byd/ |
Daf |
Ti'n siarad fel twat. |
[Diwedd y detholiad] |