Lle agored yw'r olygfa, a gorsedd yno ar ychydig risiau. Os chwaraeir y pasiantb dan do, gellir addurno'r Orsedd â llenni syml. Dyfodfa ar y chwith ac un arall ar y dde. Lle bo disgynlen i'w chael, bydd y TAD, y FAM, y WYRYF, a'r PLENTYN ar y llwyfan pan goder y llen. Lle na chaffer disgynlen, dont i mewn o'r dde. Dengys ew dillad mai pobl gyffredin fyddant. |
|
Y Plentyn |
A fydd hi'n hir yn dyfod? |
Y Tad |
Ni fedrwn ni ddim dywedyd. Buom yn disgwyl yn hir. Gwelwch fod yr Orsedd yn wag. |
Y Fam |
Weithiau, byddaf yn ofni na ddaw'r Frenhines byth yn ei hôl atom eto. Pa sawl diwrnod hir y buom yn gwylio ac yn disgwyl? |
Y Wyryf |
Fy mam, rhaid i ni gredu. Oni ddywedasant hwy, os ai'r dynion ieuainc ar yr hynt hon, y doent o hyd iddi? Ac y maent wedi mynd. |
Y Plentyn |
Ac a ddont hwy i gyd yn eu holau ar ôl cael hyd iddi hi? |
Y Tad |
Na ddont, ni ddont i gyd yn eu holau. |
Y Plentyn |
Paham yr aeth hi i ffwrdd a'n gadael? |
Y Tad |
Dynion a'i gyrrodd i ffwrdd. |
Y Plentyn |
Ond, mi glywais ddywedyd ei bod hi'n brydferth iawn, a bod y byd yn ddedwydd pan fo hi ar ei gorsedd. |
Y Fam |
Bydd, f'anwylyd, bydd y byd yn ddedwydd. |
Y Plentyn |
Nid wyf i yn cofio'r Frenhines ar ei gorsedd. Sut yr oedd pethau pan oedd y byd yn ddedwydd? |
Y Tad |
Yr oedd fy mab yn gweithio gyda mi. Yr oeddwn i yn hen ac yn gwybod pethau, ac yntau yn ieuanc ac yn gryf. Gweithiem ein dau gyda'n gilydd. Daw llawenydd mawr i ddynion fo'n gweithio. A'r llawenydd yw, gweled y peth fo yn eu meddwl o'r diwedd yn cymryd ffurf yng ngwaith eu dwylaw. Weithiau, byddwn i yn blino, ac yn cofio bod yn rhaid i'm dyddiau gweithio ddyfod i ben, ond byddwn yn edrych ar fy mab, ac yn dywedyd wrthyf fy hun "Pan gymerer fi oddiwrth y dasg, bydd ef yn aros a'i fab ar ei ôl yntau." Ac yna, byddwn yn gwenu, canys byddwn fodlon. Peth mawr i ddynion yw gwybod na adewir mo waith y byd heb ei wneuthur. A chlyw dithau, 'r un bach, pan fo'r orsedd yn wag, bydd dynion yn drist, am fod yn rhaid iddynt ddinistrio. |
Y Plentyn |
(Wrth y FAM.) A pha beth yw'ch cof chwithau am yr amser yr oedd y byd yn ddedwydd? |
Y Fam |
Cofio yr wyf ddedwydded oedd fy nghartref, a'm llawenydd yn fy ngofal i gyd. Cofio lleisiau fy meibion, eu chwerthin sydyn, fel y byddent yn rhoi pwt o gân, ac fel y byddent yn siarad mor dyner wrthyf i. Cofio sŵn eu traed yn dyfod at y drws, ac fel y cawn innau, pan fyddent yn ddigalon, yr hen, hen ddawn gan Dduw, i fedru eu cysuro. |
Y Plentyn |
Ac ni byddech y pryd hwnnw yn eistedd yn ddistaw wrth y tân, ac yn ceisio cuddio'r dagrau? |
Y Fam |
Na byddwn, yr un bach. Y pryd hwnnw, pan eisteddwn wrth y tân, meddwl y byddwn "Yfory, rhaid i mi wneud y naill beth neu'r llall iddynt." Ac ambell waith, pan godwn fy ngolwg, troent hwythau a gwenu arnaf. |
Y Plentyn |
(Wrth y WYRYF.) A byddech chwithau yn ddedwydd hefyd? |
Y Wyryf |
Byddwn, yr un bach. Byddwn innau'n ddedwydd. Awn am dro gyda'm cariad gyda'r hwyr. Gwelwn oleuni yn ei lygaid pan ddown i yn agos. Dewiswyd ni y naill ar gyfer y llall. Byddem ein dau yn ffyddlon ac yn ymddiried i'n gilydd. Ni wyddem ni ddim beth a ddigwyddai i ni, ond nid ofnem. Nid tywyliwch oedd yn cuddìo ein ffordd, ond rhyw niwl â lamp wen yn tywynnu ynddo. O! chwerw fu'r amser i gariadon, ac y mae llawer fel finnau heb ddim bellach ond atgof. |
Y Plentyn |
Gresyn mawr i ddynion yrru'r Frenhines i ffwrdd. Paham y gwnaethant? Clywais fod dynion yn dda ac yn ddoeth. |
Y Tad |
Nac ydynt, yr un bach, dim ond eu bod yn dymuno bod felly. Weithiau, bydd Balchter yn rhodio yn eu mysg, mewn clog aur, ac yn llefaru geiriau chŵyddedig ac yna, dyna ddiwedd ar ddaioni a doethineb. |
Y Wyryf |
(Gan edrych i'r dde.) Dyma un yr adwaenom ei wyneb. |
Y Tad |
Ie; un fydd yn cerdded mewn lleoedd cyhoeddus. |
Y Fam |
Hwyrach bod ganddo newyddion am y Frenhines fawr. |
Daw'r AMHEUWR i mewn. Gŵr hen iawn a llwyd a theneu yw, a gwisg ddu amdano. |
|
Y Tad |
Syr, da y boch. |
Yr Amheuwr |
Da y boch i gyd. |
Y Fam |
Syr, a glywsoch chwi rywbeth am y Frenhines? |
Yr Amheuwr |
Pa Frenhines? |
Y Fam |
Heddwch yw ei henw. |
Yr Amheuwr |
Ai amdani hi y disgwyliwch? |
Y Fam |
Dywedir ei bod hi i drigo gyda ni am byth. |
Yr Amheuwr |
Gyfeillion, colli amser yr ydych. Gwrando ar ddychymyg. A fu, a fydd. |
Y Fam |
Ond Syr, er mwyn hynny yr aeth ein meibion allan i'w cheisio. |
Yr Amheuwr |
Canwaith yr a dynion allan ar neges, a chanwaith, pan ddont yn eu holau, gweigion fydd eu dwylaw. |
Y Tad |
Oni ddont â hi, ni bydd yfory ond megis doe. Ni bydd diwedd ar golled, ac ofer a fydd gwaith dynion yn dragywydd. |
Yr Amheuwr |
Ofer fydd eu gwaith yn dragywydd. A fu, a fydd. |
Y Wyryf |
Ai felly y lleferwch yn y farchnadfa? Cymylu'r awyr a wnewch pan edrychom at yr haul. O, yr Amheuwr, oni bydd eto ddigon o ddagrau? Oni welwch chwi y mynnai'r bobl hi yn Frenhines dros byth? |
Yr Amheuwr |
Ie, unwaith eto, y mae'r bobl yn breuddwydio. |
Y Plentyn |
Oni ddaw breuddwydion i ben? |
Y Fam |
Clywch! Pa sŵn yw hwnyna? |
Clywir Emyn Heddwch yn ymchŵyddo'n araf ar y chwith. |
|
Y Wyryf |
Lleisiau, lleisiau llawen lawer. |
Y Tad |
(Gan edrych i'r chwith.) Gwelwch dyrfa ar y ffordd. |
Y Fam |
Dont y-ffordd yma. |
Y Wyryf |
O, pedfai 'r Frenhines! |
Y Fam |
O'r diwedd. Y Frenhines! |
Yr Amheuwr |
(A saif o'r neilliu yn ddidaro.) Y mae 'r bobl yn cadw gŵyl. Dyna eu harfer. Y maent yn ddedwydd am awr─ac anghofiant. |
Y Tad |
Pwl yw fy ngolwg i. |
Y Fam |
(Wrth y WYRYF.) Dywedwch i ni ba beth a welwch. |
Y Wyryf |
Tyrfa o wŷr a gwragedd; ac y maent yn llawen. |
Y Plentyn |
O, ydynt, mor llawen. Ni wyddwn i y gallai gwŷr a gwragedd fod mor llawen. |
Y Tad |
Dywedwch─ Pwy sy'n cerdded o'u blaenau? |
Y Wyryf |
Rhywun mewn gwisg wen; a'i hwyneb yn dawel a phrydferth. Tyrrant o'i hamgylch. Dacw hi yn gwenu, ac─O─y mae bendith yn ei gwên. |
Y Tad |
Y Frenhines yw hi. |
Y Fam |
Ie, y Frenhines, a'i henw yw Heddwch. O, Dduw, diolchwn iti yn awr, nyni famau dynion. |
Y Wyryf |
O Dduw, diolchwn iti yn awr, nyni, a'u câr, ac a garant. |
Y Tad |
O Dduw, diolchwn iti yn awr, nyni sy'n adeiladu'r byd yn Deml wrth dy gynllun Di. |
Y Plentyn |
O Dduw, diolch y plant bach i Ti. |
Y Tad |
Pwy sy'n cerdded yn ochr y Frenhines? |
Y Wyryf |
Rhywun yn ei harwain gerfydd ei llaw at yr orsedd. |
Y Plentyn |
Druan gŵr, mor flinedig yw ei olwg! |
Y Fam |
Pwy sy'n ei harwain gerfydd ei llaw at yr Orsedd? |
Y Wyryf |
Dyn ieuanc, yn lluddedig a gwael, a gwisg milwr amdano, |
Daw o'r chwith dyrfa o'r BOBL, tan ganu Ewyn Heddwch. Dont ynghyd o bobtu i'r Orsedd, a'u hwynebau tua'r agorfa. Yma daw BRENHINES HEDDWCH i mewn, yn ei gwyn, a'i hwyneb yn dawel a mwyn a glân. Arweinia'r gŵr ieuanc hi gerfydd ei llaw tua'r Orsedd. Gwisg milwr amdano ef, a honno yn ddrylliau ac yn ystaeniau. Gwn ynghrog dros ei ysgwydd. Gan sefyll o flaen yr orsedd, disgwylia'r FRENHINES ennyd oni ddarffo'r canu. |
|
Y Frenhines |
Wele fi'n dyfod o alltudiaeth. O, chwi, a fu bobl i mi, ai eich ewyllys i gyd yw i mi eto gymryd yr orsedd? |
Y Dyrfa |
Ie. Ein hewyllys i gyd. |
Y Fam |
O, Frenhines, dyna'n gweddi i gyd. |
Y Tad |
Hebot ti, nid ŷm ni ddim, ac nid yw gwaith ein dwylaw ond llwch. |
Y Frenhines |
O, fy mhobl, oni fynnwch chwi gofio? Oni bu hyno'r blaen? Ai rhaid byth brynu doethineb â'r mawrbris hwn o boen? Hebof i, nid ŷch chwi ddim, a llwch yw gwaith eich dwylaw. Paham, gan hynny, y mae wanned eich ffyddlondeb? Paham y gwrthodir fy llywodraeth i? Paham y gyrr dynion fi o'u plith─i ddim ond dysgu eilwaith faint eu hangen amdanaf? |
Y Tad |
O, Frenhines dawel, fwyn, dyma ni'n dysgu unwaith eto. |
Y Fam |
Dyma ni'n dysgu, a mawr yw ein hangen. |
Y Wyryf |
O dyro i ni eto'n ôl y dyddiau hyfryd hynny yr oedd eu gwynfyd yn fwy nag a wyddem. |
Y Frenhines |
Y cwbl sydd eiddof, yr wyf yn ei roddi i chwi. Dyma fy rhodd: bydd i'r mab ei ran o lafur ei dad, a dynion yn medi lle bu'r hau. Caiff y mab sychu dagrau'r fam, a hithau bwyso ar ei fraich gadarn. Cyferfydd y wyryf â'i chariad, a cherddant law yn llaw yn harddwch y byd. Chwery'r plentyn wrth y drws, ac ni syrth ar ei chwarae mwy ddim o'r cysgod na ŵyr ef amdano. Yn llawen y cymeraf yr Orsedd. |
Eistedd y FRENHINES ar yr Orsedd. Tyrr y dyrfa i floeddio cymeradwyaeth. |
|
Y Gŵr Ieuanc |
Felly o'r diwedd, dyma ben ar fy nhasg innau. |
Y Frenhines |
Tasg a wnaed yn dda. (Wrth y BOBL.) Yn alltud hiraethus am fy lle fy hun, gan adnabod eich calonnau, gwyddwn eich bod yn y terfysg yn sibrwd fy enw i. Ac oblegid eich angen mawr, cyfododd y Gŵr Ieuanc a daeth i'm ceisio. Bellach, O fy mhobl, fel y rhoddwch i mi groeso, cofiwch mai rhodd y Gŵr Ieuanc yw'r rhodd yr wyf yn ei dwyn i chwi. Na threigled hynny gyda'r pethau a anghofir. Daeth ef i'm ceisio ar hyd ffordd gofidiau, lle y mae bob amser waed hyd y cerrig. |
Y Tad |
O, Ŵr Ieuanc o'r ffordd chwerw, pa beth a rydd yr hen wŷr iti, fel y deui yn dy ôl o'th hynt? |
Y Fam |
O, fab rhyw fam druan, drist, pa beth a ofynni gennym ni, a fu'n disgwyl am ein meibion? |
Y Wyryf |
O, gariad rhyw eneth unig, pa beth a roddwn ninnau, nad ydym unig mwy? |
Y Plentyn |
Gwnaethoch bawb yn llawen. Os gwelwch yn dda, a gaf i eich cusanu? |
Plyg y GŴR IEUANC i gusanu'r PLENTYN. Rhed murmur o gydymdeimlad trwy'r DYRFA. |
|
Y Tad |
Gofynnwch a fynnoch. Dywedwch yn awr pa beth a ddymunech gennym. |
Y Gŵr Ieuanc |
Na bo rhaid i mi fwyta bara cardod. Bod i mi gael gweithio tra gallwyf. Eistedd am ychydig yn awr ac eilwaith yn yr heulwen ac ymddiddan â'm cyfeillion. |
Y Tad |
Nid ydych yn gofyn digon. (Wrth y DYRFA.) Gyfeillion, ai dyna'r cwbl a haeddodd ef? |
Y Dyrfa |
Nage. Llefared eto. |
Y Tad |
Aethoch ar hyd ffordd gofidiau a chawsoch ein Brenhines. Bellach gofynnwch y peth a ewyllysio 'ch calon. |
Y Gŵr Ieuanc |
A ganiatewch chwi ewyllys fy nghalon? |
Y Dyrfa |
Gwnawn! Yn rhwydd. |
Y Gŵr Ieuanc |
Pe mynnech ganiatau i mi ewyllys fy nghalon, rhoddwch i mi wybod na orfydd byth i'r plentyn hwn gerdded y ffordd a gerddais i, rhoddwch i mi wybod nad rhaid byth mwy i ferched wylo am ddynion a fo marw cyn eu hamser, rhoddwch i mi wybod wneuthur ohonof yn wir y dasg a osodasoch arnaf, rhoddwch i mi wybod mai dyma ddiwedd hirfaith alanas goch y byd. |
Y Frenhines |
Lleferwch! A ganiatewch chwi iddo ewyllys ei galon? A ddiorseddir fi gan air cynddaredd dyn? Ai rhaid dyfod un arall eto ryw ddydd ar hyd y ffordd drist i'm dwyn i yn f'ôl? Ai myfi, yn wir, yw Brenhines y Bobl? |
Y Dyrfa |
Tydi yw'n Brenhines. Tydi, Tydi. |
Y Gŵr Ieuanc |
(Gan ddiosg ei wn.) Cludais hwn fel dy was di, ac eto fel dy was yr wyf yn ei osod wrth dy draed. (Wrth y DYRFA.) Dowch, gyfeillion, bellach, tyngwn ffyddlondeb. (Gan gyfodi ei law.) A'm holl galon, tra bwyf byw, yr wyf yn ymrwymo i ti. |